1 minute read

MonologAYE

Next Article
I ddod yn 2024…

I ddod yn 2024…

Nos Fercher 6 Medi, 7.30pm

Stiwdio

£4 - elw i fynd i Annedd Ni

Prosiect newydd gan BLAS, adran ymgysylltu Celfyddydau Pontio, Bangor yw MonologAYE. Eginodd MonologAYE o brosiectau amrywiol rhwng BLAS, Pobl i Bobl a Chymdeithas Affrica

Gogledd Cymru, ble daeth hi'n amlwg fod gan nifer fawr o bobl sy’n byw ym Mangor stori i'w hadrodd – boed hynny’n stori bersonol neu yn stori am fyw ym Mangor. Daeth y syniad i arfogi unigolion gyda’r sgiliau a’r arbenigedd i adrodd eu stori drwy gyfres o fonologau mewn arddull monolog i ddangos yr holl leisiau amrywiol sydd yma yng nghymunedau Bangor.

Ymunwch â ni am noson o rannu yn

Stiwdio Pontio – gyda pherfformiadau o’r MonologAYE!

THEATR CLWYD YN CYFLWYNO

Fleabag

Nos Wener 15 + Nos Sadwrn 16 Medi, 7.30pm Stiwdio

£15 / £13

Addasiad Cymraeg newydd o'r sioe boblogaidd!

Drama gomedi arobryn Phoebe WallerBridge, Fleabag, wedi’i haddasu i’r Gymraeg gan yr awdur o fri, Branwen Davies.

Mae’r sioe fudr, ddoniol, heb ffilter yma’n dilyn siwrnai ddi-drefn Cymraes tuag at fod â dim i’w golli.

Efallai ei bod hi'n ymddangos yn or-rywiol, yn emosiynol amrwd ac yn hunanobsesiynol, ond dim ond y dechrau ydi hynny. Gyda pherthnasoedd dan straen a chaffi mewn trafferthion, mae hi ar y dibyn heb unrhyw le i fynd yn ôl pob tebyg. 16+

Fara

Nos Wener 22 Medi, 8pm

£18 / £15

Mae FARA yn cyfuno talentau tair o ffidlwyr a chantoresau Orcadaidd gwych - Jeana

Leslie, Catriona Price a Kristan Harvey - yn ogystal â phianydd nodedig o Ucheldiroedd yr Alban a'r aelod mwyaf newydd,

The Trials of Cato

Nos Wener 13 Hydref, 8pm

£16 / £15

Wedi ennill clod gan Mark Radcliffe (BBC Radio 2), cafodd eu halbwm cyntaf, Hide and Hair, sylw mewn cyhoeddiadau cenedlaethol. Caiff caneuon oddi arno eu chwarae'n gyson ar BBC Radio 2 a BBC

6 Music, ac enillodd y wobr am yr Albwm

Gorau yng Ngwobrau Gwerin 2019 BBC

Radio 2. Pererin

Nos Wener 10 Tachwedd, 8pm

£15 / £13

Peidiwch â methu’r band poblogaidd o’r

80au, Pererin, mewn perfformiad arbennig yn un o nosweithiau Cabaret Pontio. Yn ymuno â'r band bydd Tecwyn Ifan ac Osian Huw Williams.

Rory Matheson. Maent wedi sicrhau troedle cadarn a blaenllaw ym myd gwerin yr Alban ers eu hymddangosiad ysgubol yng Ngŵyl Werin Orkney yn 2014.

This article is from: