6 minute read
Heddiw
Erbyn 2018/19, daeth Y Drindod Dewi Sant I’r brig fel prifysgol gorau Cymru, a’r 9fed orau yn y DU am y nifer o fusnesau a ddechreuwyd gan ei graddedigion yn ystod y flwyddyn. Ond nid yw’r stori’n gorffen yno, oherwydd mae’r busnesau a grëir gan raddedigion Y Drindod Dewi Sant ymhlith y goreuon o ran eu gallu i oroesi hefyd - y gorau yng Nghymru a’r ail yn y DU am fusnesau a ddechreuwyd gan raddedigion sy’n dal i fod yn weithredol ar ôl tair blynedd.
Mae Athrofa Arfer Cynliadwy, Arloesedd ac Effeithiolrwydd Adnoddau (INSPIRE), yn rhan annatod o’r llwyddiant. Maent yn cynnig ystod o gymorth ar gyfer busnesau newydd, a chaiff llawer o hyn ei ysbrydoli gan gynfyfyrwyr entrepreneuriaid y Brifysgol, a’i ddylunio ar y cyd â nhw. Wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru a’u menter Syniadau Mawr Cymru, mae’n gymysgedd grymus.
Caiff Athrofa Ryngwladol ar gyfer Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol (ARDEC) y brifysgol ei gydnabod yn un o arweinwyr y byd wrth ddatblygu mathau o addysg sy’n helpu dysgwyr i lwyddo y gellir eu diogelu at y dyfodol.
Mae’r Athro Emeritus, Andy Penaluna, yn dal i weithio ar y llwyfan rhyngwladol, gan ddarparu canllaw ar bolisi ac arfer, yn fwyaf diweddar yn yr Iseldiroedd, Brasil a’r Ffindir. Gan mai’r Ffindir oedd y wlad gyntaf yn y byd i gyflwyno dysgu entrepreneuraidd mewn ysgolion, ceir yno lawer o fewnwelediadau i’w rhannu gyda Chymru. Andy yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol er Addysg Entrepreneuriaeth (DU), sy’n noddi’r Times Higher Award for Outstanding Entrepreneurial University of the Year, a Chadeirydd Dros Dro’r Ganolfan Genedlaethol er Addysg Entrepreneuriaeth (Tsieina). Mae Kath Penaluna bellach yn ymgymryd â Chyfarwyddiaeth ARDEC ac yn parhau yn ei rôl Rheolwr Menter yn Y Drindod Dewi Sant.
Mae gwaith yr ARDEC yn parhau i ddylanwadu, a gwnaeth gyfraniad sylweddol i’r dulliau dysgu a ddatblygwyd ar gyfer y prosiect ‘Intrinsic’ Ewropeaidd. Gwnaeth hyn ffocysu ar y cyfuniad o feddwl cynaliadwy ac ymdrech entrepreneuraidd ym myd y Gwyddorau Bywyd, ac mae’n cael ei ysbrydoli’n fawr gan ymchwil yr ARDEC i ddeall gwahaniaethau y gellir eu gwneud rhwng Addysgeg, Andragogeg a Heutagogeg (Gweler Jones, Penaluna a Penaluna, 2019). Yn dilyn cyfweliad ‘Delphi’ Andy Penaluna gyda Choleg Babson yn yr UD, yn rhan o bapur ymchwil, mae’r mewnwelediadau’n ennill tir yn y gyflym yn yr UD, sydd wedi arwain yn rhannol at sylwadau gan Norris Kreuger yn ei Faniffesto Addysg Entrepreneuriaeth i’r Cyngor Rhyngwladol ar gyfer Busnesau Bach. Yn ei adran agoriadaol, fe ddywed:
As we go through this manifesto, a good place to start is a question that Andy Penaluna asks “If you had to educate starting from Primary School, where would you start and why?” I would add how do we ensure that educator training and assessment dovetail and how must we change the ecosystem to make it happen? (And why is Europe so far ahead of North America?) (Kreuger, 2021)
Gan adlewyrchu’r papur Penaluna ym Mrasil, mae’r maniffesto’n trafod cyn-fyfyrwyr, gan gynnig yr hashnod #MyfyrwyrYwEinHarfGyfrinachol (#StudentsAreOurSecretWepon), mae’n galw hefyd am fersiwn UD o waith ASA y DU.
“Cydnabyddir mai ARDEC Y Drindod Dewi Sant yw un o sefydliadau blaenllaw’r byd mewn addysg entrepreneuriaeth seiliedig ar greadigrwydd. Nid yn unig mae ARDEC wedi bod yn weithredol wrth gynghori llywodraeth y DU ym maes addysg entrepreneuriaeth ond mae ei gyhoeddiadau hefyd wedi bod yn arwain trafodaethau ar lefel ryngwladol.” (Yves Punie, Canolfan Ymchwil ar y Cyd yr UE, 2016).
Mae’r Drindod Dewi Sant hefyd yn bartner arweiniol yn EntreCompEdu mewn prosiect 6 gwlad partner Erasmus+ i gefnogi addysgwyr i addysgu medrau entrepreneuraidd yn effeithiol. Ymhlith y gwledydd partner mae Gwlad Belg, Sbaen, Y Ffindir, Gogledd Macedonia, Sweden a Chymru. Cyflwynodd Felicity, un o Lywodraethwyr Ysgol Gynradd Dafen yn Llanelli EntreCompEdu i’r ysgol ac o’r 52 o wledydd a gymerodd ran yn y prosiect o fis Ionawr 2020 i fis Mai 2021 dyfarnwyd iddi’r statws Ysgol Arloesi EntreCompEdu Fyd-eang cyntaf erioed. Digwyddodd hyn o ganlyniad i ymgais yr ysgol i drochi ei hun yn llwyr yn y prosiect a’i hymrwymiad i entrepreneuriaeth fel a ddangoswyd yn ei hallbynnau o ansawdd yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd. Mae eu gwaith wedi’i arddangos mewn nifer o ddigwyddiadau Cenedlaethol a Byd-eang yn cynnwys y wefan a chaffi EntreCompEdu ar-lein byd-eang a’r gynhadledd Enterprise Educators UK. Wrth roi sylwadau ar y prosiect, meddai un o’r athrawon “y prif bethau a ddysgwyd oedd manteision addysgeg drwy brofiadau ac adfyfyriol a bod dysgu entrepreneuraidd...nid yn unig yn ffocysu ar weithgarwch ariannol neu fenter, ond hefyd yn agor y drysau i greu gwerth llawer ehangach sy’n cynnwys y diwylliannol a’r cymdeithasol”. I Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, gwerth y prosiect oedd bod “y sgiliau y mae’r disgyblion wedi’u hennill, fel chwilfrydedd a gosod goliau, nid yn unig yn hwyl ond y byddant hefyd yn eu helpu i ddod yn ddatruswyr problemau hyderus”.
Yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd, lansiodd Felicity Healey-Benson yr ‘Harmonious Entrepreneurship Society’ mewn cydweithrediad â’r Athro Kirby, a oedd bryd hwnnw yn ymgynghorydd i Athrofa er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol y Brifysgol. Nod y Gymdeithas yw hyrwyddo’r cysyniad a chreu Entrepreneuriaeth Gytgord, cysyniad newydd wedi’i seilio ar ymchwil a gynhaliwyd gan Kirby ac El-Kaffass (2021). Mae’n ymgorffori meddwl trwy systemau ac ‘Egwyddor Cytgord’ (Ei Fawrhydi Brenhinol Tywysog Cymru, et.al., 2010) i gynhyrchu ymagwedd arloesol at entrepreneuriaeth sy’n ymgyfuno neu’n creu cytgord rhwng yr ymagweddau economaidd, eco, dyngarol a chymdeithasol traddodiadol er mwyn mynd i’r afael â’r Her Gynaliadwyedd. Yn ystod blwyddyn academaidd 2021 gwnaethant gyflwyno darlithoedd a chyflwyniadau cynhadledd ar y pwnc, cynhyrchu erthyglau cyfnodolion academaidd a dau bennod llyfr ac ysgrifennu 50+ o astudiaethau achos yn dangos a phrofi’r cysyniad. Yn ogystal, gwnaethant gynhyrchu CAEA addysgol a gafodd ei ariannu’n rhannol gan Enterprise Educators UK ac Athrofa Cytgord y Brifygsol.
Deuddeg mis yn ddiweddarach yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd 2021 cyhoeddodd y Brifysgol a’r Gymdeithas Gystadleuaeth Menter Gytgord ar-lein rhyngwladol i fyfyrwyr â’r bwriad o gynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth myfyrwyr o gysyniad Entrepreneuriaeth Gytgord yn ogystal â chreu mentrau myfyrwyr newydd a arweinir gan raddedigion. Bydd y gystadleuaeth yn cynnwys prawf beta drwy gystadleuaeth rhwng myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant a myfyrwyr Prifysgol Maleisia – Cymru. Y CAEA, ynghyd ag astudiaethau achos, yw’r mewnbynnau ar gyfer y Gystadleuaeth. Hefyd yn ystod wythnos Entrepreneuriaeth y Byd 2021, cyhoeddodd y Brifysgol bartneriaeth newydd gyda Ship Shape, chwilotwr cyfalaf menter sy’n galluogi entrepreneuriaid i ddod o hyd i fuddsoddwyr posibl mewn eiliadau yn hytrach na misoedd - gan gefnogi cenhadaeth Y Drindod Dewi Sant i gysylltu syniadau gwych gyda chyfleoedd buddsoddi er lles ein myfyrwyr, graddedigion, staff a’r cyffiniau ehangach.
Gyda Margherita Bacigalupo (UE) a Fiorina Mugione (CU) wrth ei ochr, Andy yn lansio Canllawiau Menter yr ASA ar gyfer Prifysgolion y DU
Andy yn cael ei gyfweld ar Deledu Brecwast Croatia yn dilyn diwygiadau addysgol a helpodd ARDEC i’w harwain
Cyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd Y Drindod Dewi Sant Karl Mountford yn trafod ei waith yn Gofiadur Graffeg gyda disgyblion Abertawe - o athrawon sydd wedi’u hyfforddi gan ARDEC
Arbenigwyr Ewropeaidd yn cwrdd i ddechrau gweithio ar Fframwaith EntreComp yn y Gydganolfan Ymchwil yn Seville David Kirby, Kath Penaluna, Nicola Powell a Shehla Khan yn derbyn Gwobr Prifysgol Entrepreneuraidd Ewropeaidd y Flwyddyn i’r Drindod Dewi Sant yn Fflorens
Kathryn ac Andy Penaluna yn y Cenhedloedd Unedig yng Ngenefa, lle ymunodd 47 o wledydd â’r fenter addysg mentergarwch a chynaliadwyedd dan arweiniad ARDEC
Entrepreneuriaid yn y Senedd yn dweud bod gwaith ansawdd addysg dan arweiniad ARDEC wedi cael ei ganmol yn eu hymchwil, ac yn galw am weithredu
Myfyrwyr entrepreneuraidd Proteges Kuwait yn dathlu gweithdy creadigrwydd llwyddiannus. Wedi ei gynnal mewn partneriaeth â Carreg Adventure