ein
EICH NEWYDDION
Dewch i adnabod Haelod o’r
Pwyllgor Preswylwyr Karolyn Lee
Beth wnaeth i chi fod eisiau ymuno â Phwyllgor Preswylwyr ClwydAlyn? Roeddwn wedi bod yn un o breswylwyr ClwydAlyn am tua dwy flynedd pan ddaeth y cyfle i ymuno â’r pwyllgor preswylwyr. Allwn i ddim colli’r cyfle, oherwydd roeddwn am gael gweld sut y mae ClwydAlyn yn gweithio, ac roeddwn yn gwybod bod mwy i’r peth na dim ond bodloni eu hymrwymiadau i bobl ifanc. Roedd gennyf ddiddordeb mawr mewn cymryd rhan oherwydd dwi’n gobeithio bod yn weithiwr cefnogi yn y dyfodol, ac ers hynny mae fy niddordeb yn ClwydAlyn a’r hyn maen nhw’n ei wneud wedi tyfu mwy eto.
A ydych wedi bod ar unrhyw Fyrddau neu Bwyllgorau o’r blaen? Y peth agosaf i fod ar bwyllgor yr oeddwn wedi ei wneud o’r blaen oedd pan oeddwn yn yr ysgol, pan oeddwn yn rhan o gyngor yr ysgol yn blentyn.
Fel preswyliwr beth yw’r peth pwysicaf i chi? Gan fy mod yn breswyliwr fy hun, y peth pwysicaf i mi yw sicrhau fy mod yn byw mewn amgylchedd diogel lle’r wyf yn gallu dal i dyfu fel person a datblygu rhagor. Rwy’n gwybod pa mor bwysig ydi hynny i bobl eraill hefyd.
Beth yw eich gobeithion a’ch uchelgais ar gyfer ClwydAlyn? Fy ngobeithion a’m huchelgais ar gyfer ClwydAlyn yw i’r preswylwyr iau gael mwy o lais gyda mwy eto o ffyrdd i helpu i wella eu hunain a’u cymunedau yn y dyfodol.
A oedd unrhyw beth a wnaeth eich synnu yn eich cyfarfod cyntaf? Roedd fy nghyfarfod cyntaf yn un diddorol iawn achos nid oeddwn yn gwybod cymaint y mae ClwydAlyn yn ei wneud i bob oed. Nid oeddwn yn gwybod bod mwy o fathau gwahanol o ofal oedd yn cael ei gynnig mewn modd mwy cydradd. Hefyd, nid oeddwn yn sylweddoli faint yr ydych chi i gyd fel cwmni am ddal ati i wella’r ffyrdd yr ydych yn mynd o’i chwmpas hi – eich bod yn cymryd pob argymhelliad/cwyn o ddifri i’ch helpu i ddatblygu’n gwmni gwell a helpu i dyfu fel cymuned.
Yn beth y mae gennych ddiddordeb? Mae gennyf ddiddordeb mewn dysgu pethau newydd waeth pa mor anodd y gallan nhw ymddangos neu fynd. Ar hyn o bryd rwy’n dilyn cyrsiau ar-lein i helpu fy hun i ddod yn weithiwr cefnogi gan fy ngalluogi i helpu mewn pob math o ofal gwahanol.
A oes unrhyw gyngor y byddech yn ei rannu hefo rhywun sy’n ystyried ymuno â’r Bwrdd neu’r Pwyllgor Preswylwyr yn y dyfodol? I unrhyw un sy’n meddwl am ymuno â’r pwyllgor neu’r bwrdd, wir yr, ewch amdani, mae’n gymaint o agoriad llygad gweld faint y mae ClwydAlyn yn ei wneud, ac mae cael bod yn rhan o hynny yn beth mor fawr. Fe all ymddangos yn frawychus, ond mae pawb yn hyfryd i’w cyfarfod ac os byddwch chi mewn trafferth fe fyddan nhw’n eich helpu i ddeall cymaint â phosibl ac hyd eithaf eich gallu. Mae pawb yn gweithio tuag at yr un nod i barhau i wella ClwydAlyn yn ei gyfanrwydd, felly nid oes unrhyw gwestiwn gwirion neu ateb anghywir. Mae cyfraniad pawb yn ddilys ac rydych yn cael gweld profiad pawb os ydych yn breswyliwr neu yn gweithio i ClwydAlyn ac mae’n gymaint o agoriad llygad.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn y gwaith y mae ClwydAlyn yn ei wneud, yna cysylltwch â Stuart Hughes, Swyddog Cynnwys Preswylwyr InfluenceUs@Clwydalyn.co.uk
5