1 minute read

Ar ôl yr angladd

Gall rhoi trefn ar ystâd yr ymadawedig fod yn ddryslyd, gall gymryd amser a gall achosi gofid. Os ydych wedi cael eich enwi’n ysgutor mewn ewyllys, eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau bod dymuniadau’r unigolyn, fel yr ydych yn eu deall, yn cael eu gwireddu. Bydd hynny’n cynnwys talu costau’r angladd, dyledion a threthi yn ogystal â gwaredu eiddo’r unigolyn ac unrhyw asedau eraill.

Os bydd rhywun yn marw heb adael ewyllys ddilys, bydd angen cael ‘Grant gweinyddu’ gan y Swyddfa Brofiant er mwyn gallu gweinyddu’r ystâd. Dyma sut y gallwch gysylltu â Swyddfa Brofiant Cymru: Caerdydd: 029 2047 4373 Caerfyrddin: 01267 245057

Mae mwy o gyngor a gwybodaeth ar gael gan Cyngor ar Bopeth www.citizensadvice.org.uk

This article is from: