y gloran
20c
TESCO YN TYNNU 'NÔL Ar ôl misoedd o ansicrwydd, penderfynodd cwmni Tesco dynnu 'nôl eu cais cynllunio i agor archfarchnad ar hen safle EMI yn Nhreorci. Cafodd y cwmni lawer o sylw yn y wasg yn ddiweddar yn sgil gwneud colledion sylweddol ac mae'n siwr bod y penderfyniad i beidio â mynd ymlaen â'u cynlluniau yn y Rhondda i ryw raddau yn gysylltiedig â hynny. O'r dechrau, bu'r cais yn destun trafod yn yr ardal gyda rhai yn edrych ymlaen at groesawu archfarchnad fawr i'r dref tra bo eraill yn ofni'r effaith a gâi ar
siopau annibynnol y stryd fawr. Trefnwyd ymgyrch i rwystro Tesco rhag dod gan Siambr Fasnach Treorci ac arwyddwyd deiseb a drefnwyd ganddynt gan gannoedd o bobl. Croesawodd Mr Allan Jones, cadeirydd y Siambr y newyddion bod Tesco wedi tynnu eu cais yn ôl, "Rydyn ni wrth ein bodd gan ein bod wedi pryderu'n fawr am ddyfodol nifer o siopau ar ein stryd fawr. Gwelsom beth ddigwyddodd i Donypandy pan agor-
PARHAD AR DUDALEN 4