Cwtsh Gwanwyn Haf 2023

Page 6

Gwanwyn / Haf 2023

Y tu mewn: Brodyr a chwiorydd gwych

Hefyd yn y rhifyn hwn Gwneud sblash ar draethau Cymru

Hybiau Cymunedol

Cwtch o Hosbis i Blant Tŷ Hafan

Cynnwys

20

Her 3 Chopa Cymru GE Aviation yn troi’n 25 oed!

Cysylltu â ni

â chi yn fawr! Os oes gennych unrhyw

os

chi godi arian i ni neu os hoffech chi gael gwybod mwy am beth rydym yn ei wneud, cysylltwch â ni drwy ein gwefan, drwy e-bost, dros y ffôn neu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gwneud sblash ar draethau Cymru 04 Diwrnod ym mywyd... Therapydd Chwarae 14 Brodyr a chwiorydd gwych

Neges gan ein Prif Weithredwr 03 Diwrnod ym mywyd... Therapydd Chwarae 04 Gwneud sblash ar draethau Cymru 06 Newyddion o’r hosbis 08 Profiad gwisgoedd priodas yn y Fenni 09 Maes chwarae cynhwysol Tŷ Hafan 10 Ennill gwobrau a chodi arian 12 Golwg ar... Eyegaze 13 Brodyr a chwiorydd gwych 14 Cynnig blasus i chwaraewyr newydd y loteri 16 Pen-y-Dreadful 17 Hybiau Cymunedol 18 Gadael rhodd i Tŷ Hafan yn eich ewyllys 19 Her 3 Chopa Cymru GE Aviation yn troi’n 25 oed! 20 Canllawiau i ddechreuwyr ar heriau rhedeg 22 Tŷ Hafan mewn rhifau 24 Arwyr codi arian 25 Sut mae eich rhoddion yn helpu 26 Ein ffurflen rhoddion 27 Diwrnod Hwyl i’r Teulu 28 Hoffem gysylltu
supportercare@tyhafan.org
gwestiynau,
hoffech
www.tyhafan.org
02920 532 255
Newyddion a straeon Tŷ Hafan | www.tyhafan.org 02 06

Neges gan ein Prif Weithredwr

Croeso i rifyn y Gwanwyn/Haf 2023 cylchgrawn

Cwtch. Gobeithio eich bod chi a’ch anwyliaid wedi

cael dechrau da i’r flwyddyn newydd.

Mae geiriau cân Cwpan y Byd Cymru yn ymddangos yn addas i grynhoi cyfnod heriol, ond cynhyrchiol 2022. “Ry’n ni yma o hyd”, a gan ein bod yn elusen sy’n nesáu at ein pen-blwydd yn 25 oed flwyddyn nesaf, rydym yn fwy penderfynol nag erioed.

Diolch i chi, eich haelioni a’ch ymrwymiad, ac ymroddiad fy nhîm gwych, rydym ni yma ar gyfer y plant a’r teuluoedd y mae angen gofal ein hosbis a’n gwasanaethau cymunedol arnyn nhw.

Rwyf i bob amser yn teimlo’n ddiymhongar o glywed yn uniongyrchol gymaint mae teuluoedd yn gwerthfawrogi ein cefnogaeth – a thrwy hynny, eich cefnogaeth chi – ar bob cam o’u taith. Maen nhw’n gofyn i mi gyfleu eu diolch diffuant.

Yn ddiweddar, dywedodd tad Finlay wrtha i nad ydym yn “deall y gwahaniaeth yr ydym yn ei wneud trwy fod yno” a dywedodd mam Rose fod ei theulu mor ddiolchgar i gael gofal yn y ‘clwb’ hwn nad oes neb byth yn dewis perthyn iddo.

Y tymor diwethaf, gwnaethoch chi ein cefnogi trwy ddau ddigwyddiad mawr: ein hapêl 60 awr ‘When Your World Stops...’, a chyngerdd hyfryd y Nadolig yn Neuadd Dewi Sant, ein digwyddiad mawr cyntaf erioed mewn lleoliad cenedlaethol. Ar y cyd, cododd y digwyddiadau hyn bron i £370,000, sy’n arbennig o ddefnyddiol o ystyried ein biliau ynni cynyddol. Diolch, allen ni ddim ei wneud heboch chi.

Efallai eich bod chi wedi gweld rhywfaint o’r sylw yn y cyfryngau am yr heriau ychwanegol sy’n wynebu teuluoedd, yn enwedig o ystyried eu dibyniaeth sylweddol ar ynni ar gyfer yr offer arbenigol sydd ei angen ar eu plant. Rwyf wedi bod yn hynod falch o weld pawb yn tynnu at ei gilydd i’w helpu nhw, a ni, i ymdopi â’r argyfwng costau byw.

Bydd llawer ohonoch yn gwybod mai un o nodweddion unigryw ein gofal yw ei fod yn ymestyn y tu hwnt i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd i gynnwys eu brodyr a chwiorydd. Yn wyneb colli eu chwaer neu frawd, mae’r bobl ifanc hyn yn elwa’n enfawr ar therapi chwarae, cwnsela a threulio amser gyda phlant a phobl ifanc eraill sy’n mynd trwy brofiadau tebyg. Gallwch ddarllen mwy yn stori Ruby ac Emily ar dudalen 15.

Rydym yn edrych ymlaen at yr hyn a ddaw yn sgil 2023, gyda llawer o ddigwyddiadau cyffrous ar y gweill. Gobeithio bydd rhai o’r rhain yn eich cynnwys chi ac yn rhoi cyfle i ni gwrdd. Uchafbwynt fydd coroni ein noddwr, y Brenin Siarl, ac estynnwn ein dymuniadau gorau ato.

Yn y cyfamser, ar ran pawb yn Tŷ Hafan, gobeithio y byddwch yn mwynhau ein newyddion diweddaraf.

Cymerwch ofal,

Gwanwyn | Haf 2023 Rhoddi 03

Diwrnod ym mywyd. . .

Therapydd Chwarae

Mae Therapi Chwarae yn rhan allweddol o’n gwaith. Mae’n helpu plant i ddeall profiadau trawmatig ac yn eu helpu i weithio trwyddyn nhw mewn ffordd iach, sy’n addas i’w hoedran.

Felly, roedd hi’n wych bod Anna – un o’n Therapyddion Chwarae – wedi rhannu ychydig o’i hamser gyda ni i esbonio’r hyn y mae’n ei wneud a beth all diwrnod yn Tŷ Hafan ei gynnwys.

“Math o therapi seicolegol yw Therapi Chwarae sy’n defnyddio egwyddorion cwnsela sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn ffordd sy’n addas i blant. Rydym yn ei wneud oherwydd gall plant a phobl ifanc gael profiadau aeddfed iawn o ran trawma,” eglura Anna.

“Yn wahanol i oedolion, nid oes gan blant yr un fath o eirfa fel arfer, felly nid ydyn nhw’n gallu mynegi a phrosesu’r hyn maen nhw wedi’i wynebu yn yr un ffordd ag oedolyn. Dyna le rydym ni’n dechrau.

“Yn Tŷ Hafan, rydym fel arfer yn gweithio gyda thrawma yn sgil sefyllfaoedd meddygol, ond gallai fod yn unrhyw beth. Mae Therapi Chwarae dan arweiniad y plentyn i raddau helaeth. Nid yw plant byth yn cael eu gwthio i wynebu eu trawma – maen nhw’n ei wneud yn eu hamser eu hunain. Maen nhw’n defnyddio teganau a chwarae i fynegi a chyfathrebu.

“I ddechrau, mae Therapi Chwarae yn ymwneud â’r chwarae, ac yna rydym yn helpu’r plant i gysylltu’r chwarae â’u realiti. Yn ystod yr wythnosau cyntaf, rwy’n canolbwyntio ar feithrin perthynas â’r plentyn a gadael iddyn nhw archwilio’r ystafell Therapi Chwarae yn eu hamser eu hunain.

“Mae’r teganau rwy’n eu defnyddio yn cael eu dewis yn ofalus ac, ar ôl ychydig wythnosau, bydd y plentyn yn dangos yr hyn rydym ni’n ei alw’n ‘llinyn naratif’, sy’n golygu ein bod ni’n eu gweld nhw’n ailadrodd ac yn datblygu’r un stori drwy eu chwarae.

“Yn aml, mae’r hyn maen nhw wedi dewis ei wneud yn y sesiwn yn ymwneud â’u bywydau, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n sylweddoli hynny. Pan fyddan nhw’n gwneud y cysylltiad hwnnw â’u realiti dros amser, maen nhw’n gallu defnyddio chwarae i fod yn fuddugol yn y sefyllfa a wnaeth eu brifo

Y rhan orau o fy swydd o bell ffordd yw bod mewn sesiwn chwarae a gweld cam mawr ymlaen.

“Gallai plentyn fod yn defnyddio chwarae esgus i actio eu trawma ac yna, yn y sesiwn nesaf, codi’r ddol yr oedden nhw’n ei defnyddio a dweud: “gall hwn fod yn fi yr wythnos hon – mae wedi bod yn fi o’r dechrau” neu “mae gan y ddoli wallt brown fel fi!”

Newyddion a straeon Tŷ Hafan | www.tyhafan.org
04
Anna - Play Therapist

Gyda Therapi Chwarae, gall plant archwilio eu hemosiynau mewn man diogel, dysgu sut i ymdopi â’u sefyllfa a magu eu hunanhyder. Gall helpu plant i ymdrin â phrofedigaeth, ysgariad a heriau eraill maen nhw’n eu hwynebu.

Mae Tŷ Hafan yn lle arbennig iawn i weithio. Mae gen i’r tîm gorau o fy amgylch. Cyn gynted ag i mi gamu trwy’r drysau, roeddwn i’n gwybod dyma le roeddwn i eisiau bod. Roedd yn teimlo’n gynnes.Rydym wir yn cael ein derbyn fel pwy rydym ni.

Rwy’n dwlu ar greu cysylltiadau â’r teuluoedd rydym yn gweithio gyda nhw. Mae’n fraint fawr bod mewn sefyllfa i allu eu grymuso. Maen nhw’n rhoi ffydd ynoch chi gyda’r rhannau anoddaf o’u bywyd ond yn dathlu’r amseroedd da gyda chi

Diolch am siarad â ni, Anna.

“Does dim dau ddiwrnod yr un peth i fi, ond rwy’n cadw trefn arferol. Mae Therapi Chwarae yn therapi sy’n seiliedig ar ymlyniad, felly mae angen i mi fod yn gyson a disgwyliedig yn yr ystafell therapi drwy’r amser,” meddai Anna.

“Gan gofio hynny, mae gan fy llwyth gwaith drefn arferol sylfaenol. Rwy’n gweld plant yr un amser ar yr un diwrnod bob wythnos. O amgylch hynny, gallai diwrnod i mi gynnwys unrhyw beth!

“Gallwn i fod yn mynd i gyfarfodydd, derbyn galwadau ffôn gyda rhieni, asesu cleientiaid newydd neu wneud gwaith amlddisgyblaeth fel cyfarfod â seicolegwyr i weld pwy sydd fwyaf addas i weithio gyda phlentyn penodol.

“Rwyf i hefyd yn gwneud llawer o ddarllen. Dim ond unwaith yr wythnos rwy’n gweld plentyn, ond yn y cyfamser, mae fy ymennydd yn myfyrio ar beth mae wedi ei ddweud. Felly, trwy wneud gwaith ymchwil, yn y sesiwn nesaf rwy’n gallu myfyrio’n well ar beth mae’n ceisio’i fynegi, sef beth sy’n cael ei alw eu dal nhw mewn cof.

Ymunwch â Tŷ Hafan

Mae gyrfa yn Tŷ Hafan yn ysbrydoli ac yn boddhau. Wrth weithio gyda ni, byddwch chi’n chwarae rhan fawr yn ein cenhadaeth i roi cefnogaeth hanfodol i blant a theuluoedd rhyfeddol sydd ein hangen ledled Cymru..

Hefyd, byddwch chi’n gallu manteisio ar:

• 30 diwrnod o wyliau (+ mwy gyda gwasanaeth) a Gwyliau Banc

• Buddion rhagorol

• Cyfleoedd datblygu proffesiynol

• Amgylchedd gwaith cyfeillgar, cefnogol

Os hoffech chi weithio yn Tŷ Hafan, byddem yn dwlu ar glywed gennych!

I gael gwybod mwy am weithio yn Tŷ Hafan a gweld ein swyddi gwag diweddaraf, anfonwch e-bost atom yn careers@tyhafan.org neu ewch i: www.tyhafan.org/careers

Gwanwyn | Haf 2023
05
Rhoddi

Gwneud sblash ar draethau Cymru

Wrth i ni agosáu at y misoedd cynhesach, mae llawer ohonom yn paratoi i fwynhau’r awyr agored unwaith eto. Rydym yn ffodus i fod ar arfordir trawiadol Cymru a gall taith i’r traeth fod yn ddiwrnod allan rhad gyda golygfeydd syfrdanol a llawer i’w wneud ar gyfer pobl o bob oedran.

Bae Sili

Ychydig gamau o dir Tŷ Hafan, mae Bae Sili hudolus. Mae’n draeth cerigos rhwng Penarth a’r Barri ar arfordir Morgannwg ac mae’n lleoliad a ffefrir ar gyfer heicio a physgota. Oddi yma, bydd gennych olygfeydd clir o Ynys Sili, Ynys Echni ac Ynys Rhonech. Gallwch chi hyd yn oed gerdded i Ynys Sili pa fydd llanw isel!

Bae Rest

Mae gan draeth Bae Rest ym Mhorthcawl dywod a cherigos wedi’i amgylchynu gan glogwyni. Gan ei fod yn dal ymchwydd Môr yr Iwerydd, mae’r traeth hwn yn lleoliad syrffio poblogaidd yng Nghymru.

Traeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod

Traeth y Gogledd Dinbych-y-pysgod yw un o draethau mwyaf eiconig Cymru. Mae ganddo gefndir hardd o dai lliwgar ac o’ch blaen mae golygfeydd o Fae Caerfyrddin. Yng nghanol Traeth y Gogledd mae Craig Goscar, a fu’n rhan o’r clogwyni ar un adeg, tan iddi gael ei herydu gan y môr.

Mae’r ystafelloedd gwely yn ein hosbis wedi’u henwi ar ôl y traethau isod a dewiswyd yr enwau gan y bobl yr ydym yn eu cefnogi.

Bae Caswell

Er mwyn ymdrochi yn y môr yn Abertawe, lle gwych i ymweld ag ef yw Bae Caswell. Ar ochr dde-ddwyreiniol Penrhyn Gŵyr, mae’r traeth tywod hwn yn enwog am ei byllau’r môr bendigedig, ei naws ystyriol o deuluoedd a’i gefnlen ysblennydd o warchodfa natur Coed yr Esgob.

Newyddion a straeon Tŷ Hafan | www.tyhafan.org
1 2 4 3
Mis Mai tan fis Hydref Mis Mai tan fis Hydref Statws y Faner Las Trwy gydol y flwyddyn Wyddoch chi? Traeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod
06
Bae Caswell Mis Mai tan fis Hydref Statws y Faner Las

Cefn Sidan

Mae Cefn Sidan yn draeth tywod hardd sy’n cynnig golygfeydd panoramig o Fae Caerfyrddin, arfordir Sir Gaerfyrddin a Bro Gwyr. Gyda thwyni wrth ei gefn, mae gan y traeth saith milltir hwn ym Mhen-bre nodwedd anarferol. Mae nifer o longddrylliadau yn nhywod y traeth hwn, gan gynnwys yr LlH Paul

Aberafan

Mae traeth Aberafan yn dair milltir o hyd ac yn lle bendigedig i blant bach ddefnyddio eu hegni. Ar lan y traeth, mae digon i deuluoedd ei wneud, gan gynnwys chwarae ym maes chwarae Aqua Splash a rhoi cynnig ar y parc sglefrio. Mae’r traeth tywod hwn yn fan poblogaidd ar gyfer pysgota, nofio a chaiacio.

Bae Oxwich

Mae Bae Oxwich, Abertawe yn hyfryd. Mae’n ddwy filltir a hanner o hyd ac, yn 2007, cafodd ei alw’n draeth harddaf Prydain. Mae chwaraeon dŵr yn boblogaidd iawn yma, gan gynnwys deifio, hwylio, syrffio a jet-sgïo.

Llangynydd

Ar gyrion Penrhyn Gŵyr, mae traeth Llangynydd yn cynnig golygfeydd anhygoel o Burry Holms a Phen Pyrod. Mae’r traeth tywod hir hwn yn fan poblogaidd arall ar gyfer syrffio gan ei fod ar lwybr ymchwydd Môr yr Iwerydd

Bae Whitmore

Traeth tywod euraid yn y Barri, Morgannwg yw Bae Whitmore. Mae teuluoedd yn dwlu ar y traeth hwn oherwydd bod llawer o le i redeg ac mae gweithgareddau cyffrous, gan gynnwys y wal ddringo, arcedau, golff antur a’r Parc Pleser yn ychwanegu ato. Bydd ffans Gavin and Stacey yn adnabod Bae Whitmore o’r rhaglen deledu

Pwll-cam

Mae’r traeth tywod bendigedig hwn ar arfordir Sir Benfro yn berffaith ar gyfer pobl sy’n hoffi archwilio pyllau’r môr. Ym misoedd yr haf, efallai y byddwch chi’n gallu gweld dolffiniaid, morloi, llamidyddion a morfilod o Draeth Pwll-cam.

10 5 6 7 8 9
annwyl. Mis Mai tan fis Hydref ar ran orllewinol y traeth Blue Flag status Pwll-cam, Aberteifi Bae Whitmore Llangynydd
07
Aberafan Mis Mai tan fis Hydref Trwy gydol y flwyddyn Mis Mai tan fis Hydref Statws y Faner Las Trwy gydol y flwyddyn Mis Mai tan fis Hydref

Newyddion o’r hosbis

Mae’r tîm yn Tŷ Hafan bob amser yn brysur yn cynllunio digwyddiadau, gweithgareddau a nodweddion newydd yn yr hosbis. Dyma ychydig o’r newyddion diweddaraf...

Pantomeim gyda gwestai arbennig iawn

Wedi’i berfformio gan staff a gwesteion arbennig, roedd ein pantomeim Nadolig ar thema Encanto yn berfformiad doniol a theimladwy. Pan ddaeth y panto olaf i ben, disgynnodd

Siôn Corn ei hun mewn hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru i gwrdd â’r plant a dosbarthu anrhegion. Roedd hwn yn ddiwrnod gwirioneddol anhygoel yn Tŷ Hafan, felly diolch i bawb a’i gwnaeth yn bosibl.

Bydd Hybiau Aros a Chwarae’r Hosbis yn dychwelyd yn 2023

Hybiau Aros a Chwarae yn cael eu hailgyflwyno yn yr hosbis am y tro cyntaf ers y pandemig. Mae’r Hybiau hyn yn caniatáu i blant a theuluoedd ddod atom am y diwrnod, cael cyfle i fanteisio ar ein gwasanaethau arbenigol a’n therapïau ategol, cael cymorth cymheiriaid, cael cinio a chwrdd â theuluoedd eraill. Mae tîm cyfan yr hosbis wedi cyffroi i ailgyflwyno’r digwyddiadau hyn yn 2023, felly mwy yn y man!

Ychwanegiad newydd cyffrous i’r hosbis

Erbyn hyn mae gennym ni wely Acheeva! I lawer o blant y mae siâp eu corff wedi’i newid oherwydd cyflyrau fel scoliosis neu dyndra cyhyrau, mae dod o hyd i ystum gyfforddus sydd hefyd yn ddigon cefnogol i gyfyngu ar unrhyw newidiadau eraill yn her.

Efallai fod ganddyn nhw gadair arbenigol i’w cefnogi i eistedd yn dda, ond yn gallu goddef eistedd ynddi am awr neu ddwy yn unig. Mae’r gwely Acheeva yn cynnig cefnogaeth gorwedd mewn gwahanol ystumiau, fel y gallwn ni ddod o hyd i ateb i blentyn sy’n gyfforddus ac yn cefnogi ei ystum.

Gwasanaeth gaeafol yng

ngolau canhwyllau

Cynhaliwyd ein Gwasanaeth yng Ngolau Canhwyllau blynyddol ym mis Rhagfyr ac roedd yn hyfryd gweld cynifer o’r teuluoedd mewn profedigaeth yr ydym yn eu cefnogi yn bresennol. Gall y Nadolig fod yn gyfnod anodd i deuluoedd yr hosbis mewn profedigaeth ac mae’r Gwasanaeth yng Ngolau Canhwyllau yn gyfle iddyn nhw ddod at ei gilydd, canu carolau ac addurno’n coeden Nadolig gyda thagiau coffa i ddathlu bywyd eu plant. Roeddem wrth ein bodd yn croesawu côr Meibion Treorci yn ôl i’r hosbis i ganu carolau yn y digwyddiad twymgalon hwn.

Mae’n hawdd ei symud o amgylch ac mae wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio yn ystod y dydd, felly mae modd ei ddefnyddio o amgylch yr hosbis a gall y plant gymryd rhan yn ein holl weithgareddau mewn ystum sy’n gweithio iddyn nhw.

Dydd Nadolig Tŷ Hafan

Roedd Dydd Nadolig Tŷ Hafan yn arbennig iawn, ac yn canolbwyntio ar berson ifanc sy’n cael gofal diwedd oes gyda ni gan greu atgofion gwerthfawr gyda’i theulu yn yr hosbis. Dywedon nhw wrthym eu bod nhw wedi cael Nadolig hyfryd fel teulu, gyda chefnogaeth ein Tîm Gofal. Roedd hi’n gymaint o fraint cael bod yn rhan o’r diwrnod arbennig hwn.

08

Profiad gwisgoedd priodas yn y Fenni

Mae gan bob un o’n 18 o siopau elusen eu naws a’u cymeriad unigol eu hunain. Ar Stryd Frogmore yn Y Fenni, mae gan Boutique

Emporium Tŷ Hafan nodwedd anarferol: adran briodas.

Mae’r adran briodas yn helaeth, gan lenwi ystafell gyfan o’r siop. Mae raciau o hen ffrogiau priodas a rhai cyfoes anhygoel a ffrogiau morynion priodas ar bob wal yr ystafell, ac maen nhw’n cael eu gwerthu am ganran fach iawn o’u prisiau gwreiddiol.

Mae’r ffrogiau, rhai ail-law a rhai newydd sbon, yn aml o safon uchel ac yn werth mwy na £2,000. Maen nhw’n cael eu rhoi i ni gan unigolion a siopau ac maen nhw i gyd mewn cyflwr gwych.

Pan fyddwch chi’n dod i mewn i edrych ar ein ffrogiau priodas, byddwch yn cael y profiad llawn, a bydd ein tîm wrth law i’ch helpu i ddewis ffrogiau, ystafell breifat wych ar gyfer eu gwisgo a chymaint o de a choffi ag yr hoffech ei yfed!

I siopa ein casgliad priodas, gallwch drefnu apwyntiad drwy ein ffonio ar 01873 855020.

Er hynny, nid gwisgoedd priodas yn unig y gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw yn Boutique Emporium Tŷ Hafan. Mae ffrogiau dawns, ffrogiau ffurfiol a hetiau ffurfiol ac addurniadau gwallt yn cael eu gwerthu yma hefyd trwy apwyntiad.

Cefnogi Tŷ Hafan ar ddiwrnod eich priodas

Pan fyddwch chi’n priodi, gallwch ychwanegu elfen o Tŷ Hafan at eich diwrnod mawr.

Mae cael ffafrau priodas Tŷ Hafan, bocsys casglu ac amlenni yn eich brecwast priodas yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Maen nhw’n codi arian ar gyfer ein hachos ac ymwybyddiaeth ohono.

Gallwch hefyd alw heibio ar lawr gwaelod y siop ar gyfer taith siopa o ddydd Llun i ddydd Sadwrn er mwyn pori drwy’r eitemau sydd wedi’u rhoi i’n prif siop elusen yn Y Fenni.

Mae prisiau cynyddol yn effeithio ar bobl ledled y wlad, felly rydym yn teimlo’n freintiedig iawn i helpu pobl i baratoi ar gyfer eu diwrnod mawr heb iddyn nhw orfod talu’r prisiau uchel arferol.

Mae’r arian o bob ffrog yn mynd yn syth i Tŷ Hafan a’n cenhadaeth o wneud yn siŵr bod plant yng Nghymru sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd yn cael bywydau llawn, gofal arbenigol a chefnogaeth barhaus.

Byddem wrth ein bodd yn gweld lluniau o’r hyn rydych chi wedi’i brynu yn ein siopau elusen! Postiwch eich lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #shoptyhafan.

Cyfeiriad: 55 Stryd Frogmore, Y Fenni, NP7 5AR Oriau agor: 09:15 - 16:45, dydd Llun i ddydd Sadwrn

Nid yw ein ffafrau priodas yn ddrud ac maen nhw’n ffordd hyfryd o ddiolch i’ch gwesteion am ddod, a’r cyfan wrth gefnogi ein cenhadaeth

• Pecynnau o hadau cymysg

• Pensiliau hadau pabi

• Peniau

Gallwch brynu ein ffafrau priodas ar-lein yma: www.tyhafan.org/supportus/shop/wedding-favours

I gael blwch casglu Tŷ Hafan ac amlenni rhodd ar gyfer eich priodas, cysylltwch â’n Tîm Gofal Cefnogwyr ar 02920 532 255 neu yn supportercare@tyhafan.org.

Gwanwyn | Haf 2023
09
Rhoddi

Maes chwarae cynhwysol Tŷ Hafan

Mae rhywbeth arbennig iawn am y maes chwarae ar dir ein hosbis... mae’n gynhwysol!

I lawer o’r teuluoedd rydym yn gweithio gyda nhw, dyma’r unig faes chwarae maen nhw’n gallu ei ddefnyddio gyda’i gilydd fel teulu.

Gall rhieni a brodyr a chwiorydd chwarae’n gynhwysol yma, beth bynnag yw eu galluoedd corfforol, gan fwynhau profiad y maes chwarae yn llawn.

Y siglen cadair olwyn

Mae cadeiriau olwyn yn cael eu clipio’n ddiogel i’r siglen fel bod modd gwthio’r plentyn yn gyfforddus ac yn ddiogel.

Y siglen nyth

Gall plant nad ydyn nhw’n gallu dal eu hunain yn unionsyth orwedd yn y siglen nyth a chael eu gwthio’n ysgafn gan frawd neu chwaer, ffrind, rhiant neu aelod o staff. Gall plant fynd i mewn i’r siglen hon gyda’i gilydd ar gyfer chwarae cynhwysol.

Newyddion a straeon Tŷ Hafan | www.tyhafan.org
10

Y bont simsan

Mae’r bont simsan yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac yn llawer o hwyl. Pan fydd plentyn yn symud ar ei thraws yn ei gadair, mae’r bont yn symud i fyny ac i lawr, gan roi’r teimlad o gael eich bownsio!

^

Y nodwedd ddwr

Mae’r nodwedd ddŵr yn un o nodweddion mwyaf poblogaidd ein maes chwarae. Gall unrhyw un fwynhau’r chwarae â dŵr! Pan fydd y dŵr yn cael ei bwmpio i fyny ac i lawr, gall plant ei wylio neu ei deimlo’n llifo ac yn tasgu dros eu dwylo.

Y trac rasio

Mae’r trac rasio, sydd ond ychydig gamau i ffwrdd o’n hardal chwarae, wedi ei ddylunio’n arbennig ar gyfer plant sy’n dysgu defnyddio cadair olwyn neu’n pontio rhwng cerdded a defnyddio cadair olwyn. Gallan nhw lywio’u hunain i ddysgu sut i symud. Mae’r trac hwn wedi gweld digon o rasys dros y blynyddoedd!

Y trampolîn

Nid oes rhaid i blant ddringo i fynd ar y trampolîn lefel llawr hwn! Os yw plentyn mewn cadair olwyn, gall rhiant neu aelod o staff sefyll nesaf atyn nhw ar y trampolîn a bownsio.

Offerynnau cerdd

Ar gyfer chwarae cerddorol creadigol, mae’r seiloffon, drwm a glockenspiel ar y lefel gywir i ddefnyddwyr cadair olwyn allu eu chwarae’n gyfforddus.

Gwanwyn | Haf 2023 Rhoddi 11

Ennill gwobrau a chodi arian

Mae pobl sy’n chwarae ein loteri yn rhoi arian hanfodol i’n gwasanaethau. Yn wir, mae eu cefnogaeth yn cyfrif am fwy nag £1 miliwn bob blwyddyn!

Bob wythnos, mae chwaraewyr ein loteri yn cael eu cynnwys mewn raffl am £1 y tro am gyfle i ennill gwobrau ariannol mawr.

i chwarae

Chwarae ein loteri

Mae wedi cefnogi Tŷ Hafan drwy ein loteri ers amser maith ac eglurodd i ni beth wnaeth ei ysbrydoli i gofrestru.

“Gan fy mod wedi bod yn ymwneud â gofal maeth am flynyddoedd lawer, rwyf i wedi bod yn ymwybodol erioed o’r anawsterau y mae llawer o deuluoedd yn eu hwynebu oherwydd eu hamgylchiadau personol. Y plant sy’n debygol o ddioddef yn y sefyllfaoedd hyn ac yn aml gofal maethu sy’n darparu cefnogaeth angenrheidiol,” meddai Mr Chick wrthym.

“Mae’r rhan fwyaf o rieni yn pryderu pan fydd eu plentyn yn sâl ond, i deuluoedd â phlentyn sy’n wynebu salwch sy’n byrhau bywyd, mae pwysau teuluol penodol. Mewn ffordd debyg i ofal maeth, mae gallu manteisio ar gefnogaeth ystyrlon, o safon heb fod â phwysau cyllid ychwanegol i gyd yn bwysig.”

Disgrifiodd Mr Chick y foment y cafodd wybod ei fod wedi ennill y brif wobr: “Fy ymateb cyntaf oedd sioc, yn llythrennol, gan fy mod i wedi anghofio’n llwyr mai loteri yw hon!

Dewiswch faint o weithiau yr

hoffech chwarae

bob mis

Dewiswch eich dull talu

Byddwn yn anfon siec atoch os byddwch chi’n ennill

I gofrestru neu i gael gwybod mwy, ffoniwch ein Tîm Loteri ar 02920 532 300 neu ewch i www.tyhafanlottery.co.uk

Ewch i dudalen 16

Darllenwch am ein cynnig newydd dymunol i chwaraewyr y loteri.

“Pan agorais i’r amlen i ddatgelu’r siec, fy ymateb nesaf oedd peidio â’i derbyn oherwydd ei fod gan elusen sy’n dibynnu’n fawr ar roddion. Fodd bynnag, gwnaeth Chris, a ddaeth â’r siec i mi, fy argyhoeddi y dylwn i ei dderbyn a’i ddefnyddio’n dda.

“I ddechrau, y bwriad oedd helpu i adnewyddu ystafell wely, ond ar wahân i rodd fechan i Tŷ Hafan, gwnes i gyfraniadau hefyd at elusennau eraill rwy’n eu cefnogi’n rheolaidd. Roedd hefyd yn agosáu at y Nadolig ac, yn ddealladwy, elwodd fy ŵyr arni hefyd. Digon yw dweud y gwnaeth hefyd gyfrannu at ein cynlluniau adnewyddu.”

Diolch am eich haelioni, Mr. Chick!

12
£1
1. 2. 3.
2il wobr 20x £10 3edd gwobr 60x £5 Prif wobr wythnosol 1x £2,000 Bonws treigl £12,000
Mr. Chick, o Borthcawl, yn ennill prif wobr
o £2,000
Newyddion a straeon Tŷ Hafan | www.tyhafan.org

Ydych chi wedi clywed am Eyegaze?

Mae’n newid bywydau!

Mae’r peiriant Eyegaze Edge yn dechnoleg gynorthwyol sy’n helpu plant â symudedd

cyfyngedig i ryngweithio â’r byd.

Rydym yn dwlu ar y darn hwn o offer.

Mae’n anhygoel gweld plant yn yr hosbis sy’n methu â chyfathrebu’n hawdd yn gallu mynegi eu hunain dim ond drwy symud eu llygaid.

Gall plant symud eu llygaid i gyfathrebu penderfyniadau ‘ie’ neu ‘nage’ neu ddewis pa weithgaredd

maen nhw eisiau ei wneud nesaf hyd yn oed. Efallai fod hyn yn ymddangos

yn gamp fach, ond i blant sy’n methu â siarad ac sydd â symudedd cyfyngedig iawn, mae gallu gwneud penderfyniad yn hynod.

Mae bod â hunanreolaeth fel hyn yn rhoi hwb mawr i hunan-barch ac annibyniaeth y plant yr ydym yn eu cefnogi. A dim ond dechrau arni yw hynny!

Mae Eyegaze yn dod â nodwedd cynhyrchu lleferydd, gemau a gall gyrraedd gwefannau ac apiau. Mae hyn yn bwerdy cynwysoldeb a hygyrchedd gwirioneddol.

Teyrnged i SUZANNE GOODALL

Eleni, roedd 11 Ionawr yn nodi

6 mlynedd ers marwolaeth ein

Sylfaenydd a’n ffrind, Suzanne

Goodall. Mae colled fawr ar ei hôl, ond rydym yn falch bod ei hetifeddiaeth yn fyw o hyd drwy’r gwaith caled yr ydym yn parhau i’w wneud i’r rhai sydd ein hangen ni.

I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched, mae Suzanne yn cael ei hanrhydeddu drwy gwilt a luniwyd gan Cutting Edge Textiles. Mae’r

cwilt wedi ei wneud i dynnu sylw at gyflawniadau sylweddol menywod yng Nghymru. Mae adran hyfryd Suzanne wedi ei chreu gan Carol Bartlett, artist sydd wedi paentio gerddi Tŷ Hafan.

Gwaith gwych, Cutting Edge Textiles, a diolch am anrhydeddu Suzanne

Sut mae’n gweithio?

Mae Eyegaze yn defnyddio symudiadau’r llygaid i deipio neu glicio ar sgrin. Mae’n gwneud hyn drwy ei gamera olrhain llygaid sy’n eistedd ychydig yn is na’r sgrin.

Mae’r feddalwedd prosesu delweddau yn dadansoddi delweddau’r camera 60 gwaith yr eiliad i ddarganfod lle mae’r defnyddiwr yn edrych ar y sgrin.

Pan fydd y person sy’n defnyddio’r Eyegaze yn edrych ar y sgrin, gall ddewis gwahanol allweddi (ychydig fel allweddi ar liniadur).

Dim ond tua hanner eiliad o edrych ar allwedd mae’n ei gymryd i’r defnyddiwr ei hysgogi, felly gallan nhw fynd o allwedd i allwedd yn gyflym iawn – er y gellir newid hyn i gyd-fynd orau ag anghenion y defnyddiwr.

Mae’n rhaid i ni ddiolch yn arbennig i Lifelites, elusen sy’n rhoi technoleg arloesol i’r plant sydd ei angen fwyaf, am roi Eyegaze i ni.

13

Brodyr a chwiorydd gwych

Mae brodyr a chwiorydd plant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd yn wynebu

heriau mawr. Gall gwylio eu brawd neu chwaer fynd trwy straen corfforol ac emosiynol, ac yn anffodus gofal diwedd oes, ddod â llawer o bryder, trawma a galar nad yw llawer o’u cymheiriaid yn gallu eu deall.

Sut rydym yn helpu brodyr a chwiorydd

Diolch i haelioni ein cefnogwyr, gallwn roi’r cyfle i frodyr a chwiorydd fanteisio ar gymuned lle mae eu cyfoedion yn deall yr hyn maen nhw’n mynd drwyddo. Yn wir, mae gennym ni dîm pwrpasol cyfan i fod yno ar gyfer brodyr a chwiorydd, dan arweiniad Kelly-Jo, ein Gweithiwr Cymorth i Frodyr a Chwiorydd, ac wedi’i sbarduno gan ein grŵp cefnogi cyfoedion Supersibs. Yn Supersibs, mae gan frodyr a chwiorydd gyfle i ymgysylltu â brodyr a chwiorydd eraill sy’n wynebu pryderon tebyg.

Yn aml rydym yn gweld bod gan frodyr a chwiorydd plant sy’n cael eu hatgyfeirio i Tŷ Hafan lawer o bryderon a gofidion, a gall mynegi eu hemosiynau fod yn anodd iddyn nhw. Gallwn ni ddarparu cefnogaeth un-i-un a nifer o therapïau niferus i’w helpu i lywio’r emosiynau hyn a’u goresgyn, ac i ymdrin â phrofedigaeth a galar.

Mae gennym ni ddarpariaeth Therapi Chwarae, Therapi Cerdd a Therapi Ategol. Gall ein Harbenigwr Chwarae hefyd helpu’r brodyr a’r chwiorydd hynny sydd wedi dod i ofni ymyriadau meddygol oherwydd eu profiadau. Mae’r holl wasanaethau hyn yn cael eu darparu yn yr hosbis, y gymuned neu ble bynnag y mae eu hangen.

14

Ar ddydd Sul cyntaf bob mis, rydym yn cynnal ein grŵp Supersibs sy’n gymaint o hwyl! Mae dau grŵp: un i blant rhwng pedair ac 11 oed a’r llall ar gyfer plant 11+ oed.

Gall y bobl ifanc sy’n mynd i Supersibs bontio rhwng y ddau grŵp yn raddol yn ystod y flwyddyn maen nhw’n troi’n 11 oed fel eu bod yn gallu ymgartrefu. Mae rhai o’r bobl ifanc yn y grŵp Supersibs ar gyfer pobl ifanc yn hoffi gwirfoddoli gyda’r plant iau.

“Maen nhw i gyd yn yr un cwch. Mae ganddyn nhw ddealltwriaeth rhyngddyn nhw – cysylltiad sydd ganddyn nhw i gyd gyda’i gilydd. Maen nhw’n elwa ar fod yma gyda’i gilydd,” meddai KellyJo, ein Gweithiwr Cymorth i Frodyr a Chwiorydd.

Stori Emily a Ruby

Mae Emily a Ruby, ill dau yn 14 oed, wedi bod yn dod i Supersibs ers eu bod yn ifanc. Mae chwaer Emily, Lucie, yn dod i’r hosbis a bu farw chwaer Ruby, Elizabeth, yn 2021.

Mae’r ddwy yn ffrindiau gorau erbyn hyn, ar ôl datblygu cysylltiad cryf yng nghlwb y Supersibs ddwy flynedd yn ôl.

“Roedd hi’n fis Chwefror 2020. Roedden ni yn un o’r ystafelloedd i fyny’r grisiau yn bwyta pitsa ac yn gwylio Maleficent gyda Kelly-Jo, y Gweithiwr Cymorth i Frodyr a Chwiorydd,” mae Emily yn esbonio.

“Roedd hi’r adeg pan oeddwn i’n newid i’r grŵp Supersibs hŷn,” mae Ruby yn ei ychwanegu. “Gwnaethon ni jyst clicio. Rydyn ni’n byw yn eithaf pell o’n gilydd, yn Y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr, ond rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad yn aml y tu allan i Tŷ Hafan.”

Mae llawer o frodyr a chwiorydd yr ydym yn eu cefnogi yn gweld bod gallu treulio amser mewn lleoliad hamddenol gyda chyfoedion sy’n gallu deall eu profiadau eu hunain yn hynod werthfawr.

O ran yr hyn sy’n digwydd yn Supersibs, mae’n fan i frodyr a chwiorydd ymlacio, cael bod yn rhydd a bod eu hunain. Maen nhw’n cael tanau gwersylla ar y traeth, yn gwylio ffilmiau, yn cael diwrnodau chwaraeon, gemau a gweithgareddau ar themâu, teithiau diwrnod i leoedd fel yr Aqua Park a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a llawer mwy.

Rydym bob amser yn ceisio ehangu ein hamrywiaeth o weithgareddau ac mae wedi bod yn bleser cael dechrau gweithio’n agos gydag Amgueddfa Caerdydd i wella ein cynnig.

I blant sy’n methu â dod i’r hosbis yn aml, rydym yn cynnal grŵp Supersibs rhithwir ar yr un diwrnod â’r cyfarfod wyneb yn wyneb.

Hanner ffordd drwy’r mis, rydyn ni hefyd yn cynnal cyfarfod Roblox rhithwir!

Mae’r plant yn dewis y gêm Roblox yr hoffan nhw ei chwarae gyda’i gilydd, ac mae’n rhoi cyfle iddyn nhw weld ei gilydd bob yn ail wythnos a gwneud rhywbeth maen nhw’n ei fwynhau.

Gyda’ch cymorth chi, gall brodyr a chwiorydd plant yng Nghymru sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd gael cefnogaeth, beth bynnag yw eu sefyllfa.

Dysgwch fwy...

am ein gwasanaethau gofal i deuluoedd www.tyhafan.org/howwe-care

“Mae’n dda cwrdd â phobl sy’n gwybod beth rydych chi’n ei wynebu. Hyd yn oed os nad ydyn nhw’n wynebu’r un sefyllfa yn union, maen nhw’n dal yn gallu deall mewn ffordd wahanol i’r rhan fwyaf o bobl fy oedran i,” meddai Emily.

Dywed Ruby wrthym: Mae wedi fy helpu i ddatblygu cyfeillgarwch gyda gwahanol grwpiau oedran ac mae wedi fy helpu i ddatblygu fel person. Rydyn ni’n gallu gadael ein problemau wrth y drws a jyst cael hwyl.

“Fel arfer, rydyn ni’n cwrdd ddwywaith y mis. Rydyn ni’n mynd i’r grŵp Supersibs ar gyfer ein grŵp oedran ac yna rydyn ni’n gwirfoddoli yn y grŵp i blant iau er mwyn i ni weld ein gilydd yn fwy!”, ychwanegodd Emily.

Dywedodd Ruby: “Pan rydyn ni’n gwirfoddoli, rydyn ni’n helpu’r plant iau gydag unrhyw beth sydd ei angen arnyn nhw, gallai hynny gynnwys eu helpu nhw gyda gweithgareddau, eu helpu i glymu eu hesgidiau a chario bagiau ni yw eu gweision hongian cotiau personol!”

Rhoi

Gyda’ch rhoddion chi, gall mwy o frodyr a chwiorydd plant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd gael cyfle i fanteisio ar gymorth emosiynol ac ymarferol heb unrhyw gost. Diolch

I roi i Tŷ Hafan heddiw: Defnyddiwch y ffurflen ar dudalen 27

Ffoniwch ni ar 02920 532 255 Ewch i www.tyhafan.org/donate

15
Gwanwyn | Haf 2023
Rhoddi

Cynnig blasus i chwaraewyr newydd y loteri

Rydyn ni wedi bod yn brysur yn pobi danteithion newydd i bobl sy’n cofrestru ar gyfer ein loteri...

Mae’r bobl sy’n chwarae loteri Crackerjackpot i gefnogi

Tŷ Hafan yn cyfrannu 18% o’n hincwm cyffredinol, gan ein helpu’n sylweddol i gyflawni ein cenhadaeth.

Felly, i ddangos ein gwerthfawrogiad – ac i roi rhywbeth bach ychwanegol yn ôl - rydym wedi creu menter newydd

Trwy gydol mis Mawrth eleni, gallwch gofrestru ar gyfer tro newydd i chwarae loteri Crackerjackpot gan ddefnyddio’r ddolen we isod, lle byddwch chi wedyn yn derbyn dau rysáit pobi hawdd gan ein cogyddion yn yr hosbis. Bydd y rhain wedyn yn cael eu hanfon yn syth i’ch drws.

Mae’r ryseitiau hyn yn wych i blant (a’u hoedolion sy’n gofalu amdanyn nhw), ac maen nhw ar gael yn Gymraeg a Saesneg. I gofrestru ar gyfer y loteri ac i gael eich cardiau rysáit am ddim, ewch i: www.tyhafanrecipecards.org

Gall chwaraewyr y loteri gofrestru am £1 yr wythnos yn unig i gael cyfle i ennill 81 gwobr:

• 1 x wobr £2,000

• 20 x gwobr £10

• 60 x gwobr £5

Mae cyfle rheolaidd hefyd i ennill gwobr dreigl, sy’n gallu cyrraedd hyd at £12,000!

Os nad nawr yw’r amser iawn i chi chwarae’r loteri neu os ydych chi eisoes wedi cofrestru, dyma rysáit unigryw yn syth o gegin Tŷ Hafan i chi ei fwynhau...

Cwcis sglodion siocled gludio

Cynhwysion

125g o fenyn heb halen

300g o flawd plaen

100g o siwgr brown golau

75g o siwgr gronynnog

gwyn

Dull

1 wy

1½ llwy de o bowdwr codi

½ llwy de o ficarbonad soda

½ llwy de o halen

300g o sglodion siocled

1. Cymysgwch y menyn a’r siwgr gyda’i gilydd mewn powlen

2. Ychwanegwch yr wy a’i gymysgu’n drwyadl

3. Ychwanegwch y blawd plaen, halen, powdwr codi a bicarbonad soda a’u cymysgu hyd nes i chi gael toes solet

4. Ychwanegwch y sglodion siocled

5. Rhannwch y toes yn beli

6. Rhowch y peli toes yn y rhewgell am 30 munud neu yn yr oergell am awr

7. Rhowch nhw ar hambwrdd pobi â leinin, gan eu gosod ar wahân gymaint â phosibl

8 Pobwch y cwcis mewn ffwrn wedi’i dwymo ymlaen llaw (200C/180C â ffan) am 12-14 munud

9. Gadewch iddyn nhw oeri am 30 munud.

Newyddion a straeon Tŷ Hafan | www.tyhafan.org
16

Pen-y-Dreadful

Mae Genus ar gwest. Mae’r cartref plant hwn yng

Nghymru yn benderfynol o godi cymaint o arian ar ein cyfer â phosibl ac nid oes ofn her epig ar y tîm. ‘Pen-y-Dreadful’ oedd y diweddaraf!

Mae tîm Genus wedi ymgymryd â heriau corfforol creadigol iawn i godi arian i ni ac, hyd yn hyn, maen nhw wedi codi dros £40,000!

“Rydyn ni wedi gwneud her 3 Chopa Cymru, her 3 Chopa Cenedlaethol, Llwybr Taf 55 milltir mewn 24 awr, Invincible Tough Run, wedi cerdded 100,000 o gamau mewn diwrnod, wedi seiclo 100 km mewn diwrnod a cherdded i fyny ac i lawr Pen-y-Fan 10 gwaith mewn 24 awr,” dywedodd Gareth Hemmings, Cydberchennog a Chyfarwyddwr Genus Care, wrthym.

a’r rhan fwyaf o’n plant a’n pobl ifanc i fyny yno yn rhoi cynnig arni.

“Yr adegau anoddaf yw pan rydych chi ar y gwaelod ac yn gorfod troi a mynd eto! Ond roedd yr awyrgylch ymhlith pawb yn ein gwersyll bach ar y gwaelod yn wych ac roedden ni i gyd yn rhoi hwb i’n gilydd. Roedd y gefnogaeth, y tynnu coes a’r cariad ar y diwrnod yn anhygoel.

“Rwy’n gwybod y cafodd pawb oedd i fyny yno y diwrnod hwnnw lawer o foddhad ohono. Es i fyny eto y diwrnod wedyn gyda fy merch 9 oed, Lottie, oedd wedi methu â gwneud y diwrnod oherwydd ysgol.

Yn ddiweddar, aeth Genus ati i gyflawni camp enfawr arall o’r enw Pen-y-Dreadful, a welodd y tîm yn cerdded i fyny ac i lawr Pen-y-Fan 5 gwaith ym mis Rhagfyr. Diawch!

“Oherwydd amgylchiadau, bu’n rhaid i ni wneud ein her flynyddol yn hwyr yn y flwyddyn. Yn logistaidd, mae Pen-y-Fan yn hawdd gan ei fod yn agos i ni i gyd, felly cafodd ‘Pen-yDreadful’ ei eni!” mae Gareth yn egluro.

“Mae mynd i fyny ac i lawr bum gwaith yn y gaeaf yn anodd, ond roedden ni eisiau bod mor ddiogel â phosibl, felly roedden ni eisiau’r golau dydd hefyd. Hefyd, mae’r enw yn chwarae gyda theitl y rhaglen deledu, Penny Dreadful

“Roedd yn iawn a dweud y gwir! Enillon ni jacpot y tywydd – roedd hi’n ddiwrnod sych, clir, heulog. Mae mynd i fyny ac i lawr sawl gwaith yn anoddach nag y mae llawer o bobl yn sylweddoli ond mae’n fater o ewyllys.

“Gwnaeth tua 8 neu 9 ohonom y pum tro llawn ond roedd yn ymdrech wych ar y cyd, cawsom ni dros 75% o aelodau staff

Gwnaethon ni ddewis Tŷ Hafan oherwydd ein bod ni’n rhannu cysylltiad cyffredin. Rydyn ni’n dau yn gweithio gyda phlant, ac wedi ein lleoli yn ne Cymru a staff sydd wrth wraidd ein sefydliadau. Pan wnaethon ni ymweld â’r hosbis, gwnaeth hynny ond cadarnhau ein cysylltiad â Tŷ Hafan.

Genus, rydych chi’n anhygoel!

Diolch am roi cymaint o’ch amser i’n helpu ni.

Gwanwyn | Haf 2023
17
Rhoddi

Hybiau Cymunedol

Mae ein Hybiau Cymunedol yn cael eu cynnal ledled Cymru, gan ddod â Tŷ Hafan at y teuluoedd hynny nad ydyn nhw’n gallu ymweld â ni’n aml.

Ni all pawb ddod i’n hosbis yn rheolaidd oherwydd ymrwymiadau gofal, gwaith a chyfyngiadau teithio.

Ac, wrth i’r galw am ein gwasanaethau dyfu ac wrth i ni barhau i adfer ar ôl pandemig COVID-19, rydym yn dal i fethu â chynnig cymaint o gyfleoedd i aros yn ein hosbis ag yr hoffem ni.

Mae ein Hybiau Cymunedol yn ddigwyddiadau cwrdd â’n gilydd sydd wedi’u cynllunio i gael hwyl ac ymlacio, cwrdd â ffrindiau newydd a chael a rhoi cefnogaeth emosiynol.

Maen nhw’n cael eu trefnu gan ein Tîm Lles Teuluoedd sy’n teithio ffyrdd Cymru droeon bob mis, gan gynnwys:

• Gweithwyr Cymorth i Frodyr a Chwiorydd

• Ymarferwyr Cymorth i Deuluoedd

• Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd

• Therapyddion Ategol

• Gweithwyr Chwarae.

Mae Handcrafted yn brosiect lle mae

Penny hyfryd a’i gwirfoddolwyr yn creu crefftau cynaliadwy o gyflenwadau sydd wedi’u rhoi i ni a’u gwerth yn ein siop Etsy.

Gan fod Penny yn hen law ar bob math o grefftau, mae hi’n creu lle yn ein Hybiau Cymunedol er mwyn i deuluoedd allu bod yn greadigol – ac nid dim ond y plant!

Gall y teuluoedd yr ydym yn eu cefnogi ddod draw am egwyl fach. Rydym yn cynnig therapïau ategol tawel yn yr Hybiau hyn, fel tylino ar gyfer yr oedolion a thylino stori ar gyfer y plant.

Rydym yn trefnu gemau, celf a chrefft, ein pabell synhwyraidd boblogaidd iawn a lluniaeth, ac rydym ni yno i gael hwyl gyda’r plant a siarad â theuluoedd am unrhyw beth yr hoffan nhw sôn amdano; gallai hynny fod yn sgwrs am y gyfres ddiweddaraf maen nhw’n ei gwylio ar Netflix, cefnogaeth gyda’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu neu unrhyw beth yn y canol.

Hefyd, mae staff dyfeisgar Amgueddfa Caerdydd yn dod weithiau gyda gweithgareddau hynod ddiddorol ar thema gwyddoniaeth i’r plant eu mwynhau.

Un o effeithiau mwyaf yr Hybiau hyn yw bod teuluoedd yn gallu cwrdd â phobl eraill sy’n gallu uniaethu â nhw a beth maen nhw’n ei wynebu. Yn aml, rydym yn gweld teuluoedd yn cyfnewid rhifau ac yn cwrdd â’i gilydd y tu allan i’r Hybiau, gan greu eu rhwydweithiau cymorth eu hunain yn eu cymunedau lleol.

Dywedodd Carrieann, sydd â merch sy’n dod i Tŷ Hafan, wrthym,

Mae Hybiau Cymunedol yn rhoi’r gorau o Tŷ Hafan mewn lleoliad siop un stop leol i ni gyd. Cwrdd â hen ffrindiau, gwneud rhai newydd, crefftau a gemau ar thema, therapi ategol, cyngor, coffi a theisennau, a’r cyfan mewn awyrgylch hamddenol a hapus. Mae’r Hwb misol yn rhoi profiad i edrych ymlaen ato i fy merch a minnau.

“Rwy’n cyflwyno chwarae crefftau hawdd y gall pob oedran ei wneud. Rydyn ni’n gwneud breichledau enwau, yn paentio a lliwio ac rydyn ni’n creu gweithgareddau i’r plant chwarae â nhw.

Gall y plant a’r oedolion ddod draw ataf i eistedd a chymryd rhan mewn gweithgaredd crefft fel paentio a gall eu helpu yn wirioneddol i ymlacio drwy ymgolli mewn gweithgaredd syml sy’n tawelu’r meddwl.

18
Cymunedol
Uchod: Y Babell Synhwyraidd Chwith: Mwynhaodd Emily redeg gweithgaredd tei-lliw yn ei Hyb lleol.
Handcrafted yn dod i Hybiau

Gadael rhodd i Tŷ Hafan yn eich ewyllys

Yn syml, ni fyddem yn gallu cynnig safon y gofal a’r gefnogaeth yr ydym yn ei wneud bob dydd heb fod pobl yn gadael rhodd yn eu hewyllys i Tŷ Hafan.

Gyda’r galw am ein gwasanaethau yn cynyddu, mae caredigrwydd y rhai sy’n gadael rhoddion i ni yn eu hewyllys yn fwy allweddol byth.

Stori Elisabeth

Mae Elisabeth wedi cefnogi Tŷ Hafan ers amser maith. Dechreuodd chwarae ein loteri dros 20 mlynedd yn ôl ac mae hi’n chwarae ein raffl yn rheolaidd - enillodd y brif wobr yn 2010!

Yn fwy diweddar, cysylltodd Elisabeth â’n Tîm Gofal Cefnogwyr gan ei bod hi eisiau cynnwys rhodd yn ei hewyllys i gefnogi’n gwaith.

Dywedodd Elisabeth wrthym, “Roedd angen i mi newid fy ewyllys ac roedd

Tŷ Hafan yn ddewis pendant i gael ei gynnwys. Rwy’n gwybod bod rhoddion drwy ewyllysion yn bwysig i elusennau ac rwy’n falch o allu teimlo fy mod i’n gallu gadael etifeddiaeth i Tŷ Hafan.

“Roeddwn i’n Gydlynydd Anghenion

Addysgol Arbennig ac yn athro mewn

ysgol uwchradd prif ffrwd tan i mi ymddeol. Rwyf i wedi bod eisiau helpu plant i gyrraedd eu potensial a bod yn hapus erioed. Rwy’n gallu gweld o’r cylchlythyrau mae Tŷ Hafan yn eu hanfon, pa mor hapus ac wedi’u cefnogi y maen nhw’n gwneud i blant a’u teuluoedd deimlo.

Mae’n rhaid bod y gefnogaeth

a’r gofal y mae Tŷ Hafan yn eu rhoi i blant a theuluoedd yn amhrisiadwy yn fy nhyb i. Sut byddai eu bywydau heb Tŷ Hafan? Wiw i ni ystyried y fath beth, felly byddaf i bob amser yn gefnogwr.

Diolch yn fawr iawn, Elisabeth.

Mae eich cyfraniad parhaus at ein gwaith yn gwneud cymaint o wahaniaeth.

I wybod mwy am adael rhodd yn eich ewyllys i Tŷ Hafan, cysylltwch â gofal cefnogwyr ar 02920 532 255, yn supportercare@tyhafan.org neu ewch i’n gwefan: www.tyhafan.org/support-us/leaving-a-gift-in-your-will

Wyddoch chi?

Mae’r rhoddion y mae pobl yn eu gadael i Tŷ Hafan yn eu hewyllys yn ariannu 25% o’n costau gofal.

Wyddoch chi?

Rydym yn cynnig gwasanaeth ysgrifennu ewyllys am ddim mewn partneriaeth â’r National Free Wills Network a Farewill.

Wyddoch chi?

Mae 3 math o rodd y gallwch eu gadael yn eich ewyllys: rhodd gweddillion (canran o’ch ystâd), rhodd benodol (e.e. stociau a chyfranddaliadau, gemwaith) neu rodd ariannol (swm penodol o arian).

19 Gwanwyn | Haf 2023 Rhoddi

Her 3 Chopa Cymru GE Aviation yn troi’n oed! 25

Ymhell yn ôl ym 1998, dechreuodd GE Aviation

Her 3 Chopa Cymru.

Mae

Her 3 Chopa

Mae Her 3 Chopa Cymru GE Aviation Cymraeg yn her enfawr. Mae timau o gerddwyr yn dringo’r Wyddfa, Cadair Idris a Pen-y-Fan gefn-wrth-gefn. Mae hynny’n daith gerdded 20.35 milltir o hyd ac esgyniad o 9,397 troedfedd mewn un diwrnod!

Dechreuodd yn dawel fach, gyda’r cyntaf o’i math yn cynnwys dau grŵp yn unig.

Yn 2023, 25 mlynedd yn ddiweddarach, nid yw her 3 Chopa Cymru GE Aviation wedi colli momentwm, ac mae wedi codi £1,841,429 i ni.

Pen-blwydd hapus i her 3 Chopa Cymru GE Aviation!

Mae gwirfoddoli yn rhan fawr o weithio yn GE Aviation. Mae gwirfoddolwyr GE ledled y byd wedi ymrwymo i gymryd rhan mewn digwyddiadau elusennol a gweithgareddau cymunedol i wneud gwahaniaeth.

Mae gweithwyr o GE Aviation Cymru, sydd wedi’i leoli yn Nantgarw, wrth eu bodd yn gwirfoddoli fel marsialiaid yn nigwyddiad her 3 Chopa Cymru ac yn cofrestru timau bob blwyddyn.

Ers i’r digwyddiad ddechrau, mae dros 1,600 o weithwyr GE Aviation wedi gwirfoddoli. Mae hynny’n gamp enfawr ac rydym wedi’n syfrdanu gan eu hymrwymiad i’r digwyddiad epig hwn ac i godi arian i ni (ac yn llawn edmygedd!).

Newyddion a straeon Tŷ Hafan | www.tyhafan.org 20
Cymru GE Aviation wedi codi
Mae Gavin James o GE Aviation a marsial Cadair Idris yn nodi, Her 3 Chopa Cymru yw’r digwyddiad cyntaf yn fy nghalendr bob blwyddyn a hynny ers i mi ddechrau yn GE. Mae’n rhoi ymdeimlad mawr o falchder i mi i fod yn rhan o ddigwyddiad mor fawr sy’n helpu cymaint o bobl eraill. Mae gweld y gwaith y mae Tŷ Hafan yn ei wneud yn ei gwneud yn ddewis hawdd rhoi o fy amser. i Tŷ
£1,841,429
Hafan

Mae timau o deuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr o bob cwr o’r wlad – a’r byd – yn cyflwyno timau ar gyfer her

3 Chopa Cymru. Mae Craig Jackson, o Knauf Insulation yng Nghwmbrân, wedi mynd i’r afael â her 3 Chopa Cymru yn 2018, 2019 a 2022.

“2022 oedd y drydedd flwyddyn yn olynol i mi gwblhau her 3 Chopa Cymru Tŷ Hafan. Gwnes i fwynhau bob tro yn fawr, ac roedd pob blwyddyn yn wahanol o ran y tywydd. Mae’n heriol iawn ac mae hyfforddiant paratoi yn angenrheidiol!

“Mae’r golygfeydd yn anhygoel ac mae’r adrenalin yn eich gwthio chi ymlaen wrth i chi wynebu pob mynydd. Rwy’n dweud wrth gydweithwyr, teulu a ffrindiau yn aml am fy mhrofiadau a byddwn i’n annog unrhyw un i gofrestru ar gyfer yr achos gwych hwn.”

Gwnaeth Sarah, ein Prif Weithredwr

Cyfryngau Cymdeithasol gwych yn

Tŷ Hafan, ymgymryd â her 3 Chopa Cymru yn 2016 ac mae’n cofrestru unwaith eto eleni.

“Fe wnes i gwblhau her 3 Chopa Cymru ac mae hi wir yn un o fy llwyddiannau rwy’n fwyaf balch ohono, roedd yn brofiad anhygoel.

“Fe wnes i’r her gyda fy chwaer, llystad, llyschwaer a fy mam fel gyrrwr, ac ni allwn i fod wedi’i gwneud heb eu cefnogaeth nhw a chefnogaeth eraill a oedd yn cymryd rhan. Rydyn ni’n dal i chwerthin ynghylch pryd dywedodd marsial ar Gadair Idris wrthym am beidio â rhuthro ac i fynd mor gyflym ag aelod arafaf ein tîm, yna trodd pawb i edrych arnaf i!

“Fe wnaethom ni godi dros £3,000 fel grŵp wrth i gyflogwr fy chwaer ychwanegu arian cyfatebol at yr arian y gwnaeth hi ei godi. Felly, nid yn unig oedd y profiad ei hun yn anhygoel, ond roedd yn teimlo’n anhygoel i godi’r swm hwn o arian ar gyfer Tŷ Hafan. Rwyf wedi cyffroi i gymryd rhan yn 2023 ar gyfer 25ain blwyddyn y digwyddiad, bydd yn ddathliad yn sicr.”

Cofrestru ar gyfer Her 3

Chopa Cymru GE yn 2023

Digwyddiad cerdded yw her 3 Chopa

Cymru GE, nid ras! Bydd gan eich tîm 15 awr i gwblhau’r her.

Bydd angen tîm o bedwar cerddwr ac un gyrrwr. Bydd y cerddwyr yn dringo’r mynyddoedd a bydd y gyrrwr yn gyrru’r cerddwyr o fynydd i fynydd.

Byddwch chi’n dechrau gyda’r Wyddfa, ac yna symud ymlaen i Gadair Idris ac

yna Pen-y-Fan. Bydd marsialiaid ar y diwrnod i gadw llygad arnoch chi, ond bydd angen sgiliau darllen map arnoch i lywio.

Mae hwn yn ddigwyddiad sy’n grymuso ac mae’r cyfranogwyr yn dwlu arno, ond yn bendant mae angen hyfforddi, felly nawr yw’r amser i luchio’r llwch oddi ar eich esgidiau cerdded!

Dysgwch fwy am her 3 Chopa Cymru GE a chofrestrwch yma:

www.welsh3peaks.co.uk

Mae Sam Kemlo o GE Aviation a marsial Cadair Idris yn rhannu,

“Mae gwirfoddoli ar gyfer Her 3 Chopa Cymru yn un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn. Mae ein tîm marsialiaid yn deulu o bobl o’r un anian. Yr unig bwrpas sydd gennym ar y diwrnod hwnnw yw cynorthwyo’r cystadleuwyr yn ddiogel o’r dechrau i’r diwedd.”

“Gwybod bod ein cefnogaeth yn gallu rhoi hapusrwydd ac amseroedd ystyrlon i deuluoedd yn ystod cyfnodau anodd yw’r hyn sy’n gwneud gwirfoddoli mor arbennig i mi.”

Dyddiad y digwyddiad:

Dydd Sadwrn 10 Mehefin 2023

Lleoliad:

Yr Wyddfa | Cadair Idris | Pen-y-Fan

Ffi gofrestru: £25 y cerddwr

Nod noddi: £200 y cerddwr

Gwanwyn | Haf 2023 Rhoddi 21

Dyma’r adeg i fynd allan i’r awyr agored ac, yn y misoedd nesaf, mae llawer o heriau rhedeg y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw!

Gallai fod yn farathon, neu gallai fod yn 5k! Mae herio eich hun gyda digwyddiad rhedeg yn ffordd wych o wella eich ffitrwydd a’ch iechyd meddwl, gan wthio’ch ffiniau a chodi arian ar gyfer elusen.

Mae bod yn gyfforddus wrth hyfforddi ac ar ddiwrnod y ras yn brif flaenoriaeth a bydd eich dillad yn aml iawn yn dyngedfennol. Nid oes angen prynu unrhyw beth ffansi, ond bydd dewis dillad sy’n ysgafn a ddim yn rhwbio yn helpu’n fawr.

Gallai’r rhain gynnwys:

• Siorts neu legins

• Sanau o ansawdd da

• Cr ys-t/fest wedi’i wneud o ddeunydd sy’n amsugno lleithder (e.e. polyester neu neilon)

• Bra chwaraeon

• esgidiau rhedeg cyfforddus sy’n ffitio’n dda.

Awgrymiadau

Defnyddiwch ddau bâr o esgidiau rhedeg ar gyfer hyfforddi. Ar ddiwrnod y ras, dewiswch y pâr mwyaf cyfforddus.

Hyfforddi

Yn dibynnu ar ba mor bell y byddwch chi’n rhedeg, y nod ar gyfer maeth wrth hyfforddi yw dod o hyd i fwydydd a fydd yn eich helpu i aros yn llawn am gyfnod hirach – ond heb fod yn rhy llawn neu chwyddedig.

Gall bwydydd â llawer o garbohydradau a phrotein (fel ffa a ffacbys) fod yn ffrind gorau i chi ar yr adeg hon.

Pan fyddwch chi’n hyfforddi fel dechreuwr, mae’n debygol y byddwch chi’n teimlo’n fwy llwglyd nag arfer (mae rhai rhedwyr yn galw’r teimlad yma hwn yn ‘rungry’!). Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell calorïau ar-lein i ddod o hyd i’r nifer o galorïau gorau i chi.

Nawr yw’r amser i arbrofi. Dewch o hyd i’r prydau sy’n rhoi’r egni sydd ei angen arnoch.

Cyn y ras

Nid dyma’r amser i roi cynnig ar unrhyw beth newydd! Tair i bedair awr cyn y ras, bwytwch bryd o fwyd sydd â llawer o garbohydradau a lefel gymedrol o brotein. Awr cyn y ras, dewiswch fyrbryd ysgafn sydd â llawer o garbohydradau.

Yn ystod y ras

Bydd llawer o ddigwyddiadau rhedeg yn dosbarthu geliau egni. Gallwch hefyd ddod â byrbryd gyda chi yn eich poced – mae rhai rhedwyr yn hoffi cario ffrwythau sych neu jellybeans i’w bwyta yng nghanol ras.

Ar ôl y ras

Ar ôl y ras, dewiswch rywbeth â llawer o garbohydradau a phrotein. Ceisiwch fwyta o fewn awr ar ôl i chi orffen y ras.

Newyddion a straeon Tŷ Hafan | www.tyhafan.org 22
Dillad Maeth
1 2 3 4
Canllawiau i ddechreuwr ar ... heriau rhedeg

Awgrymiadau ar gyfer diwrnod y ras

Cofiwch hydradu

Yfwch ddŵr cyn, yn ystod ac ar ôl y ras. Pan fyddwch chi’n rhedeg, ceisiwch yfed 400ml - 800ml o ddŵr bob awr, yn dibynnu ar ba mor gynnes yw hi’r diwrnod hwnnw.

Peidiwch â chanolbwyntio ar y cloc

Mae’r rhan fwyaf o redwyr yn mynd trwy uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ar ddiwrnod y ras ac mae edrych ar yr amser yn rheolaidd yn gallu ychwanegu at yr isafbwyntiau. Canolbwyntiwch ar fwynhau rhedeg a’r awyrgylch yn lle cyfrif y munudau tan y llinell derfyn.

Cysylltwch â’r dorf

Mae digwyddiadau rhedeg yn enwog am eu cefnogwyr brwd! Gall y dorf hwyliog godi eich ysbryd yn wirioneddol, felly cysylltwch â hi gymaint â phosib.

Byddai’n anhygoel pe baech yn rhedeg dros Tŷ Hafan! Pan fyddwch yn rhedeg i’n cefnogi ni, byddwn wrth law i’ch helpu drwy gydol eich taith, o’r cam cyntaf i’r llinell derfyn.

Rhedodd Steffan William, y maer blaenorol a chynghorydd presennol Bro Morgannwg, Hanner Marathon Caerdydd i godi arian ar gyfer Tŷ Hafan.

“Roeddwn i eisiau codi ymwybyddiaeth o’r hafan wych hon ar stepen ein drws a’r angen i gynyddu ei gyllid, a gwneud rhywbeth ymarferol fel codi arian iddi,” meddai Steffan wrthym.

“Yn ogystal ag ymweld â safle Tŷ Hafan ger Y Barri a dod i adnabod rhai o’r staff, ar y diwrnod roedd Tŷ Hafan yn wirioneddol ardderchog.

“Gwnaeth pethau syml fel gallu gadael fy mhethau yn eu pabell a chael yr holl anogaeth gan y staff wahaniaeth enfawr i mi. Gwnaeth y rhedeg yn y digwyddiad yn llawer haws ac yn llai o straen.

“Wrth helpu i godi arian ar gyfer Tŷ Hafan, rydych chi’n codi arian ar gyfer achos gwych sy’n gallu gwneud gwahaniaeth uniongyrchol i fywydau plant. Mae ganddyn nhw gymaint o bethau i’w cynnig ac mae’n bwysig iawn ein bod ni’n rhoi cymaint ag y gallwn.

Gwnewch wahaniaethcymerwch ran a helpwch!

Beth fyddwch chi’n ei gael

• Gwahoddiad i daith o amgylch yr hosbis

• Deunyddiau a chymorth codi arian

• Canllaw hyfforddi a maeth penodol i’r digwyddiad

• Fest rhedeg Tŷ Hafan deniadol iawn

• Nwyddau am ddim ar y diwrnod ar stondin wybodaeth Tŷ Hafan.

Mae unrhyw un sy’n rhedeg drosom ni yn cael mynediad am ddim i’n grŵp Facebook ar gyfer rhedwyr. Dyma ffordd wych o rannu cyngor rhedeg a chwrdd â phobl eraill sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad.

I gael gwybod am y digwyddiadau rhedeg y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw er mwyn cefnogi Tŷ Hafan, ewch i: www.tyhafan.org/ support-us/taking-part-in-an-event

Byddem ni wrth ein bodd yn gweld lluniau o’ch hyfforddiant a diwrnod y digwyddiad. Rhannwch eich lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #runtyhafan!

Cynlluniwch eich ffordd i’r ras

Mae digwyddiadau rhedeg yn aml yn arwain at gau ffyrdd a thrafferthion teithio eraill. Os ydych chi’n byw yn bell i ffwrdd o’r ras, ystyriwch aros mewn gwesty ger y lleoliad y noson cyn diwrnod y ras.

Digwyddiadau rhedeg yn 2023

Mae digon o gyfleoedd i redeg gyda Tŷ Hafan fel eich elusen ddewisol eleni. Dyma rai o’r digwyddiadau y gallech eu hystyried:

Gwanwyn | Haf 2023
Rhoddi
Her Llwybr Bannau Brycheiniog TEC Hanner Marathon Abertawe Marathon Cymru 10k Y Barri Hanner Marathon Caerdydd 06 MAI 11 MEH 02 GOR 06 AWST 01 HYD
Rhedeg dros Tŷ Hafan

Oedran presennol plant mewn gofal

TŶ HAFAN MEWN RHIFAU

Costau blynyddol cynnal gofal miliwn £5.2

Plant a dderbyniwyd ers 1999 fesul Bwrdd Iechyd Lleol £ 1424,

Cyfanswm incwm

Mae 83c o bob punt o incwm yn cyfrannu at ofal. Nid yw costau gweithredu gweithgareddau masnachol wedi’u cynnwys.

Cost ddyddiol gofal

Loteri

(o dan flwydd oed) Oedran cyfartalog ar adeg atgyfeirio yn ystod y 12 mis diwethaf Plant a fu farw mis Hydref 22 – mis Ionawr 23

Pobl ifanc sydd wedi symud ymlaen o wasanaethau plant mis Hydref 22 - mis Ionawr 23 Nifer y plant sydd wedi aros ar gyfer gofal argyfwng

Nifer y troeon yn chwarae’r loteri

Nifer y teuluoedd sy’n derbyn cymorth profedigaeth

Gwirfoddolwyr (ac eithrio digwyddiadau) Llysgenhadon Staff

Nifer y siopau

siopau Tŷ Hafan

329
1,019
12% Etifeddiaeth 15%
Manwerthu 22%
18% Codi
29%
4%
2 6 6 1 2 520 50 184 Llywodraeth
Arian
Buddsoddiad
18
7
0 oed
3
8 168
116 25 144 176 255 279 7 Wedi’u cyfeirio o’r tu allan i’r ardal 0-3 oed 47 4-5 oed 20 6-10 oed 78 11-16 oed 118 17 oed 15 17c 83c 66 18+ oed 51 Newyddion a straeon Tŷ Hafan | www.tyhafan.org 24
cynnal
2021/22 ar hyn obryd ers Bwrdd Iechyd Hywel Dda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg o blant yn cael eu cefnogi o blant wedi’u cefnogi mae mae
yn ystod y 12 mis diwethaf
Costau
gofal

Arwyr codi arian

Bob dydd rydym yn cael ein syfrdanu gan ymdrechion codi arian anhygoel ein cefnogwyr. Mae cannoedd o bobl bob blwyddyn yn treulio’u hamser rhydd yn codi arian hanfodol ar gyfer ein gwasanaethau gofal. O’n safbwynt ni, maen nhw i gyd yn arwyr.

Aberthu gwallt

Mae Christopher Guy yn ffan mawr o Elvis Presley. Ei brif ddiléit oedd ei wallt du yn steil Elvis ac yn ddewr iawn, fe wnaeth eillio’r cyfan fel rhan o ddigwyddiad codi arian ehangach yng Nghlwb Ceidwadwyr Penarth i godi arian i ni!

Codwyd cyfanswm o £1,056, felly fel y byddai Elvis yn ei ddweud, diolch yn fawr iawn!

Priodas yn y gaeaf

Roedd clychau priodas yn canu ar 30 Rhagfyr a gofynnodd

Geraldine a Martin O’Sullivan am roddion i Tŷ Hafan yn lle anrhegion, gan godi £527.01 i ni. Llongyfarchiadau, Geraldine a Martin, a diolch am eich haelioni!

Codi arian ar gyfer

Tŷ Hafan

Wedi’ch ysbrydoli gan y straeon hyn? Gwych!

Mae’r byd yw eiddo i chi pan fyddwch chi’n codi arian ar gyfer Tŷ Hafan. Gallwch gynnal digwyddiad, ymgymryd â her, gwneud a gwerthu neu wneud rhywbeth hollol unigryw!

Bydd ein Tîm Gofal Cefnogwyr gyda chi bob cam o’r ffordd. Cysylltwch â nhw drwy anfon e-bost i supportercare@tyhafan.org neu ffonio 02920 532 255.

Arddangosfa Nadolig

Mae Guy Chapman yn gefnogwr Tŷ Hafan ers tro. Bob blwyddyn, mae’n gosod golygfa Nadolig y tu allan i’w dŷ yn Ninas Powys ac arddangosfa’r Geni yng Nghanolfan Arddio Pugh i godi arian ar ein cyfer. Mae wedi codi cyfanswm aruthrol o £8,191.35. Diolch am bopeth yr ydych chi wedi’i wneud drosom ni, Guy.

Cerdded trwy dân

Mae rhai o’n cefnogwyr hyd yn oed yn cerdded dros lo poeth i ni!

Fe wnaethom gynnal digwyddiad Cerdded trwy dân yn stadiwm pêl-droed Dinas Caerdydd, lle cerddodd codwyr arian dewr ar draws darn pum metr o golsion pren 800 gradd. A do, fe wnaethon nhw hynny’n droednoeth! Cododd y digwyddiad hwn £16,895.83, felly ‘Diolch yn fawr’ enfawr i bawb

| Haf 2023
Gwanwyn
25
Rhoddi

Sut mae eich rhoddion yn helpu

£14,247

yn ariannu diwrnod cyfan o ofal a chymorth meddygol arbenigol yn ein hosbis.

£11,000

yn talu am grud arbenigol.

£7,000

yn rhoi pum diwrnod o ofal seibiant byr i deulu yn ein hosbis, gan helpu mam a dad i gael rhywfaint o orffwys y mae mawr ei angen arnyn nhw.

£2,400

yn talu am y cyflenwad ocsigen sy’n cael ei ddefnyddio yn yr hosbis am flwyddyn

£1,000

yn talu am yr holl gyflenwadau meddygol sy’n cael eu defnyddio yn yr hosbis am fis

£250

yn rhoi pum awr o therapi cerdd i blentyn yn ei gartref.

£200

yn ariannu’r cyflenwad ocsigen sy’n cael ei ddefnyddio yn yr hosbis am fis

£50

yn darparu awr o therapi cerdd.

Rhoi

Gwnewch rodd reolaidd neu un tro. www.tyhafan.org/donate

Chwarae ein loteri

Cofrestrwch i chwarae ein loteri. www.tyhafanlottery.co.uk

Gadael rhodd yn eich ewyllys Gadewch rodd i Tŷ Hafan yn eich ewyllys. www.tyhafan.org/supportus/leaving-a-gift-in-your-will

Siop Tŷ Hafan Siopwch yn un o’n 18 o siopau elusen. www.tyhafan.org/supportus/shop

Codi arian

Trefnwch neu cymerwch ran mewn digwyddiad codi arian. www.tyhafan.org/support-us/ fundraising

Gwirfoddoli

Gwirfoddolwch yn ein siopau, ein prif swyddfa neu’n digwyddiadau. www.tyhafan.org/support-us/ volunteer-for-ty-hafan

26
1 2 3 4
Newyddion a straeon Tŷ Hafan | www.tyhafan.org
5 6
6 ffordd y gallwch chi helpu Tŷ Hafan

Dangoswch eich cefnogaeth i’n teuluoedd. ..

Hoffwn roi rhodd o:

£25 £50 £100 neu Arall £

Defnydd swyddfa yn unig: CCADD9

Eich manylion

Enw:

Cyfeiriad: Cod post:

Cynyddwch eich cyfraniad gyda Chymorth Rhodd

Os ydych yn cytuno i roi Cymorth Rhodd ar eich rhoddion, byddwn ni hefyd yn gallu hawlio Cymorth Rhodd ar unrhyw roddion gennych yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Rydw i’n drethdalwr yn y Deyrnas Unedig ac yn deall os ydw i’n talu llai o Dreth Incwm a/neu Dreth ar Enillion Cyfalaf na swm y Cymorth Rhodd a hawliwyd ar fy holl roddion yn y flwyddyn dreth honno mai fy nghyfrifoldeb i yw talu unrhyw wahaniaeth. Mae’r datganiad hwn hefyd yn ymwneud â’r holl roddion yr wyf i wedi’u gwneud i Tŷ Hafan yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf a’r holl roddion rwy’n eu gwneud wedi hynny tan i mi eich hysbysu fel arall.

Eich taliad

Hoffwn i dalu drwy: Siec Archeb bost Taleb CAF (Gwnewch yn daladwy i Tŷ Hafan)

Neu drwy : Visa Mastercard Debyd

Enw ar y cerdyn:

Cyfeiriad deiliad y cerdyn (os yw’n wahanol i’r uchod):

Rhif y cerdyn Dyddiad dod i ben /

Rhif diogelwch Dyddiad cyhoeddi /

Cerdyn debyd yn unig Rhif cyhoeddi

Llofnod: Dyddiad:

Os byddai’n well gennych beidio â derbyn llythyr diolch, ticiwch yma

A fyddai diddordeb gennych chi mewn derbyn Pecyn Gwybodaeth Etifeddiaeth?

Byddem ni wrth ein boddau’n rhoi gwybod i chi ynghylch sut mae eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth i blant yng Nghymru a ffyrdd eraill y gallwch chi helpu. Rhowch wybod i ni sut yr hoffech glywed gennym ni.

Hoffwn i chi gysylltu â mi drwy: E-bost

Fy nghyfeiriad e-bost i yw:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy e-bostio supportercare@tyhafan.org

Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth ac yn parchu eich preifatrwydd. Ni fyddwn byth yn gwerthu nac yn rhannu eich manylion ac rydym yn addo eu cadw’n ddiogel. I gael rhagor o fanylion am sut mae eich data’n cael ei ddefnyddio a’i storio, ewch i www.tyhafan.org/privacy-policy

Wedi’i gofrestru yng Nghymru rhif: 3077406. Rhif elusen gofrestredig: 1047912

Gwanwyn | Haf 2023 Rhoddi
(3 rhif olaf ar gefn y cedyn)
1 2 3 4 5 6

12-5pm Tŷ Hafan, Heol Hayes, Sili CF64 5XX

Gorffennaf
Dydd Sadwrn 15
2023
Gweithgareddau
£2
Plant dan am ddim 2 oed Noddw
Tocynnau: www.tyhafan.org/funday Cerddoriaeth Fyw Stondinau bwyd
am ddim Gwneud crefftau
y pen
yd gan: Parcio £1 y cerbyd Dim cwn
ac eithrio cwn tyw ys

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.