3 minute read
Rysáit cacennau cri Welsh cake recipe
from Insight - Issue 19
by ACT
Cynhwysion
227g blawd hunan-godi a 1/2 llwy de o bowdr pobi 113g menyn/margarin 85g siwgr 85g cyrens 1 wy mawr ac wy bach Pinsiad da o sbeis cymysg neu nytmeg yn unig
Ingredients
227g self-raising and ½ teaspoon baking powder 113g butter/margarine 85g sugar 85g currants 1 large egg and a little egg Good pinch mixed spice or just nutmeg
Rysáit
Rhwbiwch y menyn neu'r margarin i mewn i'r blawd (ychwanegwch y sbeis cymysg/ nytmeg) Ychwanegwch y siwgr a'r cyrens Cyfunwch y rhain gydag wy wedi'i guro ac ychydig o laeth (os oes angen) i bâst eithaf stiff – yn debyg i grwst brau ond ychydig yn feddalach
Rholiwch ef allan ar fwrdd gyda blawd arno i tua 1/4 modfedd o drwch
Torrwch yn gylchoedd 2 ½ modfedd Pobwch ar garreg bobi wedi’i iro, eithaf poeth am 3-5munud ar bob ochr nes eu bod yn frown euraid Gorffennwch gyda rhywfaint o siwgr
Recipe
Rub the butter or margarine into the flour (add the mixed spice/nutmeg) Add the sugar and currants Bind with beaten egg and a little milk (if needed) to a stiff-ish paste – similar to a shortcrust but slightly softer Roll out on a floured board to about ¼ inch thickness
Cut into 2 ½ inch rounds
Bake on a greased, moderately hot bakestone for 3-5mins in each side until golden brown Finish with a sprinkle of sugar
Top Tip Best enjoyed served warm and fresh!
STAFF YN Y sbotolau
Y mis hwn, fe wnaethom roi’r sbotolau ar Kameron Harrhy a ymunodd ag ACT ym mis Medi 2020 . Mae Kameron yn gweithio fel Datblygwr y Cwricwlwm – Arbenigwr Cymraeg yn ein Canolfan OPH.
This month we put the spotlight on Kameron Harrhy who joined ACT in September 2020. Kameron works as the Curriculum Developer – Welsh Specialist at our OPH Centre.
Dywedwch ychydig wrthym am eich rôl, a sut olwg sydd ar eich diwrnod cyffredin.
Fel rhan o Dîm Datblygu’r Cwricwlwm, gweithiaf yn galed i gefnogi Datblygiad Cwricwlwm ar draws holl ddarpariaeth ACT, wrth greu adnoddau a chanllawiau dwyieithog a Chymreig, a sicrhau bod y Dimensiwn Cymreig wedi’i wreiddio’n llawn. Bydd hyn yn galluogi ein dysgwyr i fynegi eu barnau, a’u hanghenion, yn eu dewis iaith hwythau. Rwyf wedi mwynhau gweithio’n agos gyda fy nhîm gan roi cynnig ar offer digidol newydd a datblygu fy sgiliau creadigol, a hynny er mwyn cynhyrchu adnoddau Dysgu ac Addysgu rhyngweithiol ac ysbrydoledig i’n dysgwyr. Dw i wedi bod yn gweithio o adref ers cychwyn gydag ACT, yn dilyn y pandemig, ac felly rwy’n edrych ymlaen yn arw at allu cwrdd â’m tîm yn ddyddiol y tu hwnt i’n sgrin Whereby, yn ogystal â mwynhau’r danteithion sydd ar gael yng nghaffi OPH!
Tell us a little about your role, and what your average day looks like.
As a part of the newly formed Curriculum Team, I am involved in supporting Curriculum Development across all of ACT provision to create bilingual Welsh resources, ensuring the Welsh Dimension is fully embedded. This will enable learners to express their views and needs in the language of their choice. I’ve thoroughly enjoyed working closely with my team and being able to try new tools and develop my creative skills - all while creating interactive and inspiring teaching and learning resources for our learners. I’ve been working from home since starting with ACT, during the pandemic, so I’m looking forward to officially being able to see my team daily in ‘real-life’ and being able to truly enjoy the OPH café I’ve heard so many great things about!