cylchlythyr/hydref hydref/gaeaf 2021
eich cymorth Mae cefnogwyr Tŷ Hafan wedi bod allan yn llu yn codi arian i’r elusen dros y misoedd diwethaf. Yn ôl yr arfer, ni fu unrhyw brinder o greadigrwydd na phenderfyniad pan ddaw i ddewis her codi arian. Mae’n amhosibl cynnwys popeth sydd wedi tynnu ein sylw, ond rydym yn gobeithio eich bod yn sylweddoli faint mae pob un ohonoch sy’n rhoi amser ac ymdrech i’n cynorthwyo yn ei olygu i bawb sy’n gysylltiedig â Tŷ Hafan.
cadw pethau’n glasurol Mae Dave yn cofio arosiadau Callum yn Tŷ Hafan: “Fy mab Callum oedd un o’r cyntaf i fod yn ddigon lwcus cael mwynhau’r cyfleusterau sydd ar gael yn Tŷ Hafan. Cawsom i gyd groeso mawr ac yn fuan roedd Callum yn dechrau aros ar ei ben ei hun gan ein bod ni fel rhieni yn difetha ei hwyl. Cafodd rai amseroedd gwych yno gyda’r ffrindiau lawer iddo eu gwneud yno.” Mae Dave wedi chwalu ei darged o £1,500 ac wedi cyrraedd swm anhygoel o £1,818. Llongyfarchiadau gan bob un ohonom ni.
emily yn cerdded yn eu hesgidiau Efallai mai dim ond 12 oed yw Emily Harmsworth, ond mae wedi bod yn mynd i’r afael â her codi arian enfawr er cof am ei brawd bach Peter, y gofalwyd amdano yn Tŷ Hafan, gan gymryd rhan mewn nid un, ond pedair o deithiau cerdded noddedig. Wrth gymryd rhan yn Walk A Day in Their Shoes, dywedodd Emily: “Nid wyf i wedi bod yn ddigon hen i gymryd rhan yn y rhan fwyaf o ddigwyddiadau codi arian Tŷ Hafan tan nawr, felly rwy’n gynhyrfus iawn am yr un yma!” Y pedwar aelod o staff a’r pellteroedd i ddewis o’u plith yw ein gweithiwr cymorth i dadau Dan – un filltir; nyrs bontio Sophie – pum milltir; therapydd cyflenwol Katie – deg milltir a nyrs hosbis Claire – 15 milltir.
Os hoffech gymryd rhan mewn her codi arian eich hun, dylech anfon e-bost i supportercare@tyhafan.org a dweud wrthym amdano fel y gallwn eich helpu ar eich ffordd. Os hoffech rywfaint o ysbrydoliaeth, ewch i tyhafan.org/fundraise-for-us
9