EICH CYMUNED
Diwrnod Sgip
CYMUNEDOL Fis diwethaf cynhaliwyd diwrnod sgip cymunedol yn Hafan yr Ewyn a Llys y Castell yn y Rhyl. Rydym wrth ein bodd yn gweithio mewn partneriaeth gyda phreswylwyr ac asiantaethau perthnasol yn ein cymunedau. Roedd y diwrnod hwn yn llwyddiant mawr, felly diolch anferth i’n holl staff a phreswylwyr a gymerodd ran mewn diwrnod glanhau cymunedol. Gwaith tîm rhagorol, fe wnaeth wahaniaeth anferth!
Er mwyn dod o hyd i fanylion eich cyngor lleol i gasglu eitemau mawr gallwch fynd i wefan y llywodraeth yma www.gov.uk/collection-large-waste-items
Os ydych yn cael trafferth cyrraedd cyfleusterau ailgylchu, yna cysylltwch â’ch swyddog tai a all fod yn gallu eich cyfeirio at yr asiantaethau cywir i gael cefnogaeth.
Neu, os gellir ailgylchu eich eitem a’i werthu ymlaen, efallai y byddai’n werth gweld a oes unrhyw sefydliadau lleol a allai gasglu’r eitemau yma am ddim i chi; yna gobeithio y byddant yn symud i gael eu defnyddio eto mewn cartref da.
Os ydych yn ystyried cael gwared ar hen ddodrefn neu nwyddau gwyn mae gwasanaeth casglu gwastraff ar gael gan eich cyngor lleol ac fel arfer mae’n cael ei gasglu am ffi fechan.
fel hyn yn cynnwys: Mae’r enghreifftiau o sefydliadau rg.uk/refurbs/ www.groundworknorthwales.o www.crestcooperative.co.uk/
13