5 minute read
Newyddion
Newyddion da – ariannu ar gyfer chwarae
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £8.8m i gefnogi’r sector gofal plant a chwarae i ddod dros effaith Covid-19 a sicrhau ei gynaliadwyedd i’r dyfodol. Defnyddir yr ariannu i helpu i sicrhau bod plant yn gallu manteisio ar ddarpariaeth gofal plant a chwarae o safon a bod teuluoedd yn cael cymorth gyda’u hanghenion gofal plant.
Advertisement
Bydd yr ariannu’n helpu lleoliadau i sicrhau addasiadau er mwyn gwneud yn siw ^ r y gall safleoedd weithredu mewn modd diogel yng nghyd-destun Covid, ac i sicrhau buddsoddiad pellach mewn cyfleusterau chwarae i gefnogi mynediad i gyfleoedd chwarae ar gyfer plant y mae’r pandemig wedi cael effaith andwyol arnynt. Bydd Llywodraeth Cymru’n dyrannu £3m i awdurdodau lleol i gynyddu mynediad i gyfleusterau yn ystod ein hymateb cychwynnol i COVID-19. Tra collwyd rhywfaint o amser ar yr adolygiad o ganlyniad i’r pandemig, rydym yn awyddus i ail-gychwyn ac adrodd ar yr adolygiad erbyn diwedd mis Mawrth 2021. Bydd angen inni ail-gynllunio a rhoi ffocws newydd i’r adolygiad, yn enwedig oherwydd nad yw rhai o’r prosiectau cysylltiedig bellach i’w cynnal eleni. Fodd bynnag, gallwn ehangu ar y gwaith gwerthfawr a wnaethpwyd eisoes er mwyn dwyn ynghyd restr o argymhellion seiliedig ar dystiolaeth, sydd wedi eu hasesu’n llawn, ar gyfer dyfodol polisi chwarae yng Nghymru. weledigaeth ar gyfer chwarae sy’n disgrifio’r hyn welwn ni os gawn ni’r polisi chwarae’n iawn. Mae hyn yn adeiladu ar ac yn datblygu Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru. Mae’r weledigaeth yn disgrifio Cymru fel gwlad ble mae pawb yn ystyried chwarae fel: • Hawl sylfaenol i bob plentyn • Elfen sy’n berchen i’r plentyn • Rhywbeth pwysig yn ei rinwedd ei hun • Cyfrifoldeb i bawb. Mae’n disgrifio sut y bydd plant, rhieni, cymunedau a phartneriaid allweddol yn ymddwyn dan y weledigaeth newydd a’r cyfleoedd, gofodau, amgylcheddau y byddwn chwarae awyr agored yn unol â’u Hasesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Mae £500,000 wedi ei ddyrannu i gefnogi cyfleoedd chwarae yn ystod gwyliau’r ysgol. Yn ogystal, mae CWLWM a Chwarae Cymru wedi derbyn ariannu ar gyfer gweithgareddau gofal plant a chwarae a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod ymateb cychwynnol i’r pandemig a’r cyfnod adfer sy’n parhau.
Adolygiad Y Gweinidog o Chwarae Diweddariad gan Lywodraeth Cymru
Rydym yn falch i gyhoeddi bod Adolygiad y Gweinidog o Chwarae yn ail-gychwyn yn dilyn saib dros dro
Cyn y saib yn y prosiect, roedd y grw^ p wedi cytuno ar
www.llyw.cymru
yn eu gweld. Cyflawnir y weledigaeth hon trwy edrych ar y pum thema ganlynol a rhestru opsiynau ac argymhellion ar gyfer y dyfodol: 1. Cofrestru a rheoleiddio lleoliadau ac eithriadau 2. Y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ac ariannu 3. Y gweithlu a chymwysterau 4. Gweithio ar draws meysydd polisi 5. Cyfiawnder gofodol a chyfranogiad cymdeithas.
Rydym eisoes wedi gwneud llawer o’r gwaith ar y dadansoddiad opsiynau ac oblygiadau ar draws yr opsiynau hyn. Bydd Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru (PETC-Wales) yn cynnal gwaith ychwanegol ar thema’r gweithlu a chymwysterau dros y misoedd nesaf.
Bydd y Grw ^ p Llywio’n rhith-gyfarfod ym mis Tachwedd 2020 i adolygu, adfywio a datblygu ein hopsiynau a’n argymhellion ar y pum thema ymhellach, cyn adrodd i’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r cyhoedd ym mis Mawrth 2021.
Cefnogi hawliau plant yng Nghymru
Yn adroddiad Coronafeirws a Fi, mae Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland yn egluro sut y mae hi a’i thîm wedi cefnogi hawliau plant yn ystod y pandemig.
Roedd y Comisiynydd yn awyddus i blant allu cael mynediad i wybodaeth eglur a dibynadwy, cael cyfle i fynegi eu safbwynt, derbyn gwrandawiad, yn ogystal â sicrhau bod y llywodraeth yn clywed am ac yn ymateb i brofiadau plant.
Sut y mae’r Comisiynydd wedi cefnogi hawl plant i chwarae:
Creu fideos ar gyfer plant a rhieni gyda syniadau chwarae am ddim ar gyfer y cartref a’r ardd, gan ddefnyddio eitemau a geir yn y ty ^ Wedi ei ysgrifennu gan Yr Athro David Ball, Tim Gill ac Andy Yates, mae Covid 19 and Children’s Play yn darparu gwybodaeth ffeithiol er mwyn helpu llunwyr penderfyniadau sy’n gyfrifol am ddarpariaeth chwarae. Mae’r awduron yn pwysleisio bod gwybodaeth am effaith coronafeirws ar iechyd corfforol, meddyliol a chymdeithasol plant o ganlyniad i lai o gyfleoedd i chwarae’r tu allan yn cynyddu wrth i ymchwil barhau. Mewn ymateb i’r canfyddiadau cyhoeddus diweddaraf, diwygiodd yr ymchwilwyr Yr Athro David Ball, Tim Gill a government and civil society responses to Covid-19 and their impact on children’s play and mobility yn darparu gwybodaeth gwaelodlin er mwyn tynnu cymariaethau rhwng gwledydd. Mae hefyd yn casglu arfer dda ar sut y gellir llacio’r mesurau sy’n berthnasol i’r pandemig. • Ysgrifennu at Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru i fynegi pryderon nad oedd ardaloedd chwarae mewn parciau’n cael eu hagor cyn gynted â gwasanaethau ar gyfer oedolion • Gofyn cwestiynau am brofiadau chwarae plant yn holiadur Coronafeirws a Fi. Am fwy o wybodaeth am ganfyddiadau’r arolwg ewch i
dudalen 7.
Covid-19 a chwarae plant
Mae buddiannau i blant chwarae’r tu allan yn ystod y pandemig coronafeirws yn drech na’r risgiau, yn ôl adroddiad ymchwil a gyhoeddwyd gan y Play Safety Forum ym mis Mehefin 2020.
www.complantcymru.org.uk
Laurence Ball yr adroddiad ymchwil ym mis Medi 2020. Mae’r diweddariad yn cynnwys manylion am y dystiolaeth ar y risgiau a grëir gan amddifadedd chwarae a sut y mae cyfyngiadau’n effeithio ar blant i wahanol raddau, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau personol. Cefnogir yr adroddiad ymchwil hefyd gan Children’s Play Policy Forum y DU.
Chwarae yn ystod y Cyfnod Clo – astudiaeth ryngwladol
Mae adroddiad newydd gan yr International Play Association (IPA) yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth fyd-eang i sut y mae mesurau sy’n ymwneud â Covid-19 wedi effeithio ar chwarae a symudedd plant.
Mae Play in Lockdown: An international study of
www.playsafetyforum.org.uk
Wedi ei ysgrifennu gan yr ymchwilydd annibynnol Tim Gill a Llywydd yr IPA, Robyn Monro Miller, mae’r adroddiad yn cynnwys trafodaeth ar yr egin-dystiolaeth a’r dadleuon ynghylch y niwed i blant o ganlyniad i fesurau’r cyfnod clo.