CAL N Y CA RT R E F RHAGFYR 2021
Llun gan: Ade Harvey, Uwch Swyddog Prosiect
C Y L C H G R A W N Y G A E A F C L W Y D A LY N I B R E S W Y L W Y R
Anfonwch eich lluniau ENNILL Nadolig atom TALEBAU am gyfle i ennill SIOP28A TUD talebau siopau.
YN Y RHIFYN HW AWGRYMIADAU ARBENNIG • DIY • Cynilo • Lleihau eich bil ynni
Cipolwg ar ein cynllun gofal ychwanegol newydd
HOFFECH CHI WEITHIO GYDA NI Canfod mwy am rai o rolau ClwydAlyn
CYFLE I ENNILL
£25 o dalebau Amazon drwy gymryd rhan mewn cystadleuaeth Nadolig!
Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol ClwydAlyn is a Charitable Registered Society
EICH CROESO
Cynnwys: EICH CROESO 3
Y diweddaraf gan eich Golygydd
4
Ein Haddewid
EICH NEWYDDION 5
Cipolwg ar ein Pwyllgor Preswylwyr
6
Lluniau Anifeiliaid Anwes
7
Lluniau a Lleoedd
EICH CYMUNED 8-9
Crynodeb o’r Gymuned
10 SHUG 10
Grwpiau Cymunedol
11
Creadigrwydd Cymunedol
12
Ein datblygiad Gofal Ychwanegol newydd
13
Tai Teg
14-15
Cwrdd â’r tîm tai newydd
16-17
Ein tîm Cynnal a Chadw - Torri tir newydd
18
Creu mentrau, creu cyfleoedd
EICH CARTREF 19
Trawsnewid gardd Hafan Dirion
19
Awgrymiadau garddio - Richard Burrows
20
Cadw’n gynnes am lai o arian
20
Cronfa Cymorth Dewisol (DAF)
20
Band-eang yn rhatach
21
Awgrymiadau arbed ynni
21
Awgrymiadau am arbed Dŵr Cymru
22
Uwchgylchu
23
Awgrymiadau am ddiogelwch yn y cartref yn ystod Nadolig eleni
EICH BARN 24-25 Bag Post – ateb eich cwestiynau 24
Porth preswylwyr
CIPOLWG AR… 26
Diwrnod ym mywyd y Cogydd Stephen
27
Rysait (Well fed)
EICH CYSTADLEUAETH 28
2
Canfod y gwahaniaethau ac anfon eich lluniau Nadolig am gyfle i ennill
EICH CROESO
Croeso Helo,
a chroeso i rifyn y gaeaf ein cylchgrawn ClwydAlyn.
Hoffwn gychwyn drwy estyn diolch o’r galon am y croeso a’r adborth calonogol yn dilyn rhifyn yr haf. Hwnnw oedd fy rhifyn cyntaf ac roeddwn i wrth fy modd yn cael bod yn rhan ohono. Mae eich cyfraniad chi yn hollbwysig i’r cylchgrawn hwn. Cofiwch rannu beth hoffech chi ei weld yn y cylchgrawn gan mai cylchgrawn i chi ydy o wedi’r cyfan! Anfonwch unrhyw syniadau at laura.Mckibbin@clwydalyn.co.uk
Yn ein rhifyn yr Haf, bu inni ofyn ichi bleidleisio am enw newydd i’r cylchgrawn i breswylwyr. Mae’n bosib eich bod chi wedi sylwi ei fod wedi newid ar y clawr.. Fe wnaethoch chi ddewis ‘Home Matters’ sy’n enw gwych! Diolch yn fawr i bawb wnaeth roi o’u hamser i bleidleisio. Rydym wir o’r farn bod cartref yn bwysig, Mae’n rhywle lle gallai bawb deimlo’n ddiogel ac yn le i wneud atgofion melys dros ben, lle arbennig i nifer o bobl ac felly dyma pam ein bod ni’n angerddol dros ein gwaith yma yn ClwydAlyn.
Canfod y diweddaraf
gyda’r newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf ar Facebook, Twitter ac Instagram @ClwydAlyn Dewch i weld beth sy’n digwydd yn eich ardal a chanfod mwy am ein gwaith yn eich cymuned. Rydym yn cyflwyno’r diweddaraf am ein gwasanaeth ynghyd â newyddion gan ClwydAlyn, datblygiadau’r cynllun newydd, swyddi gwag a digwyddiadau lleol. Dilynwch ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
Trwsiadau brys y tu hwnt i oriau arferol: 0300 123 3091
Wna i adael ichi fwynhau’r cylchgrawn sy’n ymdrin â’r diweddaraf am breswylwyr, awgrymiadau arbennig a chyfleoedd gwych i ennill gwobrau. Ar ran ClwydAlyn a minnau, hoffwn ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda ichi i gyd.
Laura x Y BRECHLYN
Ydych chi wedi derbyn eich brechlyn eto? Mewn ymateb i ddyfodiad yr amrywiolyn Omicron, mae’r cymhwysedd ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu COVID-19 wedi’i ymestyn ar gyfer holl oedolion dros 18. Caiff y brechlynnau atgyfnerthu eu cynnig o ran trefn grwpiau oedran disgynnol gan flaenoriaethu oedolion hŷn a’r rheiny sy’n rhan o grwpiau mewn peryg o COVID-19. Dylid cynnig y brechlyn atgyfnerthu o leiaf 3 mis ar ôl derbyn y prif frechlynnau. Mae hyn yn ddiweddariad ers y cyfnod o 6 mis gafodd ei gynghori’n flaenorol. Arhoswch i’ch bwrdd iechyd gysylltu gyda chi. gov.wales/coronavirus
3
EICH NEWYDDION
Ein Haddewid Rydym o’r gred bod y cartref yn bwysig ac fe ddylai fod yn llawer mwy na dim ond pedair wal a tho. Mae ein Siarter Preswylwyr yn ymdrin â’n hymroddiad i gynnig gwasanaethau arbennig a dyma Ein Haddewid ichi. Byddwn yn lansio Ein Haddewid yn y Flwyddyn newydd felly cadwch lygaid am fwy o fanylion.
Sicrhau bod eich cartref yn ddiogel, yn saff ac yn cael ei gynnal a’i gadw yn dda. Sicrhau ein bod yn cael ein rhedeg yn dda ac yn gynaliadwy’n ariannol fel ein bod yn gallu parhau i daclo tlodi.
Sicrhau bod eich cartref yn fforddiadwy a’ch cefnogi chi gyda chyngor ar incwm a lles.
Eich cefnogi i fyw’n dda yn eich cartref, fel eich bod yn gallu byw’r bywyd yr ydych yn ei ddewis mewn cymuned ddiogel a chysylltiedig.
Sicrhau bod tâl gwasanaeth yn deg ac yn cynnig gwerth am arian.
Gwario arian yn ddoeth a dweud wrthych pa mor dda yr ydym yn ei wario fel eich bod yn gallu ein gwneud yn atebol.
ClwydAlyn.co.uk/OurPromise
Sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed, gwrando ar eich adborth, ac ymdrin â chwynion yn gyflym a theg.
Ein Gweithdrefnau
Darparu gwasanaeth rhagorol a rhoi gwybod i chi sut yr ydym yn perfformio o ran gwaith cynnal a chadw hanfodol, gwaith trwsio a diogelwch.
Ymddiriedaeth
Caredigrwydd
Gobaith
EICH NEWYDDION
Peter Smith-Hughes
yn cynnig cipolwg ar ein Pwyllgor Preswylwyr SUT MAE’R PWYLLGOR PRESWYLWYR YN CYDWEITHIO GYDA CLWYDALYN I GYNRYCHIOLI A GWELLA BYWYDAU TENANTIAID? Ymysg y llwyddiannau diweddar oedd sicrhau cyfle i breswylwyr leisio’u barn ynghylch y Porth Preswylwyr. Erbyn hyn mae modd trefnu ymweliadau cynnal a chadw yn defnyddio dull mwy rhwydd ac sy’n cyd-fynd gydag ymrwymiadau gwaith. Bu inni lunio Ein Haddewid, a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad, sef y cyfres o fuddion y gallwch chi eu disgwyl gan ClwydAlyn Bu inni hefyd ddylanwadu’n fawr ar newid cyfeiriad y polisi Setliad Rhent gan fanteisio ar adborth gan breswylwyr. Pwysleisiodd Peter bod y Pwyllgor yn bwrw golwg ar y sefyllfa fyd-eang, camau a chyfeiriad sylweddol y mudiad a dywedodd:
Fe ddiwygwyd y Pwyllgor, y Pwyllgor Gwella Gwasanaeth gynt, 2 flynedd yn ôl i adlewyrchu a hyrwyddo amrywioldeb ymysg y preswylwyr sydd wedi’u cynrychioli. Mae 9 aelod yn gwasanaethu ar ran y Pwyllgor ar hyn o bryd, gyda 2 aelod ieuengach yn rhan o’r gwasanaeth Byw â Chymorth a chynrychiolwyr hŷn o feysydd eraill y gwasanaeth fel Cartrefi Gofal. Mae’r pwyllgor yn cwrdd bob deufis i roi cyfle i’r preswylwyr leisio’u barn. Rydym yn cydweithio gyda ClwydAlyn i gyflwyno’r barnau hynny. Mae Peter Smith-Hughes, sy’n Cadeirio’r Pwyllgor, yn cwrdd â’r Tîm Gweithredol ar ôl pob cyfarfod ac fe ddywedodd:
“ Maen nhw bob amser yn agored ynghylch unrhyw beth sydd angen mynd i’r afael ag o ac mae’n fuddiol oherwydd mae’r Tîm Gweithredol yn dymuno creu newid. Yr elfen bwysicaf ydy cynrychioli barnau ein holl breswylwyr a chydweithio gyda’n gilydd mewn ffordd gadarnhaol.”
“Gyda llaw ar fy nghalon, mae pob aelod yn cynnig mewnbwn arbennig ac mae’r Pwyllgor wedi ymdrechu i gynrychioli teulu ClwydAlyn, i’w ddatblygu a gwella’r gwasanaeth.” Yn ystod Covid, bu i’r Pwyllgor gwrdd ar-lein ac maen nhw wedi llwyddo i gyflawni gwaith gwych yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae’r Pwyllgor yn edrych ymlaen at gwrdd wyneb yn wyneb ac ymweld â phob ardal rydym yn eu gwasanaethu, o’r Trallwng i Ynys Môn er mwyn i’r preswylwyr weld y pwyllgor ar waith a lleisio’u barn yn effeithiol.
Os oes unrhyw breswylydd yn dymuno bod yn ddylanwadwr, anfonwch e-bost at influenceus@clwydalyn.co.uk, neu ewch i www.clwydalyn.co.uk/Influence-Us/
5
EICH NEWYDDION
DA IAWN MAGG IE!!
02
EIN HANIFAIL ANWES BUDDUGOL: Bu i Maggie y ci ennill gwerth £20 o dalebau siopa i’w pherchennog, Ronald.
01
LLUNIAU EICH
03
ANIFEILIAID ANWES
Yn ein rhifyn diwethaf, wnaethon ni ofyn ichi rannu lluniau o’ch anifeiliaid. Gwyddom bod anifeiliaid yn gwmni gwych ac maen nhw’n llonni ein bywydau. 04
Gallai gweld llun ciwt neu ddoniol o anifail ddod â gwên i’n hwynebau. Rydym yn wên o glust i glust ar ôl derbyn y lluniau hyn gan ein preswylwyr!
05
07
08
06
Lluniau:
6
01 Ty-Son - Ronald Rosster
05 Ralph – Cory Wellbeloved
02 Maggie – Ronald Rosster
06 Abu Blue – Lena Nixon
03 Big Bird – Ronald Rosster
07 Rosie – Elizabeth Barnes
04 Kenai – Danielle Bryan
08 Brock – Elizabeth Barnes
EICH NEWYDDION
01
02
03
04
05
08 06
07
09
10
LLUNIAU A LLEOEDD
Yn ddiweddar bu inni ofyn ichi anfon lluniau o’ch ardal megis mannau bendigedig i fynd am dro, gwarchodfeydd natur, traethau, golygfeydd godidog… unrhyw le arbennig yn eich cymunedau yn y bôn. Roedd y lluniau y bu inni eu derbyn yn anhygoel ac maen nhw’n dangos pa mor lwcus ydyn ni o fyw yng Ngogledd Cymru fendigedig. Bu inni ddewis 8 enillydd lwcus a wnaeth ennill taleb £50 tuag at yr atyniadau lleol canlynol: SC2, Ninja Tag, GYG Karting, Park Hall Farm, Rheilffordd yr Wyddfa, Spavens a’r Seaquarium yn Y Rhyl. Bu inni dderbyn adborth arbennig felly byddwn yn cynnal y gystadleuaeth eto’r flwyddyn nesaf. Cofiwch gadw llygaid am y gystadleuaeth a daliwch ati i dynnu lluniau.
11
Lluniau: 01 Katy Richards, Flint Pont Rheilffordd yn Abermaw 02 Nicola Pearson, Wrecsam
Rhaeadr Y Bers
03 Charmaine Carey, Sir y Fflint
Traphont Ddŵr Llangollen
04 Arial Jones, Llangefni
Lan y Môr Borthwen Rhoscolyn Beach
05 | 06 | 07 | 10 Liz Barnes, Y Rhyl
Swn Y Môr
08 Corina Davies
Plas Newydd Ynys Mőn
09 Taz Haskins, Wrecsam
Hurst Newton (SL Hostel)
11 Danielle Bryan, Y Rhyl
Traeth Bae Colwyn
7
CRYNODEB O’R
EICH CYMUNED
GYMUNED
Mae’r gymuned yn bwysicaf nac erioed felly mae’n braf gallu amlygu gwaith gwych ein staff a phreswylwyr yn ein cymunedau. Os hoffech chi rannu stori neu ddigwyddiad, anfonwch y manylion atom ni a communications@clwydalyn.co.uk
TŶ GOLAU Bu i un o’n tenantiaid talentog yn Nhŷ Golau wrthi’n creu pryfed pren yn ystod y misoedd diwethaf ar gyfer Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych. Diolch i Sir Ddinbych yn gweithio, Cadw Prydain yn Daclus, Siediau Dynion Cymru a’r Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyf am gydweithio a chynnig y gofod, deunyddiau, gweithdy a’r cymorth i allu cyflawni’r gwaith. Cafodd y pryfed eu gosod ar y ffens ger rhandiroedd Y Rhyl ar Ffordd Crescent.
MIS YMWYBYDDIAETH CANCR Y FRON Roedd yn hyfryd gweld ein cynlluniau’n dangos eu cefnogaeth tuag at fis Ymwybyddiaeth Cancr y Fron gyda Chartref Gofal Chirk Court yn Wrecsam yn gwisgo Pinc a Gofal Ychwanegol Tan y Fron, Llandudno yn trefnu stondin gacennau WEDI I a raffl gan lwyddo D EI GO i godi £139!!
£139
8
Bu i breswylwyr a staff Pentref Pwylaidd Penrhos lwyddo i godi swm aruthrol o £685.55 tuag at Gefnogaeth Cancr Macmillan yn ystod eu bore coffi Macmillan Roedd yn wych gweld pawb gyda’i gilydd yn mwynhau paned a chacen wrth godi arian i Macmillan Cancer.
EICH CYMUNED
PENTREF PWYLAIDD PENRHOS
WEDI I D EI GO 5
5
£685.
DIWRNOD IECHYD MEDDWL Y BYD – TÎM CHIRK COUR Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, bu i’n tîm anhygoel yn Chirk Court achub ar y cyfle i fywiogi eu cartrefi. Mae’r tîm yma’n cyflawni llawer o waith gwych i gynorthwyo’r elusen ‘Young Minds’ drwy gydol y flwyddyn felly llongyfarchiadau a diolch yn fawr am eich haelioni! Rydych chi i gyd yn sêr.
DYFODOL DIOLCH O’R GALON a llongyfarchiadau mawr i staff a phreswylwyr Dyfodol am ymuno gyda busnesau lleol (Skeffington Properties, PHR Plumbing Renewables) a’u teuluoedd mewn digwyddiad codi ysbwriel yn Y Rhyl.
MENTER NOFIO Roedd ein menter nofio yn llwyddiant ysgubol ymysg ein preswylwyr ifanc. Cafodd y fenter ei chyflwyno ar y cyd â Travis Perkins a wnaeth helpu i ariannu’r digwyddiad. Bu inni hefyd gydweithio gyda’r cynghorau lleol yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych a wnaeth hwyluso’r gwersi nofio. Rydym yn gobeithio cynnal y fenter hon i’n preswylwyr eto mewn gwahanol siroedd.
9
EICH CYMUNED
SHUG
DATBLYGU CYMUNED
DAVID PERKINS, CADEIRYDD Y GRŴP YMBARÉL TAI CYSGODOL (SHUG), YN RHANNU YCHYDIG O FANYLION AM Y GRŴP.
Ffurfiwyd y Grŵp Ymbarél Tai Cysgodol (SHUG) yn 2012 i gynrychioli preswylwyr sy’n byw yn Lletyau Cysgodol ClwydAlyn. Ymysg aelodau SHUG mae preswylwyr gwirfoddol ynghyd â Gwardeiniaid a Rheolwyr ein amryw gynlluniau. Er caiff y grŵp ei ariannu gan ClwydAlyn, fel Grŵp Cyfansoddedig mae modd inni geisio am Grantiau a chyllid gan nifer o wahanol ffynonellau. Gyda’r cyllid rydym yn ei ennill, rydym yn mynd ati i gynnig gweithgareddau cymdeithasol ynghyd ag yn annog preswylwyr i fynegi eu hawliau yn ymwneud â gwella eu hamodau byw a’u hamgylchedd. Rydym yn gobeithio y bydd SHUG yn parhau i ffynnu a gweithredu er lles pawb. Mae’n bwysig nodi, er bod y grŵp SHUG yn cydweithio’n agos gyda ClwydAlyn, rydym yn annibynnol rhag unrhyw Gorff arall. D . Perkins (Cadeirydd)
GRWPIAU CYMUNEDOL
Ydych chi’n rhan o grŵp neu gwyddoch chi am unrhyw grwpiau fyddai’n fuddiol i’ch cymuned? Mae llawer iawn wedi dioddef yn gymdeithasol yn sgil y pandemig felly erbyn hyn mae’n bwysicach nac erioed inni gadw mewn cyswllt. Rhannwch eich grwpiau cymunedol drwy eu hanfon at communications@clwydalyn.co.uk ac fe wnawn ni eu crybwyll yn y rhifyn nesaf!
10
CYMUNEDOL Gallai mynd ati i gyflawni gweithgareddau creadigol hybu ein hiechyd meddwl ac yn ddiweddar mae wedi dod yn fwyfwy amlwg pa mor bwysig ydy ein lles. Mae ein cynllun gofal ychwanegol, Hafan Gwydir, wedi ffurfio grŵp celf cymunedol ac yn cynnig cyfle i bobl fod yn greadigol mewn digwyddiad cymdeithasol. Mae ein cynllun yn gyfadeilad byw’n annibynnol gyda gofal ychwanegol, yng nghefn gwlad Dyffryn Conwy, nepell o’r hyfryd Betws y Coed. Barbra Lewis o Hafan Gwydir yn cynnig cipolwg o’r grŵp celf
“ Mae’r grŵp Celf yn gymysgedd o denantiaid Hafan Gwydir a phobl leol fu’n cwrdd i dderbyn gwersi gan Mr John Ross. Bu Mr Ross, tenant ac artist penigamp yn ein cyfarwyddo i greu lluniau dyfrlliw gan fwyaf ond bu iddo hefyd annog pobl i fynd ati i fod yn greadigol. Cyn y pandemig, buom yn cyfarfod pob prynhawn ddydd Mercher ac yn cynnal arddangosfa o’n gwaith yn y cynllun. Roedden ni’n lwcus o dderbyn cynnig i gyfrannu tuag at gystadleuaeth yn yr Eisteddfod. Yn ddiweddar, bu i ClwydAlyn ein cynorthwyo gyda grant i brynu deunyddiau. Mae safon gwaith ein grŵp bach yn anhygoel ac mae pobl o bob gallu yn rhoi cynnig arni ac yn mwynhau cwrdd.”
Rydym yn gobeithio eich bod yn mwynhau’r ychydig enghreifftiau hyn o’u gwaith celf criw medrus dros ben.
11
EICH CYMUNED
Creadigrwydd
EICH CYMUNED
Gwaith ar y gweill gyd
CYNLLUN GOFAL YCHW MAE GENNYM NI NEWYDDION GWYCH! Mae’r gwaith wedi cychwyn ar y safle i adfer Neuadd Maldwyn, ar Ffordd Hafren, Y Trallwng, i greu fflatiau gofal ychwanegol. Caiff yr adeilad hanesyddol, Neuadd Maldwyn, ei adfer a’i ymestyn yn briodol fel rhan o’r cynllun datblygu. Fel rhan o’r cynllun, fe fydd 66 o fflatiau 1 a 2 ystafell wely annibynnol i’w rhentu ar gyfer unigolion 60 neu hŷn gydag angen gofal neu gefnogaeth sydd wedi’i asesu. Bydd cyfleusterau cymunedol ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau, bwyty, maes parcio ar y safle ac ardaloedd wedi’u tirlunio. Bydd ClwydAlyn yn rheoli’r tai ac yn cynnig gwasanaeth cynorthwyol tra bydd Cyngor Sir Powys yn gyfrifol dros ddarparu’r gofal cartref ar y safle. Caiff trigolion ardal y Trallwng neu sydd â chysylltiadau agos i ardal y Trallwng eu blaenoriaethu.
DATGAN DIDDORDEB YN Y CYNLLUN: Os ydych chi’n 60 neu’n hŷn ac yn teimlo y byddech chi’n elwa o fyw yng Nghartref Gofal Ychwanegol Powys, gallwch ddatgan diddordeb yn y cynllun drwy gysylltu gyda ni ar y manylion canlynol: Rhadffôn: 0800 183 5757 E-bost: help@clwydalyn.co.uk www.clwydalyn.co.uk/ neuadd-maldwyn/
Mae’r cynllun hwn yn rhan o’n rhaglen datblygu i gynnig 1,500 o dai newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025 drwy fuddsoddi £250m a sicrhau ein bod yn meddu ar ac yn rheoli cyfanswm o dros 7,500 o gartrefi.
12
WANEGOL! 1 5 0 0 O DAI NE W
YDD YNG NG OGLED D CYMRU ERBYN 2025!
EICH CYMUNED
dag ein nawfed
CYSYLLTU POBL GYDA CYFLEON TAI CONNECTING PEOPLE WITH HOUSING OPPORTUNITIES
YDYCH CHI’N GYMWYS? • Rydych chi dros 18 oed • Rydych chi’n gweithio ac ag incwm gros blynyddol sydd rhwng £16,000 i £45,000 (nid ydym yn ystyried budd-daliadau’n incwm) • Rydych yn prynu tŷ am y tro cyntaf neu mae eich cartref presennol yn anaddas ac nid ydyw’n diwallu anghenion eich teulu.
CYFLEOEDD GWAITH A HYFFORDDIANT:
• Ni allwch chi fforddio rhent ar y farchnad agored a/ neu brynu eiddo sy’n bodloni eich anghenion
SUT I GOFRESTRU: Cofrestrwch gyda Tai Teg drwy: • Ymweld â www.taiteg.org.uk • Clicio ar ‘cofrestru gyda Tai Teg’ • Cwblhau’r ffurflen gais
Rydym yn rhagweld y bydd y prosiect hwn yn cynnig cyfleoedd gwaith a hyfforddiant newydd. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cyflawni profiad gwaith, lleoliadau uwchsgilio neu brentisiaethau gwaith, cysylltwch gyda Phartneriaethau Anwyl ar:
build@anwyl.co.uk
• Clicio ar ‘cyflwyno’r cais • Bydd Tai Teg yn asesu eich cais • Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf ac yn cael eich cymeradwyo yna fe allwch chi fynd ati i geisio am dai
Gwefan: www.taiteg.org.uk Ffôn: 03456 015 605 E-bost: info@taiteg.org.uk
13
EICH CYMUNED
CWRDD Â’R TÎM Mae’r Gwasanaethau Tai yn ymroi i sicrhau ein bod yn gweithredu’n unol â’n gwerthoedd ac yn gweithio i gyflawni ein nod o drechu tlodi. I gyflawni hyn, ein cred ni oedd bod angen cael gwared ar swyddogion arbenigol a chynnig rôl Swyddog Tai cyffredinol sy’n gyfrifol dros ardaloedd llai ond yn canolbwyntio ar unrhyw broblemau sydd gan ein preswylwyr.
BRENDAN MCWHINNIE
JORDAN CARTER
TOM HUMPHRISS
ARWEINYDD TÎM
SWYDDOG TAI RHOS A WRECSAM
SWYDDOG TAI
YN LLE JORDAN CARTER TAN RHAG 21
Y TRALLWNG A’R WAUN
REBECCA TOPPING
LISA BEST
SWYDDOG TAI
HAWLIAU LLES A SWYDDOG CYNGOR ARIANNOL
LEDLED Y DWYRAIN
BRYNTEG A CHYSGODOL
LISA JONES SWYDDOG TAI
CEI CONNAH, OAKENHOLT, BAGILLT A HALKYN
14
ALISON DOUGLAS
AMI JONES
SWYDDOG TAI
SWYDDOG TAI
HELEN JONES
SALLY TONKS
GARETH EDWARDS
ARWEINYDD TÎM YR ARDAL GANOLOG
LEDLED Y DWYRAIN
SWYDDOG YMYRRAETH GYNNAR
LEDLED Y DWYRAIN
SHOTTON, Y FFERI ISAF, BRYCHDYN, SALTNEY, SANDYCROFT A MANCOT
JENNIFER TONER
ANDREW GRIFFITHS
SHELLEY DEBONO
CARYS EVANS
SWYDDOG TAI
SWYDDOG TAI
SWYDDOG TAI
SWYDDOG TAI
YR WYDDGRUG, NEW BRIGHTON, PONTBLYDDYN, COED-LLAI A GWERNAFFIELD
BWCLE, TREUDDYN, EWLO A MAES HELEG
GARDEN CITY A PHENARLÂG
CANOL WRECSAM
SWYDDOG TAI
FFLINT
EICH CYMUNED
TAI NEWYDD I gyd-fynd â’r dull newydd hwn, mae gan bob tîm Swyddog Hawliau Lles a Chyngor Ariannol i gynorthwyo preswylwyr gyda’u cyllid ynghyd â Swyddog Ymyrraeth Gynnar i gynnig cymorth penodol lle’n briodol. Mae’n debyg na fyddai’r swyddog tai wedi newid i rai o’n preswylwyr ond rydym wedi penderfynu rhannu ein tîm wedi’u hailstrwythuro gyda chi.
WENDY RICHARDS
JANICE PETERSON
RHYS HUGHES
CAROL HOOPER
SWYDDOG TAI
HAWLIAU LLES A SWYDDOG CYNGOR ARIANNOL
SWYDDOG YMYRRAETH GYNNAR
LEDLED Y GORLLEWIN
TREFFYNNON, FFYNNONGROEW, GREENFIELD A MOSTYN
YVONNE COLE SWYDDOG TAI
BAE COLWYN, ABERGELE A’R RHYL
YR ARDAL GANOLOG
LAURA COLLINS SWYDDOG TAI
LLANDRILLO-YN-RHOS, LLANDULAS, Y RHYL A PHRESTATYN
ANGHARAD JONES
SIAN TAYLOR
SWYDDOG TAI
SWYDDOG TAI
LLANDUDNO, CONWY, BRYNSIENCYN, GAERWEN, LLANSADRWN, LLANDEGFAN A NIWBWRCH
PENMAENMAWR, CYFFORDD LLANDUDNO, BAE COLWYN, LLANDRILLO-YN-RHOS A MOCHDR
ARWEINYDD TÎM
YR ARDAL GANOLOG
BARRY EVANS SWYDDOG TAI
CAERGYBI, BENLLECH, Y FALI, CAERGEILIOG, LLANGEFNI, AMLWCH A LLANFECHELL
REBECCA HALTON SWYDDOG TAI
Y RHYL, PRESTATYN, LLANELWY, BODELWYDDAN, RHUDDLAN, MELIDEN A THREMEIRCHION
SARA ROBERTS SWYDDOG TAI
ABERGELE, PENSARN, BAE CINMEL, TOWYN A’R RHYL
SHANNON CAMERON SWYDDOG TAI
Y RHYL A PHRESTATYN
SHARON SPARROW
JOANNE ARKSEY
GAFYN THOMAS
SWYDDOG TAI
HAWLIAU LLES A SWYDDOG CYNGOR ARIANNOL
SWYDDOG YMYRRAETH GYNNAR
TREFNANT, DINBYCH, RHUTHUN, LLANBEDR A’R RHYL
LEDLED Y GORLLEWIN
LEDLED Y GORLLEWIN
15
EICH CYMUNED
EIN TÎM CYNNAL A CH
TORRI TIR NEWYDD
SUT MAE MERCHED SY’N GWEITHIO YN Y DIWYDIANNAU CYNNAL A CHADW YN CHWALU STEREOTEIPIAU RHYWEDD TRADDODIADOL? Dyma’r cwestiwn bu inni ofyn i dîm Cynnal a Chadw ClwydAlyn, o dan arweiniad Carl Taylor, Rheolwr Gweithrediadau. Mae Carl yn arwain tîm lle mae sawl merch erbyn hyn yn cyflawni rolau masnach sydd wedi’u cyflawni gan ddynion yn draddodiadol. Mae ClwydAlyn yn cynnig cyfleoedd i bobl allu datblygu yn y mudiad fel rhan o dîm hynod gefnogol. Gan hynny, fe bwysleisiodd pawb y bu inni siarad gyda nhw sut mae’r cydbwysedd rhywedd o broffesiynau y mae dynion yn eu cyflawni’n draddodiadol yn newid ac yn cynnig cyfleoedd gwych i ferched sy’n gweithio yn y diwydiant. Mae Louise Smith-Aldous yn Gydlynydd Gweithrediadau a Phrosiectau yn yr adran Iechyd a Diogelwch ar ran y tîm ac mae hi wedi datblygu yn ClwydAlyn o’i rôl gychwynnol fel cynorthwyydd cegin a domestig yn y maes Gofal Ychwanegol. Bu i Louise fynd rhagddi i gychwyn prentisiaeth fel ‘Cynorthwyydd Tyfu Eich Hun’ gyda’r Tîm Pobl, cyn datblygu i’w rôl bresennol. Dywedodd
“ Does dim gwahaniaeth os ydych chi’n ddyn neu ddynes pan rydych yn cyflawni’r swydd. Mae fy nhîm yn hynod gefnogol ac agos a dydw i heb wynebu unrhyw rwystr wrth imi ddatblygu yn fy ngwaith.”
MAE LOUISE SMITH-ALDOUS YN GYDLYNYDD GWEITHREDIADAU A PHROSIECTAU YN YR ADRAN IECHYD A DIOGELWCH.
Bu Emily yn gweithio i’r tîm trydanol ers dros 6 mis a bu’n cydweithio gyda Mike Hill ar waith arferol dydd i dydd a gyda Dylan Rodgers mewn eiddo gwag. Bu hi’n cydweithio gyda Dylan gan fwyaf mewn eiddo gwag gan gyflawni amryw ddyletswyddau fel amnewid ategolion megis socedi a switshys ond bu hi hefyd yn cynorthwyo Dylan i ddadansoddi a chanfod gwallau mewn cylchedau a chyflawni adroddiadau cyflwr trydanol. Yn ystod ei hamser yma, mae Emily wedi hybu ei hyder ac wedi dangos brwdfrydedd sylweddol. Mae agwedd Emily tuag at waith yn hynod gadarnhaol. Nod Emily ydy cymhwyso fel trydanwr.
16
Ym mis Medi bu iddi gychwyn cwrs trydanol llawn amser yng Ngholeg Llandrillo gyda’r gobaith o ennill prentisiaeth. Y flwyddyn nesaf, mae neuadd Leigh Hall wedi trefnu i un o’n contractwyr gynnig lleoliad gwaith i Emily am gwpwl o wythnosau er mwyn iddi ennill profiad pellach ym meysydd eraill y grefft na allwn ni eu cynnig yn anffodus. Mae agwedd Emily yn wych, mae hi’n gyfeillgar ac yn gwrtais ac mae’n aelod gwerthfawr o’n tîm erbyn hyn.
EICH CYMUNED
HADW Carl Taylor
Rheolwr Gweithrediadau Mae Emma Goodhall yn gweithio fel Peintiwr yn y tîm ac fe gychwynnodd weithio i ClwydAlyn yn dilyn 9 mlynedd yn gweithio i’r tîm cynnal a chadw yng Nghastell Bodelwyddan. Cafodd gynnig i ennill sgiliau addurno sylfaenol yn y coleg a hen hanes yw’r gweddill. Dywedodd Emma:
“ Os ydych chi’n dod o hyd i swydd rydych chi’n ei chyflawni’n dda, gallwch ei mwynhau am weddill eich oes. Mae rhai preswylwyr yn hoffi dewis rhwng dyn a dynes ond mae rhai yn dal yn synnu o weld merch!” Roedd cael ffrind ar yr un tîm yn fuddiol iddi, Sam Reece, sydd hefyd yn gweithio fel Peintiwr. Fe gychwynnodd weithio i ClwydAlyn yn 2013 yn dilyn cyfnod o fod yn hunangyflogedig. Dywedodd Sam:
“ Roedd yn faes i ddynion un tro, ond dydw i heb wynebu unrhyw drafferth mewn 20 mlynedd. Dydw i ddim eisiau i neb fy nhrin i’n wahanol ac mae pob un o’r dynion ar y tîm yn wŷr bonheddig.” Mae’r tîm hefyd yn cyflogi Glanhawyr, sy’n gweithio ledled Gogledd Cymru mewn rolau amrywiol a medrus ac sy’n cyflawni tasgau megis garddio, codi dodrefn ac unrhyw waith angenrheidiol arall yn y cartrefi. Mae’r tîm Glanhau’n cyflawni gwaith ledled y cartrefi pob dydd ac maen nhw’n mwynhau siarad gydag a chefnogi preswylwyr. Fe benderfynodd Nikki Chadwick newid gyrfa wedi gweithio fel cynorthwyydd meithrin ac mae hi’n mwynhau’r rôl “lle na chewch chi’ch trin yn wahanol”. Mae hi’n gweithio gyda Lynne Brennan, wnaeth geisio am y rôl yn dilyn 17 mlynedd gyda Heddlu Gogledd Cymru. Dywedodd Lynne:
“ Mae pob dydd yn gwbl wahanol ac mae yna ddigonedd o amrywiaeth gan ein bod yn gweithio mewn ardal sy’n estyn o Langefni i Brestatyn.” Yn olaf, mae Kayleigh Smith, sy’n Swyddog Rheoli Asedau ar y Tîm Asedau. Doedd hi ddim yn siŵr pa yrfa i’w ddilyn i gychwyn ac fe bigodd plymwaith fel pwnc pan oedd hi yng Ngholeg Llandrillo. Yna fe gychwynnodd ar gyfnod profiad gwaith gyda ClwydAlyn ac roedd ei rôl gwreiddiol yn blymiwr prentis. Wedi iddi gwblhau ei cymwysterau fel
Peiriannydd Gwresogi Nwy, fe ddatblygoff i gyflawni’r rôl hon yn 2011. Gan ddwyn i ystyriaeth ei gyrfa gyda’r cwmni, soniodd Kayleigh:
“ Mae ClwydAlyn wedi bod yn wych o’r cychwyn cyntaf. Roedd fy nghydweithwyr yn y tîm Plymwaith a Gwresogi yn anhygoel ac rydw i wedi mwynhau pob eiliad a fy nghynnydd yn fy ngwaith. Buaswn i’n ei argymell i unrhyw un sy’n dymuno gweithio mewn maes wedi’i reoli gan ddynion yn draddodiadol. Byddwch yn derbyn yr holl gefnogaeth fydd ei hangen arnoch chi.” Mae’r merched hyn yn chwalu’r rhagfarn o ran rhywedd yn y maes ac yn ffynnu yn eu rolau sy’n cyfrannu cymaint tuag at waith ClwydAlyn. Mae Carl Taylor, arweinydd y tîm hefyd wedi meddwl am syniadau cyffrous ar sut i ddenu mwy o ferched i’r diwydiant. Mae ClwydAlyn eisoes yn meddu ar amodau a thelerau sy’n cefnogi gweithio hyblyg yn ymwneud â phlant a beichiogrwydd. Mae hyn yn ogystal â geiriad mewn hysbysebion swyddi i ennyn diddordeb merched yn fodd o atynnu mwy o ferched. Mae Carl hefyd yn credu y byddai’n fuddiol cynnig cyfle i bobl ifanc roi cynnig ar fasnach cyn gwneud penderfyniadau am eu gyrfa ynghyd â chyfleoedd marchnata i’r grŵp oedran hwnnw gyda ClwydAlyn. Yn olaf, mae Carl yn rhagweld preswylwyr ClwydAlyn o bob oedran yn manteisio ar gyfle i roi cynnig ar rywbeth gwahanol, gan gydweithio gyda mudiadau eraill o bosib. Mewn mudiad sy’n angerddol dros gydraddoldeb a gyda mwyfwy o ferched yn cyflawni rolau o safon uwch, mae Carl a’i dîm yn bwriadu mynd ati i gynyddu’r nifer o ferched yn eu tîm. Maen nhw hefyd yn ystyried newidiadau yn y diwydiant sy’n creu cyfleoedd i ferched fel Louise, Emma, Sam, Nikki, Lynne a Kayleigh, i herio stereoteipiau traddodiadol a rhagori yn eu gwaith o ddydd i ddydd.
Os hoffech chi weithio i ClwydAlyn yna ewch i’n gwefan neu gallwch fynegi eich diddordeb gydag ein Tîm Pobl drw y ein ffurflen ar-lein. www.clwydalyn.co.uk/work-for-us/ 17
EICH CYMUNED
CREU MENTER, CREU CYFLE Rydym yn canolbwyntio’n gryf ar Gyflogadwyedd yn ClwydAlyn, ac rydym yn credu y dylai fod cyfle i bawb fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant, datblygu a gwaith. Yn ddiweddar, bu inni gydweithio gyda mudiadau i gynnig hyfforddiant a gwaith i bobl gydag anableddau dysgu ac eraill sydd wedi wynebu rhwystrau’n draddodiadol rhag dod o hyd i waith. Eleni rydym yn cydweithio gyda phartner newydd i gefnogi mwy o breswylwyr i ddod o hyd i waith. Sut mae ClwydAlyn yn cydweithio gyda mudiadau eraill i gynnig cyfleoedd i denantiaid? Mae ‘Creu Menter’, is-gwmni Cartrefi Conwy yn gontractwr adeiladu a chynnal a chadw blaenllaw sydd, fel menter gymdeithasol, yn buddsoddi unrhyw elw yn y gymuned i gynorthwyo trigolion yr ardal i fanteisio ar hyfforddiant, gwaith gwirfoddol a gwaith â thâl. Ami Jones ydy Mentor Cyflogadwyedd Creu Menter a bu iddi egluro sut mae eu ‘Academi Cyflogadwyedd Creu Dyfodol’ yn cynnig lleoliadau gwaith â thâl 12 mis o hyd ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol. Mae cyfle i’r tenantiaid ddatblygu sgiliau a phrofiad i ddod o hyd i waith cynaliadwy. Ymysg y gefnogaeth mae’r academi yn ei gynnig mae : cyngor ar lunio CV effeithiol, help gyda chwblhau ffurflenni cais am swyddi, paratoi ar gyfer cyfweliadau a llunio cynlluniau gweithredu personol i helpu goresgyn unrhyw rwystrau, er mwyn ichi allu cyflawni’ch nodau. Mae ganddyn nhw gyfleoedd amrywiol ac mae’r tîm wedi meithrin cysylltiadau rhagorol gyda chyflogwyr lleol, gan gydweithio gyda nhw i gynnig yr hyfforddiant a’r llwybrau i waith mwyaf addas. Unwaith ichi ddod i hyd i waith, maen nhw’n parhau i’ch cefnogi chi am fis ar gychwyn eich cytundeb! Mae cyfleoedd gwirfoddoli hefyd ar gael i hybu hyder pobl a datblygu eu sgiliau i ddod o hyd i waith. Er enghraifft, drwy gydol y pandemig Covid-19 bu i wirfoddolwyr gyflawni galwadau lles a nôl siopa a phresgripsiynau i breswylwyr bregus. Hefyd bu modd
18
i denantiaid Cartrefi Conwy dderbyn cefnogaeth gan ‘Hyrwyddwyr Digidol’ a wnaeth gynorthwyo’r tenantiaid i ddefnyddio dyfeisiau wedi’u llogi iddyn nhw drwy’r prosiect er mwyn iddyn nhw allu cadw mewn cysylltiad gyda’u ffrindiau a theulu’n rhwydd. Maen nhw’n cynnig hyfforddiant ledled Gogledd Cymru ac mae’n ymwneud gyda: cyllidebu, hybu hyder a dysgu sut i ddefnyddio Facebook! Maen nhw hefyd yn cynnal rhaglenni ‘Pasbort i Ofal’ a ‘Pasbort i Adeiladu’ lle mae cyfle i unigolion ddysgu am wahanol rolau yn y diwydiant, dysgu’r manylion sylfaenol am iechyd a diogelwch a gloywi eu sgiliau dod o hyd i waith! Yn olaf, mae eu Prosiect Gweithio gyda’r Teulu, ‘Gwneud i Waith: Weithio i Bawb’ yn cefnogi teuluoedd sy’n gweithio yn Llandudno, Llandrillo-yn-rhos, Mochdre a Hen Golwyn. Bu i deuluoedd lleol adnabod rhwystrau y bu iddyn nhw eu hwynebu. Yn sgil hynny fe drefnwyd gweithgareddau ‘y tu hwnt i oriau ysgol’ a chynllun cerdyn ffyddlondeb, wedi’i gefnogi gan fusnesau lleol.
Dyma ychydig o’r ffyrdd y gallai Creu Menter helpu preswylwyr, ac eleni rydym yn yn falch o gydweithio gyda nhw i gynnig 10 lleoliad Academi gyda thâl sy’n arbennig i denantiaid ClwydAlyn (yn unig)! I wybod mwy, cysylltwch gydag Ami Jones, 01492 588980 neu e-bostiwch: employmentacademy@creatingenterprise.co.uk.
HAFAN DIRION
GARDDIO
EICH CARTREF
TRAWSNEWID GARDD
awgrymiadau gyfer arbennig ar y gaeaf gan Richard Burrows
Ein hawgrym garddio ar gyfer y gaeaf ydy ail-ddefnyddio a chynnal a chadw’r hynny sydd gennych chi eisoes fel bod eich gardd neu eich planhigion yn y tŷ yn ffynnu’r flwyddyn nesaf.
AILDDEFNYDDIO A CHYNNAL A CHAD
Yn ôl yn 2019, bu i Shannon Cameron, Swyddog Tai O Dan Hyfforddiant a Louise Blackwell, Arbenigwr Datblygu Cymunedol a Chyflogadwyedd gydweithio i fanteisio ar £250 ar gyfer grŵp preswylwyr Hafan Dirion. Roedd y preswylwyr yn ddiolchgar dros ben a buon nhw’n gweithio’n ddiflino yn trawsnewid yr ardal tu allan. Roedd ein staff yn cydweithio’n fuddiol dros ben i’n preswylwyr gan fu iddyn nhw dderbyn yr adnoddau priodol iddyn nhw deimlo’n falch dros ben o’u gwaith caled a’r ardd gymunedol ar ei newydd wedd. Gallwch weld y gwaith trawsnewid sylweddol! Llongyfarchiadau mawr i bawb oedd ynghlwm â’r gwaith, mae’n edrych yn anhygoel.
Gallwch sicrhau bod eich planhigion yn tyfu eto drwy gasglu hadau eich hoff blanhigion yn ystod yr haf a’u cadw mewn amlen bapur mewn man sych ac oer nes eu bod yn barod i’w plannu yn y gwanwyn. Fel arall, cadwch yr hadau i ddenu adar i’r ardd. Os oes gennych chi ardd lysiau, gosodwch ddigonedd o wrtaith, llwydni dail neu gompost gwastraff gwyrdd wedi’i ailgylchu eich cyngor lleol (3-4 modfedd) i’r pridd. Bydd hyn yn fodd o fwydo’r pridd, ei gyflyru a sicrhau ei fod yn fwy cynhyrchiol y flwyddyn nesaf.
CYNNAL A CHADW EICH GARDD
Glanhewch unrhyw nodweddion dŵr gan gael gwared ar falurion o’r dŵr a fyddai fel arall yn rhwystro’r dŵr rhag llifo ac achosi i algâu hel. Cofiwch gribinio a chlirio’r dail oddi ar y llwybrau a’r lawntiau’n aml. Yna gwasgarwch y dail fel tomwellt am ben eich gwelyau a borderi, neu rhowch nhw mewn bin compost os oes gennych chi un.
CYMRYD TORIADAU O BLANHIGION TŶ
Mae’n hawdd cymryd toriadau oddi ar rai planhigion tŷ ac maen nhw’n tyfu’n arbennig o doriadau coesau syml. Os oes gennych chi blanhigion pry cop gyda thyfiannau ochr, gallwch dynnu’r rhain a’u plannu mewn compost llaith wedi’u gorchuddio gyda bag plastig. Bydd y rhain yn gwreiddio i ffurfio planhigyn newydd mewn ychydig wythnosau.Gallai planhigion tŷ addurno’ch cartref yn arbennig, mae’n gyfle ichi ddod â mymryn o’r tu allan i mewn ac maen nhw’n effeithiol ar gyfer cynyddu’r lefelau ocsigen. Ewch i’r dudalen hon i ddysgu mwy am blanhigion tŷ www.balconygardenweb.com/indoorplants-you-can-grow-from-cuttings/ Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am arddio, cysylltwch gyda ni drwy anfon eich cwestiynau i Communications@clwydalyn.co.uk
19
EICH CARTREF
CADW’N GYNNES
AM LAI O ARIAN
Ein
AW
• Gostwng y gwres o 1 gradd • Gwisgo haen ychwanegol o ddillad • Gosod gwahanol dymereddau ym
A DAU G RY M I
ig Arbenn
mhob ystafell
• Rhaglennu eich system wresogi • Peidiwch â rhwystro’ch gwresogyddion
• Rhwystrwch unrhyw ddrafftiau a chaewch eich drysau
• Agorwch y llenni er mwyn i oleuni’r haul dywynnu i mewn i’r tŷ a chaewch nhw gyda’r nos i atal oerni
ARBED ARIAN AR FILIAU YNNI
Mae gan y Llywodraeth Gynllun Gostyngiadau Cartref Clyd’ lle wrth gydweithio gyda chyflenwyr ynni, gallwch fanteisio ar ostyngiad o £140 oddi ar eich bil trydan yn ystod gaeaf 2021 i 2022. Ni fyddwch chi’n derbyn yr arian – mae’n ostyngiad untro oddi ar eich bil trydan, rhwng Hydref a Mawrth. Mae’n bosib y bydd modd ichi fanteisio ar ostyngiad oddi ar eich bil nwy yn lle hynny os ydy eich cyflenwr yn gyfrifol am nwy a thrydan. Cysylltwch gyda’ch cyflenwr i ddysgu mwy.
CYMORTH TANWYDD GAEAF Rhwng Hydref y 1af 2021 a Mawrth yr 31ain 2022, bydd y Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) yn cynnig cymorth i unigolion sy’n wynebu caledi ariannol ac sydd angen cymorth gyda thanwydd oddi ar y grid. Bydd yn rhaid i un o’n partneriaid DAF cymeradwy gymeradwyo’r ceisiadau ar gyfer y taliadau hyn. I gyflwyno cais, cysylltwch gyda gweithiwr cefnogol, gweithiwr cymdeithasol, swyddog tai, Cyngor Ar Bopeth neu weithiwr proffesiynol tebyg arall. Gallai’r Gronfa DAF gynorthwyo’r rheiny sy’n wynebu caledi ariannol, sydd wedi colli’u swydd neu sydd wedi ceisio am fudddaliadau ac yn aros am y taliad cyntaf. Os hoffech chi wybod mwy, ewch i dudalen y llywodraeth yma: www.gov.wales/discretionary-assistance-fund-daf
20
Ni fydd y gostyngiad yn effeithio ar eich Taliad Tywydd Oer neu Daliad Tanwydd y Gaeaf. MEINI PRAWF O RAN CYMHWYSEDD: · rydych yn derbyn elfen Credyd Gwarant eich Credyd Pensiwn – rhan o’r ‘grŵp craidd’ · mae’ch incwm yn isel ac rydych yn bodloni meini prawf eich cyflenwr ynni ar gyfer y cynllun – rhan o’r ‘grŵp ehangach’ I wybod mwy, ewch i – Cynllun Gostyngiad Cartref Clyd - GOV.UK (www.gov.uk)
CADW MEWN CYSYLLTIAD GYDA GOSTYNGIAD Mae pecyn hanfodion y cartref BT yn cynnig band-eang am hanner y pris i rheiny sy’n derbyn budd-daliadau penodol. Ydych chi’n hawlio credyd uniongyrchol neu gredyd pensiwn? Yna gallai hyn fod yn ffordd wych ichi gadw mewn cysylltiad am bris gostyngol. www.bt.com/exp/broadband/home-essentials
Diffoddwch y goleuadau pan nad ydych chi’n eu defnyddio
Tynnu plygiau gwefrwyr ar ôl ichi eu defnyddio
Diffoddwch unrhyw declynnau sy’n segur (ar standby)
Golchfa aer sych
Defnyddiwch gaead pan fyddwch yn coginio
NEWID CYFLENWR YNNI YN RHWYDD AR-LEIN Cyflwynwch yr wybodaeth am ddefnydd ac adolygu eich canlyniadau
Gofalwch bod gennych chi gopi o’ch bil diweddaraf
Ewch i wefan cymharu ynni dibynadwy a chyflwynwch eich cod post
EICH CARTREF
AWGRYMIADAU ARBED YNNI CYFLYM A RHWYDD
Dewis cynllun newydd a chadarnhau eich bod am newid cyflenwr
Arhoswch i glywed gan eich cyflenwr newydd
YDYCH CHI’N CAEL TRAFFERTH GYDA BILIAU DŴR
Rydym yma i sicrhau nad ydych chi’n boddi. Gallwn ni eich cynorthwyo gyda… • Prisiau ar gyfer cwsmeriaid gydag incwm isel, teulu mawr neu gyflwr meddygol
• Seibiant taliadau nes y byddwch chi’n gallu dygymod â’r taliadau
• Gostwng eich taliadau am gyfnod byr
• Cynlluniau cymorth dyledion • Cyngor am effeithlonrwydd dŵr i leihau biliau
Dysgu mwy ar dwrcymru.com/helpwithbills neu ffoniwch ni ar 0800 052 0145
21
EICH CARTREF
AWGRYMIADAU
ARBENNIG AR GYFER UWCHGYLCHU EIN CYDLYNYDD YMWNEUD GYDA DEFNYDDWYR GWASANAETH, JO LLOYD YN RHANNU YCHYDIG O AWGRYMIADAU Y MAE HI WEDI’U DEFNYDDIO EISOES GYDAG EIN PRESWYLWY 1 Cyn ichi daflu hen ddodrefnyn, ystyriwch oes modd ichi ei uwchgylchu. Ewch ati i greu rhywbeth anhygoel yn defnyddio rhywbeth y buasech chi wedi’i daflu fel arall! 2 Defnyddiwch eich dychymyg pan fyddwch yn gweld hen ddodrefn. Mae hen ysgolion yn ddefnyddiol iawn i arddangos planhigion ac mae hen ddrymiau peiriannau golchi dillad yn gwneud potiau planhigion tu allan gwych. 3 Os welwch chi hen ddodrefn ar werth ar y stryd fawr rydych yn hoff ohono, mae’n bosib y gallwch chi ddod o hyd i rywbeth tebyg iawn ar Facebook Marketplace –mae’n bosib hefyd y gallwch chi gytuno ar bris isel iawn neu efallai dderbyn rhywbeth AM DDIM!! 4 Casglwch hen sanau (rhai glân wrth gwrs) gan eu bod yn wych i daenu cwyr ar ddodrefn, ar yr amod nad ydyn nhw’n rhy fflwffi (gallai ffibrau rhydd amharu ar edrychiad y dodrefn) 5 Ewch ati i gael hwyl a rhoi cynnig ar dechnegau newydd. Does dim rhaid ichi gadw at arddull dodrefn ar y stryd fawr. Dewiswch liwiau sy’n gweddu ichi a’ch cynlluniau lliwiau.
22
6 Does dim rhaid ichi ddefnyddio paent sialc drud. Defnyddiwch hen baent di-sglein. Os wnewch chi gofio taenu farnis neu gwyr ar ôl peintio, bydd yn edrych yn wych! 7 Unwaith ichi orffen eich dodrefn, gofalwch eich bod yn amddiffyn eich holl waith caled drwy daenu farnis neu gwyr drosto i sicrhau ei fod yn para. 8 Argraffwch luniau oddi ar y we – gallwch eu defnyddio ar gyfer gosod ‘Decoupage’ (gair Ffrangeg am ludo lluniau!) ar eich dodrefn ar ei newydd wedd. Edrychwch mewn cylchgronau neu hen lyfrau comics. Defnyddiwch lud PVA i osod y rhain ar eich dodrefn cyn eu gorchuddio gyda farnis neu gwyr. 9 Yn bwysicaf oll, gofalwch eich bod yn cael hwyl a byddwch yn greadigol. Gallwch fynd ati i greu pob math o bethau ac os ydych chi’n gynnil ac yn hoff o chwilio am fargeinion, gallwch uwchgylchu dodrefn yn rhad iawn!
AWGRYM
UWCHGYLCHU
ARBENNIG
LAURA Mae’n bosib eich bod yn cofio yn rhifyn yr haf imi rannu un o’r bargeinion Facebook wnes i ei uwchgylchu; wel… Rydw i wedi dod o hyd i fargen arall. Roedd y drych hyfryd hwn ond yn £10 ar Facebook marketplace. Unwaith imi ei lanhau’n sydyn, ei sandio a gosod ychydig o dâp masgio i amddiffyn y drych, dim ond 20 munud gymrodd imi ei beintio. Wnes i ddefnyddio paent coed du oedd dros ben yn dilyn fy mhrosiect uwchgylchu blaenorol. Rydw i wrth fy modd gyda’r drych ar ei newydd wedd!
Os oes gennych chi unrhyw ddodrefn wedi’i uwchgylchu yr hoffech chi eu rhannu, anfonwch nhw at Communications@Clwydalyn.co.uk ac mae’n bosib y byddwn ni’n eu cynnwys yn un o’n rhifynnau yn y dyfodol.
YOUR HOME
Awgrymiadau ar gyfer Diogelu’ch Cartref yn ystod y Nadolig eleni 1. Gwiriwch eich goleuadau Nadolig yn ofalus pob blwyddyn, gan gael gwared ar unrhyw geblau sydd wedi gwisgo neu gysylltiadau rhydd. 2. Gwiriwch fod eich addurniadau trydanol yn bodloni’r Safon Brydeinig. 3. Diffoddwch eich goleuadau Nadolig pan fyddwch yn gadael y tŷ a phan fyddwch chi’n mynd i’ch gwelyau. 4. Peidiwch â phlygio gormod o blygiau mewn socedi trydanol. 5. Peidiwch â phlygio cebl estyniad i mewn i gebl estyniad arall. 6. Pan fyddwch yn gosod goleuadau’r tu allan, defnyddiwch dâp ynysu neu glipiau plastig yn lle hoelion neu daciau i’w gosod yn eu lle. 7. Ydych chi’n defnyddio ysgol neu stepiau i osod goleuadau? Dewiswch yr ysgol briodol a gofalwch bod rhywun yn dal yr ysgol pan fyddwch chi’n ei defnyddio. 8. Gwiriwch eich larymau mwg pob mis i sicrhau eu bod yn gweithio’n ddigonol. 9. Gofalwch nad oes modd i blant ac anifeiliaid anwes gyrraedd eich canhwyllau. Cofiwch chwythu’r canhwyllau pan fyddwch chi’n gadael yr ystafell neu’n mynd i gysgu. 10. Peidiwch â gadael y gegin pan fyddwch yn coginio. 11. Cysylltwch gyda pherthnasau a chymdogion hŷn yn ystod y Nadolig eleni i sicrhau eu bod nhw’n ddiogel.
GOBEITHIO Y CEWCH CHI NADOLIG LLAWEN A HAPUS GAN BAWB YN CLWYDALYN 23
EICH BARN
Bag Post Ateb eich cwestiynau
Cwestiwn Shelia Powell, Preswylydd.
Ateb Laura McKibbin Golygydd y Newyddlen
Roeddwn i’n hoff iawn o olwg/ ffurf newydd y newyddlen. Hoffwn wneud sylw, os ydy hynny’n iawn, am y papur o safon a ddefnyddiwyd yn y newyddlenni blaenorol. Rydw i’n meddwl bod y papur o ansawdd rhy dda. Gan ystyried cost papur newydd dyddiol, lle nad ydy ansawdd y papur cystal, tybed faint ydy cost y newyddlen fesul copi? Oes modd defnyddio papur rhatach a gwario’r arian yn fwy doeth ar rywbeth arall.
Diolch yn fawr am anfon y cwestiwn pwysig hwn. Rydym wrthi’n gweithio ar ein strategaeth amgylcheddol. Hefyd, yn ein newyddlen ddiwethaf, bu inni rannu ein Taith at statws Dim Carbon. Gallwch fwrw golwg arno yma.
www.clwydalyn.co.uk/media/ documents/environmental-andsustainability-vision-2020-2035_en.pdf
Bu inni arbed bron i 50 y cant o’r gost i argraffu ac anfon ein newyddlen ddiwethaf. Bu inni ddefnyddio papur oedd mymryn yn deneuach yna bu inni anfon swp o gopïau at ein cynlluniau a bu i’n staff caredig eu dosbarthu i’r preswylwyr. Buom hefyd yn ceisio sicrhau ein bod yn anfon mwy o gopïau digidol gan fod hyn yn lleihau’r gost yn sylweddol ac yn lleihau’r ôl-troed carbon drwy leihau’r defnydd o bapur a defnyddio llai ar y gwasanaeth postio. Rydym yn deall bod llawer o’n preswylwyr yn dymuno derbyn eu copi drwy’r post ac rydym yn gobeithio parhau i gynnig hynny iddyn nhw. Gofynnwn yn garedig ichi roi gwybod inni sut hoffech chi dderbyn eich newyddlen. Gallwch ddewis ar ba ffurf yr hoffech chi ei dderbyn ar MyClwydAlyn.
PorthMyClwydAlyn Gallwch reoli eich tenantiaeth ar-lein erbyn hyn! Rydym yn ymwybodol eich bod yn brysur felly hoffem sicrhau bod modd ichi reoli eich tenantiaeth yn rhwydd a didrafferth; Dyna pam ein bod ni wedi lansio MyClwydAlyn, gwasanaeth ar-lein sydd am ddim ac yn ddiogel ichi allu rheoli eich tenantiaeth, unrhyw le ac unrhyw bryd.
Pam ddylwn i ddefnyddio MyClwydAlyn? Gallwch ddefnyddio MyClwydAlyn unrhyw bryd i wneud y canlynol: - - - - - -
Gweld eich gwybodaeth tenant Gweld gweddill eich rhent Gweld hanes eich cyfrif Talu eich rhent Cofnodi gwaith trwsio Rhoi gwybod am bryder
I wybod mwy am MyClwydAlyn, gan gynnwys sut i greu cyfrif ac i weld atebion i gwestiynau cyffredin, ewch i: clwydalyn.co.uk/MyClwydAlyn Gobeithio y gwnewch chi ddod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch yno. Gallwch arbed amser a mynd ati i reoli eich tenantiaeth unrhyw bryd ac unrhyw le.www.myclwydalyn.co.uk
24
e!
com Wel
EICH BARN
Os oes gennych chi gwestiwn yr hoffech chi inni ei ateb yn y newyddlen, anfonwch e-bost atom ar communications@clwydalyn.co.uk
Carl Taylor
Cwestiwn Preswylydd
Rheolwr Gweithrediadau Ateb eich cwestiynau Cynnal a Chadw
Pam ein bod yn dal yn gorfod aros am gyfnod hir am waith trwsio?
Ateb Carl Taylor Mae yna amryw agweddau sy’n effeithio ar yr amseroedd aros am waith trwsio, megis: Yn ystod Covid, roedd yn rhaid inni leihau’r nifer o apwyntiadau pob diwrnod er mwyn sicrhau bod pawb yn ddiogel. Rydym yn dal yn ceisio mynd ati i gwblhau’r tasgau wnaeth hel yn ystod y cyfnod hwnnw gan geisio dygymod â thasgau newydd rydym ni’n eu derbyn pob dydd hefyd. Er bod rhai cyfyngiadau wedi’u diddymu ers y pandemig, rydym yn dal yn wynebu heriau dyddiol ac oedi yn sgil staff a phreswylwyr yn hunan-ynysu. Yn anffodus, rydym ni hefyd yn wynebu cynnydd mewn hysbysiadau ‘dim mynediad’ gan breswylwyr, sy’n golygu bob tro rydym yn trefnu apwyntiad ac nid oes modd inni fynd yno i gwblhau’r dasg, mae’r apwyntiad hwnnw wedi mynd i wastraff. Gallwch ein cynorthwyo ni drwy gadw eich apwyntiad neu roi gwybod inni ymlaen llaw os oes angen ichi ail-drefnu. Mae yna brinder gyda rhai deunyddiau ac mae’n fwyfwy anodd inni gael gafael ar y deunyddiau angenrheidiol. Mae yna gynnydd yn y nifer o gartrefi gwag yn dilyn newidiadau i amgylchiadau pobl. Rydym yn blaenoriaethu eiddo gwag er mwyn lleihau’r amser maen nhw’n sefyll yn wag fel bod modd i breswylwyr hen a newydd symud i’w cartrefi angenrheidiol cyn gynted â phosib a lleihau’r peryg o ddigartrefedd. Mae yna hefyd ddiffyg isgontractwyr ar gael i’n cynorthwyo gyda’r broses adfer. Rydym yn ceisio rheoli’r ffactorau allanol hyn drwy greu swyddi newydd, ond rydym hefyd yn wynebu heriau wrth geisio recriwtio staff newydd gan fod y farchnad waith yn gystadleuol dros ben yn dilyn Brexit a Covid.
Cwestiwn Preswylydd
Sut ydych chi’n mynd i’r afael â’r sefyllfa?
Ateb Carl Taylor
Rydym yn deall y bydd y broses o fynd i’r afael â’r sefyllfa yn broses hir, yn sgil amryw amhariadau’r pandemig Covid ac effeithiau Brexit. Dyma ychydig o’n gweithdrefnau i fynd i’r afael â’r sefyllfa: Rydym yn gweithredu’n rhagweithiol i addasu ein gwasanaethau i oresgyn yr heriau hyn. Mae gennym ni gynllun adfer tair blynedd o hyd ar waith a byddwn yn ei adolygu’n chwarterol. Rydym yn cwrdd gyda’r Pwyllgor Preswylwyr yn rheolaidd i gynnig y diweddaraf a manteisio ar eu hadborth nhw. Rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i ohirio ein rhaglen waith arfaethedig ar gyfer ceginau ac ystafelloedd ymolchi am 6 mis i ail-gynllunio ein hadnoddau a chanolbwyntio ar fynd i’r afael gydag ein gwaith trwsio cyffredinol o ddydd i ddydd. Byddwn yn cysylltu gydag unrhyw breswylwyr sydd wedi’u heffeithio gan y newidiadau hyn. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw siom neu anghyfleustra ond rydym yn gobeithio eich bod yn deall yr angen i ail-leoli ein tîm dros dro i’n cynorthwyo i leihau’r llwyth gwaith sydd wedi hel. Mae staff o adrannau eraill y mudiad wedi gwirfoddoli i gynorthwyo’r tîm trwsio a chynnal a chadw drwy wneud gwaith llafur a chynorthwyo gyda thasgau lle mae angen mwy nac un person i’w cwblhau. Rydym wedi creu nifer o swyddi a phrentisiaethau newydd
D io lch
Hoffem ddiolch ichi am ein cefnogi drwy’r cyfnod heriol hwn, rydym yn gweithio’n galed i adfer ein gwasanaeth yn sgil effeithiau Covid a hoffem ddiolch ichi am fod mor amyneddgar.
25
CIPOLWG AR…
Cipolwg ar fywyd…
Ein Cogydd Stephen Owen Mae Stephen Owen yn gweithio fel Cogydd yng Nghynllun Gofal Ychwanegol Tan Y Fron yn Llandudno ac fe rannodd ychydig am ei rôl a beth wnaeth ennyn ei ddiddordeb i geisio am swydd gyda ClwydAlyn. ‘Wedi imi gael fy niswyddo o fy swydd flaenorol mewn Ysgol Annibynnol, wnes i geisio am swydd gyda ClwydAlyn ar gychwyn y flwyddyn eleni gan eu bod yn gwmni mawr gydag enw da. Roeddwn i’n gwybod na fuasai’r gwaith yn dymhorol a byddaf yn gweithio’n barhaus a byddai fy swydd yn ddiogel. Mae digonedd o oriau ar gael bob amser ac rydw i wir yn mwynhau fy rôl. Rydw i’n gweithio gyda’r un bobl bob diwrnod ac maen nhw erbyn hyn fel teulu a ffrindiau agos iawn ichi.
Rydw i’n gweithio’n llawn amser a bu’n braf dod i adnabod yr holl breswylwyr a chlywed eu holl straeon. Rydych yn dysgu eu henwau ac yn dod i wybod am yr hynny maen nhw’n eu hoffi a ddim yn ei hoffi o ran prydau. Bu i’r staff estyn croeso cynnes imi a gallaf fanteisio ar ddigonedd o gymorth – mae fy rheolwr, Debjani bob amser yn barod ei chymwynas ac mae ein Uwch Gogyddion, Colin a Wayne bob amser yno i’n helpu ac ar ben arall y ffôn os oes eu hangen nhw arnom ni.
Ymysg buddion eraill y swydd mae’r gwyliau o gymharu â swyddi eraill yn y diwydiant. Gan fyd mod i’n byw yn Llandudno, rydw i’n bwriadu manteisio ar y cynllun Beicio i’r Gwaith hefyd. Yn bennaf oll, rydw i’n mwynhau cwrdd â phawb yn y Cynllun ac ers imi gychwyn gweithio yma, rydw i’n sicr fy mod i wedi gwneud penderfyniad gwych i geisio am swydd gyda ClwydAlyn.”
Mae gennym ni gyfleoedd gwych ar ein tudalen gweithio inni yn aml. Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd, ewch i’n tudalen yma www.clwydalyn.co.uk/work-for-us/
Chwilio am yrfa fel cogydd? Rydym yn cynnig hyfforddiant yn y swydd ac yn eich cefnogi i gwblhau cwrs Diogelwch Bwyd Achrededig lefel 2 yn ogystal â chyrsiau eraill megis Alergeddau, Rheoli Haint ac Iechyd a Diogelwch. Rydym hefyd yn dysgu am eich cryfderau ac yn trafod sut hoffech chi ddatblygu. Gallwn hefyd eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau arwain tîm
neu reoli gan gynnig cyfle ichi fanteisio ar gyrsiau ILM lefel 2 mewn sgiliau Arwain Tîm neu gwrs Rheoli lefel 3. PRENTIS ARLWYO
COGYDD
Hyfforddiant yn y swydd
Cynorthwyo’r cogydd
Archebu a llunio bwydlenni
Dysgu am fwyd
Paratoi prydau
Hylendid diogelwch
Sicrhau bod y gweithle yn ddiogel, glân a thaclus
Sicrhau bod y prydau wedi’u coginio i safon uchel a’u darparu mewn pryd
Helpu paratoi bwyd
N PECYION BUDD 26
CYNORTHWYYDD CEG
PEN-GOGYDD Goruchwylio’r cyfleusterau arlwyo ac effeithlonrwydd y tîm
Rydym yn cynnig pecyn buddion gan gynnwys aelodaeth gyda chynllun pensiwn a chyfraniadau cyfatebol hyd at 8% gan y cyflogwr, cynllun beicio i’r gwaith, talebau gofal llygaid a phecyn lles ariannol, 25 diwrnod gwyliau yn ogystal â Gwyliau’r Banc sy’n arwain at 30 diwrnod, yswiriant bywyd, rhaglen cymorth i gyflogeion a phecyn hyfforddiant hollgynhwysol – hyn i gyd mewn mudiad sy’n seiliedig ar werthoedd ac sydd â diwylliant gwych.
Digon i 4
Dysgl i rannu gyda gweddill y bwrdd. Mae’n berffaith ar gyfer dyddiau oer y gaeaf. Os chwiliwch chi am ‘calon dwym’ yn y geiriadur, dyma’r pryd y dylech chi ei weld gyferbyn.
Blasus iawn gyda bara menyn.
CYNHWYSION: 8 Selsig (fe gewch chi ddewis eich hoff rai) 1 nionyn 3 sbrigyn o rosmari ffres x2 dun 400g o domatos hirgrwn aeddfed x2 dun 400g o ffa cannellini 2 lwy de o bâst harrissa 200ml o stoc cyw iâr Bydd angen joch o olew arnoch chi hefyd
Cyfarpar: Padell ffrïo popty neu badell ffrïo arferol a dysgl caserol. Bwrdd torri llysiau Cyllell finiog Jwg mesur Llwy bren (neu rywbeth arall i droi’r cynhwysion) Gogor
CIPOLWG AR…
Caserol Selsig i gynhesu’ch tu mewn
Pryd cysurus i gynhesu’ch tu mewn yn ystod y gaeaf sydd wedi’i rannu gan ein partneriaid, WellFed. Os hoffech chi roi cynnig ar bryd heb gig, gallwch ychwanegu selsig Quorn, bydd yr un mor flasus! Dewch inni gychwyn coginio! 1. Pliciwch a thorrwch y nionyn yn ddarnau bras, does dim angen iddyn nhw fod yn ddarnau taclus! 2. Tynnwch y dail oddi ar y rhosmari a’i dorri mor fân â phosib. 3. Ewch ati i baratoi’r stoc yn defnyddio dŵr berwedig a chiwb neu botyn stoc cyw iâr. 4. Nesaf, draeniwch y ffa yn defnyddio’ch gogor a’u rinsio ychydig o weithiau gyda dŵr oer i gael gwared ar unrhyw waddodion 5. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 200°c. 6. Tywalltwch mymryn o olew yn y badell a’i chynhesu ar wres isel-canolig. Ychwanegwch eich selsig a’u ffrïo am oddeutu 5 munud nes eu bod wedi brownio. Tynnwch y selsig o’r badell a rhowch nhw o’r neilltu am y tro. 7. Tywalltwch mymryn bach mwy o olew yn y badell ac ychwanegwch y nionyn wedi’i dorri. Coginiwch ar wres isel nes y byddan nhw wedi meddalu ac yn lliw euraidd. Ychwanegwch y rhosmari wedi’i dorri a phinsiad o halen yna trowch y cymysgedd.
8. Nesaf, ychwanegwch y pâst Harrissa i’r badell a chymysgwch y cyfan (wnaethon ni fenthyg yr awgrym hwn gan Nigel Slater). 9. Ychwanegwch y tomatos wedi’u torri, y ffa cannellini a’r stoc i’r badell a chymysgwch y cyfan gyda’r cynhwysion eraill. Berwch y cymysgedd am ennyd cyn gostwng y gwres. Ychwanegwch y selsig wnaethoch chi roi o’r neilltu’n gynharach a throwch y cyfan gan sicrhau bod popeth wedi cymysgu gyda’i gilydd yn drylwyr. 10. Blaswch y cymysgedd ac ychwanegwch halen a phupur os oes angen, yna craswch y caserol yng nghanol y popty am 1 awr neu nes bydd y caserol wedi tewychu. 11. Os ydych chi’n defnyddio padell na ellir ei ddefnyddio yn y popty, rhowch y caserol mewn dysgl bopty a’i grasu yng nghanol y popty am 1 awr neu nes bydd y caserol wedi tewychu’n ddigonol. 12. Gweinwch gyda rhywfaint o fara crystiog neu stwnsh hufennog!
Mae Well-Fed yn cynnig Blychau Cartref sydd wedi’u dylunio i’ch cynorthwyo i fwyta’n dda a choginio’n ddidrafferth. Mae pob blwch wedi’u creu gan ein cogyddion medrus a chaiff ein holl brydau eu cynllunio gyda chymorth dietegwr cofrestredig. Gallwch fwrw golwg arnyn nhw ym www.cancook.co.uk/well-fed-at-home/
27
Eich Cystadleuaeth Eleni rydym yn cynnal CYSTADLEUAETH YCHWANEGOL. Hoffwn weld eich coed Nadolig, eich crefftau Nadolig neu gacennau ac ati Nadolig… unrhyw beth sy’n gysylltiedig gyda’r Nadolig a dweud y gwir!
BYDD CYFLE ICHI ENNILL 1af - £30 o dalebau siopa 2il - £20 o dalebau siopa 3ydd - £10 o dalebau siopa
Peidiwch â cholli cyfle … anfonwch eich lluniau Nadolig at communications@clwydalyn.co.uk neu ar neges testun i 07880431004
Cystadleuaeth gweld y gwahaniaeth 1.
......................................................................................................
2.
......................................................................................................
3.
......................................................................................................
4.
......................................................................................................
5.
......................................................................................................
6.
......................................................................................................
7.
......................................................................................................
8.
......................................................................................................
9.
......................................................................................................
10.
......................................................................................................
Mae’r dyddiad cau ar gyfer cystadlu ar Ionawr yr 4ydd 2022 Byddwn yn cysylltu gyda 3 enillydd erbyn Ionawr yr 10fed 2022
Llongyfarchiadau i enillwyr ein cystadleuaeth yr haf Tianna-Aaliyah Edwards - Sir y Fflint Peter Duffy - Y Trallwng Eluned Plack - Wrecsam
ENW
FFÔN
CYFEIRIAD E-BOST
I fod â chyfle i ennill, ysgrifennwch eich Enw llawn, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad.
CYFEIRIA
Anfonwch at gyfeiriad ein Prif Swyddfa 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych LL17 0JD Ffôn: 01745 536800 neu e-bostiwch communications@clwydalyn.co.uk
ClwydAlyn.co.uk
@ClwydAlyn