1 minute read

Cysylltu â threfnwr angladdau

Wedi i rywun farw, gallwch gysylltu â threfnwr angladdau o’ch dewis cyn gynted ag y bydd modd i chi wneud hynny, er mwyn iddo allu dechrau gwneud trefniadau cychwynnol ar eich rhan. Gallwch wneud hynny cyn i’r Dystysgrif Feddygol sy’n nodi achos y farwolaeth gael ei rhoi i chi. Ni fydd y trefnwr angladdau’n gwneud unrhyw drefniadau terfynol nes y bydd wedi cael cadarnhad bod y farwolaeth wedi’i chofrestru a bod y gwaith papur perthnasol wedi dod i law. Bydd y trefnwr angladdau’n gallu rhoi cymorth a chyngor ynghylch llawer o’r pethau y bydd angen i chi feddwl amdanynt. Mae’n bosibl y byddwch am wneud hynny eich hun neu mae’n bosibl y byddwch am ystyried cael help gan berthnasau neu ffrind yr ydych yn ymddiried ynddo. Yn aml, bydd perthnasau a ffrindiau am wneud unrhyw beth posibl i’ch helpu a’ch cynorthwyo. Mae’r rhan fwyaf o drefnwyr angladdau ar gael saith diwrnod yr wythnos. Os ydych yn dymuno, byddant yn fodlon ymweld â chi yn eich cartref i roi cymorth a chyngor i chi ynghylch y trefniadau angenrheidiol. Mae gwybodaeth am rai trefnwyr angladdau ar gael yn y llyfryn hwn, neu mae’n bosibl y byddwch am edrych ar restr lawn sydd ar gael ar

www.yell.com

Mae costau angladdau’n amrywio, ac mae’n bosibl y byddwch am weld llyfryn a rhestr brisiau cyn gwneud penderfyniad. Os ydych yn cael cymhorthdal incwm, budd-dal tai neu gredyd teulu, gallwch wneud cais am gymorth i dalu am gostau’r angladd. Bydd y trefnwr angladdau’n gallu eich helpu, neu gallwch gael taflen SF200 (Help pan fydd rhywun yn marw) o swyddfa leol yr Adran Nawdd Cymdeithasol. Darllenwch y manylion hyn yn ofalus er mwyn sicrhau eich bod yn deall pa gostau y bydd yr Adran Nawdd Cymdeithasol yn fodlon eu talu. Os oes angen cymorth ariannol arnoch yn syth, er enghraifft ar gyfer costau’r angladd, mae cyngor ar gael trwy ffonio rhif y Gronfa Gymdeithasol: 08001690140

This article is from: