4 minute read
Beth am fynd yn ddigidol! Let’s get digital
from Insight - Issue 19
by ACT
Gan ganolbwyntio ar amrywiaeth o themâu bydd y sesiynau'n cynnwys dau faes:
Sesiwn 1 – Cynllunio ar gyfer cyflwyno cyfunol
Gan ddechrau gyda'r hanfodion, bydd y sesiwn yn ymdrin â disgwyliadau cyflawni ACT ac yn dangos sut y gall staff cyflwyno ymdrin yn effeithiol â rheoli'r ystafell ddosbarth yn ddigidol, yn ogystal ag adeiladu strategaethau i gefnogi hyn. Bydd y sesiwn hefyd yn edrych ar yr hyn y mae dysgu cyfunol yn ei olygu ac arddulliau dysgu eraill sydd ar gael h.y. dysgu fflip, er mwyn galluogi staff i ymgysylltu, rhyngweithio a symud ymlaen yn effeithiol gyda'u dysgwyr. Bydd y sesiynau hefyd yn arddangos ac yn cyfeirio staff at ystod o feddalwedd ddigidol, gan ddangos manteision ac anfanteision pob un a'r hyn maen nhw’n ddefnyddiol ar ei gyfer, fel y gallant ddewis y feddalwedd gywir ar gyfer yr hyn maen nhw am ei wneud.
Sesiwn 2 - Sut i ennyn diddordeb dysgwyr yn ddigidol gyda dulliau asesu effeithiol ac
amgen: Bydd Sesiwn 2 yn cael ei chyflwyno mewn pedair rhan, sy'n cynnwys amrywiaeth o ‘Ganllawiau Sut i’ a fydd yn galluogi staff i edrych ar y feddalwedd sydd ar gael ac ystyried pa rai fyddai orau i’w defnyddio i ddarparu gweithgareddau creadigol a syml. Mae'r pedair thema yn cynnwys: Rhan 1 - Sut i hwyluso trafodaeth a chydweithredu yn effeithiol h.y. defnyddio ystafelloedd trafod, byrddau gwyn ac ati. Rhan 2 - Sut i greu cwisiau rhyngweithiol a gemau h.y Nearpod, PowerPoint, Quizlet ac ati. Rhan 3 - Creu cynnwys ar-lein - h.y. PowToon's ac ati Rhan 4 - Sut i gael adborth a chofnodi cynnydd dysgwyr - PDFs y gellir eu marcio, cysylltu ag OneFile ac ati Bydd y sesiynau ar gael i gofrestru arnynt o fis Ebrill felly cadwch lygad allan am gyhoeddiadau yn y dyfodol. Focussing on a variety of themes the sessions will be comprised of two areas:
Session 1 – Planning for blended delivery
Starting with the fundamentals, the session will cover ACT delivery expectations and demonstrate how delivery staff can effectively handle classroom management digitally, as well as building strategies to support this. The session will also look at what blended learning means and other styles of learning available i.e. flip learning, in order to enable staff to effectively engage, interact and progress with their learners. The sessions will also showcase and signpost staff to a range of digital software, demonstrating the pros and cons of each and what they are useful for, so they can select the right software for what they want to do.
Session 2 - How to engage learners digitally with effective and alternative assessments
methods: Session 2 will be delivered in four parts, featuring a range of ‘How to Guides’ which will enable staff to look at available software and consider which could be best used to deliver creative and simple activities. The four themes include: Part 1 - How to effectively facilitate discussion and collaboration i.e. use of breakout rooms, whiteboards etc. Part 2 - How to create interactive quizzes and games i.e. Nearpod, PowerPoint, Quizlet etc. Part 3 - Creation of online content - i.e. PowToon’s etc
Part 4 - How to obtain feedback and record learner progress - markable PDFs, linking to OneFile etc The sessions will be available to enrol on from April so keep an eye out for future announcements.
Dod i adnabod... Getting to know...
Geraint Evans Cadeirydd y Gorfforaeth, Bwrdd Grŵp CAVC Chair of Corporation, CAVC Group Board
Dywedwch ychydig wrthym am eich rôl. Pwy ydych chi a beth ydych chi'n gyfrifol amdano?
Rwy'n Gyfreithiwr o ran proffesiwn ond treuliais y rhan fwyaf o'm bywyd gwaith ym maes manwerthu. Roeddwn i'n Llywodraethwr i Goleg y Barri yn wreiddiol ond deuthum yn Llywodraethwr CAVC pan grëwyd y Coleg newydd ar ôl uno â Choleg Glan Hafren yn 2011. Mae rôl y Cadeirydd yn eang ond yn bennaf rwy'n gweithio'n agos iawn gyda Mike James, y Prif Weithredwr, ar gyfeiriad strategol a pherfformiad y Grŵp - sef y Coleg, ACT ac ALS. Mae'r berthynas â Louise Thomas, Clerc a Phennaeth Llywodraethu Corfforaethol y Grŵp yn hollbwysig o ran sicrhau bod y Grŵp yn gweithredu'n effeithiol a gydag atebolrwydd. Mae ein Corff Llywodraethu sy'n cyfarfod yn fisol yn cynnwys pobl broffesiynol fedrus sy'n rhoi o'u hamser yn rhad ac am ddim i gefnogi'r Grŵp a darparu'r her hollbwysig sydd ei hangen i ddatblygu ein hagenda ddeinamig. Mae manylion pob Llywodraethwr i'w gweld ar wefan y Coleg, ewch i gael golwg.
Tell us a bit about your role. Who are you and what are you responsible for?
I am a Lawyer by profession but spent most of my working life in retail. I was originally a Governor of Barry College but became a Governor of CAVC when the new College was created after merging with Coleg Glan Hafren in 2011. The role of Chair is wide ranging but principally I work very closely with Mike James, the Chief Executive, on the strategic direction and performance of the Group - that is the College, ACT & ALS. The relationship with Louise Thomas, the Clerk and Head of Group Corporate Governance is critically important in ensuring the Group operate effectively and with accountability. Our Governing Body which meets monthly is made up of skilled professional people who freely give their time to support the Group and provide the critical challenge necessary to develop our dynamic agenda. Details of each Governor can be found on the College website, please take a look.