3 minute read

Rhagair

Next Article
Y dechrau

Y dechrau

Ar 29ain Mehefin yn y gynhadledd Triple E, dyfarnwyd i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant y teitl ‘Prifysgol Entrepreneuraidd Ewropeaidd y Flwyddyn’. Mae amseru’r wobr fawreddog hon yn berffaith ar gyfer ein Daucanmlwyddiant, am ei bod yn dibynnu ar staff ymroddedig, y gorffennol a’r presennol, i’w chyflawni.

Ym mlwyddyn daucanmlwyddiant sefydlu prifysgol yn Llambed, mae’n iawn ein bod yn cydnabod a dathlu’r cyfraniad mae’r sefydliad wedi gwneud, nid yn unig wrth gyflwyno entrepreneuriaeth i Addysg Uwch yng Nghymru ar ddechrau’r 1980au, ond hefyd wrth ddatblygu’r brifysgol dros y 40 mlynedd diwethaf, yn genedlaethol a rhyngwladol. Rydym yn arbennig o falch o’n cyfraniad ni a chyfraniad ein graddedigion, y mae eu llwyddiant yn fater o gofnod cyhoeddus. Caiff ein Hathrofa Ryngwladol er Datblygu Entrepreneuraidd Creadigol, a ysgrifennodd ein cyflwyniadau ar gyfer y Wobr, ei chydnabod yn rhyngwladol yn arweinwyr yn y maes; ceisir eu cyfraniadau a’u cyngor yn yr uchaf fannau.

Fodd bynnag, nid yw stori’r Drindod yn dod i ben yno, gan fod ein Hathrofa Harmoni, ein Canolfan Cydnerthedd a Harmoni, a’r Gymdeithas Entrepreneuriaeth Gydgordiol yn bwriadu parhau â’i datblygiad a sicrhau, ar yr un pryd, bod Y Drindod yn cyfrannu’n gynyddol at ‘Lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol” yng Nghymru ac yn fyd-eang. Yn yr economi gwybodaeth byd-eang modern sydd ohono, mae rhan bwysig gan brifysgolion i’w chwarae mewn datblygiad economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ac ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod) nod ein hymchwil a’n haddysgu yw cefnogi 7 nod llesiant “Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)” 2015 y wlad.

Mae’r Drindod yn galw am berthynas fwy cytgord rhwng dynolryw a natur, ac am gymorth ar gyfer y rheiny sy’n llai ffodus. Bu’r angen am well dealltwriaeth a goddefgarwch wedi bod yn ganolog i’r gwaith y byddwch yn darllen amdano yma, ac yn yr un ffordd mae ar fentergarwch a chynaliadwyedd angen pobl sy’n meddwl yn arloesol, rwy’n arbennig o falch bod y gwaith a ddechreuwyd yn Llambed o dan Yr Athro David Kirby dros 40 mlynedd yn ôl, wedi arwain at bartneriaethau sydd wedi newid tybiaethau ynghylch yr hyn maen ei olygu i fod yn fentrus.

Yr Athro Medwin Huhghes

Is Ganghellor, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

“Mae sefydliadau academaidd yng Nghymru yn elfen annatod o’n hecosystem entrepreneuraidd, gan yrru twf cymdeithasol ac economaidd. Gan roi i fyfyrwyr a graddedigion y sgiliau ar gyfer ein byd newidiol, mae ein prifysgolion yn chwarae rhan arweiniol wrth ddarparu addysg entrepreneuraidd a phrofiadau dysgu i ddyfnhau cyfalaf dynol, uchelgeisiau a phenderfyniad pobl ifanc.

Mae’r Drindod Dewi Sant wedi bod ar flaen y gad wrth ddatblygu addysg ac arfer entrepreneuraidd yng Nghymru yn ogystal â hwyluso’r trawsnewidiad o addysg i hunangyflogaeth a dechrau busnes newydd. Mae academyddion, addysgwyr menter ac ymarferwyr yn y Brifysgol wedi gwneud cyfraniad i’w groesawu i ddatblygiad polisi a darpariaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid yng Nghymru.”

Carys Roberts

Uwch Rheolwr Ymgysylltu Entrepreneuriaeth Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llwodraeth Cymru

“Mae PCYDDS yn falch o’i graddedigion, sy’n cael effaith gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd sylweddol, pe baent yn raddedigion cyflogedig neu hunangyflogedig. Trwyddynt hwy, gwelwn ein cenhadaeth, sef ’trawsnewid addysg: trawsnewid bywydau’ yn cael ei gwireddu.

Er mwyn ennill gwobr Prifysgol Entrepreneuraidd Ewropeaidd y Flwyddyn bu rhaid i ni fod yn wir bobl amryddawn, ac felly, mae’r Wobr hon yn adllewyrchu ein hymagweddau cadarn at ymchwil, ein cyfraniad at ddatblygiadau rhyngwladol, ac wrth gwrs, ein cymorth dysgu sy’n sicrhau graddedigion creadigol gwydn. Mae’r data ar gyfer y DU yn siarad dros eu hunain, oherwydd mae’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch wedi rancio PCYDDS yn gyntaf yn y DU am y flwyddyn 20/21 o ran nifer y busnesau newydd gan raddedigion, ac yn gyntaf hefyd am y nifer o fusnesau sydd wedi bod yn rhedeg am dros 3 blynedd. Mae’r safle ar gyfer y flwyddyn flaenorol hefyd wedi bod yn gyson ymhlith yr uchaf ar gyfer sector Prifysgolion y DU.

Wrth i ni ddathlu 200 o flynyddoedd ers i’n sylfaenwyr wireddu eu huchelgeisiau mentrus eu hunain, mae hi’n briodol ac yn amserol ein bod ni’n dathlu llwyddiant hirsefydlog PCYDDS, gan ddechrau gyda’r cyhoeddiad addysgiadol hwn, sy’n mynd â ni y tu ôl i’r llenni.”

Yr Hybarch Randolph Thomas

Cadeirydd y Cyngor, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

This article is from: