5 minute read
Amserau chwarae digonol mewn ysgolion
Yn ystod y cyfnod clo ac yna wrth i gyfyngiadau cenedlaethol gael eu llacio, bu galw ar i ysgolion flaenoriaethu chwarae fel rhan o’r broses adfer a phontio’n ôl i addysg ffurfiol. Anogodd eiriolwyr dros hawliau plant i’r ffocws fod ar chwarae ac iechyd meddwl, yn hytrach na dal i fyny gyda’r cwricwlwm. Mae Chwarae Cymru wedi cynhyrchu nifer o adnoddau i gefnogi ysgolion i fod mor chwareus â phosibl.
Arweiniad i ysgolion
Advertisement
Mae cyfleoedd plant i chwarae ym mhob lleoliad yn dibynnu ar ystod eang o faterion, gaiff eu trefnu o dan dri phennawd:
Caniatâd: ofn, disgwyliadau, goddefgarwch, a’r modd y mae oedolion yn ystyried plentyndod a chwarae Lle: maint, dyluniad a rheolaeth y gofod Amser: sut caiff amser ei strwythuro a’r oblygiadau sydd ar amser y plant.
Yn haf 2019, cyhoeddodd Estyn yr adroddiad Iach a hapus – effaith yr ysgol ar iechyd a llesiant disgyblion, a werthusodd pa mor dda y mae ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru yn cefnogi iechyd a lles eu disgyblion. Fe nododd bwysigrwydd amser chwarae ac amser egwyl yn yr ysgol. Pwysleisiodd yr adroddiad bod ysgolion sy’n mabwysiadu agwedd ysgol gyfan tuag at gefnogi iechyd a lles yn darparu amgylchedd, cyfleusterau a lle i chwarae, cymdeithasu ac ymlacio’n ystod amser egwyl. Mae’n mynegi pryderon pan fydd ysgolion ddim yn darparu’r rhain, neu’n methu eu darparu – bod disgyblion yn llai corfforol egnïol ac y gallant ei chael yn anodd ymlacio’n ystod amser chwarae, sy’n effeithio ar eu lles.
Tua’r un pryd, nododd Chwarae Cymru gynnydd mewn rhieni’n cysylltu gyda phryderon am gwtogi’r diwrnod ysgol oedd yn arwain at lai o amser chwarae, a hefyd, dynnu amser chwarae’n ôl fel rhan o bolisi rheoli ymddygiad. Oherwydd y pryderon hyn, y cynnydd mewn ymholiadau ac mewn ymateb i adroddiad Estyn, fe wnaethom gyhoeddi Ysgol chwarae-gyfeillgar – Canllaw ar gyfer agwedd ysgol gyfan er mwyn i blant allu mwynhau amserau chwarae digonol fel rhan o’u diwrnod ysgol.
Mae canllaw Chwarae Cymru yn darparu gwybodaeth sy’n ymwneud â pholisi ac arfer i helpu cymunedau ysgolion i fabwysiadu agwedd ysgol gyfan i gefnogi hawl plant i chwarae, gan ddelio gyda thri amod caniatâd, lle ac amser i chwarae. Wedi ei ddylunio i gyfoethogi’r gwaith da sy’n cael ei wneud eisoes i ddarparu gwell cyfleoedd chwarae mewn ysgolion, mae’n anelu i wneud amser pawb yn yr ysgol yn hapusach ac iachach. Caiff y canllaw ei grynhoi mewn 15 cam tuag at ysgol chwarae-gyfeillgar ac mae’n darparu arfau ar gyfer gweithredu’r rhain.
Mae rhai o’r argymhellion allweddol yn cynnwys:
Datblygu Polisi Chwarae Ysgol sy’n cefnogi chwarae ac sy’n disgrifio’r camau gweithredu y mae’r ysgol yn eu cymryd i warchod hawl y plant i chwarae Dynodi llysgennad chwarae – rhywun mewn swydd arweiniol sy’n cefnogi’r arferion strategol a gweithredol i gefnogi chwarae Darparu hyfforddiant, syniadau, awgrymiadau a chynghorion ar gyfer staff amser chwarae i’w helpu i gefnogi chwarae Mabwysiadu agwedd gytbwys tuag at reoli risg mewn chwarae plant Darparu deunyddiau chwarae rhannau rhydd yn ystod amser chwarae er mwyn caniatáu digonedd o stwff i lawer o blant chwarae Datblygu canllawiau ar gyfer amser chwarae yn ystod tywydd gael Darparu o leiaf 60 munud o amser chwarae’r tu allan bob dydd trwy gydnabod a gwarchod amserau chwarae bore, amser cinio a phrynhawn Osgoi tynnu amser chwarae’n ôl fel cosb am gamymddwyn neu er mwyn cwblhau gwaith sydd heb ei orffen – meddyliwch am ffyrdd eraill i gynorthwyo plant i reoli eu hymddygiad.
Taflen wybodaeth Meddwl am rannau rhydd mewn ysgolion
Mae rhannau rhydd yn ddeunyddiau naturiol a synthetig y gellir eu trin a’u trafod, eu symud a’u haddasu, eu hadeiladu a’u chwalu. Mae rhannau rhydd yn creu amgylcheddau cyfoethocach i blant chwarae, gan roi’r adnoddau y maent eu hangen iddynt ymestyn eu chwarae. Mae amgylcheddau y gellir eu trin a’u trafod, ble mae pethau’n symud ac y gellir eu symud, yn agor bydoedd yn llawn posibiliadau i’r plant chwarae ac archwilio.
Bydd chwarae gyda rhannau rhydd, yn gyffredinol, yn datblygu mwy o sgiliau a doniau na’r mwyafrif o deganau plastig modern gan fod angen i’r plant ddefnyddio creadigedd a dychymyg i greu eu bydoedd eu hunain. Maent yn denu, yn cefnogi ac yn cyfoethogi pob math o ddysgwyr a gwahanol ddeallusrwydd dysgu. Caiff dysg pen agored, arbrofi, datrys problemau, a meddwl critigol i gyd eu datblygu trwy ddefnyddio rhannau rhydd. Mae’r rhain i gyd yn sgiliau pwysig i’w datblygu mewn byd sy’n prysur newid.
Wedi ei hysgrifennu mewn partneriaeth â Ludicology, Ysgol Gynradd Mount Stuart ac Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Prifysgol Metropolitan Caerdydd, mae’r daflen wybodaeth hon yn archwilio defnyddio deunyddiau rhannau rhydd yn ystod amser chwarae ac yn yr ystafell ddosbarth. Mae’n cyflwyno ystod eang o ymchwil sy’n trafod ymyriadau rhannau rhydd yn ystod amser chwarae ac yn adrodd ar ganfyddiadau o astudiaeth amser cinio benodol. Mae’n cyflwyno enghreifftiau a chynghorion ar sut y mae defnyddio a darparu rhannau rhydd yn cefnogi dysg dan arweiniad y plentyn mewn lleoliad ysgol. Mae hefyd yn cynnwys atodiad defnyddiol sy’n amlinellu ymchwil ar sut y mae chwarae’n cefnogi dysg a datblygiad, gweithgarwch corfforol, ac iechyd a lles.
Gweithdy hawl i chwarae
Er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth plant am eu hawl i chwarae, mae Chwarae Cymru wedi datblygu cynllun, deunyddiau ac adnoddau gweithdy i gynorthwyo gyda hyrwyddo, cyfranogi ac eiriol dros yr hawl i chwarae’n lleol.
Mae’r gweithdy wedi ei ddylunio ar gyfer gweithwyr chwarae, gweithwyr cyfranogaeth, gweithwyr ieuenctid a staff ysgol er mwyn ei hwyluso mewn ysgolion a lleoliadau strwythuredig eraill.
Mae’r gweithdy’n canolbwyntio ar yr hawl i chwarae yn gyffredinol, yn hytrach nag yn yr ysgol yn benodol. Fodd bynnag, gallai cymryd rhan yn y gweithdy arwain at weld y plant yn dymuno canolbwyntio ar chwarae yn eu hysgol – ar draws y cwricwlwm, y gofod chwarae a chyfleoedd yn ystod amser chwarae a beth sy’n digwydd ar ôl ysgol.
Elfen bwysig o’r gweithdy yw cyfranogaeth weithredol y plant a rhannu gwybodaeth gyda phlant eraill, athrawon a chymuned ehangach yr ysgol. Mae’r gweithdy hawl i chwarae’n cysylltu gyda nifer o agweddau o 12 Egwyddor Addysgegol Yr Athro Graham Donaldson, fel y dyfynnwyd yn ei adroddiad Dyfodol Llwyddiannus:
Annog dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain Cefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a pherthnasau positif Annog cydweithio Hybu meddwl yn greadigol a beirniadol a datrys problemau Adeiladu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol er mwyn denu diddordeb.