1 minute read
Rhagarweiniad
Er bod Entrepreneuriaeth wedi’i haddysgu ym mhrifysgolion Yr Unol Daleithiau ers diwedd y 1940au, ni thannwyd diddordeb Llywodraethau ynddi nes ymchwil Birch (1979) i faes cynhyrchu swyddi a dechreuasant annog eu prifysgolion a cholegau i’w gyflwyno i’w myfyrwyr. Ar y cychwyn, y gred oedd mai dim ond i fyfyrwyr Gweinyddiaeth Busnes yr oedd yn berthnasol ond dros y blynyddoedd cydnabuwyd yn fwy a mwy ei fod yn gymhwysedd allweddol i bawb, gan helpu pobl ifanc i fod yn fwy creadigol a chael mwy o hunanhyder ym mha beth bynnag y byddant yn ymgymryd ag ef (Comisiwn Ewropeaidd, 2008). Serch hyn, mae prifysgolion a cholegau yn aml wedi bod yn araf i addasu ac, mewn rhai achosion, wedi gwrthwynebu newid. Cyflwynwyd sawl mesur i’w hannog ac ysgrifennwyd testunau astudiaethau achos (Beveridge, 2001; Hague a Holmes, 2006) gyda’r bwriad o gyflwyno modelau rôl a dangos y broses entrepreneuriaeth a’r cyfraniad y gall ei wneud.
Dros y blynyddoedd, mae’r pwnc wedi esblygu ac mae ffurfiau newydd ar entrepreneuriaeth wedi dod i’r amlwg i gyflenwi’r dull economaidd traddodiadol. Mae’r rhain wedi cynnwys, Entrepreneuriaeth Gymdeithasol (Borage, & Deform, 2001), Ecopreneuriaeth (Kainrath, 2011) a’r mwyaf diweddar, Entrepreneuriaeth Ddyngarol (Kim et.al., 2018). Ar yr un pryd, mae mwy o sylw wedi cael ei roi, ac yn dal i gael ei roi, i’r Her Gynaliadwyedd a’r rôl mae entrepreneuriaeth wedi’i chwarae yn hynny, ac y bydd yn dal i’w chwarae. Mae’r pwnc yn dal i esblygu ac mae’r Brifysgol yn chwarae rôl bwysig yn yr esblygiad hwnnw, gartref ac yn rhyngwladol.
Yn y flwyddyn hon sy’n dathlu 200 mlynedd ers sefydlu Coleg Prifysgol Dewi Sant Llambed, man cyflwyno addysg entrepreneuriaeth i Gymru ac Addysg Uwch yng Nghymru, mae’n teimlo’n addas i olrhain esblygiad y ddisgyblaeth yn y Brifysgol i ddangos ei chyfraniad yn y gorffennol a’r presennol, ei rôl debygol yn y dyfodol a chyraeddiadau rhai o’i hentrepreneuriaid graddedig mwyaf diweddar. Boed iddynt weithredu fel modelau rôl ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a boed i’r Brifysgol barhau i arloesi a chyfrannu at ddatblygiad parhaus y pwnc, gan weithredu ar yr un pryd fel catalydd ar gyfer datblygiad economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y wlad.