Chwarae dros Gymru | Hydref 2020 | 3
Newyddion Newyddion da – ariannu ar gyfer chwarae Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £8.8m i gefnogi’r sector gofal plant a chwarae i ddod dros effaith Covid-19 a sicrhau ei gynaliadwyedd i’r dyfodol. Defnyddir yr ariannu i helpu i sicrhau bod plant yn gallu manteisio ar ddarpariaeth gofal plant a chwarae o safon a bod teuluoedd yn cael cymorth gyda’u hanghenion gofal plant. Bydd yr ariannu’n helpu lleoliadau i sicrhau ^ addasiadau er mwyn gwneud yn siw r y gall safleoedd weithredu mewn modd diogel yng nghyd-destun Covid, ac i sicrhau buddsoddiad pellach mewn cyfleusterau chwarae i gefnogi mynediad i gyfleoedd chwarae ar gyfer plant y mae’r pandemig wedi cael effaith andwyol arnynt. Bydd Llywodraeth Cymru’n dyrannu £3m i awdurdodau lleol i gynyddu mynediad i gyfleusterau
chwarae awyr agored yn unol â’u Hasesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Mae £500,000 wedi ei ddyrannu i gefnogi cyfleoedd chwarae yn ystod gwyliau’r ysgol. Yn ogystal, mae CWLWM a Chwarae Cymru wedi derbyn ariannu ar gyfer gweithgareddau gofal plant a chwarae a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod ymateb cychwynnol i’r pandemig a’r cyfnod adfer sy’n parhau. www.llyw.cymru
Adolygiad Y Gweinidog o Chwarae Diweddariad gan Lywodraeth Cymru Rydym yn falch i gyhoeddi bod Adolygiad y Gweinidog o Chwarae yn ail-gychwyn yn dilyn saib dros dro yn ystod ein hymateb cychwynnol i COVID-19. Tra collwyd rhywfaint o amser ar yr adolygiad o ganlyniad i’r pandemig, rydym yn awyddus i ail-gychwyn ac adrodd ar yr adolygiad erbyn diwedd mis Mawrth 2021. Bydd angen inni ail-gynllunio a rhoi ffocws newydd i’r adolygiad, yn enwedig oherwydd nad yw rhai o’r prosiectau cysylltiedig bellach i’w cynnal eleni. Fodd bynnag, gallwn ehangu ar y gwaith gwerthfawr a wnaethpwyd eisoes er mwyn dwyn ynghyd restr o argymhellion seiliedig ar dystiolaeth, sydd wedi eu hasesu’n llawn, ar gyfer dyfodol polisi chwarae yng Nghymru. Cyn y saib yn y prosiect, roedd y grw p wedi cytuno ar weledigaeth ar gyfer chwarae sy’n disgrifio’r hyn welwn ni os gawn ni’r polisi chwarae’n iawn. Mae hyn yn adeiladu ar ac yn datblygu Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru. ^
Mae’r weledigaeth yn disgrifio Cymru fel gwlad ble mae pawb yn ystyried chwarae fel: • Hawl sylfaenol i bob plentyn • Elfen sy’n berchen i’r plentyn • Rhywbeth pwysig yn ei rinwedd ei hun • Cyfrifoldeb i bawb. Mae’n disgrifio sut y bydd plant, rhieni, cymunedau a phartneriaid allweddol yn ymddwyn dan y weledigaeth newydd a’r cyfleoedd, gofodau, amgylcheddau y byddwn
yn eu gweld. Cyflawnir y weledigaeth hon trwy edrych ar y pum thema ganlynol a rhestru opsiynau ac argymhellion ar gyfer y dyfodol: 1. Cofrestru a rheoleiddio lleoliadau ac eithriadau 2. Y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ac ariannu 3. Y gweithlu a chymwysterau 4. Gweithio ar draws meysydd polisi 5. Cyfiawnder gofodol a chyfranogiad cymdeithas. Rydym eisoes wedi gwneud llawer o’r gwaith ar y dadansoddiad opsiynau ac oblygiadau ar draws yr opsiynau hyn. Bydd Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru (PETC-Wales) yn cynnal gwaith ychwanegol ar thema’r gweithlu a chymwysterau dros y misoedd nesaf. Bydd y Grwp Llywio’n rhith-gyfarfod ym mis Tachwedd 2020 i adolygu, adfywio a datblygu ein hopsiynau a’n argymhellion ar y pum thema ymhellach, cyn adrodd i’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r cyhoedd ym mis Mawrth 2021. ^
www.llyw.cymru