Chwarae dros Gymru Hydref 2020 (rhifyn 56)

Page 12

12 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2020

Mae plant sy’n chwarae’r tu allan yn fwy corfforol egnïol yn ôl gwaith ymchwil ac yn fwy tebygol o gyflawni argymhellion gweithgarwch corfforol Prif Swyddogion Meddygol y DU. Un o ganfyddiadau allweddol y dystiolaeth yw bod chwarae plant yn cefnogi datblygiad gwytnwch, felly mae’n gwneud cyfraniad sylweddol i les plant. Yma, rydym yn adrodd ar ein prosiectau cydweithredol cyfredol i gefnogi trosglwyddo darpariaeth chwarae mewn cymdogaethau

Prosiect Llysgenhadon Chwarae Mae’r Prosiect Llysgenhadon Chwarae, a ariennir trwy’r Gronfa Iach ac Egnïol (HAF), yn anelu i baratoi pobl ifanc 14 i 19 oed i ddod yn Llysgenhadon Chwarae trwy hyfforddiant, cymwysterau a phrofiad gwaith mewn lleoliadau gwaith chwarae. Bydd y prosiect yn galluogi Llysgenhadon Chwarae i hwyluso ymyriadau wedi eu lleoli mewn cymdogaethau yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Yma, mae Mali, sy’n 17 oed yn dweud wrthym am ddod yn Llysgennad Chwarae.

Fel yr ail o bedwar o blant, wrth dyfu i fyny roedd disgwyl imi ddiddanu fy mrodyr bach trwy’r amser ac ymuno yn eu gemau. Yn ddiweddar, wrth hel atgofion am ein hoff gemau pan oeddem yn blant, fe wnes i feddwl tybed sut y mae’r profiadau chware hynny wedi dal i effeithio arnom ni nawr ein bod yn ein harddegau. Daeth hyn i flaen fy meddwl pan ddarllenais erthygl ar effaith chwarae ar elfen dysgu’r ymennydd. Felly, pan ddaeth Paula o Chwarae Cymru a Gwenno o Fenter Caerdydd i’r ysgol i siarad am y prosiect roedd gen i ddiddordeb ar unwaith, oherwydd roeddwn i’n meddwl y byddai’n llawer o hwyl ac yn gyfle gwych i ddysgu am chwarae – rhywbeth nad oeddwn i wedi rhoi fawr o feddwl iddo o’r blaen.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.