Cylchlythyr Preswylwyr

Page 6

EICH NEWYDDION

PLYGU LLYFRAU

i godi arian i Gymorth i Ferched ClwydAlyn Codi Arian at Gam-drin Domestig Mae un o’n preswylwyr talentog eithriadol o Blas Telford wedi bod yn plygu llyfrau i godi arian at gam-drin domestig.

Mae’r preswyliwr wedi bod yn cysgodi ers mis Mawrth diwethaf ac fe welodd bod plygu llyfrau ynghyd â chrefftau eraill wedi helpu i ymdopi ag unigrwydd a hunanynysu oherwydd y cyfnod clo. Fe wnaeth ein preswyliwr rannu sut y gwnaeth gweld hysbysebion ar y newyddion am gam-drin domestig a sut y mae’n effeithio ar nid yn unig yr unigolyn ond hefyd ar y teulu cyfan, arwain at fod eisiau helpu mewn rhyw ffordd. Bu’r trawsnewidiadau anhygoel i lyfrau yn boblogaidd iawn, gyda chyfraniadau yn llifo i mewn, mae’r rhain wedi codi £216 anhygoel yn barod. Diolch i’r holl breswylwyr ym Mhlas Telford am

Mae Cymorth i Ferched ClwydAlyn (CAWA) yn rhoi gwasanaethau arbenigol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ar sail gwybodaeth i ferched a phlant sy’n profi neu sydd wedi profi, pob ffurf ar gam-drin domestig, gan gynnwys cam-drin emosiynol, seicolegol, corfforol, ariannol/ economaidd, rhywiol a/neu orfodol ac ymddygiad sy’n rheoli trwy orllewin Sir y Fflint. 6

Mae Cymorth i Ferched ClwydAlyn yn darparu’r gwasanaethau canlynol: • Llety Diogel mewn Argyfwng (lloches/hafan) • Rheoli argyfwng cychwynnol • Cefnogaeth allestyn yn y gymuned.

eu cefnogaeth sydd wedi helpu i godi’r arian yma. Bydd yr holl arian a godir yn mynd yn uniongyrchol i Cymorth i Ferched ClwydAlyn.

Neges o ddiolch gan y plygwr llyfrau ei hun; “Trwy wneud hyn rwy’n teimlo, hyd yn oed yn y cyfnod clo fy mod i a’r preswylwyr yn dal yn rhan o gymdeithas. Diolch i’r holl staff a phreswylwyr sydd wedi rhoi llyfrau i mi yma ym Mhlas Telford, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y llyfrau yma. Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr i’r rhai sydd eisoes wedi cefnogi’r elusen. Os oes gan unrhyw un lyfrau glân wedi eu defnyddio, a allwch chi eu gadael ym Mhlas Telford, os gwelwch yn dda.” • Digwyddiadau hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth, • Aelod gweithredol o dimau amlddisgyblaeth (Hyb Help Cynnar/MARAC). • Gwasanaeth argyfwng 3 Haen tu allan i oriau, ar y cyd â’r llinell gymorth Byw Heb Ofn

• Cefnogaeth Iechyd Meddwl Arbenigol • Cynghori tymor byr, yn canolbwyntio ar atebion. • Gwasanaethau cefnogi penodol i blant a phobl ifanc. • Hwyluso rhaglenni adfer, fel y Rhaglen Rhyddid, Perchenogi fy Mywyd, a’r Pecyn Offer cyfun Adfer Oedolion Plant a Phobl Ifanc (DART).

Manylion cyswllt CAWA: Rhif ffôn - 01352 712150 E-bost womens.aid@clwydalyn.co.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.