4 minute read
Y dyfodol
Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i rywun alaru’n amrywio o’r naill berson i’r llall. Efallai na fydd rhai teimladau byth yn diflannu’n llwyr, megis y tristwch oherwydd y farwolaeth a’r hiraeth am yr ymadawedig, ond bydd amser yn lleddfu’r poen. Er na fydd bywyd byth yr un fath, bydd llawer o bobl yn gweld bod amser yn dod pan fyddant yn gallu dechrau mwynhau byw unwaith eto.
RHOI ER COF
Mae coffáu rhywun annwyl gyda rhodd yn ffordd hyfryd o anrhydeddu person arbennig yn ystod cyfnod anodd. Trwy ddewis cefnogi eich elusen GIG leol, bydd y cof am eich anwylyn yn ein helpu i wella gwasanaethau GIG lleol.
Casgliadau mewn angladdau
Mae gofyn i ffrindiau a theulu roi rhodd yn lle blodau mewn angladd neu wasanaeth coffa yn ffordd ystyrlon o gofi o am eich anwylyn. Os hoffech ofyn am roddion i gefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda, cysylltwch â ni i ofyn am amlenni casglu i’w defnyddio yn y gwasanaeth.
Cronfeydd teyrnged
Mae cronfa deyrnged Elusennau Iechyd Hywel Dda yn gofeb ar-lein y gallwch ei chreu a’i phersonoli er cof am anwylyn; mae’n lle i chi gofi o am rywun sy’n arbennig i chi, a dathlu ei fywyd. Gallwch sefydlu eich cronfa deyrnged yn
www.muchloved.com Cymryd rhan mewn digwyddiad
Mae codi arian er cof yn ddull anhygoel o arbennig ac unigryw o anrhydeddu rhywun agos atoch. Pa un ai gwerthiant cacennau neu nenblymio fydd y digwyddiad, mae yna sawl dewis yn bodoli ar gyfer codi arian er cof am anwylyn.
Rhoi rhodd
Os hoffech ddathlu bywyd rhywun annwyl trwy roi rhodd unwaith ac am byth i Elusennau Iechyd Hywel Dda, gallwch gyfrannu’n hawdd yn www.hywelddahealthcharities.org.uk Os byddai’n well gennych gyfrannu trwy’r post, gwnewch sieciau’n daladwy i ‘Elusennau Iechyd Hywel Dda’ a’u hanfon i Elusennau Iechyd Hywel Dda, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Ffordd Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB. Cofi wch gynnwys eich manylion cyswllt, a pheidiwch ag anfon arian parod yn y post.
Trwy ba ddull bynnag y byddwch yn dewis ein cefnogi er cof am rywun arbennig – diolch i chi.
Elusennau Iechyd Hywel Dda yw elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac rydym yn bodoli i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, llesiant a phrofi ad cleifi on, defnyddwyr gwasanaethau a staff y GIG.
elusennauIechydhyweldda.org.uk | #EichElusenGIG E: codiarian.HywelDda@wales.nhs.uk | Ff: 01267 239 815
Roedd y wybodaeth sydd yn y llyfryn hwn yn gyfredol adeg ei gyhoeddi. Hoffem ddiolch i’n noddwyr, oherwydd ni fyddai’r llyfryn wedi bod yn bosibl heb eu cymorth nhw. Fodd bynnag, ni allwn gymeradwyo’r gwasanaethau sy’n cael eu hysbysebu ynddo.
Cyfeirnod: Llyfryn Profedigaeth Ysbyty Cyffredinol Glangwili ac Ysbyty’r Tywysog Philip Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2022 Dyddiad adolygu: Rhagfyr 2024
The Health Board would like to thank RNS Publications for publishing this information and the following pages contain some features from local services o ering their help at this time.
Whilst the Health Board is grateful of their support it does not endorse or recommend any of the services that they provide.
�\\ bereavement ,�port network
stopping mail
STOPPING JUNK MAIL
It is distressing to deal with a bereavement and unsolicited mail can be insensitive and destructive during a grieving process.
By scanning the below QR code on your phone or visiting www.stopmail.co.uk, we are able to securely share this information with mailing organisations and under the Data Protection Act the information will not be used for any other purpose.
Other benefits reduce the possibility of identity fraud, such as assumed identity and you will only have to supply the information once.