3 minute read

Coronafeirws – yr hyn sydd gan blant i’w ddweud am chwarae

Coronafeirws

yr hyn sydd gan blant i’w ddweud am chwarae

Advertisement

Cafodd y coronafeirws ei ddatgan yn bandemig gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar 11 Mawrth 2020. Fe gymer fisoedd, os nad flynyddoedd, cyn y gallwn ddeall yr holl effaith a gaiff ar blant. Ond, mae ambell arolwg cynnar yn cynnig cipolwg ar ba mor bwysig fu chwarae i blant yng Nghymru yn ystod misoedd cynnar y pandemig.

Mae’r sylwadau hyn gan blant ledled Cymru yn cynnig cipolwg i ddarparwyr chwarae a llunwyr penderfyniadau sydd â’r dasg o reoli’r argyfwng Covid-19 yn uniongyrchol a throsglwyddo cynlluniau adfer. Dylai blaenoriaethu chwarae fod yn uchel ar yr agenda ar gyfer plant o bob oed – mae eu hymatebion i’r arolwg yn arddangos eu bod yn dal i werthfawrogi, angen ac eisiau chwarae yn ystod dyddiau cynnar y pandemig. Cynhaliodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, arolwg ar-lein i ddysgu am brofiadau plant a phlant yn eu harddegau yng Nghymru. Casglodd arolwg ‘Coronafeirws a Fi’ wybodaeth oddi wrth dros 23,700 o blant a phlant yn eu harddegau rhwng 3 a 18 oed dros gyfnod o bythefnos pan oedd cyfyngiadau i gadw cymunedau yng Nghymru’n ddiogel wedi bod yn eu lle am ddau fis. Mae’r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn adroddiad Coronafeirws a Fi y Comisiynydd, yn dangos bod plant a phlant yn eu harddegau ar draws Cymru gyfan wedi cael profiadau amrywiol. Mae rhai wedi wynebu profedigaeth, gofid a phryder. Roedd llawer yn gweld eisiau eu ffrindiau, eu teuluoedd ac yn teimlo eu bod wedi colli allan ar eu haddysg. Ar yr un pryd, adroddodd nifer o blant eu bod wedi gwerthfawrogi cyfle i chwarae ac ymlacio mwy: • Mae tua hanner y plant yn adrodd eu bod wedi chwarae mwy nag arfer (53 y cant) gan ddisgrifio ystod eang o chwarae, yn cynnwys chwarae’r tu allan, chwarae dychmygol, chwarae gyda theganau neu gemau, chwaraeon, a chwarae creadigol. • Mae’r arolwg ar gyfer plant 7 i 11 oed yn ogystal â’r arolwg ar gyfer plant 12 i 18 oed yn dangos bod mwy o blant a phlant yn eu harddegau wedi chwarae ac ymlacio’n ystod y cyfnod hwn. • Yn ogystal, gofynnwyd cwestiwn pen agored i blant 7 i 11 oed am yr hyn yr oedden nhw wedi ei fwynhau fwyaf wrth chwarae. Roedd rhai o’r ymatebion yn cynnwys chwarae gyda’r teulu, ymgysylltu gyda ffrindiau ar-lein trwy gemau neu sgyrsiau, ymarfer corff, chwarae’r tu allan a chwarae gyda gemau neu deganau. Fe wnaeth llawer o blant gyfeirio hefyd at yr elfennau positif o gael mwy o amser i chwarae fel

cael hwyl, cael cyfle i anghofio am coronafeirws a mwynhau mwy o ryddid.

www.complantcymru.org.uk/coronafeirws-a-ficanlyniadau/

Fe wnaeth Health and Attainment of Pupils in Primary Education Network (HAPPEN) hefyd gynnal arolwg i ddysgu sut oedd plant yn ymdopi gydag ymbellhau cymdeithasol, cau ysgolion a’r heriau a achoswyd gan Covid-19. Mae canfyddiadau cynnar oddi wrth dros 1,000 o blant yn dangos bod plant yn bod yn fwy corfforol egnïol ac yn teimlo’n fwy diogel yn eu hardaloedd lleol yn ystod y cyfnod clo. Ond, mae byw mewn ardal sydd wedi ei dynodi fel un ddifreintiedig yn effeithio ar hyn. • Mae plant yn yr ardaloedd hyn yn adrodd am lai o leoedd i chwarae – dywedodd 57 y cant o blant mewn ardaloedd difreintiedig a 72 y cant mewn ardaloedd sydd ddim yn ddifreintiedig bod ganddynt le i chwarae. • Roedd bechgyn oedd yn teimlo nad oedd eu hardal yn ddiogel yn cofnodi mwy o amser sgrîn. • Roedd mwy o blant yn gorfforol egnïol am bump neu fwy o ddyddiau’r wythnos.

This article is from: