1 minute read

Y Crwner

Mewn rhai amgylchiadau, ni fydd yn bosibl i feddyg ymdrin â’r achos roi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth.

Ceir llawer o resymau am hynny, ond yn gyffredinol ni fydd yn bosibl os bu farw’r unigolyn yn sydyn, yn annisgwyl neu o ganlyniad i ddamwain. Mae’r Crwner yn gyfrifol am ymchwilio i farwolaethau o’r fath. Bydd y meddyg/ Swyddog Profedigaethau yn gallu trafod hynny â chi. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd yr ysbyty’n rhoi gwybod i Swyddfa’r Crwner.

Gall y Crwner (yn ôl y gyfraith) orchymyn bod archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal heb ganiatâd y perthnasau, er mwyn gallu canfod achos y farwolaeth. Mewn achosion lle bydd y Crwner yn cynnal post-mortem, bydd Swyddfa’r Crwner yn cysylltu â’r perthynas agosaf ac yn egluro’r drefn.

Y Crwner fydd yn rhoi’r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth, a bydd rhywun o Swyddfa’r Crwner yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi pryd y gallwch fwrw ymlaen â’r angladd.

This article is from: