Chwarae dros Gymru Hydref 2020 (rhifyn 56)

Page 8

8 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2020

Chwarae’n ystod y

cyfnod clo

Mae plant wedi eu heffeithio’n fawr gan y newidiadau ffisegol a chymdeithasol wnaeth gyfyngu ar eu bywydau mewn modd na welwyd erioed o’r blaen yn ystod y cyfnod clo yng Nghymru. Yma, mae Sumaya sy’n 10 oed o Gaerdydd a Jake, Jed ac Elliot, sydd i gyd yn 14 oed ac Ianto, sy’n 12 oed o Abertawe’n rhannu eu profiadau o chwarae’n ystod y cyfnod clo. Mae Prosiect Parc Sglefrio Llandeilo Ferwallt yn brosiect a arweinir gan blant yn Abertawe sydd wedi bod yn gweithio ers dros ddwy flynedd i greu lle i gwrdd, cymdeithasu, a chael hwyl mewn amgylchedd y gellir ei ddefnyddio am ddim. I Jake, roedd cadw’n fywiog trwy sglefrfyrddio a seiclo yn ei gymuned leol yn bwysig. Fe ddywedodd wrthym: ‘Mae hyn wedi helpu llawer iawn gyda fy lles. Pan gaewyd Maes Parcio Bae Caswell roedd llwyth o blant ac oedolion yno’n sglefrfyrddio bob dydd, roedd fel parc cymunedol. Fe wnaeth hyn brofi imi fod angen cyfleuster ar gyfer sglefrfyrddau, beics a sgwteri.’

Dywedodd Elliott wrthym fod cadw’n iach wedi bod yn rhan allweddol o’r cyfnod clo iddo fe: ‘Cyn gynted y clywais i fod y rheol pum milltir wedi ei chodi fe wnes i seiclo i Dreforys ac yn ôl! Rwy’n credu mewn byd ar ôl cyfnod clo, y bydd angen inni wneud popeth allwn ni i ailadeiladu ac ailgysylltu fel cymuned. Bydd mannau cyhoeddus, yn enwedig y tu allan, yn ddefnyddiol iawn yn ystod y misoedd nesaf pan ddaw’n amser i ailadeiladu’r cysylltiadau cymdeithasol allweddol hynny unwaith eto.’

Cytunodd Jed bod mynd allan ar hyd y lle yn beicio mynydd a sglefrfyrddio wedi helpu ei iechyd meddwl a’i les: ‘Yn ystod y cyfnod clo ges i drafferth dod o hyd i rywle i sglefrio yn y pentref a gerllaw. Rwy’n gwybod bod hyn yn wir am nifer o bobl eraill.’ Fe fethodd Ianto allu mynd i’r parc sglefrfyrddio yn y dref pan gafodd ei gau. Penderfynodd greu diddordeb i gefnogi parc sglefrio lleol trwy gyflawni her 1000 yr OLLIE Foundation.

‘Fe ddefnyddiais i’r meysydd parcio gwag i ymarfer ac fe wnes i ei gwblhau mewn dwyawr a hanner, fe godais dros £500! Byddai cael “pump track” ger fy nhy^ yn wych. Fe allwn i gwrdd lan gyda ffrindiau, ymarfer triciau ac fe allwn i seiclo neu sglefrio yno ar fy mhen fy hun.’ Pan gychwynnodd y cyfnod clo, roedd Sumaya yn hapus ar y dechrau oherwydd nad oedd ysgol! Dyma oedd gan Sumaya i’w ddweud am ei phrofiadau chwarae:


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.