9 minute read

Y Dyfodol

Next Article
Rhagair

Rhagair

Y Dyfodol: Rôl Y Drindod Dewi Sant yng Nghymru ac yn Rhyngwladol.

Dros y blynyddoedd mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ei chefnogaeth i addysg Entrepreneuraidd, ac mae’n awyddus hefyd i ymdrin â’r Her Cynaliadwyedd, fel y gall y wlad ddod yn economi Cylchol o’r radd flaenaf. Yn unol â hynny, bwriad y brifysgol yw gweithio’n agos gyda’r Llywodraeth a gwahanol gyrff y sector preifat a’r sector cyhoeddus sy’n llunio ecosystem entrepreneuriaeth y wlad i hyrwyddo diwylliant fenter a chreu Mentrau Cytgord brodorol sydd â gwaelodlin triphlyg sef Elw, pobl a’r blaned. Bydd y rhain yn helpu i ddatblygu’r economi ac yn ymdrin â phroblemau amddifadedd trefol a gwledig sy’n dal i fodoli, ar yr un pryd â pheidio a pheri niwed i’r blaned, fel sydd wedi digwydd o’r blaen pan oedd y pwyslais ar greu cyfoeth a chynhyrchu swyddi.

Er y bydd yr Athrofa Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol a’r ‘Harmonious Entrepreneurship Society’ newydd yn parhau i gyfrannu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol at ddatblygiad academaidd entrepreneuriaeth trwy eu cyfraniadau ymchwil (Kirby, 2022, Kirby ac El-Kaffass, 2022 a Kirby, et al. 2022, Penaluna, et. al. 2022) byddant hefyd yn cyfrannu’n fwy lleol at yr agenda menter domestig trwy gymhwyso eu hymchwil a’u haddysgu Ym mis Tachwedd 2021 cafodd yr Athro Kirby ei benodi yn Athro Ymarfer Anrhydeddus yn y Brifysgol a’r bwriad yw y bydd y Gymdeithas, yn arbennig, yn gweithio’n agos gyda Chanolfan Cydnerthedd a Harmoni Cymru a lansiwyd yn ddiweddar. Mae’r Ganolfan wedi’i lleoli yng Nghampws Llambed y Brifysgol, a’i nod yw:-

- Darparu hyfforddiant a phrofiadau ymarferol mewn meysydd sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd ac yn ceisio lleddfu ei effeithiau. - Grymuso a chefnogi cymuned ac economi Llambed a’r cymunedau cyfagos. - Ymateb i’r galw am hyfforddiant cydnerthedd mewn disgyblaethau fel amaethyddiaeth, garddwriaeth, ynni ac adeiladu. - Cyfrannu ar wireddu nodau Llesiant

Cenedlaethau’r Dyfodol.

Tua 40 mlynedd ers cyflwyno addysg entrepreneuriaeth i Gymru gan Goleg Prifysgol Dewi Sant, mae hyn yn ddatblygiad pwysig i’r Brifysgol, y dref a’r wlad, yn arbennig yn ystod daucanmlwyddiant sefydlu coleg prifysgol yn Llambed. Yn y cyfamser, bydd Y Drindod Dewi Sant, ei myfyrwyr a’r ‘Harmonious Entrepreneurship Society’ yn parhau i ddylanwadu ar yr agenda rhyngwladol trwy eu gweithgareddau addysgu, ymchwil, cyhoeddiadau a thrwy gymryd rhan mewn cynadleddau yn ogystal â’u harferion cynghorol ac ymgynghori. Hefyd, yn y flwyddyn academaidd 2022/23 byddant yn trefnu cystadleuaeth Myfyriwr Entrepreneuriaeth Cytgord ar-lein ryngwladol sydd wedi’i phrofi ar gyfer beta rhwng timau o fyfyrwyr o’r Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Malaia – Cymru. Nid yn unig y bydd hyn yn cyflwyno myfyrwyr a staff i gysyniad Entrepreneuriaeth Cytgord ond fe fydd hefyd yn arwain at greu ansawdd, mentrau dan arweiniad myfyrwyr sy’n ymdrin â’r Her Cynaliadwyedd a sicrhau bod Elw, Planed a Phobl mewn Cytgord.

Fel y cydnabyddodd George Orwell (1903-1950)

“Who controls the past controls the future. Who controls the present controls the past”.

Wrth edrych i’r dyfodol, mae Athro Emeritws ARDEC, Andy Penaluna, yr un mor bositif. “Unwaith, dywedodd cyn-fyfyriwr entrepreneuraidd wrth fy myfyrwyr, ‘Nid pwy rydych chi’n ei adnabod sy’n bwysig, ond pwy sy’n eich adnabod chi’”. Gan fod ARDEC bellach yn enwog am arweinyddiaeth meddwl ledled y byd, ynghyd â’r ffaith ein bod yn dysgu’n barhaus gan y rheiny rydym yn gweithio gyda nhw, rydym yn parhau i fod ar reng flaen addysg entrepreneuraidd. Wrth ysgrifennu’r erthygl hon, rydym wedi derbyn cais i ddatblygu cymorth arweinyddiaeth ar gyfer Rheithoriaid ac Is-gangellorion mewn gwledydd Ibero-Americanaidd, ac wedi rhoi cyngor i brosiect cynaliadwyedd a mentergarwch ar y cyd i gydweithwyr Prifysgolion Gwyddor Bywyd ar draws Ewrop. Mae arbenigwyr o wledydd mor bell i ffwrdd ag Awstralia a’r Balcanau wedi gofyn am ein cefnogaeth ac yn agosach at adref rydym wedi bod yn rhoi cyngor i’r Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Entrepreneuriaeth yn ogystal ag i’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ni ein hunain yma yng Nghymru. Hefyd, mae AdvanceHE, yr arbenigwyr dysgu ac addysgu Prifysgolion, wedi galw ar ein harbenigedd.”

Ychwanegodd Kath Penaluna, “Gyda chwrs ar-lein newydd o’r radd flaenaf ar fin dechrau wedi’i seilio ar arbenigedd ym maes gemau a phrofiad busnes un o aelodau ein tîm, ynghyd â’r ffaith fod bellach angen i holl bynciau Prifysgolion y DU ymgorffori Mentergarwch a Chynaliadwyedd wrth ysgrifennu eu Datganiad Meincnodi Pwnc QAA cyfoethogi ansawdd, mae rôl a statws ARDEC yn parhau i dyfu. Bydd llyfr newydd â golygydd ar gyfer addysgwyr yn cael ei ryddhau gennym y mis yma ac wrth i ni feddwl am ein cyraeddiadau ers i’r Is-ganghellor ein gwahodd i ddatblygu ARDEC rhyw wyth mlynedd yn ôl, dydw i ddim yn meddwl y byddai unrhyw un wedi rhagweld yr effaith y byddem yn ei chael.”

Mae llawer gan dîm Y Drindod i’w wneud o hyd, ond mae cydnabyddiaeth diweddar cyrhaeddiad Oes Yr Athro Kirby yn y Gwobrau Triple E, ynghyd â chyflwyniad o’r gwaith a gyflawnwyd hyd yma i ddathlu’r daucanmlwyddiant, wedi arwain at gydnabod y Brifysgol fel Enillwyr Gwobr Prifysgol Entrepreneuraidd Ewropeaidd y Flwyddyn. Wrth dderbyn y wobr yn Florence, roedd Kath Penaluna yn awyddus i gydnabod y ffordd y mae’r Drindod wedi ymdrechu’n barhaus i gefnogi ffyrdd o feddwl entrepreneuraidd ar holl lefelau polisi ac arfer, ac mae’r stori’n parhau.

Anderson, S., Culkin, N., Penaluna, A. and Smith, K. (2014), An Education System for an Entrepreneur. London: All Party Parliamentary Group for Micro Businesses

Beveridge, L. (2001), Cambridge Entrepreneurs in the Business of Technology. Granta Editions.

Borzaga, C., and Defourny, J. (2001). The Emergence of Social Enterprise. Abingdon: Routledge.

Birch, D., (1979), The Job Generation Process. Massachusetts: MIT Program on Neighbourhood and Regional Change

European Commission (2008), Entrepreneurship in higher education, especially within non-business studies: Final report of the Expert Group. Brussels: The Commission

Hague, D. and Homes, C., (2006), Oxford Entrepreneurs. The Council for Industry in Higher Education.

HRH The Prince of Wales, Juniper, T., and Skelly, I., (2010), Harmony: a new way of looking at our world. London: HarperCollins.

Jónsdóttir and Weicht (2021) Education for Social Change: The Case of Teacher Education in Wales. Sustainability 2021, 13(15),8574; https://doi. org/10.3390/su13158574

Kainrath, D. (2011). Ecopreneurship in theory and practice: A proposed emerging framework for ecopreneurship. Lambert Academic Publishing.

Kim, K., El Tarabishy, A., and Bae, Z., (2018), Humane entrepreneurship: How focusing on people can drive a new era of wealth and quality job creation in a sustainable world. Journal of Small Business Management. 56(sup.1),10-29.

Kirby, D.A. (2003), Entrepreneurship. Maidenhead: McGraw-Hill.

Kirby, D.A. (2004), Entrepreneurship Education: can business schools meet the challenge? Education and Training 46, 8/9 510-519.

Kirby, D.A., (2022) Developing the Harmonious Venture: a new approach to Sustainability. In Penaluna, K, Jones, C and Penaluna A., (Eds), How to Develop Entrepreneurial Graduates, Ideas and Ventures: Designing an Imaginative Entrepreneurship Program. Edward Elgar, Cheltenham UK, Northampton, MA, USA

Kirby, D.A. and El-Kaffass, I. (2021) Harmonious entrepreneurship- a new approach to the challenge of global sustainability The World Journal of Entrepreneurship, Management and Sustainable Development.17(4), 846-855. First online 12th July.(https://doi.org/10.1108/ WJEMSD-09-2020-0126)

Kirby, D.A. and El-Kaffass, I (2022), The Characteristics of a green, innovative and transformational entrepreneurs; an example of transformative entrepreneurship in an efficiency—driven economy. The International Journal of Technological Learning, Innovation and Development.14 (1/2), June. ( with Iman El-Kaffass).

Kirby, DA., El-Kaffass, I and Healey-Benson, F. (2022), “Integrating Harmonious Entrepreneurship into the curriculum: Addressing the Sustainability Grand Challenge”. In Gamage, K., and Gunawardhana, N (Eds), “The Wiley Handbook of Sustainability in Higher Education Learning and Teaching” Wiley Blackwell.

Krueger, N. (2021), From Insturctor to Educators, from Pupils to Learners: An Entreprenership Education Manifesto. https://issuu.com/aymanelt/ docs/magazine-anniversary-0512/s/12407864

Lackeus, M., (2015), Entrepreneurship in Education:what, Why, When and How. OECD.

Moberg, K. (2020), An Epic Literature Review – prepared for the EU/OECD Evaluation of Entrepreneurship Education Programmes in Higher Education Institutions and Centres (EPIC Project) Demark: Fonden for entreprenørskab.

Mugione F., Penaluna A. (2018), Developing and Evaluating Enhanced Innovative Thinking Skills in Learners. In: James J., Preece J., ValdésCotera R. (eds) Entrepreneurial Learning City Regions. Springer, Cham. https://doi.org/10.1007/978-3-319-61130-3_7

Oseng-Rees, T., Standen, I., Ferris-Papi, J. (2018), An interdisciplinary project using recycled glass as an aesthetically pleasing architectural material. University of Salford Institutional Repository - USIR ( Https://user.ac.uk/id/eprint/57309/).

Penaluna, A. and Penaluna, K. (2015), Entrepreneurial Education in Practice, Part, 2 – Building Motivations and Competencies, Entrepreneurship 360 Thematic Paper, Organisation for Economic Co-operation and Development (OECD, LEED Programme) and the European Commission (DG Education and Culture). Available on-line http://www.oecd.org/cfe/leed/Entrepreneurial-Education-Practice-pt2.pdf?TSPD_101_ R0=39f3f2062b1dd5db8e5a6467c07391f9cwL000000000000000070256d58ffff00000000000000000000000000005a89cbe6008e223a8b.

Penaluna, K, Jones, C and Penaluna A., (2022), How to Develop Entrepreneurial Graduates, Ideas and Ventures: Designing an Imaginative Entrepreneurship Program. Edward Elgar, Cheltenham UK, Northampton, MA, USA

Penaluna, A, Penaluna, K and Polenakovik, R (2020), ‘Developing entrepreneurial education in national school curricula: lessons from North Macedonia and Wales’, Entrepreneurship Education. 3: 245-263 Available on-line, https://doi.org/10.1007/s41959-020-00038-0. QAA (2018), Enterprise and Entrepreneurship Education: Guidance for UK Higher Education Providers. Gloucester: The Quality Assurance Agency for Higher Education, Available on-line, http://www.qaa.ac.uk/en/Publications/Documents/Enterprise-and-entrpreneurship-education-2018.pdf.

Yr Athro David A Kirby, BA., Ph.D, FHEA, FIBC., FRSA

O 2007-2017 yr Athro Kirby oedd Deon sylfaenu ac Is-lywydd y Brifysgol Brydeinig yn yr Aifft, ac yn rhinwedd y swydd hon cyflwynodd addysg entrepreneuraidd i’r brifysgol a’r wlad. Cyn hyn, roedd wedi arloesi addysgu entrepreneuriaeth yn y DU ac yn rhyngwladol ac ef oedd â Chadair Entrepreneuriaeth gyntaf y DU yn Ysgol Fusnes Prifysgol Durham o 1988-1996. Ym Mhrifysgol Surrey, nid yn unig y gwnaeth gyflwyno rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig arloesol newydd ond hefyd y dehorydd SETsquared cyntaf ar Barc Ymchwil Surrey. Mae’n meddu ar Gadair Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Rheolaeth Almaty yn Kazakhstan a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac ef yw cyd-sylfaenydd (gyda Felicity Healey-Benson) yr ‘Harmonious Entrepreneurship Society’. Mae wedi cyhoeddi 160 erthygl cyfnodolion ac 18 llyfr a monograff ymchwil, yn cynnwys “Entrepreneurship” (McGraw-Hill, 2003). Yn 2006, derbyniodd Gwobr y Frenhines am Hybu Mentro.

Dr Kathryn Penaluna, MA., MBA

Mae Kath yn Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yn bennaeth yr Athrofa Ryngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol. Yn Rheolwr Menter y Brifysgol, daeth ei gwaith yn 1af yng Nghymru ac yn 2il yn y DU am gyfradd goroesi busnesau newydd myfyrwyr. Yn Eiriolwr Menter Llywodraeth Cymru, helpodd i ddatblygu’r modiwl hyfforddi athrawon achrededig cyntaf ar gyfer entrepreneuriaeth yng Nghymru. Mae profiad Kath yn ymestyn i waith polisi uwch, yn cynnwys adolygiadau ymchwil ar gyfer y Cenhedloedd Unedig ar entrepreneuriaeth fenywaidd. Yn siaradwr gwadd rheolaidd, yn cynnwys Senedd Ewrop yn Strasbourg, mae hi wedi cyd-awduro dros 60 o bapurau a chyflwyniadau academaidd, yn cynnwys cynigion ymarfer a pholisi a gyhoeddwyd gan yr OECD

Mrs Felicity Healey-Benson BSc, TAR, MSc, MBA

Mae Felicity yn ymgeisydd doethurol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yn Eiriolwr Dysgu Entrepreneuraidd yn yr Athrofa Ryngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol. Mae hi’n aelod o Grŵp Llywio EntreCompEdu Erasmus+, sydd â’r nod o ddatblygu sgiliau addysg entrepreneuraidd athrawon trwy DPP ar-lein mynediad byd-eang wedi’i danategu gan Fframwaith Cymhwysedd Entrepreneuriaeth Ewrop. Mae hi’n angerddol ynghylch cynaliadwyedd a hi yw cydsylfaenydd yr ‘Harmonious Entrepreneurship Society’. Mae’n ysgrifennwr ac yn entrepreneur academaidd sydd wedi sylfaenu ‘EmergentThinkers.com’, a ‘Pirates in Education’, sy’n adnabod a rhannu arferion addysgol a busnes newydd i hyrwyddo cynaliadwyedd a chefnogi datblygiad economaidd a chymdeithasol ehangach. Cyfrannodd at, a chefnogodd olygu, lyfr 2019 Mr Tay Kay Luan, ‘Applying Sustainability: Principles & Practices’.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhifyn arbennig o Adolygiad Busnes De Cymru ISSN 2049-5544, Cyfrol 9, rhifyn 1.

This article is from: