5 minute read
Cydweithio’n lleol dros iechyd a lles
Mae plant sy’n chwarae’r tu allan yn fwy corfforol egnïol yn ôl gwaith ymchwil ac yn fwy tebygol o gyflawni argymhellion gweithgarwch corfforol Prif Swyddogion Meddygol y DU. Un o ganfyddiadau allweddol y dystiolaeth yw bod chwarae plant yn cefnogi datblygiad gwytnwch, felly mae’n gwneud cyfraniad sylweddol i les plant. Yma, rydym yn adrodd ar ein prosiectau cydweithredol cyfredol i gefnogi trosglwyddo darpariaeth chwarae mewn cymdogaethau
Prosiect Llysgenhadon Chwarae
Advertisement
Mae’r Prosiect Llysgenhadon Chwarae, a ariennir trwy’r Gronfa Iach ac Egnïol (HAF), yn anelu i baratoi pobl ifanc 14 i 19 oed i ddod yn Llysgenhadon Chwarae trwy hyfforddiant, cymwysterau a phrofiad gwaith mewn lleoliadau gwaith chwarae.
Bydd y prosiect yn galluogi Llysgenhadon Chwarae i hwyluso ymyriadau wedi eu lleoli mewn cymdogaethau yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Yma, mae Mali, sy’n 17 oed yn dweud wrthym am ddod yn Llysgennad Chwarae. Fel yr ail o bedwar o blant, wrth dyfu i fyny roedd disgwyl imi ddiddanu fy mrodyr bach trwy’r amser ac ymuno yn eu gemau. Yn ddiweddar, wrth hel atgofion am ein hoff gemau pan oeddem yn blant, fe wnes i feddwl tybed sut y mae’r profiadau chware hynny wedi dal i effeithio arnom ni nawr ein bod yn ein harddegau. Daeth hyn i flaen fy meddwl pan ddarllenais erthygl ar effaith chwarae ar elfen dysgu’r ymennydd. Felly, pan ddaeth Paula o Chwarae Cymru a Gwenno o Fenter Caerdydd i’r ysgol i siarad am y prosiect roedd gen i ddiddordeb ar unwaith, oherwydd roeddwn i’n meddwl y byddai’n llawer o hwyl ac yn gyfle gwych i ddysgu am chwarae – rhywbeth nad oeddwn i wedi rhoi fawr o feddwl iddo o’r blaen.
Roedd y cwrs yn agoriad llygad a dweud y lleiaf. Cyn derbyn yr hyfforddiant gwaith chwarae, doeddwn i heb feddwl fawr ddim am chwarae – doedd o’n ddim mwy na rhywbeth yr oeddwn wedi ei fwynhau pan oeddwn i’n blentyn. Ond fe roddodd y cwrs hwn gipolwg imi ar nifer o bynciau, yn amrywio o fuddiannau chwarae i’r risgiau a’r rhwystrau posibl i chwarae, i effeithiau amgylchedd a gofod chwarae plentyn ar eu profiad chwarae. Ar y cyfan, roedd yn hynod o ddiddorol ac fe wnaeth fy herio i feddwl yn ddwys am bethau oedd yn gwbl newydd i mi.
Dim ond ychydig sesiynau gawsom ni yn y ganolfan chwarae cyn iddynt ddod i stop oherwydd Covid-19, ynghyd â’r ysgol yn cau a phopeth arall. Roeddwn wedi fy siomi i gychwyn oherwydd doeddwn i ddim yn meddwl y byddai cwblhau’r cwrs ar-lein cystal â’r gwersi wynebyn-wyneb yr oeddwn wedi edrych ymlaen atyn nhw bob pnawn dydd Llun. Ond, wedi’r ansicrwydd cychwynnol gyfer chwarae. Mae’r prosiectau ymchwil weithredu hyn wedi arwain at gyhoeddi tri phecyn cymorth:
• Defnyddio tiroedd ysgol ar gyfer chwarae’r tu allan i oriau addysgu • Agor strydoedd ar gyfer chwarae – Pecyn cymorth ar gyfer awdurdodau lleol a phartneriaid yng
Nghymru • Sut i drefnu sesiynau chwarae’r tu allan ar dy stryd – llawlyfr i drigolion.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi gofyn i Chwarae Cymru gynnal peilot o fentrau tebyg yn ei ardal. Bydd Chwarae Cymru’n gweithio gyda chydweithwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, gan ddefnyddio Asesiadau Digonolrwydd Chwarae lleol fel canllaw i gynorthwyo gydag ymyriadau cymunedol ar draws Cwm Taf Morgannwg trwy: • gynyddu cyfleoedd ar gyfer chwarae rhydd heb ei strwythuro, er enghraifft defnyddio strydoedd fel mannau chwarae • archwilio agor tiroedd ysgol cyn ac ar ôl y diwrnod ysgol ar gyfer chwarae a chyfleoedd gweithgarwch corfforol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dynodi deg cam seiliedig ar dystiolaeth i helpu plant yn y blynyddoedd cynnar, 0 i 5 mlwydd oed, i gynnal pwysau iach y mae’n eu hyrwyddo o dan eu brand Pob Plentyn. Mae cam chwech yn canolbwyntio ar chwarae’r tu allan, gyda’r uchelgais y bydd pob plentyn yn cael cyfle i chwarae’r tu allan bob dydd. am ddysgu ar-lein, a hefyd y siom parhaus o golli allan ar y malws melys o amgylch y tân a addawyd inni (oedd fod i ddigwydd yn ein sesiwn nesaf), fe wnes i wir fwynhau cwblhau’r cwrs ar-lein. Roedd yr holl adnoddau dysgu ar-lein yn llawn gwybodaeth, ac roedd y tiwtor yn barod iawn i helpu. Roeddwn i wastad yn teimlo y gallwn godi’r ffôn neu anfon e-bost pryd bynnag oedd gen i gwestiwn am y gwaith.
Roeddwn wedi gobeithio derbyn rhywfaint o brofiad gwaith gyda Menter Caerdydd dros yr haf ond yn anffodus fe wnaeth Covid-19 roi pen ar hynny. Ond rydw i’n gobeithio ymuno gyda darpariaeth chwarae yn ystod gwyliau hanner tymor yr ysgol yn y dyfodol – croesi bysedd! Waeth os af i ymlaen i wneud rhywbeth fydd yn gysylltiedig â chwarae yn y dyfodol ai peidio, mae’n sicr y bydd y cwrs hwn yn ddefnyddiol imi, oherwydd y ddealltwriaeth y mae wedi rhoi imi o’r effaith gaiff chwarae ar ddysg a datblygiad pobl a’u
Chwarae awyr agored yng Nghwm Taf Morgannwg
Mae Chwarae Cymru wedi datblygu, gweithredu a gwerthuso prosiectau sy’n ystyried y defnydd gorau o ofodau cymunedol, yn benodol, fentrau chwarae stryd a’r defnydd o diroedd ysgol ar
canfyddiadau o’r byd o’u hamgylch. Claire Beynon, Ymgynghorydd ar Iechyd y Cyhoedd, sy’n egluro pam fod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ddiddordeb penodol cefnogi mwy o blant i chwarae:
‘Mae buddiannau chwarae’r tu allan i ddatblygiad emosiynol a chorfforol plentyn yn aruthrol. Mae cynnydd mewn cyfleoedd i blant chwarae’n debyg o gael effaith cadarnhaol ar amcanion iechyd poblogaethau hefyd, yn cynnwys:
• Gwell llesiant meddwl a llai o unigedd
• Cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol mewn plant
• Lleihau lefelau gordewdra’n ystod plentyndod.
Mae’r llenyddiaeth yn awgrymu bod newid agweddau a normau cymdeithasol cymdeithas yn allweddol i gynyddu cyfleoedd i blant chwarae’r tu allan. Mae angen gweithredu i hybu agweddau mwy cadarnhaol tuag at chwarae’r tu allan a normaleiddio chwarae awyr agored mewn mannau cymunedol anffurfiol. Mae angen i’r gweithredu yma ddigwydd mewn cyd-destun cymdeithasol cefnogol, ac felly fe ofynnom i Chwarae Cymru weithio gydag awdurdodau lleol a’u partneriaid ar draws ein rhanbarth er mwyn helpu i chwalu rhwystrau i chwarae’r tu allan ar gyfer ein plant.’