5 minute read
Y dechrau
Yn y cychwyn:
Coleg Prifysgol Dewi Sant yn cymryd y cam cyntaf
Tarddle Addysg Entrepreneuriaeth yn y Brifysgol, ac yn wir yng Nghymru, oedd Llambed ar ddechrau’r 1980au. Bryd hwnnw, ym 1981, roedd Prif Weinidog y cyfnod, Y Gwir Anrhydeddus Margaret Thatcher, AS, yn ddiweddar wedi slaesio cyllidebau prifysgolion ac wedi ymgymryd â chwildro menter a newidiodd a lleihaodd rôl y wladwriaeth ac annog menter rydd a chysyniad hunangymorth. Fel y dywedodd hi ar y pryd, “when the state owns everything, nobody owns anything and when nobody owns anything nothing gets done”.
Fel y rhan fwyaf o brifysgolion eraill, profodd Coleg Prifysgol Dewi Sant, a sefydlwyd ar 12fed Awst 1822 gan ei gwneud yn sefydliad prifysgol hynnaf Cymru, ostyngiad yn ei chyllid gan y wladwriaeth a bu’n rhaid iddi dorri costau a/neu gynyddu ei refeniw. Mewn ymgais i wneud yr ail o’r rhain, cyflwynodd Pennaeth y Coleg ar y pryd, sef yr Athro Brian Morris (yr Arglwydd Morris o Gastellmorris yn ddiweddarach) Adran Addysg Barhaus a Chyswllt Allanol gydag un o staff academaidd y Coleg (Dr David A Kirby) yn Gyfarwyddwr dechreuol. Ac yntau wedi bod â diddordeb mewn ymchwil ac addysgu ers cryn amser mewn rôl cwmnïau bach mewn datblygiad economaidd a chymdeithasol, dechreuodd gynnig cyrsiau hyffroddi entrepreneuriaeth i BBaChau, pobl ddiwaith, menywod a myfyrwyr. Bryd hwnnw, roedd polisi datblygiad economaidd y wlad yn ffocysu’n gryf ar Fuddsoddi Uniongyrchol o Dramor ac nid ar ddatblygiad bunsesnau bach brodorol, ond tu hwnt i goridor yr M4, yng nghanolbarth Cymru a chymoedd glofaol De Cymru, roedd diweithdra difrifol, a wnaethpwyd yn waeth gan gyflwyniad cwotâu llaeth yr Undeb Ewropeaidd yn 1984 a’r cynllun cau pyllau glo parhaus. Ar yr un pryd, roedd diweithdra ymhlith graddedigion ar eu lefelau uchaf erioed ac roedd cyfranogiad menywod yn y gweithlu’n isel, yn enwedig yng nghanolbarth wledig Cymru. Gyda chymorth Bwrdd Datblygu Cymru Wledig (Datblygu Cnaolbarth Cymru yn ddiweddarach) a sefydliadau fel Antur Teifi (Antur Cymru bellach) dechreuasant hyfforddi merched a’r diwaith i ddechrau a rhedeg eu busnesau eu hunain, gyda chymorth offerynnau fel y Cynllun Lwfans Menter, y Cynllun Gwarantu Benthyciadau a’r Cynllun Ehangu Busnes, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Thatcher.
O bosib mai’r mwyaf uchelgeisiol a phroffil uchel o’r ymyraethau hyn oedd y rhaglen allgyrsiol arloesol, “Menter Graddedigion yng Nghymru”. Noddwyd hwn gan Awdurdod Datblygu Cymru, Datblygu Canolbarth Cymru a Chomisiwn Gwasanaethau Manpower yn ogystal â’r hen Midland Bank (HSBC bellach). Roedd y rhaglen ar agor i fyfyrwyr holl golegau Prifysgol Cymru (Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Llambed ac Abertawe) yn ogystal â myfyrwyr Polytechnig Cymru a rhai’r Colegau a’r Sefydliadau Addysg Uwch, fel Coleg Y Drindod Caerfyrddin, Athrofa Addysg Uwch Gorllewin Morgannwg, a Choleg Addysg Uwch Gwent. Fe ddaeth cyn
Rhaglen Fenter graddedigion y DU ac roedd yn rhaglen dysgu drwy brofiadau rhan amser yn ei hanfod a “gydnabuwyd” ym mis Hydref 1986 gan y Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Celfyddydau o dan ei Rhaglen Addysg er Medrusrwydd. Roedd y dyfyniad ar gyfer y dyfarniad yn cydnabod y ffordd gwnaeth y rhaglen: -
“ddatblygu medrusrwydd a hyder personol ei chyfranogion a’r ffordd y gwnaeth cyfran mor uchel o’r cyfranogion hynny droi eu gwybodaeth academaidd a’u sgiliau yn gynhyrchion a busnesau llwyddiannus eu hunain”.
Er mwyn annog cyfranogiad myfyrwyr roedd y rhaglen yn dibynnu ar fodelau rôl Menter Graddedigion a’i fodel cyntaf o’r fath oedd un o raddedigion Peirianneg Prifysgol Abertawe a oedd wedi sefydlu ei fusnes bwyd iach ei hun ar ôl graddio. Ei enw oedd Paul Hannon a aeth ymlaen i fod yn Brif Weithredwr y Ganolfan Genedlaethol er Entrepreneuriaeth mewn Addysg ac Athro Entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Fodd bynnag, wrth i’r rhaglen ddatblygu, roedd ei graddedigion ei hun yn gwasanaethu fel modelau rôl Menter Graddedigion, ac un o’r rhain oedd Carelton Watts (Hand of Creation Ltd) Artist Chwistrell Baent a raddiodd o Athrofa Gorllewin Morgannwg ac yn un o fyfyrwyr Andy a Kath Penaluna.
O dan arweinyddiaeth Dr Ian Roffe ac ymcwhil ac addysgu pobl fel Dr Jill Venus, Conny Matera-Rodgers ac eraill, daliodd Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llambed, i fod yn rhan o entrepreneuriaeth a chyflwynodd hi i’w phortffolio gradd. Fodd bynnag, dros y blynyddoedd, a gyda’r uno yn 2010 (gyda Choleg Y Drindod Carfyrddin) a 2013 (gyda Phrifysgol Fetropolitan Abertawe) i greu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, symudodd y craidd disgyrchiant tua’r de, gan ganolbwyntio mwy ar Gaerfyrddin ac Abertawe. Mae entrepreneuriaeth wedi datblygu’n agwedd allweddol o’r rhaglenni yn Ysgol Fusnes Caerfyrddin a chaiff y myfyrwyr eu hannog i ddatblygu syniadau ar gyfer busnesau newydd fel mae nifer o’r astudiaethau achos (isod) yn dangos. Yn bwysig mae llawer o raglenni’r Ysgol wedi’u tanategu gan ddull moesegol, cynaliadwy a buddiol o wneud busnes.
Fel mae Dr Christine Jones, Deon Dros Dro Yr Athrofa Addysg a Dyniaethau, wedi cydnabod
“Yn y Drindod Dewi Sant mae addysg entrepreneuraidd yn graidd i’n gwerthoedd ac yn cyfrannu at ein cenhadaeth i drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau. Rydym yn falch i fod yn rhan o gymuned sy’n croesawu’r newidiadau sydd eu hangen. Mewn amgylchedd mor newydd, ‘rydyn ni i gyd yn dysgu oddi wrth ein gilydd fel y gallwn ddatblygu dysgwyr sydd wedi’u paratoi i ddelio â byd sy’n newid yn barhaus”