5 minute read

Chwarae’n ystod y cyfnod clo

Mae plant wedi eu heffeithio’n fawr gan y newidiadau ffisegol a chymdeithasol wnaeth gyfyngu ar eu bywydau mewn modd na welwyd erioed o’r blaen yn ystod y cyfnod clo yng Nghymru. Yma, mae Sumaya sy’n 10 oed o Gaerdydd a Jake, Jed ac Elliot, sydd i gyd yn 14 oed ac Ianto, sy’n 12 oed o Abertawe’n rhannu eu profiadau o chwarae’n ystod y cyfnod clo.

Mae Prosiect Parc Sglefrio Llandeilo Ferwallt yn brosiect a arweinir gan blant yn Abertawe sydd wedi bod yn gweithio ers dros ddwy flynedd i greu lle i gwrdd, cymdeithasu, a chael hwyl mewn amgylchedd y gellir ei ddefnyddio am ddim.

Advertisement

I Jake, roedd cadw’n fywiog trwy sglefrfyrddio a seiclo yn ei gymuned leol yn bwysig. Fe ddywedodd wrthym:

‘Mae hyn wedi helpu llawer iawn gyda fy lles. Pan gaewyd Maes Parcio Bae Caswell roedd llwyth o blant ac oedolion yno’n sglefrfyrddio bob dydd, roedd fel parc cymunedol. Fe wnaeth hyn brofi imi fod angen cyfleuster ar gyfer sglefrfyrddau, beics a sgwteri.’

Dywedodd Elliott wrthym fod cadw’n iach wedi bod yn rhan allweddol o’r cyfnod clo iddo fe:

‘Cyn gynted y clywais i fod y rheol pum milltir wedi ei chodi fe wnes i seiclo i Dreforys ac yn ôl! Rwy’n credu mewn byd ar ôl cyfnod clo, y bydd angen inni wneud popeth allwn ni i ailadeiladu ac ailgysylltu fel cymuned. Bydd mannau cyhoeddus, yn enwedig y tu allan, yn ddefnyddiol iawn yn ystod y misoedd nesaf pan ddaw’n amser i ailadeiladu’r cysylltiadau cymdeithasol allweddol hynny unwaith eto.’ Cytunodd Jed bod mynd allan ar hyd y lle yn beicio mynydd a sglefrfyrddio wedi helpu ei iechyd meddwl a’i les:

‘Yn ystod y cyfnod clo ges i drafferth dod o hyd i rywle i sglefrio yn y pentref a gerllaw. Rwy’n gwybod bod hyn yn wir am nifer o bobl eraill.’

Fe fethodd Ianto allu mynd i’r parc sglefrfyrddio yn y dref pan gafodd ei gau. Penderfynodd greu diddordeb i gefnogi parc sglefrio lleol trwy gyflawni her 1000 yr OLLIE Foundation.

‘Fe ddefnyddiais i’r meysydd parcio gwag i ymarfer ac fe wnes i ei gwblhau mewn dwyawr a hanner, fe godais dros £500! Byddai cael “pump track” ger fy nhy ^ yn wych. Fe allwn i gwrdd lan gyda ffrindiau, ymarfer triciau ac fe allwn i seiclo neu sglefrio yno ar fy mhen fy hun.’

Pan gychwynnodd y cyfnod clo, roedd Sumaya yn hapus ar y dechrau oherwydd nad oedd ysgol! Dyma oedd gan Sumaya i’w ddweud am ei phrofiadau chwarae:

‘Felly, fe ofynnais i mam os allen ni gael hwyl, fel mynd i’r ganolfan chwarae meddal, sglefrio iâ neu chwarae yn y parc ond fe ddywedodd hi bod y cyfnod clo yn golygu allwn ni ddim mynd allan oni bai ei fod yn bwysig iawn! Yna fe ddywedais i allwn ni jesd mynd yn ôl i’r ysgol te? Ac fe ddywedodd hi Na!

Fe ddywedodd mam y gallen ni fynd am dro, ond roedden ni’n gweld heddlu ym mhobman a roeddwn i ofn y bydden nhw’n dweud “ewch adref” felly doeddwn i ddim yn hoffi gadael y ty ^ .

Un o’r pethau brafiaf yn ystod y cyfnod clo oedd chwarae Roblox, sy’n gêm y gallwch chi ei chwarae ar-lein. Fel arfer, fe fyddwn i’n chwarae am ychydig ar ôl ysgol, ond yn sydyn fe welais bod bron iawn bawb yn fy nosbarth arno! Felly, fe wnaethon ni greu grw ^ p a chwarae gyda’n gilydd bob dydd. Fe ofynnais i mam os allwn i siarad gyda rhai o fy ffrindiau ar y ffôn. Felly fe fydden ni’n siarad gyda’n gilydd wrth inni chwarae ac fe aeth hynny mor swnllyd fel byddai mam yn cymryd y ffôn oddi arna’ i!

Fe wnaeth mam yn siw ^ r fy mod i’n cael amser i chwarae yn yr ardd, mae gen i drampolîn ac weithiau fe fyddwn i’n gweiddi ar fy ffrindiau lan staer i ddod lawr i chwarae gyda fi, ond doedden nhw ddim yn cael oherwydd y feirws. Roedd y feirws yn difetha ein hwyl o hyd! ’Doedd gen i neb i chwarae gyda nhw felly fe ddechreuais i ymarfer sgipio ac rydw i wedi dod yn dda iawn wrthi ac fe ddysgodd mam gemau imi yr oedd hi’n arfer eu chwarae pan oedd hi’n blentyn, fel “kerbs”.

Fel arfer fe fyddwch chi’n chwarae “kerbs” ar y stryd ac fe fyddwch chi’n taflu pêl at y cwrb gyferbyn, ond fe chwaraeon ni yn yr ardd a defnyddio’r step i mewn i’r ty ^ fel y cwrb. Felly, os fyddai’r bêl yn bownsio oddi ar y cwrb, fe fyddwn i’n cael deg o bwyntiau ond os oeddwn i’n methu fe fyddwn i’n colli tro i mam. Os byddwn i’n llwyddo i ddal y bêl ar yr un pryd, fe fyddwn i’n ennill pum pwynt arall. Mae’n eithaf anodd i anelu’n iawn ond unwaith ichi ddysgu beth i’w wneud, mae’n lot o hwyl!’ Mae’r cyfraniadau hyn gan blant a phlant yn eu harddegau’n ein hatgoffa pa mor bwysig yw chwarae i’w lles a’u hapusrwydd. Maent yn gwerthfawrogi cael oedolion cefnogol a chwareus o’u hamgylch all wneud yn siw ^ r bod digonedd o gyfleoedd da i chwarae.

Wrth inni barhau i lywio ein ffordd trwy’r pandemig coronafeirws a’r amrywiol gyfyngiadau, mae plant a phlant yn eu harddegau’n dal angen ac eisiau chwarae. Mae plant a’u teuluoedd yn cael eu gofyn i hunanynysu a threulio mwy o amser adref. Mae ymarferwyr yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd i gefnogi chwarae plant yn ystod y pandemig Covid-19.

Rydyn ni gyd eisiau parhau i gefnogi plant yn ystod y cyfnod heriol hwn. Er mwyn helpu ymarferwyr a rhieni i wneud yn siw ^ r bod plant yn cael digon o amser, lle a rhyddid i chwarae, rydym wedi cyhoeddi nifer o adnoddau ymarferol a chefnogol ar adran Corona Chwarae ein gwefan.

Gwybodaeth ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda phlant:

www.chwaraecymru.org.uk/ cym/gweithiogydaphlant

Gwybodaeth am chwarae adref:

www.chwaraecymru.org.uk/ cym/chwaraeynycartref

Ar ein gwefan Plentyndod Chwareus rydym wedi creu adran ‘chwarae dan do’ i ysbrydoli rhieni a gofalwyr pan fydd y plant, efallai, angen rhywfaint o syniadau chwarae. Mae’r adran yn cynnwys syniadau chwareus, hawdd a hwyliog i blant eu mwynhau yn ac o amgylch y cartref yn osgystal ag awgrymiadau ymarferol a chefnogol ar gyfer rhieni a gofalwyr.

www.plentyndodchwareus. cymru

This article is from: