1 minute read

Atal post sothach sy’n dod yn enw’r un a fu farw

Next Article
Ar ôl yr angladd

Ar ôl yr angladd

Os oes rhywun yr ydych yn ei adnabod wedi marw, mae modd lleihau’n fawr y post marchnata diangen sy’n cael ei anfon ato/ati. Bydd hynny’n helpu i osgoi sefyllfaoedd poenus lle cewch eich atgoffa’n ddyddiol am y farwolaeth.

Trwy gofrestru gyda’r gwasanaeth www.stopmail.co.uk, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, caiff enwau a chyfeiriadau’r sawl sydd wedi marw eu tynnu oddi ar restrau postio, sy’n golygu y bydd post marchnata’n cael ei atal ymhen cyn lleied â chwe wythnos. Os nad oes modd i chi ddefnyddio’r rhyngrwyd, gallwch ffonio 0808 168 9607 lle bydd gofyn i chi dreulio munud neu ddwy’n darparu ychydig o wybodaeth syml iawn. Fel arall, gofynnwch i’r tîm profedigaethau am daflen y gellir ei dychwelyd drwy’r post.

Bydd y gwasanaeth hwn, sydd ar gael yn rhad ac am ddim gan y Rhwydwaith Cymorth Adeg Profedigaeth, yn lleihau’r deunydd marchnata diangen a fydd yn cael ei anfon ac yn gallu helpu hefyd i leihau’r tebygolrwydd y bydd hunaniaeth anwylyd sydd wedi marw’n cael ei dwyn. Ni fydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall, a dim ond unwaith y bydd angen i chi ei darparu. Yn ogystal â gwasanaeth Stop Mail, mae modd cael gwasanaeth tebyg gan y Gofrestr Profedigaethau neu’r Gwasanaeth Atal Post i Bobl Ymadawedig, os yw’n well gennych ddefnyddio’r rheiny.

This article is from: