Bydd llawer o fyfyrwyr Safon Uwch Hanes, ond nid pob un, wedi astudio'r pwnc fel TGAU a bydd ganddyn nhw syniad eithaf da o'r hyn y gallan nhw ei ddisgwyl o'r pwnc hwn. Hyd yn oed os nad ydyn nhw wedi astudio TGAU Hanes. mae'n hawdd trosglwyddo'r sgiliau a ddatblygwyd mewn pynciau eraill i'r ddisgyblaeth hon. Mae gan y cwrs dri nod. Galluogi dysgwyr i:
Cyflwyniad i Safon Uwch Hanes
• ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth, a'u paratoi ar gyfer llunio barn ddadansoddol a gwerthusol am y wybodaeth a'r dealltwriaeth hwnnw • dadansoddi a gwerthuso tystiolaeth a llunio barn am ei gwerth (gweler tudalennau 12–16 i gael rhagor o fanylion am hyn) • archwilio sut mae dehongliadau yn cael eu ffurfio a llunio barn feirniadol am y dehongliadau hynny. Mae'r holl bethau hyn yn sgiliau pwysig – ac ni ddylid diystyru eu gwerth. Ar ôl cwblhau'r cwrs, mae'n bosibl dilyn sawl llwybr. Er enghraifft, mae'n bosibl dewis llwybr sy'n canolbwyntio ar hanes yr oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar, gan gynnwys: Ewrop yn yr unfed ganrif ar bymtheg (UG Uned 1); y Rhyfel Cartref a'i ganlyniadau tua 1625–1660 (UG Uned 2 ac U2 Uned 4); a gwrthwynebiad, goresgyn a gwrthryfel yng Nghymru tua 1240–1415 (U2 Uned 3). Neu gellir dilyn llwybr gwahanol ac astudio hanes pobl a chymdeithasau, archwilio Cymru a Lloegr tua 1880–1980 (UG Uned 1); y Rhyfel Cartref a'i ganlyniadau tua 1840–1877 (UG Uned 2 ac U2 Uned 4); a Rwsia tua 1881–1989 (U2 Uned 3).
Neil Evans Swyddog Pwnc TAG Hanes (CBAC) Cyn ymuno â CBAC roeddwn yn gweithio gyda bwrdd arholi rhyngwladol am bum mlynedd ar ôl bod yn addysgu Safon Uwch Hanes mewn coleg chweched dosbarth am 10 mlynedd cyn hynny. Roeddwn yn canolbwyntio'n bennaf ar hanes Cymru, Lloegr ac Ewrop yn yr oesoedd canol hwyr a'r cyfnod modern cynnar. Uchod, llun o gerflun y diwygiwr o'r Almaen, Philipp Melanchthon, Lutherstadt-Wittenberg, Saxony-Anhalt, yr Almaen. Cydnabyddiaeth: Pixabay
Mewn gwirionedd, mae 34 opsiwn a dros 200 o lwybrau gwahanol i ddewis ohonyn nhw. Er bod y rhain fel arfer yn cael eu dewis gan y canolfannau (h.y. ysgolion a cholegau), y bydd llawer ohonyn nhw'n dewis cynnig mwy nag un llwybr, mae'n bosibl i ddysgwyr gyfrannu at gyfeiriad eu dysgu eu hunain. Gallan nhw ddewis asesiad di-arholiad – neu waith cwrs – dewis sy'n cyferbynnu â’r llwybr maen nhw’n ei astudio, neu’n ei ategu. Mae llawer o ganolfannau'n cynnig hyd at bedwar teitl gwahanol ar gyfer asesiad di-arholiad er mwyn helpu'r dysgwyr i wneud hyn, ond os oes gan ddysgwr ddiddordeb mewn maes penodol o hanes ac mae'n dymuno ei astudio ar gyfer ei asesiad di-arholiad, yna gall gyflwyno ei deitl ei hun – drwy ei athro/athrawes – er mwyn i CBAC ei gymeradwyo. Ni waeth pa lwybr a ddewisir, rydyn ni'n gobeithio y bydd dysgwyr yn mwynhau Safon Uwch hanes, y byddan nhw’n adeiladu ar y sgiliau a ddatblygwyd ar gyfer TGAU ac yn eu defnyddio i ddod yn feddylwyr ymholgar, myfyriol ac agored eu meddwl sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol mewn bywyd.
11