2 minute read

Gwneud sblash ar draethau Cymru

Wrth i ni agosáu at y misoedd cynhesach, mae llawer ohonom yn paratoi i fwynhau’r awyr agored unwaith eto. Rydym yn ffodus i fod ar arfordir trawiadol Cymru a gall taith i’r traeth fod yn ddiwrnod allan rhad gyda golygfeydd syfrdanol a llawer i’w wneud ar gyfer pobl o bob oedran.

Bae Sili

Ychydig gamau o dir Tŷ Hafan, mae Bae Sili hudolus. Mae’n draeth cerigos rhwng Penarth a’r Barri ar arfordir Morgannwg ac mae’n lleoliad a ffefrir ar gyfer heicio a physgota. Oddi yma, bydd gennych olygfeydd clir o Ynys Sili, Ynys Echni ac Ynys Rhonech. Gallwch chi hyd yn oed gerdded i Ynys Sili pa fydd llanw isel!

Bae Rest

Mae gan draeth Bae Rest ym Mhorthcawl dywod a cherigos wedi’i amgylchynu gan glogwyni. Gan ei fod yn dal ymchwydd Môr yr Iwerydd, mae’r traeth hwn yn lleoliad syrffio poblogaidd yng Nghymru.

Traeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod

Traeth y Gogledd Dinbych-y-pysgod yw un o draethau mwyaf eiconig Cymru. Mae ganddo gefndir hardd o dai lliwgar ac o’ch blaen mae golygfeydd o Fae Caerfyrddin. Yng nghanol Traeth y Gogledd mae Craig Goscar, a fu’n rhan o’r clogwyni ar un adeg, tan iddi gael ei herydu gan y môr.

Mae’r ystafelloedd gwely yn ein hosbis wedi’u henwi ar ôl y traethau isod a dewiswyd yr enwau gan y bobl yr ydym yn eu cefnogi.

Bae Caswell

Er mwyn ymdrochi yn y môr yn Abertawe, lle gwych i ymweld ag ef yw Bae Caswell. Ar ochr dde-ddwyreiniol Penrhyn Gŵyr, mae’r traeth tywod hwn yn enwog am ei byllau’r môr bendigedig, ei naws ystyriol o deuluoedd a’i gefnlen ysblennydd o warchodfa natur Coed yr Esgob.

Cefn Sidan

Mae Cefn Sidan yn draeth tywod hardd sy’n cynnig golygfeydd panoramig o Fae Caerfyrddin, arfordir Sir Gaerfyrddin a Bro Gwyr. Gyda thwyni wrth ei gefn, mae gan y traeth saith milltir hwn ym Mhen-bre nodwedd anarferol. Mae nifer o longddrylliadau yn nhywod y traeth hwn, gan gynnwys yr LlH Paul

Aberafan

Mae traeth Aberafan yn dair milltir o hyd ac yn lle bendigedig i blant bach ddefnyddio eu hegni. Ar lan y traeth, mae digon i deuluoedd ei wneud, gan gynnwys chwarae ym maes chwarae Aqua Splash a rhoi cynnig ar y parc sglefrio. Mae’r traeth tywod hwn yn fan poblogaidd ar gyfer pysgota, nofio a chaiacio.

Bae Oxwich

Mae Bae Oxwich, Abertawe yn hyfryd. Mae’n ddwy filltir a hanner o hyd ac, yn 2007, cafodd ei alw’n draeth harddaf Prydain. Mae chwaraeon dŵr yn boblogaidd iawn yma, gan gynnwys deifio, hwylio, syrffio a jet-sgïo.

Llangynydd

Ar gyrion Penrhyn Gŵyr, mae traeth Llangynydd yn cynnig golygfeydd anhygoel o Burry Holms a Phen Pyrod. Mae’r traeth tywod hir hwn yn fan poblogaidd arall ar gyfer syrffio gan ei fod ar lwybr ymchwydd Môr yr Iwerydd

Bae Whitmore

Traeth tywod euraid yn y Barri, Morgannwg yw Bae Whitmore. Mae teuluoedd yn dwlu ar y traeth hwn oherwydd bod llawer o le i redeg ac mae gweithgareddau cyffrous, gan gynnwys y wal ddringo, arcedau, golff antur a’r Parc Pleser yn ychwanegu ato. Bydd ffans Gavin and Stacey yn adnabod Bae Whitmore o’r rhaglen deledu

Pwll-cam

Mae’r traeth tywod bendigedig hwn ar arfordir Sir Benfro yn berffaith ar gyfer pobl sy’n hoffi archwilio pyllau’r môr. Ym misoedd yr haf, efallai y byddwch chi’n gallu gweld dolffiniaid, morloi, llamidyddion a morfilod o Draeth Pwll-cam.

This article is from: