3 minute read
Gofod pwy ydi o beth bynnag?
Mae plant a phlant yn eu harddegau angen ac mae ganddynt hawl i gael mannau o safon ac amser i chwarae fel rhan o’u bywyd bob dydd yn eu cymuned eu hunain. Bydd gwneud gwell defnydd o fannau cymunedol awyr agored yn cefnogi plant, rhieni a chymunedau i deimlo’n fwy hyderus ynghylch chwarae’r tu allan ac, o ganlyniad, yn fwy cysylltiedig.
Chwarae, yn enwedig y tu allan, yw’r ffordd fwyaf naturiol a phleserus i blant fod yn gorfforol egnïol, i gadw’n iach a bod yn hapus.
Advertisement
Pan fydd plant yn gallu cael mynediad i ofod awyr agored da, mae’n: • rhad ac am ddim ac ar gael i bawb • darparu cyfleoedd i blant gwrdd a chyflawni mwy o weithgarwch corfforol na’r canllawiau • darparu cyfleoedd i gymdeithasu a chwrdd gyda ffrindiau a phobl eraill • darparu ffordd i ymdopi gydag ansicrwydd a newid.
Er i’r cyfnod clo cenedlaethol fod yn adeg o ansicrwydd a phryder, fe wnaeth hefyd gyflwyno rhywfaint o gyfleoedd. Roedd ffocws yng nghyngor y llywodraeth a’r cyrff iechyd cyhoeddus ar i bobl fynd allan unwaith y dydd er mwyn eu hiechyd a’u lles ac fe wnaeth hyn helpu i normaleiddio gweld pobl allan ar hyd y lle. Golygodd y cyfyngiadau ar deithio bod lefelau traffig yn sylweddol is, wnaeth alluogi mwy o blant i chwarae’n ddiogel ger ac o amgylch eu cartrefi. Fe wnaeth cymdogion fwynhau’r aer glanach a’r ymdeimlad o gymuned a chysylltiad.
Ond, mae mynediad plant i ofod awyr agored ar gyfer chwarae, ymarfer corff a mwynhau’n amrywio’n fawr iawn ar draws Cymru. Mae rhai plant yn byw mewn cartrefi sydd â gerddi, digonedd o ofod cymunedol awyr agored a gofalwyr cefnogol sydd ag amser i gefnogi chwarae, tra nad yw plant eraill. Cafodd yr anghydraddoldebau hyn eu dwysáu a’u pwysleisio yn ystod y cyfnod clo diweddar.
Nawr, wrth i rai o’r cyfyngiadau gael eu llacio, mae Chwarae Cymru’n dyblu ein galwad am well defnydd o ofodau cymunedol – fel tiroedd ysgol a strydoedd – i alluogi mwy o blant i gael eu gweld ac i chwarae allan yn eu cymuned.
Dylid troi sylw at ddatblygu defnydd ehangach o diroedd ysgol pan ddaw’r diwrnod addysgu i ben a dros y penwythnos. Yn aml iawn, tiroedd ysgol yw’r gofod awyr agored unigol mwyaf a geir mewn nifer o
gymunedau. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos plant sydd â fawr ddim neu ddim mynediad o gwbl i erddi preifat neu ardaloedd chwarae diogel.
Dylid rhoi sylw hefyd i greu strydoedd diogel. Yn aml iawn, bydd rhieni a phlant yn adrodd bod traffig yn ffactor sy’n cyfyngu ar chwarae allan mewn cymdogaethau. Rydym yn croesawu penderfyniad diweddar Senedd Cymru i gefnogi, yn eu hanfod, gynlluniau i sicrhau mai 20mya fydd y cyfyngiad cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl yng Nghymru. Hoffem weld cefnogaeth ar gyfer prosiectau chwarae stryd sy’n annog newid agwedd ymhlith defnyddwyr ffyrdd. Caiff prosiectau chwarae stryd eu harwain yn aml gan drigolion ond gallant hefyd gael eu harwain gan ysgolion neu eu cefnogi gan fudiadau datblygu cymunedol. Mae ein gwaith gyda chynghorau’n arddangos trwy chwarae stryd, bod plant yn dysgu sgiliau ymwybyddiaeth ffyrdd a beicio / sgwtio; bod rhieni’n adrodd am well hyder yng ngallu eu plant o amgylch traffig ac mae gyrwyr yn adrodd am gynnydd mewn ymwybyddiaeth am bresenoldeb plant ac eraill ar ac o amgylch ffyrdd.
Mae angen taer i sicrhau y gall mwy o blant gael mynediad i chwarae awyr agored, a hynny’n ddyddiol. Mae’r buddiannau posibl, o ran yr effaith positif ar iechyd a hapusrwydd plant, ymgysylltiad cymunedol a lles a chyfoethogi’r ymdeimlad lleol o gymuned, yn ysgubol.