1 minute read

Siarad â phlant am farwolaeth

Fel oedolion, byddwn yn teimlo bod angen i ni amddiffyn ein plant rhag pethau sy’n gallu bod yn anodd i ni. Byddwn yn rhagdybio na fydd plant yn deall marwolaeth a phrofedigaeth, neu y byddant yn eu hypsetio ormod.

Yn aml, byddwn yn camfarnu gallu plant i ymdopi. Yn yr un modd ag oedolion, bydd plant yn ei chael yn fwy anodd ymdopi os na fyddant yn cael gwybod y gwir am beth sy’n digwydd, a gall yr hyn y byddant yn dychmygu sy’n digwydd godi mwy o ofn arnynt. Bydd rhai plant yn hoffi tynnu lluniau neu ysgrifennu straeon fel ffordd o ffarwelio. Mae’n bwysig dweud wrthynt beth sy’n digwydd mewn iaith sy’n briodol i’w hoed. Rhowch gyfle iddynt ofyn cwestiynau a llefain, a chynigiwch ddigon o gariad a chysur.

Efallai y byddwch am ystyried rhoi dewis i blant ynghylch a fyddent yn hoffi dod i’r angladd ai peidio.

This article is from: