1 minute read
Beth gall ffrindiau a theulu ei wneud i helpu
• Treulio amser gyda’r sawl sy’n galaru – mae bod yn agos at bobl eraill yn gallu bod yn gysur mawr
• Bod yna i’r sawl sy’n galaru – weithiau does dim angen siarad
• Rhoi cyfle i’r sawl sy’n galaru siarad a llefain, heb fod rhywun yn dweud wrtho am godi ei galon
• Helpu gyda’r gwaith tŷ • Gofalu am y plant • Rhoi cymorth ar adegau penodol o’r flwyddyn, megis adeg y Nadolig a phen-blwyddi.
Gall fod yn anodd i bobl ddeall pam y mae’r sawl sy’n galaru yn mynd dros yr un hen dir o hyd efallai, gan siarad am yr un pethau ac ypsetio dro ar ôl tro. Mae gwneud hynny’n rhan bwysig o’r broses wella ac yn rhywbeth y dylid ei annog. Mae peidio â sôn am y sawl sydd wedi marw’n gallu gwneud i’r un sy’n galaru deimlo ar wahân i bobl eraill, a gall ychwanegu at y galar.