33 minute read

Astudiaethau Achos

Next Article
Y Dyfodol

Y Dyfodol

Harbour Lights Spirits

harbourlightsspirits.co.uk

“Mae Jin a thonig wedi achub bywydau, a meddyliau, mwy o Saeson na holl ddoctoriaid yr Ymerodraeth”

(Winston Spencer Churchill)

Mae Porth Tywyn yng Ngorllewin Cymru yn dref harbwr bach del sy’n fwyaf enwog, mae’n debyg, am fod yn fan glanio Amelia Earhart yn 1928 ar ôl hedfan o America dros y Môr Iwerydd. Ond mae’n bur debygol bod hynny ar fin newid wrth i oleudy’r harbwr ddod yn logo ar gyfer jin cyffrous o Gymru sy’n newid ei liw, o las i binc, fel y machlud y mae wedi’i enwi ar ei ôl.

Ers mis Hydref 2020 pan gafodd ei ymgorffori, mae Porth Tywyn wedi bod yn gartref i Harbour Lights Spirits Ltd, a sefydlwyd gan Jessie Wakely, un o gyn-fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant, a’i gŵr Darren sy’n Ddistyllwr. Tra roedd Darren wedi bod yn gweithio fel distyllwr ers 3 blynedd, roedd Jessie wedi bod yn ymgysylltu â’r sector lletygarwch ac adloniant ac wedi sefydlu ei busnes adloniant i blant ei hun.

I baratoi ar gyfer dechrau Harbour Lights, cofrestrodd yn fyfyriwr rhan amser ar y rhaglen radd BA Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol. Dywed er ei bod yn meddwl ei bod yn gwybod sut i ddechrau busnes, bod y cwrs wedi bod yn help enfawr iddi yn sylfaenydd busnes. Er enghraifft, mae wedi dangos iddi sut i dyfu a datblygu ei busnes trwy farchnata, a bu’n bosibl iddi seilio ei gwaith cwrs a’i haseiniadau ar ei busnes. Er ei bod yn cydnabod yr help a gafodd gan staff academaidd y Brifysgol, cafodd hefyd ei chefnogi gan Dîm Menter y Brifysgol ac mae’r Eiriolwr Entrepreneuriaeth, Dylan William-Evans, yn honni bod Jessie “yn haeddu llwyth o glod am yr hyn mae hi wedi’i gyflawni hyd yma mewn cyfnod mor fyr gan ystyried ei bod yn jyglo bod yn fyfyriwr, rhedeg busnes a dod yn fam am y tro cyntaf”.

Mae’r busnes yn llwyddiant yn barod a gwerthwyd pob un botel yn y ddau swp cyntaf o jin mewn pythefnos ac mae nifer o linellau newydd wedi cael eu cyflwyno. Yn amlwg mae’r cynnyrch, sy’n defnyddio dŵr pur o Gymru, wedi cael ei ysbrydoli gan gefn gwlad Cymru a’i nod nawr yw “tyfu a dod yn jin cartref adnabyddus a chreu rhagor o wirodydd a fydd yn cyflwyno blas ar Gymru”.

Er mai dim ond ymdrin â Nod Datblygu Cynaliadwy (SDG) 8 (Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd) mae Harbour Lights ar hyn o bryd, nid yw’n niweidio’r amgylchedd ac mae ganddo’r potensial i gyfrannu at nifer o’r Soddedig, yn arbennig 9 (Diwydiant, Arloesi a Seilwaith), ac 11 (Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy).

“Llongyfarchiadau ar gynhyrchu system ragorol. Gwell na thaludros-y-ffôn a llawer, llawer iawn gwell na rhoi ceiniogau mewn

peiriant” (Kevin, Oxford)

Naomi Bishop, myfyriwr Dylunio Cynnyrch a raddiodd yn 2015, yw Cydsylfaenydd a Chyfarwyddwr Hozah Ltd sef system talu am barcio awtomatig sy’n defnyddio camera adnabod rhifau cerbydau i ddatgelu pryd bydd gyrwyr yn mynd i mewn i faes parcio ac yna ei adael. Yna, bydd yn codi tâl ar y defnyddiwr yn awtomatig am hyd eu harhosiad. Lansiodd y fenter, sy’n cael ei ddosbarthu’n fusnes datblygu meddalwedd, ddwy flynedd ar ôl graddio, yn 2017, yn 26 oed.

Cred Naomi bod ei rhaglen radd Dylunio Cynnyrch wedi ei helpu i lansio’r fenter am ei bod wedi’i haddysgu i ddod o hyd i broblemau bywyd bob dydd a datblygu datrysiadau i’r problemau hynny, boed yn gynhyrchion ffisegol neu’n ddatrysiadau digidol. Fodd bynnag, mae hi hefyd yn cydnabod ei bod wedi dysgu llawer am fusnes yn y broses, a fu’n help wrth orfod marchnata’r fenter, cynhyrchu deunydd hyrwyddo, gwneud cais am arian, ayb. Fel arfer, yn y blynyddoedd cynnar, rhaid i’r sylfaenydd amldasgio ac er nad oes raid iddi wneud hyn mwyach, mae hi’n cydnabod y byddai’n gallu gwneud hynny pe bai ar y busnes angen iddi wneud. Fel y dywed, addysgodd ei chwrs Dylunio Cynnyrch iddi sut “i werthuso a dadansoddi marchnadoedd a defnyddwyr er mwyn adeiladu cynnyrch sy’n ateb y diben”. Er ei fod wedi’i leoli yn y Sussex Innovation Centre yn Croydon, yn Ne Ddwyrain Lloegr, safle brofi Hozah oedd Keighley, Swydd Efrog yng Ngogledd y wlad. Ers hynny maent wedi llunio partneriaeth gyda Chyngor Cofentri ac, yn ddiweddarach, mae Cyngor Croydon wedi cyhoeddi buddsoddiad miliynau lawer i roi meysydd parcio sy’n defnyddio Hozah ar waith yn y Fwrdeistref. Wrth gyfeirio at y fenter, dywed Paul Bowman, Rheolwr Tîm Gwasanaethau Parcio Cyngor Coventry “Gyda Hozah, cynigir i yrwyr ffordd saff ac effeithlon i dalu ond sydd hefyd yn cynhyrchu refeniw uwch i economi leol Coventry”. meysydd parcio wedi’u haddasu

Hozah. - Ffordd fwy diogel i dalu am barcio gyda llai o deithiau ar droed i beiriannau talu ac arddangos. - Gwell diogelwch.

Wrvth gyfrannu at SDG 9 (Diwydiant, Arloesi a Seilwaith), mae Hozah hefyd yn cyfrannu at SDGau 8 (Gwaith Teilwng a Thef Economaidd), 11 (Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy), 12 (Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol)

Yn fanwl, bydd Cyngor Croydon yn elwa o

- System gwbl awtomatig nad yw’n gofyn am arian parod nac ap o gwbl - Llai o orbenion a chostau gweinyddol, gan nad oes angen prynu, cynnal a chadw ac uwchraddio peiriannau - Refeniw tecach, cyson a allai gynyddu cyfraddau cydymffurfio i 99.4 y cant. - Data ar sut y defnyddir y meysydd parcio. Er bod Hozah wedi ymestyn ac wedi cynllunio safleoedd yng Nghernyw, Hull, Rhydychen a Sheffield, yn ogystal â Llundain ac Essex, yn ôl Naomi “hoffem ymestyn Hozah fel bod pob gyrwr yn cael yr opsiwn i ddewis dull talu sy’n haws, yn gynt ac na fydd yn arwain at gael hysbysiad o dâl cosb...y cam nesaf yw cael mwy o ardaloedd lle mae Hozah yn dominyddu yn hytrach na safleoedd gwasgaredig”

Wrth gyfeirio at ei phrofiad yn Y Drindod Dewi Sant, meddai Naomi:

Yn y cyfamser bydd y gyrwyr yn elwa o

- System gwbl awtomatig nad yw’n gofyn am arian parod nac ap o gwbl - Tawelwch meddwl heb rybuddion tâl cosb - System gynhwysol sy’n caniatáu taliadau gan y rheiny nad ydynt yn gallu defnyddio peiriannau talu ac arddangos neu apiau ffonau clyfar - Taliadau awtomatig ar gyfer gorsafoedd gwefru trydan ym “Roedd y cyfleusterau’n anhygoel, ac fe fyddai’n dasg a hanner dod o hyd i well amgylchedd i ymarfer eich creadigrwydd ynddo. Anogwyd entrepreneuriaeth a chreadigrwydd ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd myfyrwyr a ddaeth ar fy ôl i yn ffynnu yn y Brifysgol am flynyddoedd i ddod.”

lletycynin.co.uk

“Gwesty bach cartrefol, hyfryd wedi’i leoli yng nghefn gwlad Cymru. Yn ddigon anghysbell i deimlo fel seibiant, yn ddigon agos iddo fod yn hawdd ei gyrraedd. Mae’r staff yn ffantastig ac yn wir yn methu gwneud digon i ti. Mae’r bwyd yn wych, fel y mae’r cyfleusterau. Rwy’n methu aros i fynd yn ôl” (Pam Johnson)

Yn 2005 graddiodd Elizabeth Davies, gwraig fferm o bentref Llangynin yng nghefn gwlad gorllewin Cymru, â MA mewn Twristiaeth Treftadaeth o Ysgol Fusnes Caerfyrddin yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin. Roedd hi a’i gŵr wedi prynu fferm lle’r oedd hen gwt, a fu’n gerbyty, wedi mynd â’i ben iddo. Ar y pryd, “roedd pris llaeth yn ofnadwy” meddai Elizabeth “ac roeddem ni’n chwilio am ffyrdd o gael incwm arall i’r fferm heb gystadlu â’r archfarchnadoedd mawr”. Felly, yn hytrach nag adnewyddu’r cerbyty a’i droi’n llety preswyl, aethant ati i’w drawsnewid yn Llety Cynin, sydd bellach yn dŷ llety pedair seren a chlwb hamdden ffyniannus. Agorodd Elizabeth y busnes yn 2006 ac mae’n honni bod ei chwrs Meistr “wedi rhoi’r hyder i mi roedd ei angen arnaf i symud fy syniad ymlaen ac i fynd ati’n awtomatig i agor y busnes”. Tra oedd ar y cwrs, nid yn unig y dysgodd sut i ddechrau a rhedeg busnes, ond cafodd gyngor gan ei thiwtoriaid a bu modd iddi drafod ei chynlluniau gyda’i chyd-fyfyrwyr a chlywed eu barn a’u syniadau. a ffyrdd newydd o ddatblygu’r busnes ymhellach. Er mwyn denu ymwelwyr, maent wedi cyflwyno amrywiaeth o fentrau megis seremonïau priodas, digwyddiadau te ar thema a defnydd arbennig o’r sba am ddiwrnod.

Pan ddechreuodd y busnes roedd ganddynt dîm bach o ryw 9 o staff gan gynnwys staff rhan amser ar y penwythnos. Heddiw, mae Elizabeth yn rhedeg y busnes gyda’i merch, Gwawr, ac maent bellach yn cyflogi dros 30 o bobl. Mae’r busnes wedi tyfu’n rhy fawr i’r adeilad gwreiddiol ac yn 2018 gwnaethant ei ymestyn i ychwanegu 5 ystafell arall, ac ystafell ddigwyddiadau ar gyfer priodasau gyda lle i 180 o westeion a champfa, ystafelloedd newid, ystafell stêm, stiwdio ffitrwydd a spa newydd. Grymuswyd y staff i redeg y busnes tra mae Elizabeth yn rheoli’r cyfrifon ac yn gyfrifol am farchnata a hyrwyddo. Maent yn gweithredu system o ddatblygiad proffesiynol parhaus ac yn gweithio fel tîm gan chwilio’n barhaus am gyfleoedd Yn ôl DEFRA, eisoes mae gan oddeutu 68% o ffermydd ryw weithgaredd wedi’i arallgyfeirio tebyg i hyn. Fodd bynnag, ac yntau wedi’i leoli ar fferm eidion a defaid weithredol, nid yn unig y mae Llety Cynin yn darparu sylfaen incwm ehangach ar gyfer y fferm, ond hefyd mae’n ychwanegiad gwerthfawr i’r gymuned wledig, gan greu cyflogaeth a denu ymwelwyr i’r ardal. Fel y mae Elizabeth yn cydnabod “Rwyf wedi treulio gydol fy mywyd yn ymwneud ag amaethyddiaeth ac rwy’n credu ym mhwysigrwydd y Fferm Deuluol i gefnogi cefn gwlad, y gymuned a datblygiad”.

Felly mae Llety Cynin yn mynd i’r afael â Nodau Datblygu Cynaliadwyedd 8 (Gwaith teilwng a thwf economaidd), 10 (Llai o Anghydraddoldeb), 11 (Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy), 15 (Bywyd ar y Tir).

Yn 2009, enillodd Wobr Her Fusnes Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad (CLA) Cymru. Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd Cadeirydd CLA Cymru mai nhw oedd yr enillwyr clir a haeddiannol “a hwythau wedi ymroddi i gynllunio, paratoi a marchnata eu menter newydd”.

maykher.com

“Rydym yn frwdfrydig iawn ynghylch ffasiwn foesegol ac ‘araf’ a gweithio gyda phobl (y gwneuthurwyr) yn hytrach na

pheiriannau” (Heidi Louise Griffiths).

Ar ôl graddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn 2005 gyda dosbarth 2:1 mewn Dylunio Graffig, sefydlodd Heidi Maykher, cwmni ategolion i ferched, yng Nghasnewydd, Gwent, gyda’i gŵr Jon. Dilynodd hyn gyfnod o deithio o gwmpas y byd lle cafodd ei dychryn i weld y tlodi ac angydraddoldeb nad oedd hi’n gwybod eu bod yn bodoli. Felly, yn 2016, wedi goresgyn bod ag ofn methu ond heb brofiad o fusnes neu economeg, sefydlodd stiwdio ddylunio ac yna blwyddyn yn ddiweddarach Maykher, yr hyn mae hi’n ei alw’n “busnes ffasiwn araf a chynaliadwy sy’n rhoi pobl cyn elw”. Mae’r holl gynhyrchion a wertha Maykher yn gynhyrchion crefft gan grefftwyr dilys o wledydd fel Guatemala, Haiti ac India ac mae llawer o’r crefftwyr y maent yn gweithio gyda nhw wedi dioddef tlodi, wedi dioddef trais domestig a/neu wedi cael diffyg cyfleoedd neu addysg. Fodd bynnag, nid yw Heidi yn ystyried bod Maykher yn elusen, ond yn hytrach yn “gwmni ategolion i ferched elw-gyda-diben sy’n ymroi i gefnogi gwneuthurwyr a’u crefftau a chefnogi ffasiwn moesegol a chynaliadwy yn weithredol”.

O’r cychwyn cyntaf bwriad Maykher oedd ymdrin â mater tlodi ac anghydraddoldeb yn gyffredinol a chydraddoldeb rhywiol a grymuso menywod yn arbennig. Dim ond gyda phartneriaid sy’n rhannu ei werthoedd ac sy’n ymrwymo i helpu harneisio talent menywod gwledydd datblygol y mae’n gweithio, a hynny o leiaf drwy gynnig cyfleodd moesegol i weithio a chyflogau teg. Fodd bynnag, mae Heidi hefyd yn cydnabod pwysigrwydd addysg a’i rôl wrth ddileu tlodi, gan bwyntio at y ffaith nad yw tua 130 miliwn o ferched ledled y byd yn derbyn addysg o ganlyniad i wahaniaethu ar sail rhywedd. O ganlyniad, mae Maykher yn buddsoddi o leiaf 10 y cant o’i elw diwedd blwyddyn i mewn i addysgu merched a menywod mewn ardaloedd y mae ei angen fwyaf. Ers 2018 mae wedi cefnogi addysg dau ddisgybl uwchradd, Irma a Melody, yng Ngwatemala, lle mae tua 2 filiwn o blant yn cael eu hamddifadu o addysg. Nod Heidi yw ariannu mynediad rhagor o fyfyrwyr ifanc i fyd addysg trwy ddewisiadau moesegol a chynaliadwy Maykher ac mae’n credu’n gryf y bydd ymestyn addysg fel hyn yn helpu’n raddol i “leihau risg tlodi, masnachu pobl a phriodi plant”

Nid dim ond materion sy’n ymwneud â phobl mae Maykher yn ymdrin â nhw. Mae’r busnes yn ymrwymo i ffasiwn foesegol a llesiant y blaned. Lle bynnag y bo’n bosibl, defnyddir lliwiau planhigion a llysiau, cedwir cyfraddau gwastraff mor isel â phosibl, ailgylchir cynhyrchion ac osgoir defnyddio plastigau a phecynnu gormodol. Ar yr un pryd, maent yn chwilio o hyd am ffyrdd i wella eu prosesau a lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Felly, mae Maykher yn gofyn bod ei bartneriaid yn onest a thryloyw o’r dechrau i’r diwedd, yn gofalu am yr amgylchedd a chynaliadwyedd ac yn bod yn garedig. Mae’n fenter Gytgord yn ei wir ystyr, sy’n cofleidio elw, pobl a’r blaned ac yn ymdrin â SDGau 1 (Dim tlodi), 10 (lleihau anghydraddoldebau), 5 (Cydraddoldeb Rhywiol), yn ogystal â 4 (Addysg o Ansawdd), 16 (Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cryf), 11 (Dinasoedd a Chymunedau cynaliadwy) ac 8 (Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd). Ar yr un pryd, mae’n ymdrin â SDG 13 (Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd), 15 (Bywyd ar y Tir), 12 (Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol) ac 17 (Gweithio mewn Partneriaeth i Gyflawni’r Nodau).

Yn 2018, canmlwyddiant pleidlais i ferched yn y DU, enillodd Maykher Wobr Busnes Moesegol – Gwyrdd y Flwyddyn yng Ngwobrau Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru. Wrth sôn am y Wobr, dywedodd Heidi “Ers sefydlu’r cwmni yn 2017, rydym wedi ymrwymo i addysgu pobl am fanteisio ffasiwn araf ac ystyrlon...ac mae ennill y wobr Ffederasiwn Busnesau Bach yn cydnabod a chymeradwyo ein model busnes cynaliadwy”. Er ei bod wedi cyflawni’r Wobr mor fuan ar ôl lansio’r fenter, mae Heidi yn cydnabod y bydd yn cymryd amser i gyflawni popeth mae hi ei eisiau ar gyfer y busnes. Meddai, “Rydym ni’n dechrau’n fach. Flwyddyn ar ôl blwyddyn rydym yn datblygu cynllun a fydd yn symud y prosiect ymlaen, un cam bach ar y tro”.

neodynamic.co.uk

“Rhoddodd fy ngradd yr hyder a’r sgiliau imi roi cynnig arni [hunangyflogaeth]”

(Neil Dyer)

Lansiodd Neil Dyer, a raddiodd o’r MBA, ei fusnes ymgynghoriaeth yn 2014. Fel llawer o fyfyrwyr MBA daeth i’r rhaglen o gefndir corfforaethol wedi gweithio mewn swydd uwch reolwr. Fodd bynnag, roedd yn chwarae gyda’r syniad o ddechrau ei fusnes ei hun ond doedd e ddim yn gwybod beth i’w wneud. “Helpodd yr MBA i gadarnhau fy ngwybodaeth am fusnes” meddai “gwnaeth y darlithwyr hybu fy nealltwriaeth ac fe wnaeth un yn arbennig roi’r amser a’r anogaeth i mi i ddechrau fy ymgynghoriaeth fusnes fy hun.” Felly, yn ystod blwyddyn gyntaf ei astudiaethau dechreuodd gynllunio ei fusnes ac yn ei ail flwyddyn, fe a’i lansiodd. Busnes ymgynghoriaeth yw NeoDynamic sy’n ceisio gwneud gwir wahaniaeth a chreu twf mewn sefydliadau. Mae wedi’i seilio ar gred Neil bod meddwl blaengar a chreadigol yn gallu cael effaith go iawn ar sefydliadau. Dadleua mai newid cyffrous, profiadau newydd a datblygiad talent a ddylai yrru unigolion a sefydliadau.

Ymhlith canmoliaethau niferus NeoDynamic, daw un nodweddiadol gan Emily Black, sy’n ddylunydd mewnol sydd wedi ennill gwobrau (emily@ emilymayinteriors.co.uk). Dywed bod “Neil yn ased gwerthfawr i unrhyw unigolyn neu fusnes y mae’n gweithio gyda nhw. Hyd yma, mae’r gwaith rydym wedi’i gwblhau gyda’n gilydd wedi cynyddu llwybrau at gwsmeriaid posibl a gwerthiannau, wedi’i adeiladu ar fy mrand presennol ac mae cynlluniau’r dyfodol yn cynnwys symleiddio fy mhroses busnes. Buaswn yn argymell Neil yn gryf am ei wasanaethau ansawdd uchel”. Ers mis Hydref 2015, mae Neil wedi gweithredu fel model rôl ar gyfer Syniadau Mawr Cymru sy’n ceisio ysbrydoli pobl ifanc mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion i ddod yn genhedlaeth nesaf Cymru o entrepreneuriaid ifanc, ac mae carfan o fyfyrwyr y Brifysgol wedi elwa, ers mis Medi 2020, o’i ddealltwriaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol o Farchnata am ei fod wedi bod yn addysgu ar y rhaglen radd Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol.

Yn amlwg mae ei fusnes yn ymdrin â SDG 9 (Diwydiant, Arloesi a Seilwaith) yn ogystal ag 8 (Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd), ond mae e hefyd yn cyfrannu at SDG 4 (Addysg o Ansawdd), wedi cydnabod ei bwysigrwydd yn ei achos ei hun.

osengreesreflection.com

“Dechreuodd y cyfan gyda syniad...A all poteli gwydr gael eu troi’n rhywbeth hardd?”

(Dr Tyra Oseng-Rees)

A hithau wedi’i magu yn Norwy’r 1980au, mae “ymwybyddiaeth amgylcheddol, cynildeb, creadigrwydd, annibyniaeth ac empathi am bawb a phopeth” yn hanfodol i Dr Tyra Oseng-Rees, Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe Y Drindod Dewi Sant (erbyn hyn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant). Fel llawer o entrepreneuriaid mae hi’n dod o deulu entrepreneuraidd ac yn 2017 nid oedd yn syndod pan sefydlodd hi ei busnes ei hun sydd eisoes wedi enill gwobrau , sef Oseng-Rees Reflections (osengreesreflection.com). Yr hyn sydd efallai’n syndod yw ei bod wedi gwneud hynny yng Nghymru, lle mae hi wedi byw ac astudio ers 2003.

Ar ôl astudio Celf, Crefft a Dylunio yng Ngholeg Bodin, Norwy, a Seicoleg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Bergen, cofrestrodd ar radd Faglor mewn Dylunio Diwydiannol yn Athrofa Addysg Uwch Abertawe. Yn rhan o’i rhaglen radd datblygodd slab pafin o wydr wedi’i ailgylchu ar gyfer pobl ddall. Arweiniodd hyn at ymgymryd ag Ymchwil Ddoethurol ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe (bellach yn rhan o’r Drindod Dewi Sant) i “The Physical and Aesthetic Properties of Fused Recycled Bottle Glass”. Cafodd ei Doethuriaeth yn 2009 ac fe ddechreuodd yrfa ym maes addysg cyn lansio ei busnes uwchgylchu gwydr yn 2017. Ers hynny mae hi a’r busnes wedi mynd ymlaen i ennill nifer o wobrau. Hi oedd Entrepreneur Diwydiannau Creadigol y Flwyddyn yn 2019, enillydd Gwobr Busnesau cynaliadwy yng Ngwobrau’r Academi Gynaliadwy 2019 ac yn derfynwr yn y Great British Entrepreneur Award.

Nid oes unrhyw amheuaeth bod ailgylchu gwydr yn elwa’r blaned. Nid yn unig y mae’n gwarchod adnoddau naturiol, tywod, lludw soda a chalchfaen yn arbennig, ond mae hefyd yn arbed ynni ac yn lleihau llygredd atmosfferig. Ynghyd ag arbed lle mewn safleoedd tirlenwi, mae gwydr hefyd yn 100% cynaliadwy oherwydd y gellir ei ailgylchu dro ar ôl tro heb golli purdeb. Mae Tyra yn cydnabod hyn ond fel dylunydd mae ganddi hefyd ddiddordeb nid yn unig mewn ailgylchu’r gwydr yn boteli newydd, fel sy’n draddodiadol, ond mewn datblygu deunydd newydd, cynaliadwy ac aesthetig er mwyn, yn ei geiriau hi, “addysgu pobl ynghylch gwneud dewis cynaliadwy ymwybodol”. Yn yr un modd, mae’r busnes yn gwneud paneli gwydr cynaliadwy â llaw, pob un â stori’n gysylltiedig â’r cynnyrch, ar gyfer gosodweithiau mewnol a phensaernïol.

Fodd bynnag, addysg sydd wrth wraidd y busnes. Yn 2015, cafodd ei gwahodd i gymryd rhan mewn prosiect peilot rhyngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Cornell gyda’r bwriad o ddod â chelf a gwyddoniaeth at ei gilydd er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd pryfaid peillio a’r heriau maent yn eu hwynebu. Mewn gwydr a ailgylchwyd, dyluniodd 6 o’r 24 gwenynen sydd i’w gweld ym Mhrydain a gwahoddodd y cyhoedd nid yn unig i’w hadnabod ond hefyd i brofi eu breuder a’u gwendid. Yn ogystal, fe ddatblygodd brosiect addysgu fel bod plant a phobl ifanc yn gallu

- Dysgu am bryfed peillio a gwenyn a phwysigrwydd eu hamddiffyn - Dysgu am ac adfyfyrio ar faterion amgylcheddol ac ailgylchu - Cael eu cyflwyno i gysyniad yr economi gylchol, sut y gellir defnyddio gwydr dro ar ôl tro a phwysigrwydd ailgylchu - Ymarfer sgiliau arsylwi a chyd-symud llaw-llygad trwy fraslunio a phaentio - Cynnal prosesau dylunio, o gynhyrchu syniadau i gynllunio’r cynnyrch terfynol - Datblygu sgiliau mathemategol trwy fesur a phwyso gwydr yn y broses gweithgynhyrchu.

Cynhelir y prosiect, sy’n ffocysu ar ddeall y cysylltedd rhwng yr ecosystem a sut y gall penderfyniadau cyfoes gael canlyniadau hir dymor, dros gyfnod o flwyddyn ac fe’i rhennir yn 4 cyfnod. Mae’r dysgwyr

- Yn arsylwi ar y gwenyn yn eu cynefin naturiol a dysgu amdanynt a’u hamrywiaeth - Yn cynllunio , braslunio, paentio a gwneud gwenynen adnabyddadwy. - Yn eu cartrefi, yn casglu , glanhau a didoli poteli a chynwysyddion yn ôl eu lliw sydd yna’n cael eu prosesu’n barod ar gyfer ailgylchu - Yn defnyddio’r gwydr sydd wedi’i ailgylchu, mowldiau plastig ac offer modelu i wneud eu gwenynen eu hunain. aml, caiff dysgu “trwy” entrepreneuriaeth fel hyn ei esgeuluso ond mae’n rhywbeth sydd yr un mor bwysig â dysgu “am” ac “ar gyfer” entrepreneuriaeth, sef dau amcan mwy cyffredinol Addysg Entrepreneuriaeth. Mae’n arbennig o berthnasol wrth ddysgu am Gynaliadwyedd, fel y mae’r prosiect hwn wedi’i arddangos, ac yn ôl un rhiant, roedd ei merch wedi cofio toreth o’r hyn a addysgwyd iddi ac roedd hi wedi treulio tua 20 munud yn ei haddysgu hi a’i brawd am wenynau.

Nid dim ond mewn ysgolion a gyda phlant ifanc y mae’r dull hwn yn werthfawr. Fel y mae Lackeus (2015) wedi cydnabod, mae addysgu “trwy” entrepreneuriaeth yn berthnasol i bob myfyriwr ar bob lefel ac mae Dr Oseng-Rees wedi defnyddio cynhyrchu gwydr wedi’i ailgylchu ymdoddedig cynaliadwy i weithio gyda myfyrwyr rheolaeth yn eu blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Abertawe yn ymchwilio i’r economi gylchol, ac yn Y Drindod Dewi Sant mae hi wedi datblygu rhaglen rhyngddisgyblaethol i israddedigion (OsengRees et.al 2018) yn cynnwys myfyrwyr peirianneg, celf, gwydr, cadwraeth amgylcheddol, peirianneg fecanyddol a rheolaeth prosiectau ac adeiladu. Ei nod yw dymchwel y meddylfryd seilo ac annog “cydweithio, meddwl hir dymor a chynnwys pob sector” er mwyn hwyluso llesiant cymdeithasol a chymdeithas iach.

Yn unol â hynny, yn rhan o’i wystl cyfrifoldeb cymdeithasol, nid yn unig y mae’r busnes yn ailgylchu poteli gwydr ond mae’n cynnig hefyd weithdai ar gelfyddydau, gwyddoniaeth, cynaliadwyedd a’r daith entrepreneuraidd, yn ogystal â darlithoedd a sgyrsiau ysgogiadol. Ei genhadaeth yw bod yn driw i ddatblygu cynaliadwy a cheisio cyflawni sero allyriad carbon. Nid yn unig y mae’n ymwneud â thwf economaidd a chreu cyfoeth wrth amddiffyn yr amgylchedd, ond hefyd, llesiant dynol ac ymdrin â materion cymdeithasol a diwylliannol. Mae hyn yn cynnwys darparu addysg o ansawdd sy’n cydnabod yr angen i amddiffyn elw, pobl a’r blaned.

Mae Oseng Rees Reflections yn amlwg yn ymdrin â SDG 9 (Diwydiant, Arloesi a Seilwaith), 12 (Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol), 13 (Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd) a 4 (Addysg o Ansawdd).

reddragonflagmakers.co.uk

“Gwnewch i bawb rydych yn siarad gyda nhw deimlo mai nhw yw’r person pwysicaf i’ch busnes. Mae ewyllys da, caredigrwydd, haelioni, a hiwmor diymhongar yn mynd

yn bell”. (Jo Ashburner)

O 1997-2004 roedd Joe Ashburner yn fyfyriwr ar y BA Dylunio Patrwm Arwyneb ac ar hyn o bryd mae hi’n ymgymryd â Meistr mewn Arloesi Rhyngwladol, Gweithgynhyrchu ac Uwch Beirianneg Ddylunio. Rhwng y ddau beth yma, mae hi wedi ymgymryd â nifer o rolau a chyfrifoldebau, yn cynnwys cyfnod o 12 mlynedd fel Entrepreneur Preswyl a ariannwyd gan Gynulliad Cymru, ac mae hi’n dipyn o entrepreneur cyfresol.

Yn 2004, sylfaenodd a datblygodd Noonoo sy’n ystod o ddillad plant a theganau eco, moesegol, cynaliadwy ac organig a werthwyd yn y DU trwy tua 450 manwerthwr a ledled y byd trwy 8 o ddosbarthwyr. Hi oedd Menyw Fusnes y Flwyddyn y DU yn 2006 am ei hymdrechion ym maes gweithgynhyrchu moesegol. Yna, aeth ymlaen i aillansio busnes gwneud baneri’r teulu yn 2011, ar ôl i’w thad ymddeol yn 2008. Felly, ers 2011 hi yw Cyd-sylfaenydd, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Rheolwr Gyfarwyddwr Red Dragon Flagmakers. Mae’r busnes yn dyddio nôl i 1969 pan gwnaeth ei thad, sydd bellach yn Gadeirydd y cwmni, wneud y faner ar gyfer arwisgiad Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon.

Yn ôl eu gwefan, maent yn “fusnes gwnïo, yn weithgynhyrchwr, yn fusnes cenhadaeth gymdeithasol ac yn BBaCh deinamig a blaengar”. Fodd bynnag, ar wahân i fod yn un o brif wneuthurwyr baneri’r byd, mae ganddynt bolisi gweithgynhyrchu sero gwastraff hirsefydlog yn uwchgylchu ac ailgylchu eu holl dameidiau o ffabrig fel nad yw unrhyw beth yn mynd i dirlenwi. Maent yn allforio eu nwyddau drwy ddefnyddio bagiau a bocsys sydd wedi’u hailgylchu neu becynnu newydd sydd wedi’i ailgylchu, ac yn cyfathrebu’n electronig gan ddefnyddio cyn lleied o bapur a phrint â phosibl. Ar yr un pryd, polisi eu cwmni yw darparu “amgylchedd gwaith lle bydd pobl yn teimlo’n gyfforddus a hyderus y byddant yn cael eu trin gyda pharch ac urddas”. Maent yn dibynnu’n 100% ar refeniw gwerthiannau ac mae eu helw’n mynd i mewn i ddatblygu eu gweithwyr. Dros y 6 mlynedd diwethaf maent wedi hyfforddi a helpu i adsefydlu dros 300 o bobl, gan eu helpu i gyfrannu at yr economi a chymuned leol. Yn ogystal, maent wedi bod yn symud i ffwrdd oddi wrth ddefnyddio defnyddiau polyester o safon diwydiant i ddefnyddio deunyddiau bioddiraddadwy fel lliain a chotwm, am ei fod yn “llesteirio’r union greadigrwydd sy’n ein gwneud yn wneuthurwr baneri llwyddiannus”.

Ddim yn fodlon ar hyn, ers 2008 hi yw sylfaenydd a phrif ddatblygwr Roof Coatbag, sydd â’r genhadaeth o fod yn barth diogel i’r rheiny sy’n sownd yn y cylch digartrefedd. Mae ei gynnyrch yn ddilledyn sy’n gallu achub bywydau, am ei fod yn gwrthsefyll trywaniadau, tân a dŵr ac mae’n gynnes hyd yn oed pan fo’n rhewi. Mae sach gysgu’n rhan integredig ohono a phan nad yw’n cael ei ddefnyddio gellir ei bacio i mewn i fag symudol ysgafn. Mae ganddo warant oes ac i rywun digartref, mae’n darparu cynhesrwydd, lloches a diogelwch. Er bod Roof Coatbag yn fenter gymdeithasol, mae Red Dragon yn Fenter Gytgord sy’n integreiddio menter economaidd, eco, dyngarol a chymdeithasol. Mae’n ymdrin â SDG 8 (Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd), 9 (Diwydiant, Arloesi a Seilwaith), 11 (Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy), 12 (Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol), 13 (Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd), ac 15 (Bywyd ar y Tir). Hefyd, mae’n datblygu partneriaethau gyda’i gwsmeriaid a chyflenwyr busnesau bach lleol ac mewn partneriaeth gyda gweithgynhyrchwyr eraill o Gymru i adfywio gweithgynhyrchu tecstilau yng Nghymru. Felly, mae’n ymdrin hefyd â SDG 17 (Partneriaethau ar gyfer y Nodau).

“Mae’r Drindod Dewi Sant wedi edrych ar bob agwedd ar redeg busnes creadigol o farchnata i wneud celf ac mae wedi cynllunio cyrsiau sy’n wirioneddol ddefnyddiol i

fyfyrwyr” (Sara Holden)

Sefydlwyd “Sculpture by the Sea UK” yn 2005 gan Sara Holden, a raddiodd o raglen radd Meistr Y Drindod Dewi Sant mewn Menter Celfyddydau Gweledol. Ar ô graddio gyda gradd mewn Celf Gain, fel cymaint o’i chymheiriaid, aeth i weithio ar ei liwt ei hun, gan redeg gweithdai Celf, yn ei hachos hi, ar gyfer ysgolion a chymunedau. Rhoddodd y radd Meistr iddi’r wybodaeth a’r hyder i ddatblygu’r fenter, i gydweithio gydag artistiaid eraill a gweithio ar raddfa fwy. Fel y mae hi ei hun yn dweud fe “roddodd i mi’r rhyddid i ddylunio fy mhrosiectau fy hun gyda’r nodau ac amcanion roedd arna’i eisiau eu cyflawni yn hytrach na gweithio ar syniadau pobl eraill”.

Wedi bod yn angerddol ynghylch natur a chelf ers bod yn blentyn, a sefydlodd “Sculpture by the Sea UK” gyda’r amcan o ysbrydoli plant a chymunedau drwy eu hymgysylltu â natur trwy gyfrwng celf, gan helpu i’w amddiffyn a’i gynnal ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Gan ei bod yn byw wrth y môr ac yn defnyddio hynny’n ysbrydoliaeth ar gyfer celf, gwelodd draethau Cymru fel y lle perffaith i gynnal gweithdai. Wrth weithio mewn ysgolion gwelodd bod cynnal sesiynau ar dir yr ysgol, yn hytrach nag mewn ystafelloedd dosbarth traddodiadol, nid yn nig yn elwa’r plant o ran eu llesiant a’u creadigrwydd, ond hefyd byd natur. Felly, penderfynodd lansio fusnes aml-wynebog sy’n ymdrin â materion economaidd, eco a chymdeithasol mewn ffordd gytgord, gan ddefnyddio’r traethau a rhywogaethau morol mewn perygl i helpu pobl ddysgu am yr amgylchedd morol mewn ffordd sy’n cynhyrchu empathi ac yn helpu i’w hamddiffyn a’u cynnal.

Mae’r busnes, sy’n gweithredu drwy gydol y flwyddyn, yn cynnig gweithdai llawn hwyl ar gyfer pob grŵp oedran. Bydd y cyfranogion yn dysgu yn yr awyr iach yn ginesthetig, ac felly’n gwella eu hiechyd a’u llesiant emosiynol yn ogystal â’u datblygiad moesegol ac ysbrydol. Nod y cyrsiau yw addysgu’r cyfranogion ynghylch deunyddiau cynaliadwy (wedi’i dyfu, ei ffeindio a’i ailgylchu) ac i’w hysbrydoli i werthfawrogi natur. Yn ôl Sara mae eu gwaith yn annog “plant a phobl ifanc i fod yn ddinasyddion gweithredol a hyrwyddo datblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang yn ogystal ag annog dysgu gydol oes”.

Er bod eu gweithdai’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm Cendlaethol, nid dim ond adnodd addysgol yw “Sculpture by the Sea UK”. Mae ei weithwyr yn artistiaid hyfforddedig sydd â phrofiad helaeth o weithio mewn lleoliadau naturiol ar brosiectau Celf Amgylcheddol proffil uchel. Mae’r rhain yn cynnwys Gŵyl Cerflunio Traeth flynyddol a llwybr cerfluniau ar hyd llwybr yr arfordir yn cysylltu 5 bae ar benrhyn godidog Gŵyr. Nid yn unig y mae’n arddangos Celf Gymreig gyfoes mewn ffordd anturus, ysbrydoledig, ond mae’n annog ffyrdd o fyw actif ac yn denu ecodwristiaeth. Yn yr un modd, mae wedi derbyn nawdd gan Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio annog syniadau newydd ac arloesol ar gyfer cynnyrch. Yn 2018, roedd yn rownd derfynol Gwobrau Lletygrwch Cymru, sy’n ceisio arddangos “yr unigolion hynny sy’n gweithio’n ddiflino i gyflawni llwyddiant sy’n arwain y diwydiant a boddhad cleientiaid wrth hyrwyddo rhagoriaeth yn y sector lletygarwch”.

Yn amlwg mae “Sculpture by the Sea UK” yn fenter gynaliadwy sy’n ymdrin â SDG 4 (Addysg o Ansawdd), 3 (Iechyd a Llesiant Da), 8 (Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd), 9 (Diwydiant, Arloesi a Seilwaith), 14 (Bywyd o dan y Dŵr), 15 (Bywyd ar y Tir) ac mae’n fusnes sydd mewn harmoni â phobl a’r amgylchedd.

Fel y dywed Sara “Rwy’n cael fy nghymell i fyw, ac i annog eraill i fyd, bywyd cynaliadwy sy’n helpu i warchod y blaned yn hytrach na’i disbyddu. Fy ngweledigaeth ar gyfer y cwmni yw y bydd pobl, trwy ein gweithdai, yn cael eu hysbrydoli a meddu ar y wybodaeth a’r offer creadigol i sylweddoli y gallant wneud gwahaniaeth...”

surfabilityukcic.org

“Mae syrffio’n ffordd i fod yn rhydd”

(Lisa Anderson, Pencampwr Syrffio’r Byd 4 gwaith, 1994-1997).

Graddiodd Ben(edict) Room o Brifysgol Fetropolitan Abertawe yn 2006. Mae’n ffanatig am syrffio a mynydd-fyrddio ac yn entrepreneur cyfresol. Yn 2008, sefydlodd ei fusnes cyntaf, Board Riding Development, ym mhenrhyn Gŵyr godidog a’i ail, Surfability UK, yn 2013 gyda dau gydweithiwr, Ben Clifford a Toby Williams. Mae’r busnes cyntaf yn fenter fasnachol sy’n ymroi i hyrwyddo mynydd-fyrddio yn ddiogel, ac mae’r ail yn gwmni buddiannau cymunedol sy’n darparu gwersi syrffio a phrofiadau i bobl ag anghenion ychwanegol o ganlyniad i anabledd, salwch neu anableddau dysgu. Ben yw ei Reolwr Marchnata ac mae’n hyfforddwr ac yn un o’i dri Chyfarwyddwr.

Eu nod yw “cyfuno arfer gorau o addysg arbennigm gofal iechyd, syrffio ac achub bywydau i wneud syrffio mor gynhwysol â phosibl”. Maent yn darparu gwersi syrffio drwy gydol y flwyddyn ond yn y gaeaf, maent hefyd yn darparu gwesri sglefrfyrddio i’r rheiny y mae môr y gaeaf yn rhy oer. Ar ôl dechrau’n ysgol syrffio fach o gefn car, mae Surfability bellach yn un o ysgolion syrffio addasol mwyaf blaenllaw’r byd. Nid yn unig y mae’n galluogi’r rheiny ag anghenion arbennig i gael profiad saff a difyr sy’n gallu eu rhyddhau a hybu eu hunanhyder, ond mae’n arloesi datblygiad citiau ac offer newydd. I’r rheiny nad ydynt yn gallu eistedd heb gymorth maent wedi datblygu, mewn partneriaeth â’r Drindod Dewi Sant, bwrdd syrffio tandem eisteddog cyntaf y DU,ac maent hefyd yn datblygu bwrdd corff newydd ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn a siwtiau gwlyb hawdd i ddefnyddio.

Mae’r busnes, a enillodd Wobr Cymuned TSB yng Ngwobrau Pride of britain 2019, yn cyflogi 4 hyfforddwr a 30 gwirfoddolwr. Mae hyn yn helpu i gadw costau’n isel a’r ffi hyfforddi ar gyfer pob sesiwn yn £10 yn unig. Er bod Surfability yn cefnogi dros 500 o bobl, ac mae’r galw’n tyfu gan gynnwys archebion o dramor, mae codi arian yn her. Fodd bynnag, mae incwm drwy ddatblygu cynhyrchion newydd yn lleihau eu dibyniaeth ar gyfraniadau ac yn eu helpu i dyfu’r busnes, a fydd hefyd yn wir am eu cynllun i lunio partneriaeth gyda sefydliadau sy’n ymdrin ag anafiadau corfforol. Ar wahân i’w ddau fusnes, mae Ben yn dod o hyd i amser i “roi nôl”. Ers 2010 mae e wedi bod yn fodel rôl i Syniadau Mawr Cymru, Ymgynghorydd Cymorth Busnes ym Mhrifysgol Abertawe a Chydlynydd Entrepreneuriaeth Menter yn Y Drindod Dewi Sant. Wrth siarad ar ôl profiad diweddar yn mentora myfyrwyr cyfrifiadura yn Y Drindod Dewi Sant, dywedodd ei fod yn brofiad gwych gan fod y myfyrwyr yn “broffesiynol, cwrtais ac yn parchu fy amser. Roedd y math o sgiliau y gallent eu cynnig yn arloesol ac yn chwa o awel iach”. Felly, nid yn unig bod y dysgu’n un ffordd ac yn nodweddiadol ohono ef mae e’n hapus i gydweithredu ymhellach y flwyddyn nesaf.

Yn amlwg mae Ben a Surfability yn ymdrin â SDG 10 (Lleihau Anghydraddoldeb) a 3 (Iechyd a Llesiant Da) yn ogystal â 4 (Addysg o Ansawdd) ond maent hefyd yn cyfrannu at SDG 9 (Diwydiant, Arloesi a Seilwaith).

“Nid yw’r pethau mwyaf hyfryd yn y byd yn weladwy nac yn gyffyrddadwy- rhaid eu teimlo gyda’r galon”

(Helen Keller, 1880-1968).

Sefydlwyd VIP Wales yn 2018 gan Ewan Rees, un o raddedigion Rheolaeth Hamdden Y Drindod Dewi Sant. Mae’n darparu gwyliau cerdded hunandywysedig, tywysedig a phwrpasol ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru. Ei genhadaeth yw rhoi i’w gleientiaid y “mewnolwg, hyder a rhyddid i ddarganfod y gorau oll o arfordir a gwlad y wlad”. Eu blaenoriaeth yw galluogi eu cleientiaid i arafu, ymlacio a mwynhau eu hantur cerdded. I wneud hynny, maent yn talu sylw i bob manylyn yn cynnwys

- Cynllunio llwybr sy’n ystyried diddordebau a gallu’r cleient - Dethol llety dibynadwy sy’n bodloni anghenion y cleient - Ymdrin â throsglwyddo bagiau - Bod ar alwad 24/7.

VIP Wales yw gweledigaeth Ewan a Laura, sy’n dîm gŵr a gwraig. Daw Ewan, sy’n medru’r Gymraeg, o Sir Benfro. Mae’n adnabod yr ardal yn eithriadol o dda, yn rhannol am iddo fod yn Barcmon ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Fodd bynnag, mae wedi teithio’r byd yn gweithio mewn rolau rheoli yn y diwydiant lletygarwch yn trefnu a rhedeg digwyddiadau corfforoaethol mawr a digwyddadau chwaraeon o’r radd flaenaf. Bu iddo gwrdd â Laura, a fagwyd yn y Cotswolds yn Lloegr, trwy’r diwydiant lletygarwch ac er eu bod wedi teithio’n helaeth gwnaethant penderfynu dychwelyd i Sir Benfor i fagu eu plant (dau o fechgyn).

Ar ôl dychwelyd i Gymru, ymgymerodd Ewan â’r rôl Rheolwr Cyffredinol yn un o brif westai arfordir Sir Benfro a chyn bo’n hir daeth yn ymwybodol bod llawer o gerddwyr yn cadw lle gyda’r cwmnïau cerdded mwy, adnabyddus, nad oedd yr un ohonynt wedi’u lleoli yn Sir Benfro – na Chymru hyd yn oed. Wrth siarad gyda gwesteion fe ddarganfu’n fuan eu bod yn meddwl bod llwybr yr arfordir yn odidog, ond eu bod yn ei chael yn anodd ac roedd llawer yn gadael heb ddarganfod rhyw lawer, os unrhyw beth, am hanes a diwylliant gyfoethog y wlad, a’r tirluniau i ffwrdd o’r arfordir. O ganlyniad i’r sgyrsiau hyn y ganed VIP Wales – yn cynnig gwyliau wedi’u teilwra sy’n manteisio ar gyfoeth o wybodaeth a chysylltiadau lleol.

Yn y busnes, mae Ewan yn goruchwylio bywyd dydd i ddydd VIP Wales ac mae’n cael pleser mawr o deilwra amserlenni, tywys teithiau cerdded a rhannu ei wybodaeth leol o Sir Benfro gyda’i gleientiaid, ac mae Laura yn gyfrifol am yr archebion a’r gwaith gweinyddol, er ei bod yn dywysydd arwain llawr gwlad ac yn cael pleser mawr o ddarparu teithiau lleol a rhannu Sir Benfro gyda’u gwesteion. Yn eu hamser hamdden, mae’r ddau’n mwynhau cerdded ac archiwlio llwybrau newydd gyda’i gilydd a gyda’u bechgyn. Naill ai hynny neu rwyfo cwch hir Celtaidd os yw’r tywydd yn ddigon braf.

Yn amlwg mae VIP Wales yn ymdrin â SDG 8 (Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd), 11 (Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy), 13 (Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd), 15 (Bywyd ar y Tir) a 3 (Iechyd a Llesiant Da)”

“Heicio gwych ar hyd clogwyni Parc Cenedlaethol Sir Benfro. Roedd Ewan yn dywysydd gwych wrth i ni fynd ar ein cyflymdra ein hunain ar hyd y llwybr creigiog. Adroddodd Ewan lawer o hanes yr ardal wrthym a wnaeth y daith yn addysgol iawn hefyd. Profiad anhygoel!!!!” (Jim S. Hydref, 2021).

“Rydym yn treulio llawer o’r diwrnodau gwaith yn chwilio am ffabrigau arloesol newydd a dod â’n siacedi a grefftir yn ofalus yn

fyw” (Alex Hayes)

Mae Alex Hayes, a raddiodd o’r Drindod Dewi Sant yn 2005 gyda BA mewn Twristiaeth, Digwyddiadua a Hamdden, yn angerddol am ffasiwn dynion. Yn syth ar ôl graddio aeth i warbacio o gwmpas y byd am flwyddyn a chafodd swydd yn Hong Kong yn y sector gweithgynhyrchu a dosbarthu dillad. Yna, fe ddysgodd am swp-weithgynhyrchu dillad ym Mangladesh, Tsieina a Vietnam o ganlyniad i ymweld â ffatrïoedd yn rhinwedd ei swydd. O 2007-2017 cafodd ei gyflogi gan M.A.Y Trading (UK) Ltd., cyflenwr dillad i labeli’r stryd fawr fel Next, Primark a Topman.

Cafodd y cwmni ei brynu ac ym mis Medi 2017, fe a’i gadawodd oherwydd “doedd o jyst ddim yn siwtio’r broses greadigol roedd arnom ei hangen i ddatblygu a gofalu am ein cwsmeriaid yn iawn”. Yna, lansiodd Concept Asia Resources Ltd., cwmni Hong Kong preifat sy’n arbenigo mewn gweithgynhyrchu dillad uchaf yn Tsieina a’r DU. Mae’n cyflenwi cwmnïau fel ASOS, Amazon, French Connection, Jack Wills, White Stuff ayb., ac er eu bod yn dod yn fwyfwy ymwybodol o’u hangen i leihau eu hôl-troed carbon ar yr amgylchedd, penderfynodd ef a’i bartner busnes, Matthew (Matt) Lea, sydd hefyd yn angerddol am ffasiwn, lansio eu busnes dillad cynaliadwy ansawdd uchel eu hunain. O ganlyniad, ym mis Medi 2020, ganed Wear London. Busnes dylunio, gweithgynhyrchu a manwerthu dillad dynion yw hwn, â’r nod o ddod â gweithgynhyrchu dillad nôl i’r DU mewn ffordd gynaliadwy, “un pwyth ar y tro”. Maent yn chwilio am y defnyddiau gorau o’r DU ac Ewrop, yr Eidal yn bennaf, ac yn gweithio a meithrin perthynas gyda’u gweithgynhyrchydd lleol yn Nwyrain Llundain. Mae hyn yn eu galluogi i gael gwared ar y dynion canol, lleihau hyd y gadwyn gyflenwi a chynhyrchu cynnyrch o ansawdd heb ôl-troed carbon mawr.

Maent yn gwerthu eu dillad ar-lein (www. Wear-London.co.uk) a thrwy fanwerthwyr sefydledig fel Wolf and Badger (www. wolfandbadger.com), Marchnadle B Corp sydd â’r nod o gyflwyno ei gwsmeriaid i gynhyrchion cynaliadwy cynhyrchiad cyfyngedig a gynhyrchir gan frandiau annibynnol. Fodd bynnag, ers y pandemig Covid-19 a thranc manwerthu ar y stryd fawr, mae hefyd wedi agor tri allfa dros dro, dau yn Llundain (ym Marchnad Broadway a Commercial Street) ac un yng Nghaerdydd (Canolfan Siopa Dewi Sant).

Er bod sefydlu a rheoli ei fusnes ei hun wedi bod yn freuddwyd ganddo erioed, mae’n credu pe na bai e wedi teithio’r byd, wedi byw yn Hong Kong a chael profiad o’r diwydiant ffasiwn cyflym, efallai na fyddai “wedi bod yn ddigon dewr i gymryd y cam hwnnw a dechrau dau fusnes” ei hun.

Ar wahân i ymdrin â SDG 8 (Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd), mae Wear London yn ymdrin â SDG 9 (Diwydiant, Arloesi a Seilwaith), 12 (Defnyddio a chynhyrchu’n gyfrifol) yn ogystal ag 13 (Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd). Fel y maent yn honi, mae’r busnes wir yn “Frand Prydeinig gydag uniondeb”.

This article is from: