1 minute read

Pan fydd rhywun yn marw yn yr ysbyty

Next Article
Y dyfodol

Y dyfodol

Darperir Tystysgrif Feddygol o Achos Farwolaeth (TFAF) gan yr ysbyty, sydd ei angen gan y Cofrestrydd. Mewn rhai achosion bydd angen cyfranogiad y Cwrner, a gall hyn oedi cyhoeddiad y TFAF. Mae’r dystysgrif yn cymryd amser i’w pharatoi, a chaiff ei anfon yn electronig i’r Cofrestrydd gan yr ysbyty. Mewn rhan fwyaf o achosion bydd y dystysgrif yn barod erbyn y diwrnod canlynol.

Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin

Ffoniwch y switsfwrdd ar: 01267 235151 a gofynnwch am estyniad 161, y Swyddog Profedigaeth, 11yb – 3:30yh Dydd Llun i Ddydd Gwener.

Os yw eich perthynas wedi marw yn yr Uned Gofal Critigol yng Nglangwili, gwnewch gysylltiad uniongyrchol gyda’r adran ar: 01267 248691

Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli

Ffoniwch y switsfwrdd ar: 01554 756567 a gofynnwch am estyniad 754, y Swyddog Profedigaeth, 11yb – 3:30yh Dydd Llun i Ddydd Gwener.

Os yw’n bosib, sicrhewch fod y wybodaeth ganlynol yn barod:

• Eich rhif ffôn fel y gellir cysylltu â chi pan fydd y dystysgrif wedi cael ei anfon i’r cofrestrydd. • Ai claddedigaeth neu amlosgiad bydd yn cael ei gynnal fel y gellir paratoi’r gwaith papur perthnasol i’r cyfarwyddwr angladd • Os penderfynir, enw’r cyfarwyddwr angladdau y dymunwch ei defnyddio.

This article is from: