2 minute read
Bridget Christie Who Am I?
Nos Iau 28 Medi, 7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£20
Mae Bridget Christie yn boeth, ond nid mewn ffordd dda. Mae’r stand-yp 51 oed, sydd wedi derbyn canmoliaeth yr adolygwyr, yn gollwng gwaed, yn chwysu, ac yn meddwl bod Chris Rock a The Rock yr un person. Ni all y digrifwr, sydd wedi ennill Gwobr Gomedi
Caeredin Foster's, reidio'r beic modur a brynodd i frwydro yn erbyn ei hargyfwng canol oed oherwydd osteoarthritis cynnar yn ei chluniau ac RSI yn ei garddwrn. Sioe ddoniol am y menopos gyda dynes ddryslyd, gynddeiriog, chwyslyd sy'n cael ei chythruddo gan bopeth.
Graffiti Classics
Nos Wener 29 Medi, 7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£15 / £13
16 o dannau, 8 o draed yn dawnsio a 4 llais gydag 1 nod: gwneud cerddoriaeth glasurol hynod ddoniol a llawn egni i bawb, yn hen ac yn ifanc. Mae Graffiti Classics yn chwalu ffiniau elitaidd y pedwarawd llinynnol traddodiadol gyda sioe gomedi gerddorol hilariws, hwyliog. Cyngerdd clasurol, giamocs gwerin-sipsi, opera, set o gomedi stand-yp a sioe ddawns wych i gyd yn un!
O Beethoven i Bluegrass, o’r Baróc i Bop, Mozart neu Offenbach i Elvis, Strauss i Saturday Night Fever, mae rhywbeth at ddant pawb ac mae cynulleidfaoedd Graffiti
Classics yn chwerthin, yn curo dwylo ac yn cyd-ganu. Mae plant ac oedolion fel ei gilydd wrth eu bodd â'r amrywiaeth ddyrchafol a rhinweddol o arddulliau cerddorol, a’r cysylltiad cwbl ddigywilydd â’r gynulleidfa.
Addas i bob oed.
Horrible Histories: BARMY BRITAIN
Dydd Sadwrn 30 Medi, 2pm + 6pm
Theatr Bryn Terfel
Oedolion: £18 / Plant: £15
Tocyn Teulu i 4: £60
Tocyn Teulu i 5: £75
Tocynnau'n gwerthu'n gyflym
Rydyn ni i gyd eisiau cwrdd â phobl o hanes. Y drafferth yw bod pawb wedi marw!
Felly mae BARMY BRITAIN yn ôl gyda sioe lwyddiannus y West End, yn llawn cymeriadau newydd gwallgof ac arweinwyr newydd anghwrtais o orffennol hurt Prydain!
A fyddwch chi'n cael eich concro gan William? A fyddwch chi'n suddo neu'n nofio
Cwpl
LEILA NAVABIA A PRIYA HALL
Nos Sadwrn 30 Medi, 8pm
Stiwdio
£10.50 / £8.50
Mae Cwpl yn sioe sy’n edrych ar y profiad o fod yn Gymry cyfoes trwy lygaid Leila
Navabi a Priya Hall. Trwy ddefnyddio comedi, cerddoriaeth, ac adrodd hanesion mae’r ddau yn gwahodd y gynulleidfa i weld pa fath o brofiad yw hi i fod yn gwpl o bobl o liw, cwiar a benywaidd yn ceisio adeiladu teulu gwahanol yng Nghymru heddiw. gyda Brenin Harri I? Ewch i chwilio am dŷ gyda Harri VIII! Ymunwch â'r Sioriaid hyfryd wrth iddynt feddiannu Lloegr! Torrwch i mewn i Balas Buckingham a chuddio rhag y Frenhines Victoria! Mae hoff sioe hanes Prydain yn ôl! Dyma hanes gyda'r darnau afiach wedi eu gadael i mewn!
Canlyniad comisiwn Creu gyda Balchder, rhwydwaith Mas ar y Maes gyda Balchder yw hwn sydd wedi ei ariannu gan gronfa Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.
Cyngherddau Prifysgol Bangor
Gwobr Gerddoriaeth
Ymddiriedoliaeth
Gaynor Cemlyn Jones
Dydd Llun 2 Hydref, 12pm
Theatr Bryn Terfel
Am ddim ond bydd angen tocyn
Datganiad awr ginio gan fyfyrwyr cerddoriaeth ôl-radd, Prifysgol Bangor.
Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor
Nos Sadwrn 18 Tachwedd, 7pm
Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor
£5 - £12
Cyngerdd clasurol gyda cherddorfa
Symffoni'r Brifysgol, dan arweiniad Joe
Cooper gyda rhaglen yn cynnwys Symffoni
Rhif 2 gan Brahms, Concerto i’r Piano gan
Clara Schumann a Genoveve Overture gan
Robert Schumann.
Cerddorfa a Chorws
Symffoni Prifysgol Bangor
Nos Sadwrn 9 Rhagfyr, 7pm
Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor
£5 - £12
Dechreuwch ddathliadau’r Nadolig gyda chyngerdd yn llawn ysbryd yr ŵyl gan
Gerddorfa a Chorws Symffoni Prifysgol
Bangor, gyda rhaglen yn cynnwys y darn hoffus The Snowman gan Howard Blake, The Nutcracker Suite gan Tchaikovsky, Fantasia on Christmas Carols gan Vaughan
Williams ac Ave Rex gan William Mathias.