APÊL DDYNGAROL DEC WCRÁIN
LANSIWYD 3 MAWRTH 2022 | DIWEDDARIAD 6 MIS
Mae ymateb cyhoedd y DU yn wyneb erchyllterau'r gwrthdaro yn Wcráin wedi gwneud Apêl Ddyngarol Wcráin yn un o'r mwyaf yn hanes DEC, sy'n ymestyn yn ôl 60 mlynedd. Cefnogodd miliynau o bobl ar hyd a lled y wlad yr apêl, drwy decstio arian, roi arian trwy ein gwefan, fynychu digwyddiadau codi arian neu ymgymryd â heriau noddedig. Daeth cymunedau, busnesau, cyrff chwaraeon, sefydliadau celfyddydol a phobl o bob cefndir at ei gilydd, i gyd wedi'u hysbrydoli i weithredu.
Mae elusennau sy'n aelodau o DEC wedi ymateb i'r her o ddiwallu'r anghenion dyngarol eang ac amrywiol, ac mae maint y rhoddion wedi caniatáu iddynt gyrraedd miliynau o bobl gyda chymorth hanfodol. Ni fu'r ymateb heb ei heriau wrth gwrs. Ond er hynny maen nhw wedi llwyddo i gyrraedd nifer fawr o bobl sy'n cael eu dal yn y gwrthdaro gyda chymorth hanfodol.
Hoffai DEC dalu teyrnged i ddewrder anhygoel ac ymrwymiad y gweithwyr cymorth a'r gwirfoddolwyr ar lawr gwlad, y rhan fwyaf ohonynt yn Wcrainiaid sydd wedi parhau â'u gwaith hynod bwysig mewn amodau hynod o anodd, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cymaint.
Mae'r adroddiad hwn yn manylu ar y gwaith a wnaed gan yr 13 o'n helusennau sy'n aelodau ac sy'n gweithio yn Wcráin a gwledydd cyfagos gan ddefnyddio cronfeydd DEC yn chwe mis cyntaf yr ymateb a chyrraedd miliynau o bobl. Yn anffodus mae'r anghenion yn parhau i dyfu a newid wrth i'r gwrthdaro barhau, ond mae'r ymateb anhygoel o hael i'r apêl hon yn golygu ein bod yn gallu parhau i gefnogi pobl nawr ac yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.
LLINELL AMSER APÊL
7.8 MILIWN
O FFOADURIAID WEDI FFOI O WCRÁIN
(dyddiad: 16/11/22)
6.5 MILIWN
o bobl wedi'u Dadleoli'n Fewnol (PDF)
4.29 BILIWN
gofyniad cyllido ar gyfer y tu mewn i Wcráin a nodwyd gan asiantaethau cymorth dyngarol a'r Cenhedloedd Unedig
1.85 BILIWN
gofyniad cyllido ar gyfer y gwledydd cyfagos a nodwyd gan asiantaethau cymorth dyngarol a'r Cenhedloedd Unedig
Mae cyllid Cam 1 (6 mis cyntaf) ar gyfer gweithgareddau ymateb ar unwaith. Mae Cam 2 (o leiaf 30 mis) yn canolbwyntio ar gefnogi bywoliaethau, cryfhau gwytnwch a chapasiti ac ailadeiladu.
Mawrth 2022
Lansio apêl
Rhan
Gorffennaf 2022
Astudiaeth canfyddiad buddiolwyr yn cychwyn
Awst 2022
Adolygiad amser real yn dechrau
Rhan
Tachwedd 2022
Cyfnod presennol yr ymateb
Ionawr 2025
Gwerthusiadau annibynnol elusennau aelod
YMATEB DEC
GWLAD PWYL
29% 6%
Gwariant cam 136% Arian wedi'i ddyrannu85%
£389.4 MILIWN WEDI'I GODI 65%
LLWYDDIANNAU YN Y CHWE MIS CYNTAF
392,800 O BOBL
£251.6 miliwn o roddwyr uniongyrchol DEC
£25m o Gymorth Cyfatebol FCDO
£112.8M Incwm Argadwedig Asiantaeth Aelod
Cyllideb Wedi’i Chadarnhau Cam 1 Gwariant 6 mis
£81,794,586 £85,598,512
Gwariant 6 mis: 3 Mawrth - 31 Awst 22
Ffigyrau incwm hyd at Hydref 2022.
GWARIANT YN ÔL GWLAD
Gwariant 6 mis: 3 Mawrth - 31 Awst 22
59% Wcráin
17% Rwmania
16% Gwlad Pwyl
4% Moldofa
2% Hwngari
2% Diogelu rhanbarthol a rhaglenni adeiladu capasiti
GWARIANT YN ÔL SECTOR
Gwariant 6 mis: 3 Mawrth - 31 Awst 22
47% Arian amlbwrpas
17% Cymorth bwyd
15% Iechyd
9% Dŵr, glanweithdra a hylendid
4% Amddiffyniad
2% Arall
2% Atebolrwydd i boblogaethau yr effeithir arnynt
1% Addysg
1% Lloches
1% Adeiladu capasiti
WEDI CAEL CYMORTH BWYD, ER ENGHRAIFFT PRYDAU POETH, PECYNNAU BWYD
127,900
O BOBL
wedi defnyddio gwasanaethau sylfaenol mewn canolfannau dros dro
37,600 O BOBL
wedi derbyn cymorth iechyd meddwl a chefnogaeth seicogymdeithasol
338,000
O BOBL
wedi elwa o gymorth arian parod aml-bwrpasol i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol
114,800 O BOBL
wedi derbyn cymorth a chefnogaeth gyfreithiol
1,956,400 O BOBL
wedi elwa o gyflenwad dŵr glân
10,800 O BOBL
wedi elwa o'r ddarpariaeth lloches
71,300 O BOBL
wedi derbyn gwasanaethau gofal iechyd cynradd
CYD-DESTUN DYNGAROL YN WCRÁIN
Mae ymosodiadau, taflegrau a bomiau yn dal i fod yn gyffredin ar draws Wcráin wrth i'r gwrthdaro barhau.
Mae ysgolion yn parhau i gau wrth i’r ymosodiadau a’r ffrwydradau barhau. Mae'r difrod i seilwaith critigol Wcráin, yn enwedig y seilwaith ynni, wedi cael effaith sylweddol ar pobl gyffredin.
Yn ddiweddar mae cannoedd o drefi a phentrefi wedi colli pŵer, yn enwedig yng ngogledd-ddwyrain Sumska ac oblastau canolbarth Dnipropetrovska.
Mae'r Llywodraeth wedi gofyn unwaith eto i ddinasyddion gyfyngu ar eu defnydd o drydan, yn enwedig yn ystod yr oriau brig.
Ddiwedd mis Medi, cynhaliodd swyddogion Rwsia refferenda ar gyfeddiant y rhanbarthau canlynol o Wcráin – Donetsk, Luhansk, Kherson a Zaporizhzhia. Mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig benderfyniad yn datgan bod y refferenda honedig a’r cyfeddiant o'r pedwar oblast Wcráiniaidd yn anghyfreithlon.
Y brif flaenoriaeth i ddyngarwyr sy'n gweithredu yn y wlad yw paratoi 2.4 miliwn o ddinasyddion ar gyfer y gaeaf caled sydd o'u blaenau. Mae’r her yn arwyddocaol gan fod llawer o'r wlad yn brwydro heb bethau angenrheidiol fel trydan, ac mewn rhai mannau, dŵr. Mae'r dinistr parhaus o gartrefi ac adeiladau yn achosi dadleoli ac angen dyngarol parhaus.
CYD-DESTUN GWEITHREDOL
Gyda defnydd o ynni yn her sylweddol ac adnoddau yn brin yn Wcráin, lliniarodd aelodau hyn drwy roi cymorth ariannol i boblogaethau yr effeithiwyd arnynt yn ddigidol; hysbysebasant y cynllun drwy gyfryngau cymdeithasol a defnyddio ffurflen gais ddigidol i gasglu data cofrestru yn hytrach na defnyddio papur. Yn yr un modd, gan mai ond dim ond 15 munud roedd hi’n ei gymryd i gofrestru, lleihawyd ar y defnydd o dabledi, dyfeisiau ac egni yn sylweddol.
7.8 MILIWN
O FFOADURIAID WEDI FFOI
O WCRÁIN
(dyddiad: 16/11/22)
6.5 MILIWN
o bobl sydd wedi'u dadleoli'n fewnol (PDF)
4.29 BILIWN
gofyniad cyllido ar gyfer y tu mewn i Wcráin a nodwyd gan asiantaethau
cymorth dyngarol a'r Cenhedloedd Unedig
1.85
BILIWN
gofyniad cyllido ar gyfer y gwledydd cyfagos a nodwyd asiantaethau
cymorth dyngarol a'r Cenhedloedd Unedig
YMATEB DEC
1,886,400 O BOBL
177,000 O BOBL
wedi derbyn cymorth ariannol
Cyllideb Wedi’i Chadarnhau Cam 1
14% Cyfraniad DEC i ymateb cyffredinol aelodau i'r argyfwng
CYDWEITHIO GYDA PHARTNERIAID
£2,118,396 wedi'i wario gan sefydliadau anllywodraethol lleol/cenedlaethol
WCRÁIN GWARIANT YN ÔL SECTOR
Gwariant 6 mis: 3 Mawrth - 31 Awst 22
70,800 O BOBL
wedi derbyn gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol
41,800 O BOBL
wedi derbyn pecynnau hylendid sy'n cynnwys eitemau megis past dannedd, sebon, siampŵ a cynhyrchion misglwyf
4,400 AELWYD
wedi elwa ar becynnau sy'n cynnwys eitemau cartref hanfodol, fel blancedi, tywelion, matresi, dillad gwely a setiau cegin
1,431
CYFLEUSTER IECHYD
wedi'u cefnogi drwy e.e. gyflenwadau ac offer meddygol hanfodol
93 MAN DIOGEL
wedi'u sefydlu ar gyfer teuluoedd a phlant wedi'u dadleoli
129,700 O BOBL
wedi elwa o gymorth bwyd gan gynnwys prydau poeth a phecynnau bwyd
YN DERBYN CYFLENWAD DŴ R GLÂN22 oed, yn dangos ei ffotograffau uwchsain yn ei hystafell yn y lloches mewn eglwys ar gyrion Lviv, Wcráin. Mae elusen DEC Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda phartner lleol, HIA, i roi Grantiau
CYD-DESTUN DYNGAROL
Er bod y mewnlifiad o ffoaduriaid sy'n cyrraedd Gwlad
Pwyl wedi arafu'n sylweddol ers Ebrill/Mai, a gyda llawer o sefydliadau'n cau eu mannau cymorth ar y ffin, rhagwelir y gallai nifer y ffoaduriaid gynyddu eto wrth i'r gaeaf agosáu a'r tywydd droi'n oerach. Yng nghyd-destun cynnydd byd eang mewn prisiau ac argyfwng ynni, gall ffoaduriaid o'r Wcráin benderfynu teithio i Wlad Pwyl a gwledydd eraill cyfagos wrth iddynt geisio amodau byw gwell yn ystod y cyfnod oer.
Adroddir bod aelodau o'r gymuned Roma sy'n ffoi o Wcráin yn wynebu gwahaniaethu wrth geisio cael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, yn enwedig tai. Mae unigolion o wledydd trydydd, yn arbennig tu allan i Ewrop, hefyd yn cael eu gwahaniaethu – yn enwedig ar y ffin rhwng Gwlad Pwyl a Belarwsia, lle bu adroddiadau o wthio'n ôl a thorri hawliau dynol eraill ffoaduriaid sy'n ceisio mynd i Wlad Pwyl.
CYD-DESTUN GWEITHREDOL
Gan fod Gwlad Pwyl wedi profi'n amgylchedd rheoledig iawn sy'n newydd i ymateb dyngarol ar y raddfa hon, mae'r broses recriwtio staff dyngarol wedi bod yn gymhleth ac yn heriol. Er mwyn lliniaru'r risgiau o ddiffyg staff technegol parhaol, gofynnwyd am adnoddau ychwanegol gan dimau ymchwydd i lenwi'r bylchau a rheoli'r ymateb.
7.5 MILIWN
O BOBL YN CROESI'R FFIN
(dyddiad: 15/11/22)
1.4 MILIWN O FFOADURIAID
o Wcráin wedi'u cofrestru yng Ngwlad Pwyl ar hyn o bryd (dyddiad: 15/11/22)
40% O
FFOADURIAID
yn byw gyda theuluoedd lletyol
41% O
FFOADURIAID
yn byw mewn llety wedi'i rentu
Data gan UNHCR (2022) Bywydau wedi'u hoedi: proffil a bwriadau ffoaduriaid o Wcráin. Data ddim o reidrwydd yn cynrychioli'r boblogaeth ffoaduriaid gyfan
gwrthdaro. Mae Marynia* yn bwriadu teithio ymlaen i Slupsk, gogledd Gwlad Pwyl.Ffoaduriaid
o Wcráin mewn campfa ysgol yng Ngwlad Pwyl lle mae partner lleol aelod DEC, CAFOD, wedi sefydlu lloches dros dro, gan ddarparu gwelyau, bwyd a chymorth arall.© Philipp Spalek/Caritas Germany
YMATEB DEC
GWLAD PWYL HWNGARI
46,300 O BOBL
Cyllideb Wedi’i Chadarnhau Cam 1
£12,181,805
Gwariant 6 mis
£14,007,236
20% Cyfraniad DEC i ymateb cyffredinol aelodau i'r argyfwng
CYDWEITHIO GYDA PHARTNERIAID
30 SEFYDLIAD ANLLYWODRAETHOL
LLEOL/CENEDLAETHOL
1 PARTNER ARALL
WEDI ELWA O GYMORTH ARIAN PAROD AML-BWRPAS I DDIWALLU EU HANGHENION SYLFAENOL
1,900 O BOBL
wedi defnyddio gwasanaethau trais ar sail rhywedd
15,700
O BOBL
wedi derbyn cymorth iechyd meddwl a seicogymdeithasol
£4,803,225
wedi'i wario gan sefydliadau anllywodraethol lleol/cenedlaethol
GWLAD PWYL: GWARIANT YN ÔL SECTOR
Gwariant 6 mis: 3 Mawrth - 31 Awst 22
78% Arian parod amlbwrpas
8% Addysg
6% Amddiffyniad
4% Dŵr, glanweithdra a hylendid
2% Cymorth bwyd
1% Arall
1% Rheolaeth gwersyll a chydlyniad
42,400 O BOBL
wedi derbyn prydau poeth a phecynnau bwyd
27 MAN
DIOGEL
i fenywod, merched neu bobl hŷn wedi'i sefydlu
3,500 O BOBL
2,800 ATHRAWON
wedi'u hyfforddi i gefnogi'r rheiny sy'n ffoi o Wcráin
wedi derbyn citiau hylendid yn cynnwys sebon, papur toiled a deunyddiau glanhau
CYD-DESTUN DYNGAROL YN RWMANIA
Er ei bod yn ymddangos bod uchafbwynt yr argyfwng ffoaduriaid yn Rwmania wedi mynd heibio, gyda'r rhan fwyaf o ganolfannau dros dro bellach wedi cau, mae Wcrainiaid sydd wedi penderfynu aros yn y wlad yn parhau i wynebu rhwystrau i gwrdd ag anghenion sylfaenol a gwasanaethau arbenigol.
Nid yw Tŷ Yswiriant Cenedlaethol Rwmania wedi dyrannu digon o adnoddau eto i alluogi ffoaduriaid Wcreinaidd i gael eu cynnwys yn eu cynlluniau blynyddol a chael mynediad at wasanaethau meddygol. Nid yw meddygon teulu wedi cael eu had-dalu ar gyfer ymgynghoriadau gyda ffoaduriaid, gan olygu eu bod yn amharod i ddarparu cymorth pellach. Mewn ysgolion, mae plant ffoaduriaid yn cymryd rhan fel 'arsylwyr' ac ni fyddant yn cael eu cofrestru'n ffurfiol nes eu bod yn gallu siarad Rwmaneg. Nid yw buddion diogelu cymdeithasol ar gael i lawer o ffoaduriaid oherwydd nad yw llywodraeth Rwmania yn gallu asesu a dilysu incwm ymgeiswyr sy'n ffoaduriaid. Mae hyn wedi gadael bylchau difrifol yn y gwasanaeth i ffoaduriaid, ac mae cyrff cymdeithas sifil yn parhau i'w llenwi.
CYD-DESTUN GWEITHREDOL
Mae bylchau sylweddol yn parhau i fod mewn rhaglenni amddiffyn, gyda menywod, pobl ifanc ac aelodau o'r gymuned Roma mewn peryg dirfawr o drais a masnachu ar sail rhyw. Mae gwahaniaethu yn erbyn y gymuned Roma yn parhau i fod yn broblem yn Rwmania. Mae'r aelodau'n lliniaru'r risg hon drwy sicrhau bod partneriaid a gwirfoddolwyr yn mabwysiadu polisi dim goddefgarwch os bydd ymddygiad gwahaniaethol mewn llochesi neu ganolfannau, ac mae rhai aelodau'n gweithio gyda sefydliadau dan arweiniad Roma sy'n cefnogi menywod Roma i hunan-eirioli drwy ddarparu sesiynau briffio ar ddeddfwriaeth leol sy'n gysylltiedig â thrais yn y cartref a gwahaniaethu.
1.5 MILIWN
O BOBL YN CROESI'R FFIN
(dyddiad: 15/11/22)
90,000 O FFOADURIAID
o Wcráin wedi'u cofrestru yn Rwmania ar hyn o bryd (dyddiad: 15/11/22)
38% O FFOADURIAID
gyda theuluoedd lletyol
27% O FFOADURIAID
yn byw mewn canolfannau derbyn/dros dro
YMATEB DEC
GWLAD PWYL
HWNGARI
RWMANIA
WCRÁIN
Cyllideb Wedi’i Chadarnhau Cam 1
Gwariant 6 mis £13,311,130
MOLDOFA £14,389,873
28% Cyfraniad DEC i ymateb cyffredinol aelodau i'r argyfwng
CYDWEITHIO GYDA PHARTNERIAID
33 SEFYDLIAD ANLLYWODRAETHOL LLEOL/CENEDLAETHOL
2 BARTNER ARALL
£5,296,400 wedi'i wario gan sefydliadau anllywodraethol lleol/cenedlaethol
ROMANIA: GWARIANT YN ÔL SECTOR
Gwariant 6 mis: 3 Mawrth - 31 Awst 22
66% Arian parod amlbwrpas
13% Amddiffyniad
9% Cymorth bwyd
5% Dŵr, glanweithdra a hylendid
4% Arall
3% Lloches
105,700 O BOBL
WEDI ELWA O GYMORTH ARIAN PAROD AML-BWRPAS I DDIWALLU EU HANGHENION SYLFAENOL
47,400 O BOBL
wedi derbyn cymorth bwyd gan gynnwys prydau poeth a/neu becynnau bwyd
12,000 O BOBL
4,100 O BOBL
wedi derbyn eitemau cartref hanfodol fel blancedi, gobenyddion, amddiffynwyr matres a diffoddwyr tân
wedi derbyn cefnogaeth iechyd meddwl neu seicogymdeithasol
3,000 O BOBL
wedi derbyn llety dros dro a chymorth lloches/arian parod mewn canolfannau ar y cyd
31,900 O BOBL
70,000 O BOBL
wedi cael mynediad at gyfleusterau glanweithdra
wedi derbyn cymorth cyfreithiol fel cyngor ar fewnfudo neu fynediad at wasanaethau
© George Calin/DEC Elena a'i merch, 7 oed, gyda'i chelf yn y gwesty sy'n darparu llety dros dro i ffoaduriaid o Wcráin yn Bucharest, Rwmania, ac sy'n cael ei redeg gan aelod DEC a phartner CAFOD, JRS. © George Calin/DEC Mae Olesia, wnaeth ffoi o Wcráin gyda'i merch, yn derbyn arian ar gyfer rhent, cyfleustodau a bwyd o'r ganolfan sy'n cael ei redeg gan aelod DEC a phartner CAFOD, JRS.CYD-DESTUN DYNGAROL YM MOLDOFA
Mae'r rhan fwyaf o ffoaduriaid o'r Wcráin yn dod o oblast Odessa ac wedi mynd i mewn i'r wlad drwy'r trefi a'r pentrefi sydd ar y ffin, sef Palanca, Tudora ac Otaci. Mae'r nifer uchaf ohonynt yn y brifddinas Chisinau a Balti, sef ail ddinas fwyaf Moldofa yn y gogledd. Nid yw'r canolfannau swyddogol eto'n llawn gan fod y mwyafrif o ffoaduriaid yn byw gyda theuluoedd Moldofaidd neu yn y cymunedau lletyol.
Er mwyn ymateb i anghenion sylfaenol ffoaduriaid, sefydlodd awdurdodau Moldofa 90 o Ganolfannau Llety Ffoaduriaid ar draws y wlad gan ddarparu llety a phrydau poeth i ffoaduriaid. Fodd bynnag, mae darparu bwyd i ffoaduriaid yn y canolfannau hyn yn faich enfawr ar y gyllideb Fwrdeistrefol a Llywodraethol yn y tymor hir, yn enwedig gan y rhagwelir y bydd cyfraddau tlodi a chwyddiant yn cynyddu ym Moldofa ac mae angen adnoddau ar y canolfannau i gefnogi eu hymdrechion.
CYD-DESTUN GWEITHREDOL
Her allweddol y mae'r aelodau wedi ei hwynebu ym Moldofa yw gweithgareddau'n cael eu dyblygu gan sefydliadau eraill sy'n cynnig gwasanaethau tebyg. Er mwyn lliniaru'r risg hon, mae aelodau a'u partneriaid lleol wedi bod yn cyfathrebu'n gyson â'r weinyddiaeth leol a rheolwyr y Canolfannau Llety Ffoaduriaid.
693,000
O BOBL YN CROESI'R FFIN
(dyddiad: 15/11/22)
95,000 O FFOADURIAID
o Wcráin wedi'u cofrestru ym Moldofa ar hyn o bryd (dyddiad: 15/11/22)
38% O FFOADURIAID
yn byw gyda theuluoedd lletyol
34% O FFOADURIAID
yn byw mewn canolfannau derbyn/dros dro
gan UNHCR (2022) Bywydau wedi'u hoedi: proffil a bwriadau ffoaduriaid o Wcráin. Data ddim o reidrwydd yn cynrychioli'r boblogaeth ffoaduriaid gyfan
WCRÁIN | GWLAD PWYL | RWMANIA MOLDOFA HWNGARI
YMATEB DEC
Andreea Câmpeanu/DEC
Ffoaduriaid o Wcráin sy'n byw mewn cymunedau lletyol ar hyn o bryd yn arwyddo papurau i dderbyn pecynnau bwyd a hylendid a ariennir gan DEC ac sy'n cael eu darparu gan aelod DEC Action Against Hunger a'i bartner Communitas yn nwyrain Moldofa.
18% Cyfraniad DEC i ymateb cyffredinol aelodau i'r argyfwng
10 SEFYDLIAD ANLLYWODRAETHOL LLEOL/CENEDLAETHOL
£1,382,139
MOLDOFA: GWARIANT YN ÔL SECTOR
25% Amddiffyniad
22% Dŵr, glanweithdra a hylendid
7% Arian parod amlbwrpas
5% Addysg
1% Lloches
1% Adeiladu capasiti
© Andreea Câmpeanu/DEC
172,100 O BOBL
WEDI DERBYN PRYDAU POETH A PHECYNNAU BWYD
5,200
O BOBL
27,400
O BOBL
wedi derbyn pecynnau hylendid sy'n cynnwys eitemau fel matresi, tywelion, dillad, powdr golchi a deunyddiau hylendid
600 O BLANT YSGOL
wedi derbyn bagiau cefn sy'n cynnwys deunyddiau addysgol
6,600
O BOBL
wedi derbyn cymorth iechyd meddwl a seicogymdeithasol
3,700
O BOBL
wedi derbyn cymorth cyfreithiol gan ddesgiau cymorth cyfreithiol symudol
CYD-DESTUN DYNGAROL YN HWNGARI
Mae Hwngari yn parhau i fod â pholisi ffin agored cyffredinol ar gyfer Wcrainiaid ac mae'n wlad trawstaith a chyrchfan. Er bod ceisiadau am Amddiffyniad Dros Dro yn dal i gael eu cyflwyno, mae nifer yr ymgeiswyr yn gostwng yn sylweddol.
Mae ffoaduriaid sy'n cyrraedd o Wcráin yn cael eu cyfeirio at lety tymor byr mewn cyfleusterau sy'n cael eu rhedeg gan y llywodraeth neu gyda rhwydweithiau gwirfoddol. Fodd bynnag, oherwydd yr argyfwng economaidd parhaus a chwyddiant esgynnol, mae dod o hyd i lety fforddiadwy i ffoaduriaid sy'n setlo yno yn her sylweddol. Ynghyd â hyn, yn aml nid yw'r drafodaeth gyhoeddus yn Hwngari wedi bod yn groesawgar i ffoaduriaid; mae llywodraeth Hwngari hyd yn oed wedi annog pobl i beidio â chefnogi ymyriadau ar sail arian parod
CYD-DESTUN GWEITHREDOL
Yn Hwngari, her gyffredinol i gefnogi'r rhai mwyaf bregus oedd y diffyg cydlyniad yn y system ymateb. Mae awdurdodau lleol a'r llywodraeth wedi cymryd agwedd ymarferol iawn tuag at yr argyfwng ac wedi dirprwyo'r cyfrifoldeb i gyrff anllywodraethol, sy'n golygu bod partneriaid wedi gorfod ceisio cydlynu'r rhai sy'n cefnogi ffoaduriaid. Mae hyn wedi cael effaith negyddol o ran sicrhau y gellir cefnogi pawb sydd angen cymorth yn effeithiol, ond mae aelodau'n gweithio'n galed i sicrhau eu bod yn cyd-weithio gan gynnwys gyda sefydliadau a phartneriaid eraill i gyrraedd pobl mewn angen.
1.7 MILIWN
BOBL YN CROESI'R FFIN
(dyddiad: 15/11/22)
31,000 O FFOADURIAID
o Wcráin wedi'u cofrestru yn Hwngari ar hyn o bryd (dyddiad: 15/11/22)
41% O
FFOADURIAID
yn byw mewn llety wedi'i rentu
31% O FFOADURIAID
yn byw mewn safleoedd casglu/cynlluniedig
Data gan UNHCR (2022) Bywydau wedi'u hoedi: proffil a bwriadau ffoaduriaid o Wcráin. Data ddim o reidrwydd yn cynrychioli'r boblogaeth ffoaduriaid gyfan
YMATEB DEC
76,600 O BOBL
WEDI CAEL EU HAMDDIFFYN AC WEDI DERBYN GWYBODAETH YN YMWNEUD Â’U HAWLIAU.
1,000 O BOBL
wedi derbyn eitemau cartref hanfodol megis blancedi, taflenni a thywelion
3,700
O BOBL
wedi elwa o gymorth ariannol amlbwrpas i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol
Staff a gwirfoddolwyr y Groes Goch yn Hwngari wrthi'n paratoi parseli sy'n cynnwys eitemau dillad gwely a hylendid i bobl yn cyrraedd o Wcráin.
Cyllideb ddiwygiedig Cam 1
Gwariant 6 mis £1,712,680
£1,599,912
100% Cyfraniad DEC i ymateb cyffredinol aelodau i'r argyfwng
CYDWEITHIO GYDA PHARTNERIAID
2 BARTNER RHYNGWLADOL
HWNGARI: GWARIANT YN ÔL SECTOR
Gwariant 6 mis: 3 Mawrth - 31 Awst 22
59% Arian parod amlbwrpas
23% Rheolaeth a chydlyniad gwersyll
7% Dŵr, glanweithdra a hylendid
4% Lloches
4% Amddiffyniad
2% Cymorth bwyd
1% Arall
1% Atebolrwydd i boblogaethau yr effeithir arnynt
4,000
O BOBL
wedi elwa o becynnau hylendid, gan gynnwys tywelion misglwyf a phadiau anymataliaeth
1,000
O BOBL
wedi derbyn cymorth cysgodi
DISASTERS EMERGENCY COMMITTEE
17-21 Wenlock Road, Llundain, N1 7GT
Ffôn: 020 7387 0200
www.dec.org.uk
Elusen Gofrestredig Rhif 1062638 Rhif Cwmni 03356526
© Michael Kappeler/dpa