40 Mlynedd o Addysg Entrepreneuraidd: PCYDDS

Page 25

40 Mlynedd o Addysg YPrifysgolEntrepreneuraidd:CymruDrindodDewiSant Yr Athro David Kirby Dr Kathryn Penaluna Mrs Felicity Healey-Benson

CYNNWYS  40 Mlynedd o Addysg Entrepreneuraidd: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant 4 Rhagair 7 Rhagarweiniad 8 Y dechrau: Coleg Prifysgol Dewi Sant yn cymryd y cam cyntaf 10 Datblygu’r Athrofa Ryngwladol ar gyfer CreadigolEntrepreneuraiddDatblygiad 12 Heddiw: ynEntrepreneuraiddAddysgPCYDDS 14 HarbourAstudiaethauAchosLights (Jessie Wakely) Hozah (Naomi Bishop) Llety Cynin (Elizabeth Davies) Maykher (Heidi Louise Griffiths) NeoDynamic (Neil Dyer) Oseng Rees Reflections (Dr Tyra Oseng-Rees) Red Dragon (Jo Ashburner) Sculpture by the Sea (Sara Holden) Surfability (Ben Room) VIP Wales (Ewan Rees) Wear London (Alex Hayes) 25 Y Dyfodol: Rôl Y Drindod Dewi Sant yng Nghymru ac yn Rhyngwladol.

4 Ar 29ain Mehefin yn y gynhadledd Triple E, dyfarnwyd i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant y teitl ‘Prifysgol Entrepreneuraidd Ewropeaidd y Flwyddyn’. Mae amseru’r wobr fawreddog hon yn berffaith ar gyfer ein Daucanmlwyddiant, am ei bod yn dibynnu ar staff ymroddedig, y gorffennol a’r presennol, i’w chyflawni. Ym mlwyddyn daucanmlwyddiant sefydlu prifysgol yn Llambed, mae’n iawn ein bod yn cydnabod a dathlu’r cyfraniad mae’r sefydliad wedi gwneud, nid yn unig wrth gyflwyno entrepreneuriaeth i Addysg Uwch yng Nghymru ar ddechrau’r 1980au, ond hefyd wrth ddatblygu’r brifysgol dros y 40 mlynedd diwethaf, yn genedlaethol a rhyngwladol. Rydym yn arbennig o falch o’n cyfraniad ni a chyfraniad ein graddedigion, y mae eu llwyddiant yn fater o gofnod cyhoeddus. Caiff ein Hathrofa Ryngwladol er Datblygu Entrepreneuraidd Creadigol, a ysgrifennodd ein cyflwyniadau ar gyfer y Wobr, ei chydnabod yn rhyngwladol yn arweinwyr yn y maes; ceisir eu cyfraniadau a’u cyngor yn yr uchaf fannau. Fodd bynnag, nid yw stori’r Drindod yn dod i ben yno, gan fod ein Hathrofa Harmoni, ein Canolfan Cydnerthedd a Harmoni, a’r Gymdeithas Entrepreneuriaeth Gydgordiol yn bwriadu parhau â’i datblygiad a sicrhau, ar yr un pryd, bod Y Drindod yn cyfrannu’n gynyddol at ‘Lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol” yng Nghymru ac yn fyd-eang. Yn yr economi gwybodaeth byd-eang modern sydd ohono, mae rhan bwysig gan brifysgolion i’w chwarae mewn datblygiad economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ac ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod) nod ein hymchwil a’n haddysgu yw cefnogi 7 nod llesiant “Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)” 2015 y wlad.

Mae’r Drindod yn galw am berthynas fwy cytgord rhwng dynolryw a natur, ac am gymorth ar gyfer y rheiny sy’n llai ffodus.

Bu’r angen am well dealltwriaeth a goddefgarwch wedi bod yn ganolog i’r gwaith y byddwch yn darllen amdano yma, ac yn yr un ffordd mae ar fentergarwch a chynaliadwyedd angen pobl sy’n meddwl yn arloesol, rwy’n arbennig o falch bod y gwaith a ddechreuwyd yn Llambed o dan Yr Athro David Kirby dros 40 mlynedd yn ôl, wedi arwain at bartneriaethau sydd wedi newid tybiaethau ynghylch yr hyn maen ei olygu i fod yn fentrus. Yr Athro Medwin Huhghes Is Ganghellor, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Carys Roberts Uwch Rheolwr Ymgysylltu Entrepreneuriaeth Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llwodraeth Cymru “Mae PCYDDS yn falch o’i graddedigion, sy’n cael effaith gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd sylweddol, pe baent yn raddedigion cyflogedig neu hunangyflogedig.

“Mae sefydliadau academaidd yng Nghymru yn elfen annatod o’n hecosystem entrepreneuraidd, gan yrru twf cymdeithasol ac economaidd. Gan roi i fyfyrwyr a graddedigion y sgiliau ar gyfer ein byd newidiol, mae ein prifysgolion yn chwarae rhan arweiniol wrth ddarparu addysg entrepreneuraidd a phrofiadau dysgu i ddyfnhau cyfalaf dynol, uchelgeisiau a phenderfyniad pobl ifanc.

Trwyddynt hwy, gwelwn ein cenhadaeth, sef ’trawsnewid addysg: trawsnewid bywydau’ yn cael ei gwireddu. Er mwyn ennill gwobr Prifysgol Entrepreneuraidd Ewropeaidd y Flwyddyn bu rhaid i ni fod yn wir bobl amryddawn, ac felly, mae’r Wobr hon yn adllewyrchu ein hymagweddau cadarn at ymchwil, ein cyfraniad at ddatblygiadau rhyngwladol, ac wrth gwrs, ein cymorth dysgu sy’n sicrhau graddedigion creadigol gwydn.

Mae’r Drindod Dewi Sant wedi bod ar flaen y gad wrth ddatblygu addysg ac arfer entrepreneuraidd yng Nghymru yn ogystal â hwyluso’r trawsnewidiad o addysg i hunangyflogaeth a dechrau busnes newydd. Mae academyddion, addysgwyr menter ac ymarferwyr yn y Brifysgol wedi gwneud cyfraniad i’w groesawu i ddatblygiad polisi a darpariaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid yng Nghymru.”

Yr Hybarch Randolph Thomas Cadeirydd y Cyngor, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

5

Wrth i ni ddathlu 200 o flynyddoedd ers i’n sylfaenwyr wireddu eu huchelgeisiau mentrus eu hunain, mae hi’n briodol ac yn amserol ein bod ni’n dathlu llwyddiant hirsefydlog PCYDDS, gan ddechrau gyda’r cyhoeddiad addysgiadol hwn, sy’n mynd â ni y tu ôl i’r llenni.”

Mae’r data ar gyfer y DU yn siarad dros eu hunain, oherwydd mae’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch wedi rancio PCYDDS yn gyntaf yn y DU am y flwyddyn 20/21 o ran nifer y busnesau newydd gan raddedigion, ac yn gyntaf hefyd am y nifer o fusnesau sydd wedi bod yn rhedeg am dros 3 blynedd. Mae’r safle ar gyfer y flwyddyn flaenorol hefyd wedi bod yn gyson ymhlith yr uchaf ar gyfer sector Prifysgolion y DU.

6

Rhagarweiniad Er bod Entrepreneuriaeth wedi’i haddysgu ym mhrifysgolion Yr Unol Daleithiau ers diwedd y 1940au, ni thannwyd diddordeb Llywodraethau ynddi nes ymchwil Birch (1979) i faes cynhyrchu swyddi a dechreuasant annog eu prifysgolion a cholegau i’w gyflwyno i’w myfyrwyr. Ar y cychwyn, y gred oedd mai dim ond i fyfyrwyr Gweinyddiaeth Busnes yr oedd yn berthnasol ond dros y blynyddoedd cydnabuwyd yn fwy a mwy ei fod yn gymhwysedd allweddol i bawb, gan helpu pobl ifanc i fod yn fwy creadigol a chael mwy o hunanhyder ym mha beth bynnag y byddant yn ymgymryd ag ef (Comisiwn Ewropeaidd, 2008). Serch hyn, mae prifysgolion a cholegau yn aml wedi bod yn araf i addasu ac, mewn rhai achosion, wedi gwrthwynebu newid. Cyflwynwyd sawl mesur i’w hannog ac ysgrifennwyd testunau astudiaethau achos (Beveridge, 2001; Hague a Holmes, 2006) gyda’r bwriad o gyflwyno modelau rôl a dangos y broses entrepreneuriaeth a’r cyfraniad y gall ei wneud. Dros y blynyddoedd, mae’r pwnc wedi esblygu ac mae ffurfiau newydd ar entrepreneuriaeth wedi dod i’r amlwg i gyflenwi’r dull economaidd traddodiadol. Mae’r rhain wedi cynnwys, Entrepreneuriaeth Gymdeithasol (Borage, & Deform, 2001), Ecopreneuriaeth (Kainrath, 2011) a’r mwyaf diweddar, Entrepreneuriaeth Ddyngarol (Kim et.al., 2018). Ar yr un pryd, mae mwy o sylw wedi cael ei roi, ac yn dal i gael ei roi, i’r Her Gynaliadwyedd a’r rôl mae entrepreneuriaeth wedi’i chwarae yn hynny, ac y bydd yn dal i’w chwarae. Mae’r pwnc yn dal i esblygu ac mae’r Brifysgol yn chwarae rôl bwysig yn yr esblygiad hwnnw, gartref ac yn rhyngwladol. Yn y flwyddyn hon sy’n dathlu 200 mlynedd ers sefydlu Coleg Prifysgol Dewi Sant Llambed, man cyflwyno addysg entrepreneuriaeth i Gymru ac Addysg Uwch yng Nghymru, mae’n teimlo’n addas i olrhain esblygiad y ddisgyblaeth yn y Brifysgol i ddangos ei chyfraniad yn y gorffennol a’r presennol, ei rôl debygol yn y dyfodol a chyraeddiadau rhai o’i hentrepreneuriaid graddedig mwyaf diweddar. Boed iddynt weithredu fel modelau rôl ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a boed i’r Brifysgol barhau i arloesi a chyfrannu at ddatblygiad parhaus y pwnc, gan weithredu ar yr un pryd fel catalydd ar gyfer datblygiad economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y wlad.

7

Tarddle Addysg Entrepreneuriaeth yn y Brifysgol, ac yn wir yng Nghymru, oedd Llambed ar ddechrau’r 1980au. Bryd hwnnw, ym 1981, roedd Prif Weinidog y cyfnod, Y Gwir Anrhydeddus Margaret Thatcher, AS, yn ddiweddar wedi slaesio cyllidebau prifysgolion ac wedi ymgymryd â chwildro menter a newidiodd a lleihaodd rôl y wladwriaeth ac annog menter rydd a chysyniad hunangymorth. Fel y dywedodd hi ar y pryd, “when the state owns everything, nobody owns anything and when nobody owns anything nothing gets done”. Fel y rhan fwyaf o brifysgolion eraill, profodd Coleg Prifysgol Dewi Sant, a sefydlwyd ar 12fed Awst 1822 gan ei gwneud yn sefydliad prifysgol hynnaf Cymru, ostyngiad yn ei chyllid gan y wladwriaeth a bu’n rhaid iddi dorri costau a/neu gynyddu ei refeniw. Mewn ymgais i wneud yr ail o’r rhain, cyflwynodd Pennaeth y Coleg ar y pryd, sef yr Athro Brian Morris (yr Arglwydd Morris o Gastellmorris yn ddiweddarach) Adran Addysg Barhaus a Chyswllt Allanol gydag un o staff academaidd y Coleg (Dr David A Kirby) yn Gyfarwyddwr dechreuol. Ac yntau wedi bod â diddordeb mewn ymchwil ac addysgu ers cryn amser mewn rôl cwmnïau bach mewn datblygiad economaidd a chymdeithasol, dechreuodd gynnig cyrsiau hyffroddi entrepreneuriaeth i BBaChau, pobl ddiwaith, menywod a myfyrwyr. Bryd hwnnw, roedd polisi datblygiad economaidd y wlad yn ffocysu’n gryf ar Fuddsoddi Uniongyrchol o Dramor ac nid ar ddatblygiad bunsesnau bach brodorol, ond tu hwnt i goridor yr M4, yng nghanolbarth Cymru a chymoedd glofaol De Cymru, roedd diweithdra difrifol, a wnaethpwyd yn waeth gan gyflwyniad cwotâu llaeth yr Undeb Ewropeaidd yn 1984 a’r cynllun cau pyllau glo parhaus. Ar yr un pryd, roedd diweithdra ymhlith graddedigion ar eu lefelau uchaf erioed ac roedd cyfranogiad menywod yn y gweithlu’n isel, yn enwedig yng nghanolbarth wledig Cymru. Gyda chymorth Bwrdd Datblygu Cymru Wledig (Datblygu Cnaolbarth Cymru yn ddiweddarach) a sefydliadau fel Antur Teifi (Antur Cymru bellach) dechreuasant hyfforddi merched a’r diwaith i ddechrau a rhedeg eu busnesau eu hunain, gyda chymorth offerynnau fel y Cynllun Lwfans Menter, y Cynllun Gwarantu Benthyciadau a’r Cynllun Ehangu Busnes, a gyflwynwyd gan Lywodraeth OThatcher.bosibmai’r

mwyaf uchelgeisiol a phroffil uchel o’r ymyraethau hyn oedd y rhaglen allgyrsiol arloesol, “Menter Graddedigion yng Nghymru”. Noddwyd hwn gan Awdurdod Datblygu Cymru, Datblygu Canolbarth Cymru a Chomisiwn Gwasanaethau Manpower yn ogystal â’r hen Midland Bank (HSBC bellach). Roedd y rhaglen ar agor i fyfyrwyr holl golegau Prifysgol Cymru (Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Llambed ac Abertawe) yn ogystal â myfyrwyr Polytechnig Cymru a rhai’r Colegau a’r Sefydliadau Addysg Uwch, fel Coleg Y Drindod Caerfyrddin, Athrofa Addysg Uwch Gorllewin Morgannwg, a Choleg Addysg Uwch Gwent. Fe ddaeth cyn 8 Yn y cychwyn: Coleg Prifysgol Dewi Sant yn cymryd y cam cyntaf

Rhaglen Fenter graddedigion y DU ac roedd yn rhaglen dysgu drwy brofiadau rhan amser yn ei hanfod a “gydnabuwyd” ym mis Hydref 1986 gan y Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Celfyddydau o dan ei Rhaglen Addysg er Medrusrwydd. Roedd y dyfyniad ar gyfer y dyfarniad yn cydnabod y ffordd gwnaeth y rhaglen:“ddatblygu medrusrwydd a hyder personol ei chyfranogion a’r ffordd y gwnaeth cyfran mor uchel o’r cyfranogion hynny droi eu gwybodaeth academaidd a’u sgiliau yn gynhyrchion a busnesau llwyddiannus eu hunain”. Er mwyn annog cyfranogiad myfyrwyr roedd y rhaglen yn dibynnu ar fodelau rôl Menter Graddedigion a’i fodel cyntaf o’r fath oedd un o raddedigion Peirianneg Prifysgol Abertawe a oedd wedi sefydlu ei fusnes bwyd iach ei hun ar ôl graddio. Ei enw oedd Paul Hannon a aeth ymlaen i fod yn Brif Weithredwr y Ganolfan Genedlaethol er Entrepreneuriaeth mewn Addysg ac Athro Entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Fodd bynnag, wrth i’r rhaglen ddatblygu, roedd ei graddedigion ei hun yn gwasanaethu fel modelau rôl Menter Graddedigion, ac un o’r rhain oedd Carelton Watts (Hand of Creation Ltd) Artist Chwistrell Baent a raddiodd o Athrofa Gorllewin Morgannwg ac yn un o fyfyrwyr Andy a Kath Penaluna. O dan arweinyddiaeth Dr Ian Roffe ac ymcwhil ac addysgu pobl fel Dr Jill Venus, Conny Matera-Rodgers ac eraill, daliodd Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llambed, i fod yn rhan o entrepreneuriaeth a chyflwynodd hi i’w phortffolio gradd. Fodd bynnag, dros y blynyddoedd, a gyda’r uno yn 2010 (gyda Choleg Y Drindod Carfyrddin) a 2013 (gyda Phrifysgol Fetropolitan Abertawe) i greu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, symudodd y craidd disgyrchiant tua’r de, gan ganolbwyntio mwy ar Gaerfyrddin ac Abertawe. Mae entrepreneuriaeth wedi datblygu’n agwedd allweddol o’r rhaglenni yn Ysgol Fusnes Caerfyrddin a chaiff y myfyrwyr eu hannog i ddatblygu syniadau ar gyfer busnesau newydd fel mae nifer o’r astudiaethau achos (isod) yn dangos. Yn bwysig mae llawer o raglenni’r Ysgol wedi’u tanategu gan ddull moesegol, cynaliadwy a buddiol o wneud busnes. Fel mae Dr Christine Jones, Deon Dros Dro Yr Athrofa Addysg a Dyniaethau, wedi cydnabod “Yn y Drindod Dewi Sant mae addysg entrepreneuraidd yn graidd i’n gwerthoedd ac yn cyfrannu at ein cenhadaeth i drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau. Rydym yn falch i fod yn rhan o gymuned sy’n croesawu’r newidiadau sydd eu hangen. Mewn amgylchedd mor newydd, ‘rydyn ni i gyd yn dysgu oddi wrth ein gilydd fel y gallwn ddatblygu dysgwyr sydd wedi’u paratoi i ddelio â byd sy’n newid yn barhaus” 9

Datblygu’r Athrofa Ryngwladol ar gyfer Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol

Yn 2005 cyflwynodd Andy a Kathryn Penaluna bapur yn y Gynhadledd ‘Internationalising Entrepreneurship Education and Training’ (IntEnt) a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Surrey gan David Kirby. Yn unol â’i lyfr (Kirby, 2003) a’i erthygl ymchwil (Kirby, 2004), roedd arno eisiau ail-alinio Addysg Entrepreneuriaeth a’r gynhadledd trwy: Rhoi mwy o ffocws ar ffordd o feddwl a medrau entrepreneuraidd yn hytrach na chreu mentrau newydd Ehangu cwmpas y gynhadledd i gynnwys ysgolheigion nad ydynt yn perthyn i ysgolion na disgyblaethau busnes, gan ffocysu’n arbennig ar greadigrwydd ac arloesi Hwn oedd eu papur academaidd cyntaf erioed. Y pwnc oedd sut y gwnaethant ddysgu gan gyn-fyfyrwyr, a sut roedd eu cwricwlwm a’u strategaethau dysgu wedi esblygu o ganlyniad i hynny. Yn seiliedig ar gydnabyddiaeth Canolfan Pwnc Celf, Dylunio a Chyfryngau’r Academi Addysg Uwch o’u gwaith, lle cafodd ei farnu ym 5 gorau’r DU, y cyfuniad o wybodaeth fusnes Kathryn ac arbenigedd Andy ym maes arloesedd addysgu trwy ddylunio

a ddaeth â’r ddau i’r amlwg. Yng nghynhadledd IntEnt y flwyddyn olynol, ym Mrasil, cyfeiriwyd at eu gwaith yn y sesiwn agoriadol gan yr Athro Gerry Hills o Brifysgol Illinois yn Chicago, ac wedyn enillodd y Wobr Papur Empirig Rhyngwladol Gorau. Felly, dechreuodd y pâr ar daith newydd. Erbyn 2007 roedd Andy yn arwain Grŵp Diddordeb Arbennig mewn Dysgu Entrepreuraidd yr Academi Addysg Uwch (AAU), a ariannwyd gan Ganolfan Pwnc Busnes, Cyfrifeg a Chyllid, ac yn 2011 cafodd ei ethol i gynrychioli dros 50 o Brifysgolion fel Cadeirydd Addysgwyr Menter y DU. Yn ystod y cyfnod hwn a gyda chymorth y ddau gorff, heriodd Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU i ddarparu canllaw cenedlaethol i’r sector o safbwynt rhyngddisgyblaethol. Wedi dylunio fframwaith o’r blaen yn seiliedig ar fewnwelediad a gymerwyd o 32 Datganiad Meincnod Pwnc, cafodd ei wahodd i Gadeirio datblygiad yr hyn a feddylir yw Canllawiau Cenedlaethol ar Fenter ac Entrepreneuriaeth ar Lefel Prifysgol. Dwy flynedd yn ddiweddarach ac wedi’i seilio ar ei ymagwedd, datblygodd ASA ail ganllaw mewn

partneriaeth â AAU, y tro hwn ar Addysg ar gyfer Datblygu Cynlaiadwy. Hefyd, yn 2011, gwahoddwyd Andy i siarad yng Nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Fasnach a Datblygu yng Ngenefa. Arweiniodd y cyflwyniad at ymgysylltiad y cwpl am 8 mlynedd gyda’r Cenhedloedd Unedig, yn cynnwys gwaith polisi a datblygu cwricwlwm. Wedi’i gychwyn gan Bennaeth Entrepreneuriaeth y CU, Ms. Fiorina Mugione, a gymerodd flwyddyn sabothol i ymchwilio o dan oruchwyliaeth Andy, cafodd rhaglen Empretec y CU ei diweddaru i gynnwys mwy o ffocws ar ddatblygu ffyrdd o feddwl arloesol mewn dysgwyr, ac erbyn 2019 pan adawodd Mugione y CU, roedd dros 200,000 o ddysgwyr wedi mynychu’r cwrs mewn 47 o wledydd (Gweler: Mugione a Penaluna, 2016). Agwedd arall a dynnodd sylw oedd datblygiad hyfforddiant athrawon ffurfiol mewn Addysg Entrepreneuraidd, dan arweiniad Kathryn yn ei rôl ‘Eiriolwr Menter’ gyda Llywodraeth Cymru, a gwaith polisi Andy ar ‘An Education System Fit for an Entrepreneur’ (Anderson, Culkin, Penaluna & Smith, 2014), a gyd-awdurodd a chydgyflwynodd yn y Senedd ar ran y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar gyfer Micro Fusnesau. Amlinellodd hyn yr achos o blaid continwwm o addysg entrepreneuraidd, gan gychwyn mewn ysgolion cynradd. Wedi’i seilio ar ymchwil a dulliau pedagogaidd Andy, bwydodd y mewnwelediadau hyn yn y pen draw i mewn i Ddoethuriaeth Addysg y Brifysgol. Y cyntaf o’i fath eto yn y DU, mae’r dulliau wedi cefnogi llawer o fentrau cenedlaethol a rhyngwladol eraill. Arweiniodd y profiadau hyn at ymgysylltu rhyngwladol sylweddol yn cynnwys, rolau ymgynghorol ar gyfer y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) a’r UE, yn fwyaf penodol wrth ddatblygu dysgu entrepreneuraidd mewn ysgolion, trwy ymyriadau polisi ac arfer (Penaluna and Penaluna, 2015). O ganlyniad cafodd Kathryn ei gwahodd i Strasbourg i siarad yn Senedd Ewrop, a chyflwynodd y brif araith ar ran Comisiynydd Ewrop ar gyfer Cyflogaeth, Materion Cymdeithasol, 10

Sgiliau a Symudedd Llafur, y gwnaeth hi hefyd eistedd ar banel o arbenigwyr gydag ef. Her newydd oedd helpu i ddatblygu dysgu entrepreneuraidd yn y bartneriaeth 8 gwlad, sef Canolfan De Ddwyrain Ewrop ar gyfer Dysgu Entrepreneuraidd. Aeth un o’r partneriaid, sef Gogledd Macedonia, mor bell â gwahodd y pâr i gwrdd â phedwar gweinidog a’r Arlywydd, i helpu i lunio datblygiad polisi yn barod ar gyfer cwricwlwm newydd. Wedi’i ariannu gan World Bank, hwn a ddaeth hyn yn gynnig cwricwlwm cenedlaethol cyntaf y byd a ddatblygodd ddysgu entrepreneuraidd yn flaengar, rhywbeth nad oedd yr un wlad arall eto wedi llwyddo i’w gyflawni.

gwaith ARDEC wedi cael ei gyfeirnodi mewn llawer o ddogfennau polisi ac arfer yr UE ac OECD, a daeth hyn i’w anterth mewn sedd yng ngwaith Canolfan Ymchwil ar y Cyd yr UE ar ddatblygu fframwaith medrusrwydd entrepreneuraidd Ewropeaidd. Bellach fe’i elwir yn EntreComp, ac mae wedi dod yn ganllaw ‘de facto’ ar gyfer Dinasyddion Ewrop. Yn dilyn lansiad EntreComp yn y DU yn Y Drindod Dewi Sant, cafodd ei fabwysiadu gan yr ASA ac Enterprise Educators UK, ac mae corff Sgiliau Sector y Llywodraeth, SFEDI / IOEE, hefyd wedi’i ddefnyddio i feincnodi cynnydd mewn dysgu entrepreneuraidd mewn dros 60 o Fellygarchardai.nifydd yn syndod, yn sgil hyn, bod ARDEC Y Drindod Dewi Sant wedi ennill a chefnogi nifer o geisiadau i ddatblygu addysgwyr entrepreneuraidd ledled Ewrop, ac yn y DU gwnaeth SetSquared, sydd wedi ennill gwobrau, ddefnyddio eu talentau i helpu datblygu a chyflwyno rhaglen newydd ar gyfer Pobl Ôl-ddoethurol ac ymchwilwyr o’r enw ‘Ymchwilydd i Arloeswr’. Bellach yn rhan o’r rhaglen ICure, mae’r dull rhyngddisgyblaethol hwn yn benthyg

Abertawe ac a ddenodd gynrychiolwyr o 32 o wledydd, yn ogystal ag uwch gynrychiolwyr o’r UE, y Gymanwlad a’r CU. Cafodd grŵp o Athrawon Gwadd eu penodi i gefnogi’r gweithgareddau ymchwil ac i helpu i ddatblygu a hysbysu mentrau newydd (Gweler Penodwyduwtsd.ac.uk/ARDEC/ARDEC-team).https://www.grŵpoAthrawonGwaddi

Roedd cydnabyddiaeth ryngwladol wedi tyfu’n gyflym, ac yn 2014 gwnaeth y Drindod Dewi Sant, a oedd newydd gael ei ffurfio, gydnabod y cyraeddiadau

Yn ddiweddarach, gwnaeth Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau y DU, sef yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol (BEIS) nawr, ochr yn ochr â’r Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar gyfer Meicro Fusnes, ymgysylltu’n fwy a mwy yn ffordd o feddwl y Penalunas, a’r Prif Weinidog Theresa May a anogodd ddiweddaru’r Canllaw Menter ac Entrepreneuriaeth ASA yn 2017-18, wedi’i gadeirio unwaith eto gan Andy Penaluna (Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch, 2018). Yn dilyn diddordeb gan Weinidogaeth Addysg Tsieina, cafodd ei gyhoeddi ar yr un pryd yn Beijing. Yn ddiddorol, cyn hir gwnaeth y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar gyfer Entrepreneuriaeth gefnogi’r canllaw newydd yn y Senedd, gan ddatgan ei fod yn cyflawni llawer iawn mwy na phob disgwyl. Yn ogystal, bu’r canllaw yn sail i strategaethau asesu dysgu HEInnovate yr UE / OECD, gan mai ef oed dyr unig ganllaw rhyngwladol i egluro’r daith o fod yn greadigol ac arloesol i fod yn entrepreneur neu’n intrapreneur.

Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod) yn arweinydd yn natblygiad addysg entrepreneuraidd mewn addysg athrawon yng Nghymru ac yn rhyngwladol. (Jónsdóttir a Weicht, 2021, Cafodd8574).cynigion yr Athro Graham Donaldson ar gyfer dull ‘Dyfodol Llwyddiannus’ ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, a dyna ddechrau taith newydd. Gwnaeth ARDEC dri phrif gyflwyniad i wneuthurwyr polisi ac ysgolion arloesi, gwnaethant gynnal dau adolygiad mawr o’r cwricwlwm wrth iddo esblygu ac yn y pen draw, arweiniodd llunio drafft o ‘Sgiliau Hanfodol i’r Pedwar Diben’. Gan fod y cwricwlwm newydd wedi’i seilio ar ffyrdd o feddwl rhyngddisgyblaethol wedi’u gosod o fewn Pedwar Diben, roedd yr aliniad gyda gwaith yr ARDEC yn glir. 11

“One key guidance tool in the QAA is the “gateway triangle” which identifies different assessment approaches for enterprise/entrepreneurship education (Moberg, 2020, 14).

drwy sefydlu’r Athrofa Ryngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol (ARDEC), o dan arweinyddiaeth Andy Penaluna. Gweithred gyntaf ARDEC oedd galw am uwchgynhadledd Ryngwladol o Addysgwyr Entrepreneuraidd (Gweler: practice-into-policy/),https://www.uwtsd.ac.uk/ARDEC/agynhaliwyd yn

llawer o’r gymuned addysg ddylunio. Erbyn hynny, ar ben arall y raddfa, roedd ARDEC wedi arwain datblygiad cwricwlwm a’r hyfforddiant athrawon cysylltiedig yng Ngogledd Macedonia, gan ddatblygu mewnwelediadau a strategaethau a ddenodd sylw nôl yng Nghymru, lle’r oedd cwricwlwm newydd hefyd yn cael ei gynllunio (Gweler: Penaluna, Penaluna & Polenakovikj, 2020). Roedd y gwaith polisi ‘o blaid tlodion’ yn y CU wedi cyfrannu at ddatblygiad Goliau Datblygu Cynaliadwy’r CU, ac yn ei dro gwnaeth hyn gynyddu gwaith yr ARDEC gyda materion yn ymwneud â chynaliadwyedd. Erbyn 2018 daeth hyn yn fwy amlwg ac nid yn unig y gwnaeth ymddangos yn y gwaith Sicrhau Ansawdd, ond fe arweiniodd hefyd at rôl ymgynghorol ar ddatblygiad fersiwn newydd o Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy ASA, a gyhoeddwyd yn 2021. Ni aeth yr aliniad yn ddisylw, fel y cofnodwyd yn rhifyn mis Gorffennaf y Cyfnodolyn ‘Sustainability’, y gwnaeth ei awduron gymeradwyo’r ARDEC am eu haddysgeg rhyddfreiniol a chyfraniadau at addysg ar gyfer cynaliadwyedd, gan Maeddweud:Prifysgol

gefnogi’r gweithgareddau ymchwil ac i helpu datblygu a hysbysu mentrau newydd. Gwnaeth arbenigwyr, megis Dr Colin Jones o Awstralia, ac arweinwyr o’r DU, megis Dr Kelly Smith a Dr Simon Brown, yn ogystal ag Elin McCallum, cyn-arweinydd polisi’r UE, sicrhau bod ARDEC yn parhau i fod ar flaen y gad o ran Erbyndatblygiadau.2015roedd

yn

“Cydnabyddir mai ARDEC Y Drindod Dewi Sant yw un o sefydliadau blaenllaw’r byd mewn addysg entrepreneuriaeth seiliedig ar greadigrwydd. Nid yn unig mae ARDEC wedi bod yn weithredol wrth gynghori llywodraeth y DU ym maes addysg entrepreneuriaeth ond mae ei gyhoeddiadau hefyd wedi bod yn arwain trafodaethau ar lefel ryngwladol.” (Yves Punie, Canolfan Ymchwil ar y Cyd yr UE, 2016).

12 Erbyn 2018/19, daeth Y Drindod Dewi Sant I’r brig fel prifysgol gorau Cymru, a’r 9fed orau yn y DU am y nifer o fusnesau a ddechreuwyd gan ei graddedigion yn ystod y flwyddyn. Ond nid yw’r stori’n gorffen yno, oherwydd mae’r busnesau a grëir gan raddedigion Y Drindod Dewi Sant ymhlith y goreuon o ran eu gallu i oroesi hefyd - y gorau yng Nghymru a’r ail yn y DU am fusnesau a ddechreuwyd gan raddedigion sy’n dal i fod yn weithredol ar ôl tair blynedd. Mae Athrofa Arfer Cynliadwy, Arloesedd ac Effeithiolrwydd Adnoddau (INSPIRE), yn rhan annatod o’r llwyddiant. Maent yn cynnig ystod o gymorth ar gyfer busnesau newydd, a chaiff llawer o hyn ei ysbrydoli gan gynfyfyrwyr entrepreneuriaid y Brifysgol, a’i ddylunio ar y cyd â nhw. Wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru a’u menter Syniadau Mawr Cymru, mae’n gymysgedd grymus.

Yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd, lansiodd Felicity Healey-Benson yr ‘Harmonious Entrepreneurship Society’ mewn cydweithrediad â’r Athro Kirby, a oedd bryd hwnnw yn ymgynghorydd i Athrofa er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol y Brifysgol. Nod y Gymdeithas yw hyrwyddo’r cysyniad a chreu Entrepreneuriaeth Gytgord, cysyniad newydd wedi’i seilio ar ymchwil a gynhaliwyd gan Kirby ac El-Kaffass (2021). Mae’n ymgorffori meddwl trwy systemau ac ‘Egwyddor Cytgord’ (Ei Fawrhydi Brenhinol Tywysog Cymru, et.al., 2010) i gynhyrchu ymagwedd arloesol at entrepreneuriaeth sy’n ymgyfuno neu’n creu cytgord rhwng yr ymagweddau economaidd, eco, dyngarol a chymdeithasol traddodiadol er mwyn mynd i’r afael â’r Her Gynaliadwyedd. Yn ystod blwyddyn academaidd 2021 gwnaethant gyflwyno darlithoedd a chyflwyniadau cynhadledd ar y pwnc, cynhyrchu erthyglau cyfnodolion academaidd a dau bennod llyfr ac ysgrifennu 50+ o astudiaethau achos yn dangos a phrofi’r cysyniad. Yn ogystal, gwnaethant gynhyrchu CAEA addysgol a gafodd ei ariannu’n rhannol gan Enterprise Educators UK ac Athrofa Cytgord y DeuddegBrifygsol.mis yn ddiweddarach yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd 2021 cyhoeddodd y Brifysgol a’r Gymdeithas Gystadleuaeth Menter Gytgord ar-lein rhyngwladol i fyfyrwyr â’r bwriad o gynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth myfyrwyr o gysyniad Entrepreneuriaeth Gytgord yn ogystal â chreu mentrau myfyrwyr newydd a arweinir gan raddedigion. Bydd y gystadleuaeth yn cynnwys prawf beta drwy gystadleuaeth rhwng myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant a myfyrwyr Prifysgol Maleisia –Cymru. Y CAEA, ynghyd ag astudiaethau achos, yw’r mewnbynnau ar gyfer y HefydGystadleuaeth.ynystodwythnos Entrepreneuriaeth y Byd 2021, cyhoeddodd y Brifysgol bartneriaeth newydd gyda Ship Shape, chwilotwr cyfalaf menter sy’n galluogi entrepreneuriaid i ddod o hyd i fuddsoddwyr posibl mewn eiliadau yn hytrach na misoedd - gan gefnogi cenhadaeth Y Drindod Dewi Sant i gysylltu syniadau gwych gyda chyfleoedd buddsoddi er lles ein myfyrwyr, graddedigion, staff a’r cyffiniau ehangach.

Gan adlewyrchu’r papur Penaluna ym Mrasil, mae’r maniffesto’n trafod cyn-fyfyrwyr, gan gynnig yr (#StudentsAreOurSecretWepon),#MyfyrwyrYwEinHarfGyfrinacholhashnodmae’n galw

hefyd am fersiwn UD o waith ASA y DU.

Mae’r Athro Emeritus, Andy Penaluna, yn dal i weithio ar y llwyfan rhyngwladol, gan ddarparu canllaw ar bolisi ac arfer, yn fwyaf diweddar yn yr Iseldiroedd, Brasil a’r Ffindir. Gan mai’r Ffindir oedd y wlad gyntaf yn y byd i gyflwyno dysgu entrepreneuraidd mewn ysgolion, ceir yno lawer o fewnwelediadau i’w rhannu gyda Chymru. Andy yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol er Addysg Entrepreneuriaeth (DU), sy’n noddi’r Times Higher Award for Outstanding Entrepreneurial University of the Year, a Chadeirydd Dros Dro’r Ganolfan Genedlaethol er Addysg Entrepreneuriaeth (Tsieina). Mae Kath Penaluna bellach yn ymgymryd â Chyfarwyddiaeth ARDEC ac yn parhau yn ei rôl Rheolwr Menter yn Y Drindod Dewi Sant. Mae gwaith yr ARDEC yn parhau i ddylanwadu, a gwnaeth gyfraniad sylweddol i’r dulliau dysgu a ddatblygwyd ar gyfer y prosiect ‘Intrinsic’ Ewropeaidd. Gwnaeth hyn ffocysu ar y cyfuniad o feddwl cynaliadwy ac ymdrech entrepreneuraidd ym myd y Gwyddorau Bywyd, ac mae’n cael ei ysbrydoli’n fawr gan ymchwil yr ARDEC i ddeall gwahaniaethau y gellir eu gwneud rhwng Addysgeg, Andragogeg a Heutagogeg (Gweler Jones, Penaluna a Penaluna, 2019). Yn dilyn cyfweliad ‘Delphi’ Andy Penaluna gyda Choleg Babson yn yr UD, yn rhan o bapur ymchwil, mae’r mewnwelediadau’n ennill tir yn y gyflym yn yr UD, sydd wedi arwain yn rhannol at sylwadau gan Norris Kreuger yn ei Faniffesto Addysg Entrepreneuriaeth i’r Cyngor Rhyngwladol ar gyfer Busnesau Bach. Yn ei adran agoriadaol, fe ddywed: As we go through this manifesto, a good place to start is a question that Andy Penaluna asks “If you had to educate starting from Primary School, where would you start and why?” I would add how do we ensure that educator training and assessment dovetail and how must we change the ecosystem to make it happen? (And why is Europe so far ahead of North America?) (Kreuger, 2021)

Mae’r Drindod Dewi Sant hefyd yn bartner arweiniol yn EntreCompEdu mewn prosiect 6 gwlad partner Erasmus+ i gefnogi addysgwyr i addysgu medrau entrepreneuraidd yn effeithiol. Ymhlith y gwledydd partner mae Gwlad Belg, Sbaen, Y Ffindir, Gogledd Macedonia, Sweden a Chymru. Cyflwynodd Felicity, un o Lywodraethwyr Ysgol Gynradd Dafen yn Llanelli EntreCompEdu i’r ysgol ac o’r 52 o wledydd a gymerodd ran yn y prosiect o fis Ionawr 2020 i fis Mai 2021 dyfarnwyd iddi’r statws Ysgol Arloesi EntreCompEdu Fyd-eang cyntaf erioed. Digwyddodd hyn o ganlyniad i ymgais yr ysgol i drochi ei hun yn llwyr yn y prosiect a’i hymrwymiad i entrepreneuriaeth fel a ddangoswyd yn ei hallbynnau o ansawdd yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd. Mae eu gwaith wedi’i arddangos mewn nifer o ddigwyddiadau Cenedlaethol a Byd-eang yn cynnwys y wefan a chaffi EntreCompEdu ar-lein byd-eang a’r gynhadledd Enterprise Educators UK. Wrth roi sylwadau ar y prosiect, meddai un o’r athrawon “y prif bethau a ddysgwyd oedd manteision addysgeg drwy brofiadau ac adfyfyriol a bod dysgu entrepreneuraidd...nid yn unig yn ffocysu ar weithgarwch ariannol neu fenter, ond hefyd yn agor y drysau i greu gwerth llawer ehangach sy’n cynnwys y diwylliannol a’r cymdeithasol”. I Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, gwerth y prosiect oedd bod “y sgiliau y mae’r disgyblion wedi’u hennill, fel chwilfrydedd a gosod goliau, nid yn unig yn hwyl ond y byddant hefyd yn eu helpu i ddod yn ddatruswyr problemau hyderus”.

Heddiw: Addysg Entrepreneuriaeth Y Drindod Dewi Sant

Caiff Athrofa Ryngwladol ar gyfer Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol (ARDEC) y brifysgol ei gydnabod yn un o arweinwyr y byd wrth ddatblygu mathau o addysg sy’n helpu dysgwyr i lwyddo y gellir eu diogelu at y dyfodol.

13 Gyda Margherita Bacigalupo (UE) a Fiorina Mugione (CU) wrth ei ochr, Andy yn lansio Canllawiau Menter yr ASA ar gyfer Prifysgolion y DU Andy yn cael ei gyfweld ar Deledu Brecwast Croatia yn dilyn diwygiadau addysgol a helpodd ARDEC i’w harwain Cyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd Y Drindod Dewi Sant Karl Mountford yn trafod ei waith yn Gofiadur Graffeg gyda disgyblion Abertawe - o athrawon sydd wedi’u hyfforddi gan ARDEC Arbenigwyr Ewropeaidd yn cwrdd i ddechrau gweithio ar Fframwaith EntreComp yn y Gydganolfan Ymchwil yn Seville David Kirby, Kath Penaluna, Nicola Powell a Shehla Khan yn derbyn Gwobr Prifysgol Entrepreneuraidd Ewropeaidd y Flwyddyn i’r Drindod Dewi Sant yn Fflorens Kathryn ac Andy Penaluna yn y Cenhedloedd Unedig yng Ngenefa, lle ymunodd 47 o wledydd â’r fenter addysg mentergarwch a chynaliadwyedd dan arweiniad ARDEC Entrepreneuriaid yn y Senedd yn dweud bod gwaith ansawdd addysg dan arweiniad ARDEC wedi cael ei ganmol yn eu hymchwil, ac yn galw am weithredu Myfyrwyr entrepreneuraidd Proteges Kuwait yn dathlu gweithdy creadigrwydd llwyddiannus. Wedi ei gynnal mewn partneriaeth â Carreg Adventure

“Mae Jin a thonig wedi achub bywydau, a meddyliau, mwy o Saeson na holl ddoctoriaid yr Ymerodraeth” (Winston Spencer Churchill) Mae Porth Tywyn yng Ngorllewin Cymru yn dref harbwr bach del sy’n fwyaf enwog, mae’n debyg, am fod yn fan glanio Amelia Earhart yn 1928 ar ôl hedfan o America dros y Môr Iwerydd. Ond mae’n bur debygol bod hynny ar fin newid wrth i oleudy’r harbwr ddod yn logo ar gyfer jin cyffrous o Gymru sy’n newid ei liw, o las i binc, fel y machlud y mae wedi’i enwi ar ei ôl. Ers mis Hydref 2020 pan gafodd ei ymgorffori, mae Porth Tywyn wedi bod yn gartref i Harbour Lights Spirits Ltd, a sefydlwyd gan Jessie Wakely, un o gyn-fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant, a’i gŵr Darren sy’n Ddistyllwr. Tra roedd Darren wedi bod yn gweithio fel distyllwr ers 3 blynedd, roedd Jessie wedi bod yn ymgysylltu â’r sector lletygarwch ac adloniant ac wedi sefydlu ei busnes adloniant i blant ei hun. I baratoi ar gyfer dechrau Harbour Lights, cofrestrodd yn fyfyriwr rhan amser ar y rhaglen radd BA Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol. Dywed er ei bod yn meddwl ei bod yn gwybod sut i ddechrau busnes, bod y cwrs wedi bod yn help enfawr iddi yn sylfaenydd busnes. Er enghraifft, mae wedi dangos iddi sut i dyfu a datblygu ei busnes trwy farchnata, a bu’n bosibl iddi seilio ei gwaith cwrs a’i haseiniadau ar ei busnes. Er ei bod yn cydnabod yr help a gafodd gan staff academaidd y Brifysgol, cafodd hefyd ei chefnogi gan Dîm Menter y Brifysgol ac mae’r Eiriolwr Entrepreneuriaeth, Dylan William-Evans, yn honni bod Jessie “yn haeddu llwyth o glod am yr hyn mae hi wedi’i gyflawni hyd yma mewn cyfnod mor fyr gan ystyried ei bod yn jyglo bod yn fyfyriwr, rhedeg busnes a dod yn fam am y tro Mae’rcyntaf”.busnes yn llwyddiant yn barod a gwerthwyd pob un botel yn y ddau swp cyntaf o jin mewn pythefnos ac mae nifer o linellau newydd wedi cael eu cyflwyno. Yn amlwg mae’r cynnyrch, sy’n defnyddio dŵr pur o Gymru, wedi cael ei ysbrydoli gan gefn gwlad Cymru a’i nod nawr yw “tyfu a dod yn jin cartref adnabyddus a chreu rhagor o wirodydd a fydd yn cyflwyno blas ar Gymru”. Er mai dim ond ymdrin â Nod Datblygu Cynaliadwy (SDG) 8 (Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd) mae Harbour Lights ar hyn o bryd, nid yw’n niweidio’r amgylchedd ac mae ganddo’r potensial i gyfrannu at nifer o’r Soddedig, yn arbennig 9 (Diwydiant, Arloesi a Seilwaith), ac 11 (Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy). ACHOS Harbour Lights Spirits harbourlightsspirits.co.uk

ASTUDIAETHAU

14

Naomi Bishop, myfyriwr Dylunio Cynnyrch a raddiodd yn 2015, yw Cydsylfaenydd a Chyfarwyddwr Hozah Ltd sef system talu am barcio awtomatig sy’n defnyddio camera adnabod rhifau cerbydau i ddatgelu pryd bydd gyrwyr yn mynd i mewn i faes parcio ac yna ei adael. Yna, bydd yn codi tâl ar y defnyddiwr yn awtomatig am hyd eu harhosiad. Lansiodd y fenter, sy’n cael ei ddosbarthu’n fusnes datblygu meddalwedd, ddwy flynedd ar ôl graddio, yn 2017, yn 26 oed.

Hozah Zero Touch Payments Ltd hozah.com Wrth gyfeirio at ei phrofiad yn Y Drindod Dewi Sant, meddai Naomi: “Roedd y cyfleusterau’n anhygoel, ac fe fyddai’n dasg a hanner dod o hyd i well amgylchedd i ymarfer eich creadigrwydd ynddo. Anogwyd entrepreneuriaeth a chreadigrwydd ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd myfyrwyr a ddaeth ar fy ôl i yn ffynnu yn y Brifysgol am flynyddoedd i ddod.”

15

Er ei fod wedi’i leoli yn y Sussex Innovation Centre yn Croydon, yn Ne Ddwyrain Lloegr, safle brofi Hozah oedd Keighley, Swydd Efrog yng Ngogledd y wlad. Ers hynny maent wedi llunio partneriaeth gyda Chyngor Cofentri ac, yn ddiweddarach, mae Cyngor Croydon wedi cyhoeddi buddsoddiad miliynau lawer i roi meysydd parcio sy’n defnyddio Hozah ar waith yn y Fwrdeistref. Wrth gyfeirio at y fenter, dywed Paul Bowman, Rheolwr Tîm Gwasanaethau Parcio Cyngor Coventry “Gyda Hozah, cynigir i yrwyr ffordd saff ac effeithlon i dalu ond sydd hefyd yn cynhyrchu refeniw uwch i economi leol Coventry”. Yn fanwl, bydd Cyngor Croydon yn elwa o System gwbl awtomatig nad yw’n gofyn am arian parod nac ap o gwbl Llai o orbenion a chostau gweinyddol, gan nad oes angen prynu, cynnal a chadw ac uwchraddio peiriannau Refeniw tecach, cyson a allai gynyddu cyfraddau cydymffurfio i 99.4 y cant. Data ar sut y defnyddir y meysydd parcio. Yn y cyfamser bydd y gyrwyr yn elwa o System gwbl awtomatig nad yw’n gofyn am arian parod nac ap o gwbl Tawelwch meddwl heb rybuddion tâl Systemcosb gynhwysol sy’n caniatáu taliadau gan y rheiny nad ydynt yn gallu defnyddio peiriannau talu ac arddangos neu apiau ffonau clyfar Taliadau awtomatig ar gyfer gorsafoedd gwefru trydan ym meysydd parcio wedi’u haddasu Hozah.Ffordd fwy diogel i dalu am barcio gyda llai o deithiau ar droed i beiriannau talu ac arddangos. Gwell diogelwch. Wrvth gyfrannu at SDG 9 (Diwydiant, Arloesi a Seilwaith), mae Hozah hefyd yn cyfrannu at SDGau 8 (Gwaith Teilwng a Thef Economaidd), 11 (Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy), 12 (Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol) Er bod Hozah wedi ymestyn ac wedi cynllunio safleoedd yng Nghernyw, Hull, Rhydychen a Sheffield, yn ogystal â Llundain ac Essex, yn ôl Naomi “hoffem ymestyn Hozah fel bod pob gyrwr yn cael yr opsiwn i ddewis dull talu sy’n haws, yn gynt ac na fydd yn arwain at gael hysbysiad o dâl cosb...y cam nesaf yw cael mwy o ardaloedd lle mae Hozah yn dominyddu yn hytrach na safleoedd gwasgaredig”

Cred Naomi bod ei rhaglen radd Dylunio Cynnyrch wedi ei helpu i lansio’r fenter am ei bod wedi’i haddysgu i ddod o hyd i broblemau bywyd bob dydd a datblygu datrysiadau i’r problemau hynny, boed yn gynhyrchion ffisegol neu’n ddatrysiadau digidol. Fodd bynnag, mae hi hefyd yn cydnabod ei bod wedi dysgu llawer am fusnes yn y broses, a fu’n help wrth orfod marchnata’r fenter, cynhyrchu deunydd hyrwyddo, gwneud cais am arian, ayb. Fel arfer, yn y blynyddoedd cynnar, rhaid i’r sylfaenydd amldasgio ac er nad oes raid iddi wneud hyn mwyach, mae hi’n cydnabod y byddai’n gallu gwneud hynny pe bai ar y busnes angen iddi wneud. Fel y dywed, addysgodd ei chwrs Dylunio Cynnyrch iddi sut “i werthuso a dadansoddi marchnadoedd a defnyddwyr er mwyn adeiladu cynnyrch sy’n ateb y diben”.

“Llongyfarchiadau ar gynhyrchu system ragorol. Gwell na thaludros-y-ffôn a llawer, llawer iawn gwell na rhoi ceiniogau mewn peiriant” (Kevin, Oxford)

Yn 2005 graddiodd Elizabeth Davies, gwraig fferm o bentref Llangynin yng nghefn gwlad gorllewin Cymru, â MA mewn Twristiaeth Treftadaeth o Ysgol Fusnes Caerfyrddin yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin. Roedd hi a’i gŵr wedi prynu fferm lle’r oedd hen gwt, a fu’n gerbyty, wedi mynd â’i ben iddo. Ar y pryd, “roedd pris llaeth yn ofnadwy” meddai Elizabeth “ac roeddem ni’n chwilio am ffyrdd o gael incwm arall i’r fferm heb gystadlu â’r archfarchnadoedd mawr”. Felly, yn hytrach nag adnewyddu’r cerbyty a’i droi’n llety preswyl, aethant ati i’w drawsnewid yn Llety Cynin, sydd bellach yn dŷ llety pedair seren a chlwb hamdden ffyniannus. Agorodd Elizabeth y busnes yn 2006 ac mae’n honni bod ei chwrs Meistr “wedi rhoi’r hyder i mi roedd ei angen arnaf i symud fy syniad ymlaen ac i fynd ati’n awtomatig i agor y busnes”. Tra oedd ar y cwrs, nid yn unig y dysgodd sut i ddechrau a rhedeg busnes, ond cafodd gyngor gan ei thiwtoriaid a bu modd iddi drafod ei chynlluniau gyda’i chyd-fyfyrwyr a chlywed eu barn a’u syniadau.

Pan ddechreuodd y busnes roedd ganddynt dîm bach o ryw 9 o staff gan gynnwys staff rhan amser ar y penwythnos. Heddiw, mae Elizabeth yn rhedeg y busnes gyda’i merch, Gwawr, ac maent bellach yn cyflogi dros 30 o bobl. Mae’r busnes wedi tyfu’n rhy fawr i’r adeilad gwreiddiol ac yn 2018 gwnaethant ei ymestyn i ychwanegu 5 ystafell arall, ac ystafell ddigwyddiadau ar gyfer priodasau gyda lle i 180 o westeion a champfa, ystafelloedd newid, ystafell stêm, stiwdio ffitrwydd a spa newydd. Grymuswyd y staff i redeg y busnes tra mae Elizabeth yn rheoli’r cyfrifon ac yn gyfrifol am farchnata a hyrwyddo. Maent yn gweithredu system o ddatblygiad proffesiynol parhaus ac yn gweithio fel tîm gan chwilio’n barhaus am gyfleoedd

Llety Cynin lletycynin.co.uk

a ffyrdd newydd o ddatblygu’r busnes ymhellach. Er mwyn denu ymwelwyr, maent wedi cyflwyno amrywiaeth o fentrau megis seremonïau priodas, digwyddiadau te ar thema a defnydd arbennig o’r sba am ddiwrnod. Yn ôl DEFRA, eisoes mae gan oddeutu 68% o ffermydd ryw weithgaredd wedi’i arallgyfeirio tebyg i hyn. Fodd bynnag, ac yntau wedi’i leoli ar fferm eidion a defaid weithredol, nid yn unig y mae Llety Cynin yn darparu sylfaen incwm ehangach ar gyfer y fferm, ond hefyd mae’n ychwanegiad gwerthfawr i’r gymuned wledig, gan greu cyflogaeth a denu ymwelwyr i’r ardal. Fel y mae Elizabeth yn cydnabod “Rwyf wedi treulio gydol fy mywyd yn ymwneud ag amaethyddiaeth ac rwy’n credu ym mhwysigrwydd y Fferm Deuluol i gefnogi cefn gwlad, y gymuned a datblygiad”. Felly mae Llety Cynin yn mynd i’r afael â Nodau Datblygu Cynaliadwyedd 8 (Gwaith teilwng a thwf economaidd), 10 (Llai o Anghydraddoldeb), 11 (Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy), 15 (Bywyd ar y Tir). Yn 2009, enillodd Wobr Her Fusnes Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad (CLA) Cymru. Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd Cadeirydd CLA Cymru mai nhw oedd yr enillwyr clir a haeddiannol “a hwythau wedi ymroddi i gynllunio, paratoi a marchnata eu menter newydd”.

16 “Gwesty bach cartrefol, hyfryd wedi’i leoli yng nghefn gwlad Cymru. Yn ddigon anghysbell i deimlo fel seibiant, yn ddigon agos iddo fod yn hawdd ei gyrraedd. Mae’r staff yn ffantastig ac yn wir yn methu gwneud digon i ti. Mae’r bwyd yn wych, fel y mae’r cyfleusterau. Rwy’n methu aros i fynd yn ôl” (Pam Johnson)

Felly, mae Maykher yn gofyn bod ei bartneriaid yn onest a thryloyw o’r dechrau i’r diwedd, yn gofalu am yr amgylchedd a chynaliadwyedd ac yn bod yn garedig. Mae’n fenter Gytgord yn ei wir ystyr, sy’n cofleidio elw, pobl a’r blaned ac yn ymdrin â SDGau 1 (Dim tlodi), 10 (lleihau anghydraddoldebau), 5 (Cydraddoldeb Rhywiol), yn ogystal â 4 (Addysg o Ansawdd), 16 (Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cryf), 11 (Dinasoedd a Chymunedau cynaliadwy) ac 8 (Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd). Ar yr un pryd, mae’n ymdrin â SDG 13 (Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd), 15 (Bywyd ar y Tir), 12 (Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol) ac 17 (Gweithio mewn Partneriaeth i Gyflawni’r Nodau). Yn 2018, canmlwyddiant pleidlais i ferched yn y DU, enillodd Maykher Wobr Busnes Moesegol – Gwyrdd y Flwyddyn yng Ngwobrau Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru. Wrth sôn am y Wobr, dywedodd Heidi “Ers sefydlu’r cwmni yn 2017, rydym wedi ymrwymo i addysgu pobl am fanteisio ffasiwn araf ac ystyrlon...ac mae ennill y wobr Ffederasiwn Busnesau Bach yn cydnabod a chymeradwyo ein model busnes cynaliadwy”. Er ei bod wedi cyflawni’r Wobr mor fuan ar ôl lansio’r fenter, mae Heidi yn cydnabod y bydd yn cymryd amser i gyflawni popeth mae hi ei eisiau ar gyfer y busnes. Meddai, “Rydym ni’n dechrau’n fach. Flwyddyn ar ôl blwyddyn rydym yn datblygu cynllun a fydd yn symud y prosiect ymlaen, un cam bach ar y tro”.

Ar ôl graddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn 2005 gyda dosbarth 2:1 mewn Dylunio Graffig, sefydlodd Heidi Maykher, cwmni ategolion i ferched, yng Nghasnewydd, Gwent, gyda’i gŵr Jon. Dilynodd hyn gyfnod o deithio o gwmpas y byd lle cafodd ei dychryn i weld y tlodi ac angydraddoldeb nad oedd hi’n gwybod eu bod yn bodoli. Felly, yn 2016, wedi goresgyn bod ag ofn methu ond heb brofiad o fusnes neu economeg, sefydlodd stiwdio ddylunio ac yna blwyddyn yn ddiweddarach Maykher, yr hyn mae hi’n ei alw’n “busnes ffasiwn araf a chynaliadwy sy’n rhoi pobl cyn elw”. Mae’r holl gynhyrchion a wertha Maykher yn gynhyrchion crefft gan grefftwyr dilys o wledydd fel Guatemala, Haiti ac India ac mae llawer o’r crefftwyr y maent yn gweithio gyda nhw wedi dioddef tlodi, wedi dioddef trais domestig a/neu wedi cael diffyg cyfleoedd neu addysg. Fodd bynnag, nid yw Heidi yn ystyried bod Maykher yn elusen, ond yn hytrach yn “gwmni ategolion i ferched elw-gyda-diben sy’n ymroi i gefnogi gwneuthurwyr a’u crefftau a chefnogi ffasiwn moesegol a chynaliadwy yn O’rweithredol”.cychwyncyntaf bwriad Maykher oedd ymdrin â mater tlodi ac anghydraddoldeb yn gyffredinol a chydraddoldeb rhywiol a grymuso menywod yn arbennig. Dim ond gyda phartneriaid sy’n rhannu ei werthoedd ac sy’n ymrwymo i helpu harneisio talent menywod gwledydd datblygol y mae’n gweithio, a hynny o leiaf drwy gynnig cyfleodd moesegol i weithio a chyflogau teg. Fodd bynnag, mae Heidi hefyd yn cydnabod pwysigrwydd addysg a’i rôl wrth ddileu tlodi, gan bwyntio at y ffaith nad yw tua 130 miliwn o ferched ledled y byd yn derbyn addysg o ganlyniad i wahaniaethu ar sail rhywedd. O ganlyniad, mae Maykher yn buddsoddi o leiaf 10 y cant o’i elw diwedd blwyddyn i mewn i addysgu merched a menywod mewn ardaloedd y mae ei angen fwyaf. Ers 2018 mae wedi cefnogi addysg dau ddisgybl uwchradd, Irma a Melody, yng Ngwatemala, lle mae tua 2 filiwn o blant yn cael eu hamddifadu o addysg. Nod Heidi yw ariannu mynediad rhagor o fyfyrwyr ifanc i fyd addysg trwy ddewisiadau moesegol a chynaliadwy Maykher ac mae’n credu’n gryf y bydd ymestyn addysg fel hyn yn helpu’n raddol i “leihau risg tlodi, masnachu pobl a phriodi plant” Nid dim ond materion sy’n ymwneud â phobl mae Maykher yn ymdrin â nhw. Mae’r busnes yn ymrwymo i ffasiwn foesegol a llesiant y blaned. Lle bynnag y bo’n bosibl, defnyddir lliwiau planhigion a llysiau, cedwir cyfraddau gwastraff mor isel â phosibl, ailgylchir cynhyrchion ac osgoir defnyddio plastigau a phecynnu gormodol. Ar yr un pryd, maent yn chwilio o hyd am ffyrdd i wella eu prosesau a lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd.

17

Maykher. maykher.com

“Rydym yn frwdfrydig iawn ynghylch ffasiwn foesegol ac ‘araf’ a gweithio gyda phobl (y gwneuthurwyr) yn hytrach na pheiriannau” (Heidi Louise Griffiths).

Lansiodd Neil Dyer, a raddiodd o’r MBA, ei fusnes ymgynghoriaeth yn 2014. Fel llawer o fyfyrwyr MBA daeth i’r rhaglen o gefndir corfforaethol wedi gweithio mewn swydd uwch reolwr. Fodd bynnag, roedd yn chwarae gyda’r syniad o ddechrau ei fusnes ei hun ond doedd e ddim yn gwybod beth i’w wneud. “Helpodd yr MBA i gadarnhau fy ngwybodaeth am fusnes” meddai “gwnaeth y darlithwyr hybu fy nealltwriaeth ac fe wnaeth un yn arbennig roi’r amser a’r anogaeth i mi i ddechrau fy ymgynghoriaeth fusnes fy hun.” Felly, yn ystod blwyddyn gyntaf ei astudiaethau dechreuodd gynllunio ei fusnes ac yn ei ail flwyddyn, fe a’i lansiodd. Busnes ymgynghoriaeth yw NeoDynamic sy’n ceisio gwneud gwir wahaniaeth a chreu twf mewn sefydliadau. Mae wedi’i seilio ar gred Neil bod meddwl blaengar a chreadigol yn gallu cael effaith go iawn ar sefydliadau. Dadleua mai newid cyffrous, profiadau newydd a datblygiad talent a ddylai yrru unigolion a sefydliadau. Ymhlith canmoliaethau niferus NeoDynamic, daw un nodweddiadol gan Emily Black, sy’n ddylunydd mewnol sydd wedi ennill gwobrau (emily@ emilymayinteriors.co.uk). Dywed bod “Neil yn ased gwerthfawr i unrhyw unigolyn neu fusnes y mae’n gweithio gyda nhw. Hyd yma, mae’r gwaith rydym wedi’i gwblhau gyda’n gilydd wedi cynyddu llwybrau at gwsmeriaid posibl a gwerthiannau, wedi’i adeiladu ar fy mrand presennol ac mae cynlluniau’r dyfodol yn cynnwys symleiddio fy mhroses busnes. Buaswn yn argymell Neil yn gryf am ei wasanaethau ansawdd uchel”. Ers mis Hydref 2015, mae Neil wedi gweithredu fel model rôl ar gyfer Syniadau Mawr Cymru sy’n ceisio ysbrydoli pobl ifanc mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion i ddod yn genhedlaeth nesaf Cymru o entrepreneuriaid ifanc, ac mae carfan o fyfyrwyr y Brifysgol wedi elwa, ers mis Medi 2020, o’i ddealltwriaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol o Farchnata am ei fod wedi bod yn addysgu ar y rhaglen radd Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol. Yn amlwg mae ei fusnes yn ymdrin â SDG 9 (Diwydiant, Arloesi a Seilwaith) yn ogystal ag 8 (Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd), ond mae e hefyd yn cyfrannu at SDG 4 (Addysg o Ansawdd), wedi cydnabod ei bwysigrwydd yn ei achos ei hun.

NeoDynamic neodynamic.co.uk

18

“Rhoddodd fy ngradd yr hyder a’r sgiliau imi roi cynnig arni [hunangyflogaeth]” (Neil Dyer)

Mae Oseng Rees Reflections yn amlwg yn ymdrin â SDG 9 (Diwydiant, Arloesi a Seilwaith), 12 (Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol), 13 (Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd) a 4 (Addysg o Ansawdd).

“Dechreuodd y cyfan gyda syniad...A all poteli gwydr gael eu troi’n rhywbeth hardd?” (Dr Tyra Oseng-Rees) A hithau wedi’i magu yn Norwy’r 1980au, mae “ymwybyddiaeth amgylcheddol, cynildeb, creadigrwydd, annibyniaeth ac empathi am bawb a phopeth” yn hanfodol i Dr Tyra Oseng-Rees, Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe Y Drindod Dewi Sant (erbyn hyn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant). Fel llawer o entrepreneuriaid mae hi’n dod o deulu entrepreneuraidd ac yn 2017 nid oedd yn syndod pan sefydlodd hi ei busnes ei hun sydd eisoes wedi enill gwobrau , sef Oseng-Rees Reflections (osengreesreflection.com). Yr hyn sydd efallai’n syndod yw ei bod wedi gwneud hynny yng Nghymru, lle mae hi wedi byw ac astudio ers 2003. Ar ôl astudio Celf, Crefft a Dylunio yng Ngholeg Bodin, Norwy, a Seicoleg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Bergen, cofrestrodd ar radd Faglor mewn Dylunio Diwydiannol yn Athrofa Addysg Uwch Abertawe. Yn rhan o’i rhaglen radd datblygodd slab pafin o wydr wedi’i ailgylchu ar gyfer pobl ddall. Arweiniodd hyn at ymgymryd ag Ymchwil Ddoethurol ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe (bellach yn rhan o’r Drindod Dewi Sant) i “The Physical and Aesthetic Properties of Fused Recycled Bottle Glass”. Cafodd ei Doethuriaeth yn 2009 ac fe ddechreuodd yrfa ym maes addysg cyn lansio ei busnes uwchgylchu gwydr yn 2017. Ers hynny mae hi a’r busnes wedi mynd ymlaen i ennill nifer o wobrau. Hi oedd Entrepreneur Diwydiannau Creadigol y Flwyddyn yn 2019, enillydd Gwobr Busnesau cynaliadwy yng Ngwobrau’r Academi Gynaliadwy 2019 ac yn derfynwr yn y Great British Entrepreneur Award. Nid oes unrhyw amheuaeth bod ailgylchu gwydr yn elwa’r blaned. Nid yn unig y mae’n gwarchod adnoddau naturiol, tywod, lludw soda a chalchfaen yn arbennig, ond mae hefyd yn arbed ynni ac yn lleihau llygredd atmosfferig. Ynghyd ag arbed lle mewn safleoedd tirlenwi, mae gwydr hefyd yn 100% cynaliadwy oherwydd y gellir ei ailgylchu dro ar ôl tro heb golli purdeb. Mae Tyra yn cydnabod hyn ond fel dylunydd mae ganddi hefyd ddiddordeb nid yn unig mewn ailgylchu’r gwydr yn boteli newydd, fel sy’n draddodiadol, ond mewn datblygu deunydd newydd, cynaliadwy ac aesthetig er mwyn, yn ei geiriau hi, “addysgu pobl ynghylch gwneud dewis cynaliadwy ymwybodol”. Yn yr un modd, mae’r busnes yn gwneud paneli gwydr cynaliadwy â llaw, pob un â

Yn unol â hynny, yn rhan o’i wystl cyfrifoldeb cymdeithasol, nid yn unig y mae’r busnes yn ailgylchu poteli gwydr ond mae’n cynnig hefyd weithdai ar gelfyddydau, gwyddoniaeth, cynaliadwyedd a’r daith entrepreneuraidd, yn ogystal â darlithoedd a sgyrsiau ysgogiadol. Ei genhadaeth yw bod yn driw i ddatblygu cynaliadwy a cheisio cyflawni sero allyriad carbon. Nid yn unig y mae’n ymwneud â thwf economaidd a chreu cyfoeth wrth amddiffyn yr amgylchedd, ond hefyd, llesiant dynol ac ymdrin â materion cymdeithasol a diwylliannol.

19

aml, caiff dysgu “trwy” entrepreneuriaeth fel hyn ei esgeuluso ond mae’n rhywbeth sydd yr un mor bwysig â dysgu “am” ac “ar gyfer” entrepreneuriaeth, sef dau amcan mwy cyffredinol Addysg Entrepreneuriaeth. Mae’n arbennig o berthnasol wrth ddysgu am Gynaliadwyedd, fel y mae’r prosiect hwn wedi’i arddangos, ac yn ôl un rhiant, roedd ei merch wedi cofio toreth o’r hyn a addysgwyd iddi ac roedd hi wedi treulio tua 20 munud yn ei haddysgu hi a’i brawd am wenynau. Nid dim ond mewn ysgolion a gyda phlant ifanc y mae’r dull hwn yn werthfawr. Fel y mae Lackeus (2015) wedi cydnabod, mae addysgu “trwy” entrepreneuriaeth yn berthnasol i bob myfyriwr ar bob lefel ac mae Dr Oseng-Rees wedi defnyddio cynhyrchu gwydr wedi’i ailgylchu ymdoddedig cynaliadwy i weithio gyda myfyrwyr rheolaeth yn eu blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Abertawe yn ymchwilio i’r economi gylchol, ac yn Y Drindod Dewi Sant mae hi wedi datblygu rhaglen rhyngddisgyblaethol i israddedigion (OsengRees et.al 2018) yn cynnwys myfyrwyr peirianneg, celf, gwydr, cadwraeth amgylcheddol, peirianneg fecanyddol a rheolaeth prosiectau ac adeiladu. Ei nod yw dymchwel y meddylfryd seilo ac annog “cydweithio, meddwl hir dymor a chynnwys pob sector” er mwyn hwyluso llesiant cymdeithasol a chymdeithas iach.

osengreesreflection.com

Mae hyn yn cynnwys darparu addysg o ansawdd sy’n cydnabod yr angen i amddiffyn elw, pobl a’r blaned.

Reflections

Oseng-Rees

Foddphensaernïol.mewnolgosodweithiaucynnyrch,gysylltiedigstori’nâ’rargyferabynnag,addysg sydd wrth wraidd y busnes. Yn 2015, cafodd ei gwahodd i gymryd rhan mewn prosiect peilot rhyngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Cornell gyda’r bwriad o ddod â chelf a gwyddoniaeth at ei gilydd er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd pryfaid peillio a’r heriau maent yn eu hwynebu. Mewn gwydr a ailgylchwyd, dyluniodd 6 o’r 24 gwenynen sydd i’w gweld ym Mhrydain a gwahoddodd y cyhoedd nid yn unig i’w hadnabod ond hefyd i brofi eu breuder a’u gwendid. Yn ogystal, fe ddatblygodd brosiect addysgu fel bod plant a phobl ifanc yn Dysgugalluam bryfed peillio a gwenyn a phwysigrwydd eu hamddiffyn Dysgu am ac adfyfyrio ar faterion amgylcheddol ac ailgylchu Cael eu cyflwyno i gysyniad yr economi gylchol, sut y gellir defnyddio gwydr dro ar ôl tro a phwysigrwydd ailgylchuYmarfersgiliau arsylwi a chyd-symud llaw-llygad trwy fraslunio a phaentio Cynnal prosesau dylunio, o gynhyrchu syniadau i gynllunio’r cynnyrch terfynol Datblygu sgiliau mathemategol trwy fesur a phwyso gwydr yn y broses gweithgynhyrchu. Cynhelir y prosiect, sy’n ffocysu ar ddeall y cysylltedd rhwng yr ecosystem a sut y gall penderfyniadau cyfoes gael canlyniadau hir dymor, dros gyfnod o flwyddyn ac fe’i rhennir yn 4 cyfnod. Mae’r dysgwyr Yn arsylwi ar y gwenyn yn eu cynefin naturiol a dysgu amdanynt a’u hamrywiaeth Yn cynllunio , braslunio, paentio a gwneud gwenynen adnabyddadwy. Yn eu cartrefi, yn casglu , glanhau a didoli poteli a chynwysyddion yn ôl eu lliw sydd yna’n cael eu prosesu’n barod ar gyfer ailgylchu Yn defnyddio’r gwydr sydd wedi’i ailgylchu, mowldiau plastig ac offer modelu i wneud eu gwenynen eu hunain.

O 1997-2004 roedd Joe Ashburner yn fyfyriwr ar y BA Dylunio Patrwm Arwyneb ac ar hyn o bryd mae hi’n ymgymryd â Meistr mewn Arloesi Rhyngwladol, Gweithgynhyrchu ac Uwch Beirianneg Ddylunio. Rhwng y ddau beth yma, mae hi wedi ymgymryd â nifer o rolau a chyfrifoldebau, yn cynnwys cyfnod o 12 mlynedd fel Entrepreneur Preswyl a ariannwyd gan Gynulliad Cymru, ac mae hi’n dipyn o entrepreneur cyfresol. Yn 2004, sylfaenodd a datblygodd Noonoo sy’n ystod o ddillad plant a theganau eco, moesegol, cynaliadwy ac organig a werthwyd yn y DU trwy tua 450 manwerthwr a ledled y byd trwy 8 o ddosbarthwyr. Hi oedd Menyw Fusnes y Flwyddyn y DU yn 2006 am ei hymdrechion ym maes gweithgynhyrchu moesegol. Yna, aeth ymlaen i aillansio busnes gwneud baneri’r teulu yn 2011, ar ôl i’w thad ymddeol yn 2008. Felly, ers 2011 hi yw Cyd-sylfaenydd, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Rheolwr Gyfarwyddwr Red Dragon Flagmakers. Mae’r busnes yn dyddio nôl i 1969 pan gwnaeth ei thad, sydd bellach yn Gadeirydd y cwmni, wneud y faner ar gyfer arwisgiad Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon.

“Gwnewch i bawb rydych yn siarad gyda nhw deimlo mai nhw yw’r person pwysicaf i’ch busnes. Mae ewyllys da, caredigrwydd, haelioni, a hiwmor diymhongar yn mynd yn bell”. (Jo Ashburner)

Red Dragon Flagmakers reddragonflagmakers.co.uk

Yn ôl eu gwefan, maent yn “fusnes gwnïo, yn weithgynhyrchwr, yn fusnes cenhadaeth gymdeithasol ac yn BBaCh deinamig a blaengar”. Fodd bynnag, ar wahân i fod yn un o brif wneuthurwyr baneri’r byd, mae ganddynt bolisi gweithgynhyrchu sero gwastraff hirsefydlog yn uwchgylchu ac ailgylchu eu holl dameidiau o ffabrig fel nad yw unrhyw beth yn mynd i dirlenwi. Maent yn allforio eu nwyddau drwy ddefnyddio bagiau a bocsys sydd wedi’u hailgylchu neu becynnu newydd sydd wedi’i ailgylchu, ac yn cyfathrebu’n electronig gan ddefnyddio cyn lleied o bapur a phrint â phosibl. Ar yr un pryd, polisi eu cwmni yw darparu “amgylchedd gwaith lle bydd pobl yn teimlo’n gyfforddus a hyderus y byddant yn cael eu trin gyda pharch ac urddas”. Maent yn dibynnu’n 100% ar refeniw gwerthiannau ac mae eu helw’n mynd i mewn i ddatblygu eu gweithwyr. Dros y 6 mlynedd diwethaf maent wedi hyfforddi a helpu i adsefydlu dros 300 o bobl, gan eu helpu i gyfrannu at yr economi a chymuned leol. Yn ogystal, maent wedi bod yn symud i ffwrdd oddi wrth ddefnyddio defnyddiau polyester o safon diwydiant i ddefnyddio deunyddiau bioddiraddadwy fel lliain a chotwm, am ei fod yn “llesteirio’r union greadigrwydd sy’n ein gwneud yn wneuthurwr baneri llwyddiannus”. Ddim yn fodlon ar hyn, ers 2008 hi yw sylfaenydd a phrif ddatblygwr Roof Coatbag, sydd â’r genhadaeth o fod yn barth diogel i’r rheiny sy’n sownd yn y cylch digartrefedd. Mae ei gynnyrch yn ddilledyn sy’n gallu achub bywydau, am ei fod yn gwrthsefyll trywaniadau, tân a dŵr ac mae’n gynnes hyd yn oed pan fo’n rhewi. Mae sach gysgu’n rhan integredig ohono a phan nad yw’n cael ei ddefnyddio gellir ei bacio i mewn i fag symudol ysgafn. Mae ganddo warant oes ac i rywun digartref, mae’n darparu cynhesrwydd, lloches a diogelwch.

20

Er bod Roof Coatbag yn fenter gymdeithasol, mae Red Dragon yn Fenter Gytgord sy’n integreiddio menter economaidd, eco, dyngarol a chymdeithasol. Mae’n ymdrin â SDG 8 (Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd), 9 (Diwydiant, Arloesi a Seilwaith), 11 (Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy), 12 (Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol), 13 (Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd), ac 15 (Bywyd ar y Tir). Hefyd, mae’n datblygu partneriaethau gyda’i gwsmeriaid a chyflenwyr busnesau bach lleol ac mewn partneriaeth gyda gweithgynhyrchwyr eraill o Gymru i adfywio gweithgynhyrchu tecstilau yng Nghymru. Felly, mae’n ymdrin hefyd â SDG 17 (Partneriaethau ar gyfer y Nodau).

21 Sculpture by the Sea UK Ltd. Art and Education by the Sea artandeducationbythesea.co.uk

Felly, penderfynodd lansio fusnes aml-wynebog sy’n ymdrin â materion economaidd, eco a chymdeithasol mewn ffordd gytgord, gan ddefnyddio’r traethau a rhywogaethau morol mewn perygl i helpu pobl ddysgu am yr amgylchedd morol mewn ffordd sy’n cynhyrchu empathi ac yn helpu i’w hamddiffyn a’u Mae’rcynnal.busnes, sy’n gweithredu drwy gydol y flwyddyn, yn cynnig gweithdai llawn hwyl ar gyfer pob grŵp oedran. Bydd y cyfranogion yn dysgu yn yr awyr iach yn ginesthetig, ac felly’n gwella eu hiechyd a’u llesiant emosiynol yn ogystal â’u datblygiad moesegol ac ysbrydol. Nod y cyrsiau yw addysgu’r cyfranogion ynghylch deunyddiau cynaliadwy (wedi’i dyfu, ei ffeindio a’i ailgylchu) ac i’w hysbrydoli i werthfawrogi natur. Yn ôl Sara mae eu gwaith yn annog “plant a phobl ifanc i fod yn ddinasyddion gweithredol a hyrwyddo datblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang yn ogystal ag annog dysgu gydol oes”. Er bod eu gweithdai’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm Cendlaethol, nid dim ond adnodd addysgol yw “Sculpture by the Sea UK”. Mae ei weithwyr yn artistiaid hyfforddedig sydd â phrofiad helaeth o weithio mewn lleoliadau naturiol ar brosiectau Celf Amgylcheddol proffil uchel. Mae’r rhain yn cynnwys Gŵyl Cerflunio Traeth flynyddol a llwybr cerfluniau ar hyd llwybr yr arfordir yn cysylltu 5 bae ar benrhyn godidog Gŵyr. Nid yn unig y mae’n arddangos Celf Gymreig gyfoes mewn ffordd anturus, ysbrydoledig, ond mae’n annog ffyrdd o fyw actif ac yn denu ecodwristiaeth. Yn yr un modd, mae wedi derbyn nawdd gan Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio annog syniadau newydd ac arloesol ar gyfer cynnyrch. Yn 2018, roedd yn rownd derfynol Gwobrau Lletygrwch Cymru, sy’n ceisio arddangos “yr unigolion hynny sy’n gweithio’n ddiflino i gyflawni llwyddiant sy’n arwain y diwydiant a boddhad cleientiaid wrth hyrwyddo rhagoriaeth yn y sector lletygarwch”. Yn amlwg mae “Sculpture by the Sea UK” yn fenter gynaliadwy sy’n ymdrin â SDG 4 (Addysg o Ansawdd), 3 (Iechyd a Llesiant Da), 8 (Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd), 9 (Diwydiant, Arloesi a Seilwaith), 14 (Bywyd o dan y Dŵr), 15 (Bywyd ar y Tir) ac mae’n fusnes sydd mewn harmoni â phobl a’r amgylchedd. Fel y dywed Sara “Rwy’n cael fy nghymell i fyw, ac i annog eraill i fyd, bywyd cynaliadwy sy’n helpu i warchod y blaned yn hytrach na’i disbyddu. Fy ngweledigaeth ar gyfer y cwmni yw y bydd pobl, trwy ein gweithdai, yn cael eu hysbrydoli a meddu ar y wybodaeth a’r offer creadigol i sylweddoli y gallant wneud gwahaniaeth...”

Sefydlwyd “Sculpture by the Sea UK” yn 2005 gan Sara Holden, a raddiodd o raglen radd Meistr Y Drindod Dewi Sant mewn Menter Celfyddydau Gweledol. Ar ô graddio gyda gradd mewn Celf Gain, fel cymaint o’i chymheiriaid, aeth i weithio ar ei liwt ei hun, gan redeg gweithdai Celf, yn ei hachos hi, ar gyfer ysgolion a chymunedau. Rhoddodd y radd Meistr iddi’r wybodaeth a’r hyder i ddatblygu’r fenter, i gydweithio gydag artistiaid eraill a gweithio ar raddfa fwy. Fel y mae hi ei hun yn dweud fe “roddodd i mi’r rhyddid i ddylunio fy mhrosiectau fy hun gyda’r nodau ac amcanion roedd arna’i eisiau eu cyflawni yn hytrach na gweithio ar syniadau pobl eraill”. Wedi bod yn angerddol ynghylch natur a chelf ers bod yn blentyn, a sefydlodd “Sculpture by the Sea UK” gyda’r amcan o ysbrydoli plant a chymunedau drwy eu hymgysylltu â natur trwy gyfrwng celf, gan helpu i’w amddiffyn a’i gynnal ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Gan ei bod yn byw wrth y môr ac yn defnyddio hynny’n ysbrydoliaeth ar gyfer celf, gwelodd draethau Cymru fel y lle perffaith i gynnal gweithdai. Wrth weithio mewn ysgolion gwelodd bod cynnal sesiynau ar dir yr ysgol, yn hytrach nag mewn ystafelloedd dosbarth traddodiadol, nid yn nig yn elwa’r plant o ran eu llesiant a’u creadigrwydd, ond hefyd byd natur.

“Mae’r Drindod Dewi Sant wedi edrych ar bob agwedd ar redeg busnes creadigol o farchnata i wneud celf ac mae wedi cynllunio cyrsiau sy’n wirioneddol ddefnyddiol i fyfyrwyr” (Sara Holden)

“Mae syrffio’n ffordd i fod yn rhydd” (Lisa Anderson, Pencampwr Syrffio’r Byd 4 gwaith, 1994-1997).

Graddiodd Ben(edict) Room o Brifysgol Fetropolitan Abertawe yn 2006. Mae’n ffanatig am syrffio a mynydd-fyrddio ac yn entrepreneur cyfresol. Yn 2008, sefydlodd ei fusnes cyntaf, Board Riding Development, ym mhenrhyn Gŵyr godidog a’i ail, Surfability UK, yn 2013 gyda dau gydweithiwr, Ben Clifford a Toby Williams. Mae’r busnes cyntaf yn fenter fasnachol sy’n ymroi i hyrwyddo mynydd-fyrddio yn ddiogel, ac mae’r ail yn gwmni buddiannau cymunedol sy’n darparu gwersi syrffio a phrofiadau i bobl ag anghenion ychwanegol o ganlyniad i anabledd, salwch neu anableddau dysgu. Ben yw ei Reolwr Marchnata ac mae’n hyfforddwr ac yn un o’i dri Chyfarwyddwr. Eu nod yw “cyfuno arfer gorau o addysg arbennigm gofal iechyd, syrffio ac achub bywydau i wneud syrffio mor gynhwysol â phosibl”. Maent yn darparu gwersi syrffio drwy gydol y flwyddyn ond yn y gaeaf, maent hefyd yn darparu gwesri sglefrfyrddio i’r rheiny y mae môr y gaeaf yn rhy oer. Ar ôl dechrau’n ysgol syrffio fach o gefn car, mae Surfability bellach yn un o ysgolion syrffio addasol mwyaf blaenllaw’r byd. Nid yn unig y mae’n galluogi’r rheiny ag anghenion arbennig i gael profiad saff a difyr sy’n gallu eu rhyddhau a hybu eu hunanhyder, ond mae’n arloesi datblygiad citiau ac offer newydd. I’r rheiny nad ydynt yn gallu eistedd heb gymorth maent wedi datblygu, mewn partneriaeth â’r Drindod Dewi Sant, bwrdd syrffio tandem eisteddog cyntaf y DU,ac maent hefyd yn datblygu bwrdd corff newydd ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn a siwtiau gwlyb hawdd i ddefnyddio. Mae’r busnes, a enillodd Wobr Cymuned TSB yng Ngwobrau Pride of britain 2019, yn cyflogi 4 hyfforddwr a 30 gwirfoddolwr. Mae hyn yn helpu i gadw costau’n isel a’r ffi hyfforddi ar gyfer pob sesiwn yn £10 yn unig. Er bod Surfability yn cefnogi dros 500 o bobl, ac mae’r galw’n tyfu gan gynnwys archebion o dramor, mae codi arian yn her. Fodd bynnag, mae incwm drwy ddatblygu cynhyrchion newydd yn lleihau eu dibyniaeth ar gyfraniadau ac yn eu helpu i dyfu’r busnes, a fydd hefyd yn wir am eu cynllun i lunio partneriaeth gyda sefydliadau sy’n ymdrin ag anafiadau corfforol.

22 Surfability surfabilityukcic.org

Ar wahân i’w ddau fusnes, mae Ben yn dod o hyd i amser i “roi nôl”. Ers 2010 mae e wedi bod yn fodel rôl i Syniadau Mawr Cymru, Ymgynghorydd Cymorth Busnes ym Mhrifysgol Abertawe a Chydlynydd Entrepreneuriaeth Menter yn Y Drindod Dewi Sant. Wrth siarad ar ôl profiad diweddar yn mentora myfyrwyr cyfrifiadura yn Y Drindod Dewi Sant, dywedodd ei fod yn brofiad gwych gan fod y myfyrwyr yn “broffesiynol, cwrtais ac yn parchu fy amser. Roedd y math o sgiliau y gallent eu cynnig yn arloesol ac yn chwa o awel iach”. Felly, nid yn unig bod y dysgu’n un ffordd ac yn nodweddiadol ohono ef mae e’n hapus i gydweithredu ymhellach y flwyddyn nesaf. Yn amlwg mae Ben a Surfability yn ymdrin â SDG 10 (Lleihau Anghydraddoldeb) a 3 (Iechyd a Llesiant Da) yn ogystal â 4 (Addysg o Ansawdd) ond maent hefyd yn cyfrannu at SDG 9 (Diwydiant, Arloesi a Seilwaith).

VIP Wales vipwales.co.uk

“Nid yw’r pethau mwyaf hyfryd yn y byd yn weladwy nac yn gyffyrddadwy- rhaid eu teimlo gyda’r galon” (Helen Keller, 1880-1968).

Sefydlwyd VIP Wales yn 2018 gan Ewan Rees, un o raddedigion Rheolaeth Hamdden Y Drindod Dewi Sant. Mae’n darparu gwyliau cerdded hunandywysedig, tywysedig a phwrpasol ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru. Ei genhadaeth yw rhoi i’w gleientiaid y “mewnolwg, hyder a rhyddid i ddarganfod y gorau oll o arfordir a gwlad y wlad”. Eu blaenoriaeth yw galluogi eu cleientiaid i arafu, ymlacio a mwynhau eu hantur cerdded. I wneud hynny, maent yn talu sylw i bob manylyn yn cynnwysCynllunio

llwybr sy’n ystyried diddordebau a gallu’r cleient Dethol llety dibynadwy sy’n bodloni anghenion y cleient Ymdrin â throsglwyddo bagiau Bod ar alwad 24/7. VIP Wales yw gweledigaeth Ewan a Laura, sy’n dîm gŵr a gwraig. Daw Ewan, sy’n medru’r Gymraeg, o Sir Benfro. Mae’n adnabod yr ardal yn eithriadol o dda, yn rhannol am iddo fod yn Barcmon ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Fodd bynnag, mae wedi teithio’r byd yn gweithio mewn rolau rheoli yn y diwydiant lletygarwch yn trefnu a rhedeg digwyddiadau corfforoaethol mawr a digwyddadau chwaraeon o’r radd flaenaf. Bu iddo gwrdd â Laura, a fagwyd yn y Cotswolds yn Lloegr, trwy’r diwydiant lletygarwch ac er eu bod wedi teithio’n helaeth gwnaethant penderfynu dychwelyd i Sir Benfor i fagu eu plant (dau o fechgyn).

23

Ar ôl dychwelyd i Gymru, ymgymerodd Ewan â’r rôl Rheolwr Cyffredinol yn un o brif westai arfordir Sir Benfro a chyn bo’n hir daeth yn ymwybodol bod llawer o gerddwyr yn cadw lle gyda’r cwmnïau cerdded mwy, adnabyddus, nad oedd yr un ohonynt wedi’u lleoli yn Sir Benfro – na Chymru hyd yn oed. Wrth siarad gyda gwesteion fe ddarganfu’n fuan eu bod yn meddwl bod llwybr yr arfordir yn odidog, ond eu bod yn ei chael yn anodd ac roedd llawer yn gadael heb ddarganfod rhyw lawer, os unrhyw beth, am hanes a diwylliant gyfoethog y wlad, a’r tirluniau i ffwrdd o’r arfordir. O ganlyniad i’r sgyrsiau hyn y ganed VIP Wales – yn cynnig gwyliau wedi’u teilwra sy’n manteisio ar gyfoeth o wybodaeth a chysylltiadau lleol. Yn y busnes, mae Ewan yn goruchwylio bywyd dydd i ddydd VIP Wales ac mae’n cael pleser mawr o deilwra amserlenni, tywys teithiau cerdded a rhannu ei wybodaeth leol o Sir Benfro gyda’i gleientiaid, ac mae Laura yn gyfrifol am yr archebion a’r gwaith gweinyddol, er ei bod yn dywysydd arwain llawr gwlad ac yn cael pleser mawr o ddarparu teithiau lleol a rhannu Sir Benfro gyda’u gwesteion. Yn eu hamser hamdden, mae’r ddau’n mwynhau cerdded ac archiwlio llwybrau newydd gyda’i gilydd a gyda’u bechgyn. Naill ai hynny neu rwyfo cwch hir Celtaidd os yw’r tywydd yn ddigon braf. Yn amlwg mae VIP Wales yn ymdrin â SDG 8 (Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd), 11 (Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy), 13 (Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd), 15 (Bywyd ar y Tir) a 3 (Iechyd a Llesiant Da)” “Heicio gwych ar hyd clogwyni Parc Cenedlaethol Sir Benfro. Roedd Ewan yn dywysydd gwych wrth i ni fynd ar ein cyflymdra ein hunain ar hyd y llwybr creigiog. Adroddodd Ewan lawer o hanes yr ardal wrthym a wnaeth y daith yn addysgol iawn hefyd. Profiad anhygoel!!!!” (Jim S. Hydref, 2021).

pe na bai e wedi teithio’r byd, wedi byw yn Hong Kong a chael profiad o’r diwydiant ffasiwn cyflym, efallai na fyddai “wedi bod yn ddigon dewr i gymryd y cam hwnnw a dechrau dau fusnes” ei hun. Ar wahân i ymdrin â SDG 8 (Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd), mae Wear London yn ymdrin â SDG 9 (Diwydiant, Arloesi a Seilwaith), 12 (Defnyddio a chynhyrchu’n gyfrifol) yn ogystal ag 13 (Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd). Fel y maent yn honi, mae’r busnes wir yn “Frand Prydeinig gydag uniondeb”. Wear London wear-london.co.uk

24 “Rydym yn treulio llawer o’r diwrnodau gwaith yn chwilio am ffabrigau arloesol newydd a dod â’n siacedi a grefftir yn ofalus yn fyw” (Alex Hayes) Mae Alex Hayes, a raddiodd o’r Drindod Dewi Sant yn 2005 gyda BA mewn Twristiaeth, Digwyddiadua a Hamdden, yn angerddol am ffasiwn dynion. Yn syth ar ôl graddio aeth i warbacio o gwmpas y byd am flwyddyn a chafodd swydd yn Hong Kong yn y sector gweithgynhyrchu a dosbarthu dillad. Yna, fe ddysgodd am swp-weithgynhyrchu dillad ym Mangladesh, Tsieina a Vietnam o ganlyniad i ymweld â ffatrïoedd yn rhinwedd ei swydd. O 2007-2017 cafodd ei gyflogi gan M.A.Y Trading (UK) Ltd., cyflenwr dillad i labeli’r stryd fawr fel Next, Primark a Topman. Cafodd y cwmni ei brynu ac ym mis Medi 2017, fe a’i gadawodd oherwydd “doedd o jyst ddim yn siwtio’r broses greadigol roedd arnom ei hangen i ddatblygu a gofalu am ein cwsmeriaid yn iawn”. Yna, lansiodd Concept Asia Resources Ltd., cwmni Hong Kong preifat sy’n arbenigo mewn gweithgynhyrchu dillad uchaf yn Tsieina a’r DU. Mae’n cyflenwi cwmnïau fel ASOS, Amazon, French Connection, Jack Wills, White Stuff ayb., ac er eu bod yn dod yn fwyfwy ymwybodol o’u hangen i leihau eu hôl-troed carbon ar yr amgylchedd, penderfynodd ef a’i bartner busnes, Matthew (Matt) Lea, sydd hefyd yn angerddol am ffasiwn, lansio eu busnes dillad cynaliadwy ansawdd uchel eu hunain. O ganlyniad, ym mis Medi 2020, ganed Wear London. Busnes dylunio, gweithgynhyrchu a manwerthu dillad dynion yw hwn, â’r nod o ddod â gweithgynhyrchu dillad nôl i’r DU mewn ffordd gynaliadwy, “un pwyth ar y tro”. Maent yn chwilio am y defnyddiau gorau o’r DU ac Ewrop, yr Eidal yn bennaf, ac yn gweithio a meithrin perthynas gyda’u gweithgynhyrchydd lleol yn Nwyrain Llundain. Mae hyn yn eu galluogi i gael gwared ar y dynion canol, lleihau hyd y gadwyn gyflenwi a chynhyrchu cynnyrch o ansawdd heb ôl-troed carbon mawr. Maent yn gwerthu eu dillad ar-lein (www. Wear-London.co.uk) a thrwy fanwerthwyr sefydledig fel Wolf and Badger (www. wolfandbadger.com), Marchnadle B Corp sydd â’r nod o gyflwyno ei gwsmeriaid i gynhyrchion cynaliadwy cynhyrchiad cyfyngedig a gynhyrchir gan frandiau annibynnol. Fodd bynnag, ers y pandemig Covid-19 a thranc manwerthu ar y stryd fawr, mae hefyd wedi agor tri allfa dros dro, dau yn Llundain (ym Marchnad Broadway a Commercial Street) ac un yng Nghaerdydd (Canolfan Siopa Dewi Sant). Er bod sefydlu a rheoli ei fusnes ei hun wedi bod yn freuddwyd ganddo erioed, mae’n credu

25 Dros y blynyddoedd mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ei chefnogaeth i addysg Entrepreneuraidd, ac mae’n awyddus hefyd i ymdrin â’r Her Cynaliadwyedd, fel y gall y wlad ddod yn economi Cylchol o’r radd flaenaf. Yn unol â hynny, bwriad y brifysgol yw gweithio’n agos gyda’r Llywodraeth a gwahanol gyrff y sector preifat a’r sector cyhoeddus sy’n llunio ecosystem entrepreneuriaeth y wlad i hyrwyddo diwylliant fenter a chreu Mentrau Cytgord brodorol sydd â gwaelodlin triphlyg sef Elw, pobl a’r blaned. Bydd y rhain yn helpu i ddatblygu’r economi ac yn ymdrin â phroblemau amddifadedd trefol a gwledig sy’n dal i fodoli, ar yr un pryd â pheidio a pheri niwed i’r blaned, fel sydd wedi digwydd o’r blaen pan oedd y pwyslais ar greu cyfoeth a chynhyrchu swyddi. Er y bydd yr Athrofa Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol a’r ‘Harmonious Entrepreneurship Society’ newydd yn parhau i gyfrannu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol at ddatblygiad entrepreneuriaethacademaiddtrwyeucyfraniadau ymchwil (Kirby, 2022, Kirby ac El-Kaffass, 2022 a Kirby, et al. 2022, Penaluna, et. al. 2022) byddant hefyd yn cyfrannu’n fwy lleol at yr agenda menter domestig trwy gymhwyso eu hymchwil a’u haddysgu Ym mis Tachwedd 2021 cafodd yr Athro Kirby ei benodi yn Athro Ymarfer Anrhydeddus yn y Brifysgol a’r bwriad yw y bydd y Gymdeithas, yn arbennig, yn gweithio’n agos gyda Chanolfan Cydnerthedd a Harmoni Cymru a lansiwyd yn ddiweddar. Mae’r Ganolfan wedi’i lleoli yng Nghampws Llambed y Brifysgol, a’i nod yw:Darparu hyfforddiant a phrofiadau ymarferol mewn meysydd sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd ac yn ceisio lleddfu ei effeithiau. Grymuso a chefnogi cymuned ac economi Llambed a’r cymunedau cyfagos. Ymateb i’r galw am hyfforddiant cydnerthedd mewn disgyblaethau fel amaethyddiaeth, garddwriaeth, ynni ac Cyfrannuadeiladu.ar wireddu nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Fel y cydnabyddodd George Orwell (1903-1950)

“Who controls the past controls the future. Who controls the present controls the past”.

Kath Penaluna, “Gyda chwrs ar-lein newydd o’r radd flaenaf ar fin dechrau wedi’i seilio ar arbenigedd ym maes gemau a phrofiad busnes un o aelodau ein tîm, ynghyd â’r ffaith fod bellach angen i holl bynciau Prifysgolion y DU ymgorffori Mentergarwch a Chynaliadwyedd wrth ysgrifennu eu Datganiad Meincnodi Pwnc QAA cyfoethogi ansawdd, mae rôl a statws ARDEC yn parhau i dyfu. Bydd llyfr newydd â golygydd ar gyfer addysgwyr yn cael ei ryddhau gennym y mis yma ac wrth i ni feddwl am ein cyraeddiadau ers i’r Is-ganghellor ein gwahodd i ddatblygu ARDEC rhyw wyth mlynedd yn ôl, dydw i ddim yn meddwl y byddai unrhyw un wedi rhagweld yr effaith y byddem yn ei chael.” Mae llawer gan dîm Y Drindod i’w wneud o hyd, ond mae cydnabyddiaeth diweddar cyrhaeddiad Oes Yr Athro Kirby yn y Gwobrau Triple E, ynghyd â chyflwyniad o’r gwaith a gyflawnwyd hyd yma i ddathlu’r daucanmlwyddiant, wedi arwain at gydnabod y Brifysgol fel Enillwyr Gwobr Prifysgol Entrepreneuraidd Ewropeaidd y Flwyddyn. Wrth dderbyn y wobr yn Florence, roedd Kath Penaluna yn awyddus i gydnabod y ffordd y mae’r Drindod wedi ymdrechu’n barhaus i gefnogi ffyrdd o feddwl entrepreneuraidd ar holl lefelau polisi ac arfer, ac mae’r stori’n parhau.

Y Dyfodol: Rôl Y Drindod Dewi Sant

yng

Nghymru ac yn Rhyngwladol.

Tua 40 mlynedd ers cyflwyno addysg entrepreneuriaeth i Gymru gan Goleg Prifysgol Dewi Sant, mae hyn yn ddatblygiad pwysig i’r Brifysgol, y dref a’r wlad, yn arbennig yn ystod daucanmlwyddiant sefydlu coleg prifysgol yn Llambed.

Yn y cyfamser, bydd Y Drindod Dewi Sant, ei myfyrwyr a’r ‘Harmonious Entrepreneurship Society’ yn parhau i ddylanwadu ar yr agenda rhyngwladol trwy eu gweithgareddau addysgu, ymchwil, cyhoeddiadau a thrwy gymryd rhan mewn cynadleddau yn ogystal â’u harferion cynghorol ac ymgynghori. Hefyd, yn y flwyddyn academaidd 2022/23 byddant yn trefnu cystadleuaeth Myfyriwr Entrepreneuriaeth Cytgord ar-lein ryngwladol sydd wedi’i phrofi ar gyfer beta rhwng timau o fyfyrwyr o’r Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Malaia – Cymru. Nid yn unig y bydd hyn yn cyflwyno myfyrwyr a staff i gysyniad Entrepreneuriaeth Cytgord ond fe fydd hefyd yn arwain at greu ansawdd, mentrau dan arweiniad myfyrwyr sy’n ymdrin â’r Her Cynaliadwyedd a sicrhau bod Elw, Planed a Phobl mewn Cytgord.

Wrth edrych i’r dyfodol, mae Athro Emeritws ARDEC, Andy Penaluna, yr un mor bositif. “Unwaith, dywedodd cyn-fyfyriwr entrepreneuraidd wrth fy myfyrwyr, ‘Nid pwy rydych chi’n ei adnabod sy’n bwysig, ond pwy sy’n eich adnabod chi’”. Gan fod ARDEC bellach yn enwog am arweinyddiaeth meddwl ledled y byd, ynghyd â’r ffaith ein bod yn dysgu’n barhaus gan y rheiny rydym yn gweithio gyda nhw, rydym yn parhau i fod ar reng flaen addysg entrepreneuraidd. Wrth ysgrifennu’r erthygl hon, rydym wedi derbyn cais i ddatblygu cymorth arweinyddiaeth ar gyfer Rheithoriaid ac Is-gangellorion mewn gwledydd Ibero-Americanaidd, ac wedi rhoi cyngor i brosiect cynaliadwyedd a mentergarwch ar y cyd i gydweithwyr Prifysgolion Gwyddor Bywyd ar draws Ewrop. Mae arbenigwyr o wledydd mor bell i ffwrdd ag Awstralia a’r Balcanau wedi gofyn am ein cefnogaeth ac yn agosach at adref rydym wedi bod yn rhoi cyngor i’r Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Entrepreneuriaeth yn ogystal ag i’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ni ein hunain yma yng Nghymru. Hefyd, mae AdvanceHE, yr arbenigwyr dysgu ac addysgu Prifysgolion, wedi galw ar ein Ychwanegoddharbenigedd.”

Krueger, N. (2021), From Insturctor to Educators, from Pupils to Learners: An Entreprenership Education Manifesto. https://issuu.com/aymanelt/ Lackeus,docs/magazine-anniversary-0512/s/12407864M.,(2015),EntrepreneurshipinEducation:what, Why, When and How. OECD.

Moberg, K. (2020), An Epic Literature Review – prepared for the EU/OECD Evaluation of Entrepreneurship Education Programmes in Higher Education Institutions and Centres (EPIC Project) Demark: Fonden for entreprenørskab. Mugione F., Penaluna A. (2018), Developing and Evaluating Enhanced Innovative Thinking Skills in Learners. In: James J., Preece J., ValdésCotera R. (eds) Entrepreneurial Learning City Regions. Springer, Cham. https://doi.org/10.1007/978-3-319-61130-3_7 Oseng-Rees, T., Standen, I., Ferris-Papi, J. (2018), An interdisciplinary project using recycled glass as an aesthetically pleasing architectural material. University of Salford Institutional Repository - USIR ( Https://user.ac.uk/id/eprint/57309/).

Penaluna, A. and Penaluna, K. (2015), Entrepreneurial Education in Practice, Part, 2 – Building Motivations and Competencies, Entrepreneurship 360 Thematic Paper, Organisation for Economic Co-operation and Development (OECD, LEED Programme) and the European Commission (DG Education and Culture). Available on-line http://www.qaa.ac.uk/en/Publications/Documents/Enterprise-and-entrpreneurship-education-2018.pdf.AgencyQAAMacedoniaPenaluna,EntrepreneurshipPenaluna,R0=39f3f2062b1dd5db8e5a6467c07391f9cwL000000000000000070256d58ffff00000000000000000000000000005a89cbe6008e223a8b.http://www.oecd.org/cfe/leed/Entrepreneurial-Education-Practice-pt2.pdf?TSPD_101_K,Jones,CandPenalunaA.,(2022),HowtoDevelopEntrepreneurialGraduates,IdeasandVentures:DesigninganImaginativeProgram.EdwardElgar,CheltenhamUK,Northampton,MA,USAA,Penaluna,KandPolenakovik,R(2020),‘Developingentrepreneurialeducationinnationalschoolcurricula:lessonsfromNorthandWales’,EntrepreneurshipEducation.3:245-263Availableon-line,https://doi.org/10.1007/s41959-020-00038-0.(2018),EnterpriseandEntrepreneurshipEducation:GuidanceforUKHigherEducationProviders.Gloucester:TheQualityAssuranceforHigherEducation,Availableon-line,

Anderson, S., Culkin, N., Penaluna, A. and Smith, K. (2014), An Education System for an Entrepreneur. London: All Party Parliamentary Group for Micro Beveridge,BusinessesL.(2001), Cambridge Entrepreneurs in the Business of Technology. Granta Editions. Borzaga, C., and Defourny, J. (2001). The Emergence of Social Enterprise. Abingdon: Routledge.

Kirby, DA., El-Kaffass, I and Healey-Benson, F. (2022), “Integrating Harmonious Entrepreneurship into the curriculum: Addressing the Sustainability Grand Challenge”. In Gamage, K., and Gunawardhana, N (Eds), “The Wiley Handbook of Sustainability in Higher Education Learning and Teaching” Wiley Blackwell.

HRH The Prince of Wales, Juniper, T., and Skelly, I., (2010), Harmony: a new way of looking at our world. London: HarperCollins. Jónsdóttir and Weicht (2021) Education for Social Change: The Case of Teacher Education in Wales. Sustainability 2021, 13(15),8574; https://doi. Kainrath,org/10.3390/su13158574D.(2011).Ecopreneurship

in theory and practice: A proposed emerging framework for ecopreneurship. Lambert Academic Publishing.

Kirby, D.A. (2003), Entrepreneurship. Maidenhead: McGraw-Hill.

Kirby, D.A., (2022) Developing the Harmonious Venture: a new approach to Sustainability. In Penaluna, K, Jones, C and Penaluna A., (Eds), How to Develop Entrepreneurial Graduates, Ideas and Ventures: Designing an Imaginative Entrepreneurship Program. Edward Elgar, Cheltenham UK, Northampton, MA, USA Kirby, D.A. and El-Kaffass, I. (2021) Harmonious entrepreneurship- a new approach to the challenge of global sustainability The World Journal of Entrepreneurship, Management and Sustainable Development.17(4), 846-855. First online 12th July.(https://doi.org/10.1108/ Kirby,WJEMSD-09-2020-0126)D.A.andEl-Kaffass, I (2022), The Characteristics of a green, innovative and transformational entrepreneurs; an example of transformative entrepreneurship in an efficiency—driven economy. The International Journal of Technological Learning, Innovation and Development.14 (1/2), June. ( with Iman El-Kaffass).

Kim, K., El Tarabishy, A., and Bae, Z., (2018), Humane entrepreneurship: How focusing on people can drive a new era of wealth and quality job creation in a sustainable world. Journal of Small Business Management. 56(sup.1),10-29.

Cyfeiriadau

26

Kirby, D.A. (2004), Entrepreneurship Education: can business schools meet the challenge? Education and Training 46, 8/9 510-519.

Birch, D., (1979), The Job Generation Process. Massachusetts: MIT Program on Neighbourhood and Regional Change European Commission (2008), Entrepreneurship in higher education, especially within non-business studies: Final report of the Expert Group. Brussels: The Commission Hague, D. and Homes, C., (2006), Oxford Entrepreneurs. The Council for Industry in Higher Education.

27

O 2007-2017 yr Athro Kirby oedd Deon sylfaenu ac Is-lywydd y Brifysgol Brydeinig yn yr Aifft, ac yn rhinwedd y swydd hon cyflwynodd addysg entrepreneuraidd

Ynglŷn â’r Awduron

i’r brifysgol a’r wlad. Cyn hyn, roedd wedi arloesi addysgu entrepreneuriaeth yn y DU ac yn rhyngwladol ac ef oedd â Chadair Entrepreneuriaeth gyntaf y DU yn Ysgol Fusnes Prifysgol Durham o 1988-1996. Ym Mhrifysgol Surrey, nid yn unig y gwnaeth gyflwyno rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig arloesol newydd ond hefyd y dehorydd SETsquared cyntaf ar Barc Ymchwil Surrey. Mae’n meddu ar Gadair Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Rheolaeth Almaty yn Kazakhstan a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac ef yw cyd-sylfaenydd (gyda Felicity Healey-Benson) yr ‘Harmonious Entrepreneurship Society’. Mae wedi cyhoeddi 160 erthygl cyfnodolion ac 18 llyfr a monograff ymchwil, yn cynnwys “Entrepreneurship” (McGraw-Hill, 2003). Yn 2006, derbyniodd Gwobr y Frenhines am Hybu Mentro. Dr Kathryn Penaluna, MA., MBA Mae Kath yn Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yn bennaeth yr Athrofa Ryngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol. Yn Rheolwr Menter y Brifysgol, daeth ei gwaith yn 1af yng Nghymru ac yn 2il yn y DU am gyfradd goroesi busnesau newydd myfyrwyr. Yn Eiriolwr Menter Llywodraeth Cymru, helpodd i ddatblygu’r modiwl hyfforddi athrawon achrededig cyntaf ar gyfer entrepreneuriaeth yng Nghymru. Mae profiad Kath yn ymestyn i waith polisi uwch, yn cynnwys adolygiadau ymchwil ar gyfer y Cenhedloedd Unedig ar entrepreneuriaeth fenywaidd. Yn siaradwr gwadd rheolaidd, yn cynnwys Senedd Ewrop yn Strasbourg, mae hi wedi cyd-awduro dros 60 o bapurau a chyflwyniadau academaidd, yn cynnwys cynigion ymarfer a pholisi a gyhoeddwyd gan yr OECD Mrs Felicity Healey-Benson BSc, TAR, MSc, MBA Mae Felicity yn ymgeisydd doethurol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yn Eiriolwr Dysgu Entrepreneuraidd yn yr Athrofa Ryngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol. Mae hi’n aelod o Grŵp Llywio EntreCompEdu Erasmus+, sydd â’r nod o ddatblygu sgiliau addysg entrepreneuraidd athrawon trwy DPP ar-lein mynediad byd-eang wedi’i danategu gan Fframwaith Cymhwysedd Entrepreneuriaeth Ewrop. Mae hi’n angerddol ynghylch cynaliadwyedd a hi yw cydsylfaenydd yr ‘Harmonious Entrepreneurship Society’. Mae’n ysgrifennwr ac yn entrepreneur academaidd sydd wedi sylfaenu ‘EmergentThinkers.com’, a ‘Pirates in Education’, sy’n adnabod a rhannu arferion addysgol a busnes newydd i hyrwyddo cynaliadwyedd a chefnogi datblygiad economaidd a chymdeithasol ehangach. Cyfrannodd at, a chefnogodd olygu, lyfr 2019 Mr Tay Kay Luan, ‘Applying Sustainability: Principles & Practices’. Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhifyn arbennig o Adolygiad Busnes De Cymru ISSN 2049-5544, Cyfrol 9, rhifyn 1. Golygydd: Dr Kathryn Penaluna, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Yr Athro David A Kirby, BA., Ph.D, FHEA, FIBC., FRSA

28 www.pcydds.ac.uk

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.