7 minute read
Datblygu’r
Yn 2005 cyflwynodd Andy a Kathryn Penaluna bapur yn y Gynhadledd ‘Internationalising Entrepreneurship Education and Training’ (IntEnt) a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Surrey gan David Kirby. Yn unol â’i lyfr (Kirby, 2003) a’i erthygl ymchwil (Kirby, 2004), roedd arno eisiau ail-alinio Addysg Entrepreneuriaeth a’r gynhadledd trwy:
- Rhoi mwy o ffocws ar ffordd o feddwl a medrau entrepreneuraidd yn hytrach na chreu mentrau newydd - Ehangu cwmpas y gynhadledd i gynnwys ysgolheigion nad ydynt yn perthyn i ysgolion na disgyblaethau busnes, gan ffocysu’n arbennig ar greadigrwydd ac arloesi
Hwn oedd eu papur academaidd cyntaf erioed. Y pwnc oedd sut y gwnaethant ddysgu gan gyn-fyfyrwyr, a sut roedd eu cwricwlwm a’u strategaethau dysgu wedi esblygu o ganlyniad i hynny. Yn seiliedig ar gydnabyddiaeth Canolfan Pwnc Celf, Dylunio a Chyfryngau’r Academi Addysg Uwch o’u gwaith, lle cafodd ei farnu ym 5 gorau’r DU, y cyfuniad o wybodaeth fusnes Kathryn ac arbenigedd Andy ym maes arloesedd addysgu trwy ddylunio a ddaeth â’r ddau i’r amlwg. Yng nghynhadledd IntEnt y flwyddyn olynol, ym Mrasil, cyfeiriwyd at eu gwaith yn y sesiwn agoriadol gan yr Athro Gerry Hills o Brifysgol Illinois yn Chicago, ac wedyn enillodd y Wobr Papur Empirig Rhyngwladol Gorau. Felly, dechreuodd y pâr ar daith newydd.
Erbyn 2007 roedd Andy yn arwain Grŵp Diddordeb Arbennig mewn Dysgu Entrepreuraidd yr Academi Addysg Uwch (AAU), a ariannwyd gan Ganolfan Pwnc Busnes, Cyfrifeg a Chyllid, ac yn 2011 cafodd ei ethol i gynrychioli dros 50 o Brifysgolion fel Cadeirydd Addysgwyr Menter y DU. Yn ystod y cyfnod hwn a gyda chymorth y ddau gorff, heriodd Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU i ddarparu canllaw cenedlaethol i’r sector o safbwynt rhyngddisgyblaethol. Wedi dylunio fframwaith o’r blaen yn seiliedig ar fewnwelediad a gymerwyd o 32 Datganiad Meincnod Pwnc, cafodd ei wahodd i Gadeirio datblygiad yr hyn a feddylir yw Canllawiau Cenedlaethol ar Fenter ac Entrepreneuriaeth ar Lefel Prifysgol. Dwy flynedd yn ddiweddarach ac wedi’i seilio ar ei ymagwedd, datblygodd ASA ail ganllaw mewn partneriaeth â AAU, y tro hwn ar Addysg ar gyfer Datblygu Cynlaiadwy.
Hefyd, yn 2011, gwahoddwyd Andy i siarad yng Nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Fasnach a Datblygu yng Ngenefa. Arweiniodd y cyflwyniad at ymgysylltiad y cwpl am 8 mlynedd gyda’r Cenhedloedd Unedig, yn cynnwys gwaith polisi a datblygu cwricwlwm. Wedi’i gychwyn gan Bennaeth Entrepreneuriaeth y CU, Ms. Fiorina Mugione, a gymerodd flwyddyn sabothol i ymchwilio o dan oruchwyliaeth Andy, cafodd rhaglen Empretec y CU ei diweddaru i gynnwys mwy o ffocws ar ddatblygu ffyrdd o feddwl arloesol mewn dysgwyr, ac erbyn 2019 pan adawodd Mugione y CU, roedd dros 200,000 o ddysgwyr wedi mynychu’r cwrs mewn 47 o wledydd (Gweler: Mugione a Penaluna, 2016).
Agwedd arall a dynnodd sylw oedd datblygiad hyfforddiant athrawon ffurfiol mewn Addysg Entrepreneuraidd, dan arweiniad Kathryn yn ei rôl ‘Eiriolwr Menter’ gyda Llywodraeth Cymru, a gwaith polisi Andy ar ‘An Education System Fit for an Entrepreneur’ (Anderson, Culkin, Penaluna & Smith, 2014), a gyd-awdurodd a chydgyflwynodd yn y Senedd ar ran y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar gyfer Micro Fusnesau. Amlinellodd hyn yr achos o blaid continwwm o addysg entrepreneuraidd, gan gychwyn mewn ysgolion cynradd. Wedi’i seilio ar ymchwil a dulliau pedagogaidd Andy, bwydodd y mewnwelediadau hyn yn y pen draw i mewn i Ddoethuriaeth Addysg y Brifysgol. Y cyntaf o’i fath eto yn y DU, mae’r dulliau wedi cefnogi llawer o fentrau cenedlaethol a rhyngwladol eraill. Arweiniodd y profiadau hyn at ymgysylltu rhyngwladol sylweddol yn cynnwys, rolau ymgynghorol ar gyfer y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) a’r UE, yn fwyaf penodol wrth ddatblygu dysgu entrepreneuraidd mewn ysgolion, trwy ymyriadau polisi ac arfer (Penaluna and Penaluna, 2015). O ganlyniad cafodd Kathryn ei gwahodd i Strasbourg i siarad yn Senedd Ewrop, a chyflwynodd y brif araith ar ran Comisiynydd Ewrop ar gyfer Cyflogaeth, Materion Cymdeithasol,
Sgiliau a Symudedd Llafur, y gwnaeth hi hefyd eistedd ar banel o arbenigwyr gydag ef.
Her newydd oedd helpu i ddatblygu dysgu entrepreneuraidd yn y bartneriaeth 8 gwlad, sef Canolfan De Ddwyrain Ewrop ar gyfer Dysgu Entrepreneuraidd. Aeth un o’r partneriaid, sef Gogledd Macedonia, mor bell â gwahodd y pâr i gwrdd â phedwar gweinidog a’r Arlywydd, i helpu i lunio datblygiad polisi yn barod ar gyfer cwricwlwm newydd. Wedi’i ariannu gan World Bank, hwn a ddaeth hyn yn gynnig cwricwlwm cenedlaethol cyntaf y byd a ddatblygodd ddysgu entrepreneuraidd yn flaengar, rhywbeth nad oedd yr un wlad arall eto wedi llwyddo i’w gyflawni.
Yn ddiweddarach, gwnaeth Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau y DU, sef yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol (BEIS) nawr, ochr yn ochr â’r Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar gyfer Meicro Fusnes, ymgysylltu’n fwy a mwy yn ffordd o feddwl y Penalunas, a’r Prif Weinidog Theresa May a anogodd ddiweddaru’r Canllaw Menter ac Entrepreneuriaeth ASA yn 2017-18, wedi’i gadeirio unwaith eto gan Andy Penaluna (Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch, 2018). Yn dilyn diddordeb gan Weinidogaeth Addysg Tsieina, cafodd ei gyhoeddi ar yr un pryd yn Beijing. Yn ddiddorol, cyn hir gwnaeth y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar gyfer Entrepreneuriaeth gefnogi’r canllaw newydd yn y Senedd, gan ddatgan ei fod yn cyflawni llawer iawn mwy na phob disgwyl. Yn ogystal, bu’r canllaw yn sail i strategaethau asesu dysgu HEInnovate yr UE / OECD, gan mai ef oed dyr unig ganllaw rhyngwladol i egluro’r daith o fod yn greadigol ac arloesol i fod yn entrepreneur neu’n intrapreneur.
“One key guidance tool in the QAA is the “gateway triangle” which identifies different assessment approaches for enterprise/entrepreneurship education (Moberg, 2020, 14).
Roedd cydnabyddiaeth ryngwladol wedi tyfu’n gyflym, ac yn 2014 gwnaeth y Drindod Dewi Sant, a oedd newydd gael ei ffurfio, gydnabod y cyraeddiadau drwy sefydlu’r Athrofa Ryngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol (ARDEC), o dan arweinyddiaeth Andy Penaluna. Gweithred gyntaf ARDEC oedd galw am uwchgynhadledd Ryngwladol o Addysgwyr Entrepreneuraidd (Gweler: https://www.uwtsd.ac.uk/ARDEC/ practice-into-policy/), a gynhaliwyd yn Abertawe ac a ddenodd gynrychiolwyr o 32 o wledydd, yn ogystal ag uwch gynrychiolwyr o’r UE, y Gymanwlad a’r CU. Cafodd grŵp o Athrawon Gwadd eu penodi i gefnogi’r gweithgareddau ymchwil ac i helpu i ddatblygu a hysbysu mentrau newydd (Gweler https://www. uwtsd.ac.uk/ARDEC/ARDEC-team). Penodwyd grŵp o Athrawon Gwadd i gefnogi’r gweithgareddau ymchwil ac i helpu datblygu a hysbysu mentrau newydd. Gwnaeth arbenigwyr, megis Dr Colin Jones o Awstralia, ac arweinwyr o’r DU, megis Dr Kelly Smith a Dr Simon Brown, yn ogystal ag Elin McCallum, cyn-arweinydd polisi’r UE, sicrhau bod ARDEC yn parhau i fod ar flaen y gad o ran datblygiadau.
Erbyn 2015 roedd gwaith ARDEC wedi cael ei gyfeirnodi mewn llawer o ddogfennau polisi ac arfer yr UE ac OECD, a daeth hyn i’w anterth mewn sedd yng ngwaith Canolfan Ymchwil ar y Cyd yr UE ar ddatblygu fframwaith medrusrwydd entrepreneuraidd Ewropeaidd. Bellach fe’i elwir yn EntreComp, ac mae wedi dod yn ganllaw ‘de facto’ ar gyfer Dinasyddion Ewrop. Yn dilyn lansiad EntreComp yn y DU yn Y Drindod Dewi Sant, cafodd ei fabwysiadu gan yr ASA ac Enterprise Educators UK, ac mae corff Sgiliau Sector y Llywodraeth, SFEDI / IOEE, hefyd wedi’i ddefnyddio i feincnodi cynnydd mewn dysgu entrepreneuraidd mewn dros 60 o garchardai. Felly ni fydd yn syndod, yn sgil hyn, bod ARDEC Y Drindod Dewi Sant wedi ennill a chefnogi nifer o geisiadau i ddatblygu addysgwyr entrepreneuraidd ledled Ewrop, ac yn y DU gwnaeth SetSquared, sydd wedi ennill gwobrau, ddefnyddio eu talentau i helpu datblygu a chyflwyno rhaglen newydd ar gyfer Pobl Ôl-ddoethurol ac ymchwilwyr o’r enw ‘Ymchwilydd i Arloeswr’. Bellach yn rhan o’r rhaglen ICure, mae’r dull rhyngddisgyblaethol hwn yn benthyg llawer o’r gymuned addysg ddylunio. Erbyn hynny, ar ben arall y raddfa, roedd ARDEC wedi arwain datblygiad cwricwlwm a’r hyfforddiant athrawon cysylltiedig yng Ngogledd Macedonia, gan ddatblygu mewnwelediadau a strategaethau a ddenodd sylw nôl yng Nghymru, lle’r oedd cwricwlwm newydd hefyd yn cael ei gynllunio (Gweler: Penaluna, Penaluna & Polenakovikj, 2020).
Roedd y gwaith polisi ‘o blaid tlodion’ yn y CU wedi cyfrannu at ddatblygiad Goliau Datblygu Cynaliadwy’r CU, ac yn ei dro gwnaeth hyn gynyddu gwaith yr ARDEC gyda materion yn ymwneud â chynaliadwyedd. Erbyn 2018 daeth hyn yn fwy amlwg ac nid yn unig y gwnaeth ymddangos yn y gwaith Sicrhau Ansawdd, ond fe arweiniodd hefyd at rôl ymgynghorol ar ddatblygiad fersiwn newydd o Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy ASA, a gyhoeddwyd yn 2021. Ni aeth yr aliniad yn ddisylw, fel y cofnodwyd yn rhifyn mis Gorffennaf y Cyfnodolyn ‘Sustainability’, y gwnaeth ei awduron gymeradwyo’r ARDEC am eu haddysgeg rhyddfreiniol a chyfraniadau at addysg ar gyfer cynaliadwyedd, gan ddweud:
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod) yn arweinydd yn natblygiad addysg entrepreneuraidd mewn addysg athrawon yng Nghymru ac yn rhyngwladol. (Jónsdóttir a Weicht, 2021, 8574).
Cafodd cynigion yr Athro Graham Donaldson ar gyfer dull ‘Dyfodol Llwyddiannus’ ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, a dyna ddechrau taith newydd. Gwnaeth ARDEC dri phrif gyflwyniad i wneuthurwyr polisi ac ysgolion arloesi, gwnaethant gynnal dau adolygiad mawr o’r cwricwlwm wrth iddo esblygu ac yn y pen draw, arweiniodd llunio drafft o ‘Sgiliau Hanfodol i’r Pedwar Diben’. Gan fod y cwricwlwm newydd wedi’i seilio ar ffyrdd o feddwl rhyngddisgyblaethol wedi’u gosod o fewn Pedwar Diben, roedd yr aliniad gyda gwaith yr ARDEC yn glir.