ChwaraeGymru dros Rhifyn 56 Hydref 2020
Newyddion chwarae a gwybodaeth gan yr elusen genedlaethol dros chwarae
Gwneud i ddigonolrwydd chwarae ddigwydd
2 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2020
Cynnwys
3
Newyddion
5
Hwyl yn yr ardd – adolygiad
6
Gofod pwy ydi o beth bynnag?
7
Coronafeirws – yr hyn sydd gan blant i’w ddweud am chwarae
8
Chwarae’n ystod y cyfnod clo
10
Chwarae allan ac o gwmpas
12
Cydweithio’n lleol dros iechyd a lles
Diolch yn fawr 14
Amserau chwarae digonol mewn ysgolion
16
Ei gwneud hi’n bosibl i gyflawni Digonolrwydd Chwarae
18
Digonolrwydd chwarae a rôl gweithwyr chwarae
20
Datblygu’r gweithlu
22
Cymuned chwareus
Golygyddol Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o’n hymdrechion wrth hybu gwell dealltwriaeth o chwarae, lles a gwytnwch wedi canolbwyntio ar y rôl sydd gan chwarae wrth alluogi plant i greu cysylltiadau gyda’u cyfoedion, lleoedd a chymdogaethau.
Mae plant yn chwarae’r tu allan yn eu cymunedau lleol yn creu cyfleoedd ar gyfer perthnasau cymdeithasol ychwanegol ar gyfer plant ac oedolion hefyd. Mae gan blant sy’n profi bywyd bob dydd y tu allan yn eu cymuned eu hun well ymdeimlad o gysylltiad ac o berthyn ac mae hyn, yn ei dro, yn cynyddu cymdogrwydd ar gyfer y gymuned gyfan. Yn 2010, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu dros chwarae plant, gyda’r hyn a adnabyddir bellach fel y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Yn y canllaw statudol ategol, mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymo i’r nod o wneud cymunedau’n fwy chwarae-gyfeillgar trwy werthfawrogi a chynyddu cyfleoedd
o safon ar gyfer chwarae ym mhob un ohonynt, a thrwy hynny, wneud chwarae’n fater o gyfiawnder gofodol. Mae’r pedair astudiaeth ymchwil ar y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, a gomisiynwyd gan Chwarae Cymru, wedi archwilio cyfiawnder gofodol: trefniant teg o ofod cyhoeddus sy’n cefnogi hawl plant i chwarae. Disgrifiodd ein cyfaill a’n cydweithiwr Stuart Lester, un o’r ymchwilwyr cynnar i ddigonolrwydd chwarae, gyfiawnder gofodol fel cymunedau’n ‘llwyddo i fyw gyda’i gilydd’ – pobl o wahanol oedrannau a chefndiroedd yn cydfyw o fewn gofod penodol mewn modd cyfiawn, gydag adnoddau teg a chyd-ddealltwriaeth. Mae’r astudiaeth ymchwil ddiweddaraf, a drafodir yn hwyrach yn y rhifyn hwn, hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cyfunioni digonolrwydd chwarae gyda pholisi lles. Mae gwybodaeth a ddarparwyd gan blant fel rhan o Asesiadau Digonolrwydd Chwarae yn 2019 yn dangos bod yr awyr agored yn parhau i fod yr hoff le i blant
Diolch o galon i bawb a gyfrannodd at y cylchgrawn hwn – allen ni ddim ei wneud heboch chi. Mae’r rhifyn hwn o Chwarae dros Gymru, yn ogystal â rhifynnau blaenorol, ar gael i’w lawrlwytho o www.chwaraecymru.org.uk
chwarae. Ond, y lle y maen nhw’n fwyaf tebygol o gael caniatâd i chwarae allan ynddo yw eu gardd gefn neu ardd gefn ffrind. Mae rhaid inni ofyn i’n hunain: ydi hyn yn ddigon? Ydi hyn yn ddigon da mewn gwirionedd? Chwarae yw’r ffordd fwyaf naturiol a phleserus i blant gadw’n iach a bod yn hapus. Mae’r profiadau sydd gennym o’r cyfnod clo a’r cyfnod pontio araf a phetrus wrth i ni lywio ein ffordd drwy gyfnod o newid sylweddol yn cynnig cyfle ar gyfer newid ystyrlon. ’Does dim rhaid inni droi’n ôl at arferion y gorffennol achos mai dyna oedden ni’n arfer ei wneud – fe allwn wella arnynt. Mae angen taer i ganolbwyntio ar ymyriadau cymunedol fydd yn galluogi mwy o blant i fod y tu allan, i fod yn weladwy yn chwarae allan yn eu cymuned. Wrth i Adolygiad y Gweinidog o Chwarae ystyried camau gweithredu ar gyfer y dyfodol, mae’n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i sicrhau bod deddfwriaeth a pholisi’n cael eu hadlewyrchu yn ein harfer i’r dyfodol er mwyn gwneud gwir wahaniaeth ar gyfer ein plant. Mae dyletswydd arnom i wneud hynny. Mike Greenaway, Cyfarwyddwr, Chwarae Cymru
Cyhoeddir Chwarae dros Gymru gan Chwarae Cymru ddwy waith y flwyddyn. Cysylltwch â’r Golygydd yn: Chwarae Cymru, Ty^ Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FH Rhif ffôn: 029 2048 6050 I Ebost: gwybodaeth@chwaraecymru.org.uk
Nid barn Chwarae Cymru o reidrwydd yw’r farn a fynegir yn y cylchgrawn hwn. Rydym yn cadw’r hawl i olygu cyn cyhoeddi. Nid ydym yn ardystio unrhyw rai o’r cynnyrch na’r digwyddiadau a hysbysebir yn neu gyda’r cyhoeddiad hwn.
Elusen Gofrestredig Rhif. 1068926 I ISSN: 1755 9243
Crewyd gan Carrick | carrickcreative.co.uk
Chwarae dros Gymru | Hydref 2020 | 3
Newyddion Newyddion da – ariannu ar gyfer chwarae Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £8.8m i gefnogi’r sector gofal plant a chwarae i ddod dros effaith Covid-19 a sicrhau ei gynaliadwyedd i’r dyfodol. Defnyddir yr ariannu i helpu i sicrhau bod plant yn gallu manteisio ar ddarpariaeth gofal plant a chwarae o safon a bod teuluoedd yn cael cymorth gyda’u hanghenion gofal plant. Bydd yr ariannu’n helpu lleoliadau i sicrhau ^ addasiadau er mwyn gwneud yn siw r y gall safleoedd weithredu mewn modd diogel yng nghyd-destun Covid, ac i sicrhau buddsoddiad pellach mewn cyfleusterau chwarae i gefnogi mynediad i gyfleoedd chwarae ar gyfer plant y mae’r pandemig wedi cael effaith andwyol arnynt. Bydd Llywodraeth Cymru’n dyrannu £3m i awdurdodau lleol i gynyddu mynediad i gyfleusterau
chwarae awyr agored yn unol â’u Hasesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Mae £500,000 wedi ei ddyrannu i gefnogi cyfleoedd chwarae yn ystod gwyliau’r ysgol. Yn ogystal, mae CWLWM a Chwarae Cymru wedi derbyn ariannu ar gyfer gweithgareddau gofal plant a chwarae a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod ymateb cychwynnol i’r pandemig a’r cyfnod adfer sy’n parhau. www.llyw.cymru
Adolygiad Y Gweinidog o Chwarae Diweddariad gan Lywodraeth Cymru Rydym yn falch i gyhoeddi bod Adolygiad y Gweinidog o Chwarae yn ail-gychwyn yn dilyn saib dros dro yn ystod ein hymateb cychwynnol i COVID-19. Tra collwyd rhywfaint o amser ar yr adolygiad o ganlyniad i’r pandemig, rydym yn awyddus i ail-gychwyn ac adrodd ar yr adolygiad erbyn diwedd mis Mawrth 2021. Bydd angen inni ail-gynllunio a rhoi ffocws newydd i’r adolygiad, yn enwedig oherwydd nad yw rhai o’r prosiectau cysylltiedig bellach i’w cynnal eleni. Fodd bynnag, gallwn ehangu ar y gwaith gwerthfawr a wnaethpwyd eisoes er mwyn dwyn ynghyd restr o argymhellion seiliedig ar dystiolaeth, sydd wedi eu hasesu’n llawn, ar gyfer dyfodol polisi chwarae yng Nghymru. Cyn y saib yn y prosiect, roedd y grw p wedi cytuno ar weledigaeth ar gyfer chwarae sy’n disgrifio’r hyn welwn ni os gawn ni’r polisi chwarae’n iawn. Mae hyn yn adeiladu ar ac yn datblygu Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru. ^
Mae’r weledigaeth yn disgrifio Cymru fel gwlad ble mae pawb yn ystyried chwarae fel: • Hawl sylfaenol i bob plentyn • Elfen sy’n berchen i’r plentyn • Rhywbeth pwysig yn ei rinwedd ei hun • Cyfrifoldeb i bawb. Mae’n disgrifio sut y bydd plant, rhieni, cymunedau a phartneriaid allweddol yn ymddwyn dan y weledigaeth newydd a’r cyfleoedd, gofodau, amgylcheddau y byddwn
yn eu gweld. Cyflawnir y weledigaeth hon trwy edrych ar y pum thema ganlynol a rhestru opsiynau ac argymhellion ar gyfer y dyfodol: 1. Cofrestru a rheoleiddio lleoliadau ac eithriadau 2. Y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ac ariannu 3. Y gweithlu a chymwysterau 4. Gweithio ar draws meysydd polisi 5. Cyfiawnder gofodol a chyfranogiad cymdeithas. Rydym eisoes wedi gwneud llawer o’r gwaith ar y dadansoddiad opsiynau ac oblygiadau ar draws yr opsiynau hyn. Bydd Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru (PETC-Wales) yn cynnal gwaith ychwanegol ar thema’r gweithlu a chymwysterau dros y misoedd nesaf. Bydd y Grwp Llywio’n rhith-gyfarfod ym mis Tachwedd 2020 i adolygu, adfywio a datblygu ein hopsiynau a’n argymhellion ar y pum thema ymhellach, cyn adrodd i’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r cyhoedd ym mis Mawrth 2021. ^
www.llyw.cymru
4 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2020
Cefnogi hawliau plant yng Nghymru Yn adroddiad Coronafeirws a Fi, mae Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland yn egluro sut y mae hi a’i thîm wedi cefnogi hawliau plant yn ystod y pandemig. Roedd y Comisiynydd yn awyddus i blant allu cael mynediad i wybodaeth eglur a dibynadwy, cael cyfle i fynegi eu safbwynt, derbyn gwrandawiad, yn ogystal â sicrhau bod y llywodraeth yn clywed am ac yn ymateb i brofiadau plant. Sut y mae’r Comisiynydd wedi cefnogi hawl plant i chwarae: • Creu fideos ar gyfer plant a rhieni gyda syniadau chwarae am ddim ar gyfer y cartref a’r ardd, gan ddefnyddio eitemau a geir yn y ty^
• Ysgrifennu at Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru i fynegi pryderon nad oedd ardaloedd chwarae mewn parciau’n cael eu hagor cyn gynted â gwasanaethau ar gyfer oedolion • Gofyn cwestiynau am brofiadau chwarae plant yn holiadur Coronafeirws a Fi. Am fwy o wybodaeth am ganfyddiadau’r arolwg ewch i dudalen 7. www.complantcymru.org.uk
Covid-19 a chwarae plant Mae buddiannau i blant chwarae’r tu allan yn ystod y pandemig coronafeirws yn drech na’r risgiau, yn ôl adroddiad ymchwil a gyhoeddwyd gan y Play Safety Forum ym mis Mehefin 2020. Wedi ei ysgrifennu gan Yr Athro David Ball, Tim Gill ac Andy Yates, mae Covid 19 and Children’s Play yn darparu gwybodaeth ffeithiol er mwyn helpu llunwyr penderfyniadau sy’n gyfrifol am ddarpariaeth chwarae. Mae’r awduron yn pwysleisio bod gwybodaeth am effaith coronafeirws ar iechyd corfforol, meddyliol a chymdeithasol plant o ganlyniad i lai o gyfleoedd i chwarae’r tu allan yn cynyddu wrth i ymchwil barhau.
Laurence Ball yr adroddiad ymchwil ym mis Medi 2020. Mae’r diweddariad yn cynnwys manylion am y dystiolaeth ar y risgiau a grëir gan amddifadedd chwarae a sut y mae cyfyngiadau’n effeithio ar blant i wahanol raddau, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau personol.
Mewn ymateb i’r canfyddiadau cyhoeddus diweddaraf, diwygiodd yr ymchwilwyr Yr Athro David Ball, Tim Gill a
www.playsafetyforum.org.uk
Cefnogir yr adroddiad ymchwil hefyd gan Children’s Play Policy Forum y DU.
Chwarae yn ystod y Cyfnod Clo – astudiaeth ryngwladol Mae adroddiad newydd gan yr International Play Association (IPA) yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth fyd-eang i sut y mae mesurau sy’n ymwneud â Covid-19 wedi effeithio ar chwarae a symudedd plant. Mae Play in Lockdown: An international study of government and civil society responses to Covid-19 and their impact on children’s play and mobility yn darparu gwybodaeth gwaelodlin er mwyn tynnu cymariaethau rhwng gwledydd. Mae hefyd yn casglu arfer dda ar sut y gellir llacio’r mesurau sy’n berthnasol i’r pandemig.
Wedi ei ysgrifennu gan yr ymchwilydd annibynnol Tim Gill a Llywydd yr IPA, Robyn Monro Miller, mae’r adroddiad yn cynnwys trafodaeth ar yr egin-dystiolaeth a’r dadleuon ynghylch y niwed i blant o ganlyniad i fesurau’r cyfnod clo. www.ipaworld.org
Chwarae dros Gymru | Hydref 2020 | 5
Hwyl yn yr ardd – adolygiad Yn y rhifyn diwethaf o Chwarae dros Gymru, fe wnaethom adrodd am lansiad ein hail lyfr stori ar gyfer plant ysgol gynradd a rheini, sy’n cefnogi plant i gael mynediad i’w hawl i chwarae ac i rieni eiriol dros chwarae’n lleol. Fe ofynnom i Flwyddyn 6 Ysgol Gynradd Tonysguboriau, Rhondda Cynon Taf, i adolygu llyfr stori Hwyl yn yr ardd. Dyma oedd ganddyn nhw i’w ddweud. ‘Mae’r stori yn un mor dda. Yn bendant, mae gan y bobl ysgrifennodd y stori hon ddychymyg gwych. Mae’r stori gyfan am chwarae a chael hwyl, mae'n rhaid bod yr awduron wedi chwarae pan oedden nhw’n iau.’ Roedd y mwyafrif o’r plant yn y dosbarth wrth eu bodd gyda’r llyfr a’i gymeriadau. Roedden nhw’n arbennig o hoff o’r darluniadau yn y llyfr gan eu bod yn helpu i ddod â’r stori’n fyw ac yn darlunio’n union sut oedd y cymeriadau’n teimlo trwy eu mynegiant. ‘Dwi’n credu bod y lluniau’n greadigol, yn hwyl ac yn llawen iawn. Rwy’n hoffi’r lliwiau llachar a’r emosiwn sydd ynddo. Rwy’n meddwl hefyd ei fod yn llyfr gwych i blant ei ddarllen a’i fwynhau.’ Roedd y dosbarth wrth eu bodd gyda chymeriad ^ Mam-gu ac yn credu ei bod hi’n hwyl ac yn cwl, ond fe gafon nhw eu synnu pan ddysgon nhw am ei chefndir a phwy oedd hi yn y gorffennol. Fe wnaeth y dosbarth hefyd geisio deall pam fod Miss Grizzle yn casáu chwarae ac roedden nhw’n falch ei bod hi wedi newid ei meddwl am roi stop ar chwarae erbyn diwedd y stori. ‘Mae’r darluniadau yn wych; mae’r lluniau’n glir a lliwgar. Dwi’n hoff iawn o’r darn yn y cefn ble mae rhaid ichi chwilio am Miss Grizzle.’
Roedd y dosbarth i gyd yn cytuno bod gwers y stori, bod gan blant hawl i chwarae, yn wirioneddol bwysig i blant ac oedolion wybod amdani yn ogystal â bod chwarae’n bwysig i bawb ac yn helpu gyda gwneud ffrindiau, iechyd meddwl, gwneud ichi wenu ac yn HWYL. ‘Mae’r stori’n gywir, mae gan bawb hawl i chwarae, dylai pawb gael hwyl, roedd y stori’n wych.’
‘Roeddwn i’n hoffi’r stori oherwydd roedd yn dysgu plant bod ganddyn nhw hawl i chwarae ac all neb eu stopio nhw hyd yn oed os bydd pobl yn mynd â’ch pethau chi i gyd, fe allwch chi ddal i chwarae tic a gemau eraill sydd ddim angen offer.’
Fel rhan o’n cefnogaeth yn ystod y pandemig coronafeirws, cyflwynodd Chwarae Cymru dros 6000 o gopïau o Hwyl yn yr ardd i blant a theuluoedd ledled Cymru, gyda chymorth ein cydweithwyr yn y gwasanaethau chwarae, plant a theuluoedd.
6 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2020
Gofod pwy ydi o beth bynnag? Mae plant a phlant yn eu harddegau angen ac mae ganddynt hawl i gael mannau o safon ac amser i chwarae fel rhan o’u bywyd bob dydd yn eu cymuned eu hunain. Bydd gwneud gwell defnydd o fannau cymunedol awyr agored yn cefnogi plant, rhieni a chymunedau i deimlo’n fwy hyderus ynghylch chwarae’r tu allan ac, o ganlyniad, yn fwy cysylltiedig. Chwarae, yn enwedig y tu allan, yw’r ffordd fwyaf naturiol a phleserus i blant fod yn gorfforol egnïol, i gadw’n iach a bod yn hapus. Pan fydd plant yn gallu cael mynediad i ofod awyr agored da, mae’n: • rhad ac am ddim ac ar gael i bawb • darparu cyfleoedd i blant gwrdd a chyflawni mwy o weithgarwch corfforol na’r canllawiau • darparu cyfleoedd i gymdeithasu a chwrdd gyda ffrindiau a phobl eraill • darparu ffordd i ymdopi gydag ansicrwydd a newid. Er i’r cyfnod clo cenedlaethol fod yn adeg o ansicrwydd a phryder, fe wnaeth hefyd gyflwyno rhywfaint o gyfleoedd. Roedd ffocws yng nghyngor y llywodraeth a’r cyrff iechyd cyhoeddus ar i bobl fynd allan unwaith y dydd er mwyn eu hiechyd a’u lles ac fe wnaeth hyn helpu i normaleiddio gweld pobl allan ar hyd y lle. Golygodd y cyfyngiadau ar deithio bod lefelau traffig yn sylweddol is, wnaeth alluogi mwy o blant i chwarae’n ddiogel ger ac o amgylch eu cartrefi. Fe wnaeth cymdogion fwynhau’r aer glanach a’r ymdeimlad o gymuned a chysylltiad. Ond, mae mynediad plant i ofod awyr agored ar gyfer chwarae, ymarfer corff a mwynhau’n amrywio’n fawr iawn ar draws Cymru. Mae rhai plant yn byw mewn cartrefi sydd â gerddi, digonedd o ofod cymunedol awyr agored a gofalwyr cefnogol sydd ag amser i gefnogi chwarae, tra nad yw plant eraill. Cafodd yr anghydraddoldebau hyn eu dwysáu a’u pwysleisio yn ystod y cyfnod clo diweddar. Nawr, wrth i rai o’r cyfyngiadau gael eu llacio, mae Chwarae Cymru’n dyblu ein galwad am well defnydd o ofodau cymunedol – fel tiroedd ysgol a strydoedd – i alluogi mwy o blant i gael eu gweld ac i chwarae allan yn eu cymuned. Dylid troi sylw at ddatblygu defnydd ehangach o diroedd ysgol pan ddaw’r diwrnod addysgu i ben a dros y penwythnos. Yn aml iawn, tiroedd ysgol yw’r gofod awyr agored unigol mwyaf a geir mewn nifer o
gymunedau. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos plant sydd â fawr ddim neu ddim mynediad o gwbl i erddi preifat neu ardaloedd chwarae diogel. Dylid rhoi sylw hefyd i greu strydoedd diogel. Yn aml iawn, bydd rhieni a phlant yn adrodd bod traffig yn ffactor sy’n cyfyngu ar chwarae allan mewn cymdogaethau. Rydym yn croesawu penderfyniad diweddar Senedd Cymru i gefnogi, yn eu hanfod, gynlluniau i sicrhau mai 20mya fydd y cyfyngiad cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl yng Nghymru. Hoffem weld cefnogaeth ar gyfer prosiectau chwarae stryd sy’n annog newid agwedd ymhlith defnyddwyr ffyrdd. Caiff prosiectau chwarae stryd eu harwain yn aml gan drigolion ond gallant hefyd gael eu harwain gan ysgolion neu eu cefnogi gan fudiadau datblygu cymunedol. Mae ein gwaith gyda chynghorau’n arddangos trwy chwarae stryd, bod plant yn dysgu sgiliau ymwybyddiaeth ffyrdd a beicio / sgwtio; bod rhieni’n adrodd am well hyder yng ngallu eu plant o amgylch traffig ac mae gyrwyr yn adrodd am gynnydd mewn ymwybyddiaeth am bresenoldeb plant ac eraill ar ac o amgylch ffyrdd. Mae angen taer i sicrhau y gall mwy o blant gael mynediad i chwarae awyr agored, a hynny’n ddyddiol. Mae’r buddiannau posibl, o ran yr effaith positif ar iechyd a hapusrwydd plant, ymgysylltiad cymunedol a lles a chyfoethogi’r ymdeimlad lleol o gymuned, yn ysgubol.
Chwarae dros Gymru | Hydref 2020 | 7
Coronafeirws
yr hyn sydd gan blant i’w ddweud am chwarae Cafodd y coronafeirws ei ddatgan yn bandemig gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar 11 Mawrth 2020. Fe gymer fisoedd, os nad flynyddoedd, cyn y gallwn ddeall yr holl effaith a gaiff ar blant. Ond, mae ambell arolwg cynnar yn cynnig cipolwg ar ba mor bwysig fu chwarae i blant yng Nghymru yn ystod misoedd cynnar y pandemig. Mae’r sylwadau hyn gan blant ledled Cymru yn cynnig cipolwg i ddarparwyr chwarae a llunwyr penderfyniadau sydd â’r dasg o reoli’r argyfwng Covid-19 yn uniongyrchol a throsglwyddo cynlluniau adfer. Dylai blaenoriaethu chwarae fod yn uchel ar yr agenda ar gyfer plant o bob oed – mae eu hymatebion i’r arolwg yn arddangos eu bod yn dal i werthfawrogi, angen ac eisiau chwarae yn ystod dyddiau cynnar y pandemig. Cynhaliodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, arolwg ar-lein i ddysgu am brofiadau plant a phlant yn eu harddegau yng Nghymru. Casglodd arolwg ‘Coronafeirws a Fi’ wybodaeth oddi wrth dros 23,700 o blant a phlant yn eu harddegau rhwng 3 a 18 oed dros gyfnod o bythefnos pan oedd cyfyngiadau i gadw cymunedau yng Nghymru’n ddiogel wedi bod yn eu lle am ddau fis. Mae’r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn adroddiad Coronafeirws a Fi y Comisiynydd, yn dangos bod plant a phlant yn eu harddegau ar draws Cymru gyfan wedi cael profiadau amrywiol. Mae rhai wedi wynebu profedigaeth, gofid a phryder. Roedd llawer yn gweld eisiau eu ffrindiau, eu teuluoedd ac yn teimlo eu bod wedi colli allan ar eu haddysg. Ar yr un pryd, adroddodd nifer o blant eu bod wedi gwerthfawrogi cyfle i chwarae ac ymlacio mwy: • Mae tua hanner y plant yn adrodd eu bod wedi chwarae mwy nag arfer (53 y cant) gan ddisgrifio ystod eang o chwarae, yn cynnwys chwarae’r tu allan, chwarae dychmygol, chwarae gyda theganau neu gemau, chwaraeon, a chwarae creadigol. • Mae’r arolwg ar gyfer plant 7 i 11 oed yn ogystal â’r arolwg ar gyfer plant 12 i 18 oed yn dangos bod mwy o blant a phlant yn eu harddegau wedi chwarae ac ymlacio’n ystod y cyfnod hwn. • Yn ogystal, gofynnwyd cwestiwn pen agored i blant 7 i 11 oed am yr hyn yr oedden nhw wedi ei fwynhau fwyaf wrth chwarae. Roedd rhai o’r ymatebion yn cynnwys chwarae gyda’r teulu, ymgysylltu gyda ffrindiau ar-lein trwy gemau neu sgyrsiau, ymarfer corff, chwarae’r tu allan a chwarae gyda gemau neu deganau. Fe wnaeth llawer o blant gyfeirio hefyd at yr elfennau positif o gael mwy o amser i chwarae fel
cael hwyl, cael cyfle i anghofio am coronafeirws a mwynhau mwy o ryddid. www.complantcymru.org.uk/coronafeirws-a-ficanlyniadau/ Fe wnaeth Health and Attainment of Pupils in Primary Education Network (HAPPEN) hefyd gynnal arolwg i ddysgu sut oedd plant yn ymdopi gydag ymbellhau cymdeithasol, cau ysgolion a’r heriau a achoswyd gan Covid-19. Mae canfyddiadau cynnar oddi wrth dros 1,000 o blant yn dangos bod plant yn bod yn fwy corfforol egnïol ac yn teimlo’n fwy diogel yn eu hardaloedd lleol yn ystod y cyfnod clo. Ond, mae byw mewn ardal sydd wedi ei dynodi fel un ddifreintiedig yn effeithio ar hyn. • Mae plant yn yr ardaloedd hyn yn adrodd am lai o leoedd i chwarae – dywedodd 57 y cant o blant mewn ardaloedd difreintiedig a 72 y cant mewn ardaloedd sydd ddim yn ddifreintiedig bod ganddynt le i chwarae. • Roedd bechgyn oedd yn teimlo nad oedd eu hardal yn ddiogel yn cofnodi mwy o amser sgrîn. • Roedd mwy o blant yn gorfforol egnïol am bump neu fwy o ddyddiau’r wythnos. www.happen-wales.co.uk
8 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2020
Chwarae’n ystod y
cyfnod clo
Mae plant wedi eu heffeithio’n fawr gan y newidiadau ffisegol a chymdeithasol wnaeth gyfyngu ar eu bywydau mewn modd na welwyd erioed o’r blaen yn ystod y cyfnod clo yng Nghymru. Yma, mae Sumaya sy’n 10 oed o Gaerdydd a Jake, Jed ac Elliot, sydd i gyd yn 14 oed ac Ianto, sy’n 12 oed o Abertawe’n rhannu eu profiadau o chwarae’n ystod y cyfnod clo. Mae Prosiect Parc Sglefrio Llandeilo Ferwallt yn brosiect a arweinir gan blant yn Abertawe sydd wedi bod yn gweithio ers dros ddwy flynedd i greu lle i gwrdd, cymdeithasu, a chael hwyl mewn amgylchedd y gellir ei ddefnyddio am ddim. I Jake, roedd cadw’n fywiog trwy sglefrfyrddio a seiclo yn ei gymuned leol yn bwysig. Fe ddywedodd wrthym: ‘Mae hyn wedi helpu llawer iawn gyda fy lles. Pan gaewyd Maes Parcio Bae Caswell roedd llwyth o blant ac oedolion yno’n sglefrfyrddio bob dydd, roedd fel parc cymunedol. Fe wnaeth hyn brofi imi fod angen cyfleuster ar gyfer sglefrfyrddau, beics a sgwteri.’
Dywedodd Elliott wrthym fod cadw’n iach wedi bod yn rhan allweddol o’r cyfnod clo iddo fe: ‘Cyn gynted y clywais i fod y rheol pum milltir wedi ei chodi fe wnes i seiclo i Dreforys ac yn ôl! Rwy’n credu mewn byd ar ôl cyfnod clo, y bydd angen inni wneud popeth allwn ni i ailadeiladu ac ailgysylltu fel cymuned. Bydd mannau cyhoeddus, yn enwedig y tu allan, yn ddefnyddiol iawn yn ystod y misoedd nesaf pan ddaw’n amser i ailadeiladu’r cysylltiadau cymdeithasol allweddol hynny unwaith eto.’
Cytunodd Jed bod mynd allan ar hyd y lle yn beicio mynydd a sglefrfyrddio wedi helpu ei iechyd meddwl a’i les: ‘Yn ystod y cyfnod clo ges i drafferth dod o hyd i rywle i sglefrio yn y pentref a gerllaw. Rwy’n gwybod bod hyn yn wir am nifer o bobl eraill.’ Fe fethodd Ianto allu mynd i’r parc sglefrfyrddio yn y dref pan gafodd ei gau. Penderfynodd greu diddordeb i gefnogi parc sglefrio lleol trwy gyflawni her 1000 yr OLLIE Foundation.
‘Fe ddefnyddiais i’r meysydd parcio gwag i ymarfer ac fe wnes i ei gwblhau mewn dwyawr a hanner, fe godais dros £500! Byddai cael “pump track” ger fy nhy^ yn wych. Fe allwn i gwrdd lan gyda ffrindiau, ymarfer triciau ac fe allwn i seiclo neu sglefrio yno ar fy mhen fy hun.’ Pan gychwynnodd y cyfnod clo, roedd Sumaya yn hapus ar y dechrau oherwydd nad oedd ysgol! Dyma oedd gan Sumaya i’w ddweud am ei phrofiadau chwarae:
Chwarae dros Gymru | Hydref 2020 | 9
Mae’r cyfraniadau hyn gan blant a phlant yn eu harddegau’n ein hatgoffa pa mor bwysig yw chwarae i’w lles a’u hapusrwydd. Maent yn gwerthfawrogi cael oedolion cefnogol a chwareus o’u hamgylch ^ r bod all wneud yn siw digonedd o gyfleoedd da i chwarae. Wrth inni barhau i lywio ein ffordd trwy’r pandemig coronafeirws a’r amrywiol gyfyngiadau, mae plant a phlant yn eu harddegau’n dal angen ac eisiau chwarae. Mae plant a’u teuluoedd yn cael eu gofyn i hunanynysu a threulio mwy o amser adref. Mae ymarferwyr yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd i gefnogi chwarae plant yn ystod y pandemig Covid-19.
‘Felly, fe ofynnais i mam os allen ni gael hwyl, fel mynd i’r ganolfan chwarae meddal, sglefrio iâ neu chwarae yn y parc ond fe ddywedodd hi bod y cyfnod clo yn golygu allwn ni ddim mynd allan oni bai ei fod yn bwysig iawn! Yna fe ddywedais i allwn ni jesd mynd yn ôl i’r ysgol te? Ac fe ddywedodd hi Na! Fe ddywedodd mam y gallen ni fynd am dro, ond roedden ni’n gweld heddlu ym mhobman a roeddwn i ofn y bydden nhw’n dweud “ewch adref” felly doeddwn i ddim yn hoffi gadael y ty^. Un o’r pethau brafiaf yn ystod y cyfnod clo oedd chwarae Roblox, sy’n gêm y gallwch chi ei chwarae ar-lein. Fel arfer, fe fyddwn i’n chwarae am ychydig ar ôl ysgol, ond yn sydyn fe welais bod bron iawn bawb yn fy nosbarth arno! Felly, fe wnaethon ni greu grw^ p a chwarae gyda’n gilydd bob dydd. Fe ofynnais i mam os allwn i siarad gyda rhai o fy ffrindiau ar y ffôn. Felly fe fydden ni’n siarad gyda’n gilydd wrth inni chwarae ac fe aeth hynny mor swnllyd fel byddai mam yn cymryd y ffôn oddi arna’ i! Fe wnaeth mam yn siw^ r fy mod i’n cael amser i chwarae yn yr ardd, mae gen i drampolîn ac weithiau fe fyddwn i’n gweiddi ar fy ffrindiau lan staer i ddod lawr i chwarae gyda fi, ond doedden nhw ddim yn cael oherwydd y feirws. Roedd y feirws yn difetha ein hwyl o hyd! ’Doedd gen i neb i chwarae gyda nhw felly fe ddechreuais i ymarfer sgipio ac rydw i wedi dod yn dda iawn wrthi ac fe ddysgodd mam gemau imi yr oedd hi’n arfer eu chwarae pan oedd hi’n blentyn, fel “kerbs”. Fel arfer fe fyddwch chi’n chwarae “kerbs” ar y stryd ac fe fyddwch chi’n taflu pêl at y cwrb gyferbyn, ond fe chwaraeon ni yn yr ardd a defnyddio’r step i mewn i’r ty^ fel y cwrb. Felly, os fyddai’r bêl yn bownsio oddi ar y cwrb, fe fyddwn i’n cael deg o bwyntiau ond os oeddwn i’n methu fe fyddwn i’n colli tro i mam. Os byddwn i’n llwyddo i ddal y bêl ar yr un pryd, fe fyddwn i’n ennill pum pwynt arall. Mae’n eithaf anodd i anelu’n iawn ond unwaith ichi ddysgu beth i’w wneud, mae’n lot o hwyl!’
Rydyn ni gyd eisiau parhau i gefnogi plant yn ystod y cyfnod heriol hwn. Er mwyn helpu ymarferwyr a rhieni i wneud yn ^ siwr bod plant yn cael digon o amser, lle a rhyddid i chwarae, rydym wedi cyhoeddi nifer o adnoddau ymarferol a chefnogol ar adran Corona Chwarae ein gwefan. Gwybodaeth ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda phlant: www.chwaraecymru.org.uk/ cym/gweithiogydaphlant Gwybodaeth am chwarae adref: www.chwaraecymru.org.uk/ cym/chwaraeynycartref Ar ein gwefan Plentyndod Chwareus rydym wedi creu adran ‘chwarae dan do’ i ysbrydoli rhieni a gofalwyr pan fydd y plant, efallai, angen rhywfaint o syniadau chwarae. Mae’r adran yn cynnwys syniadau chwareus, hawdd a hwyliog i blant eu mwynhau yn ac o amgylch y cartref yn osgystal ag awgrymiadau ymarferol a chefnogol ar gyfer rhieni a gofalwyr. www.plentyndodchwareus. cymru
10 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2020
ac o gwmpas Arweiniodd y pandemig coronafeirws at gyfyngiadau ac ansicrwydd annisgwyl na welwyd eu tebyg o’r blaen, ond roedd yr angen a’r awydd i gefnogi chwarae plant cyn bwysiced ag erioed.
O syniadau chwareus ar gyfer bod y tu allan i ddarpariaeth awyr agored wedi ei staffio, mae mudiadau a thimau chwarae ledled Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod gan blant bresenoldeb chwareus a chyfleoedd i chwarae yn eu cymdogaethau.
Gadael ôl
Yn ystod dyddiau cynnar y cyfnod clo cenedlaethol, teimlodd Tîm Datblygu Chwarae Conwy ei bod hi’n bwysig i blant ‘adael eu hôl’ pan oeddent allan ar gyfer eu gweithgaredd awyr agored dyddiol. Gan ddefnyddio tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu syniadau, cynyddodd nifer y marciau gyda hysbysiadau am heriau yn cael eu gadael allan ar gyfer y plant – wedi eu hysgrifennu mewn sialc neu eu gosod ar bolion lampau. Mewn un pentref yng Nghonwy trefnwyd cliwiau a helfeydd trysor er mwyn i deuluoedd ymuno yn yr hwyl. Roedd y tîm yn teimlo ei fod yn gyfle gwych i bobl fod allan ac o gwmpas yn eu cymdogaethau ac i ddysgu am y plant a’r plant yn eu harddegau sydd yno. Gobaith y tîm oedd y gallai gweld olion presenoldeb y plant, y mannau y maent yn mynd
iddynt a’r llwybrau y maent yn eu defnyddio, weithredu fel ffordd i atgoffa pobl bod cymunedau yn cael eu rhannu gan oedolion a phlant. Gadawodd nifer o oedolion sylwadau a negeseuon yn dweud sut yr oedd y marciau syml a adawyd gan y plant wedi eu helpu i ganfod gobaith a llawenydd yn eu cymuned. Derbyniodd y tîm adborth brwd. Meddai un rhiant: ‘Roedd yn gysur i fy mhlant bod plant eraill yn dal o gwmpas ac fe roddodd obaith iddyn nhw yn ogystal â llawer o giwiau ar gyfer eu chwarae pan oedden ni allan am dro. Roedd yn eu helpu i deimlo cysylltiad gyda’u cyfoedion. Am ychydig ddyddiau fe gawsom ni “frwydr llwybr sticeri” gyda theulu arall yn y coed; welon ni monyn nhw erioed ond bron bob dydd roedd y plant mor gyffrous i fynd i chwilio ble roedd y sticeri wedi cyrraedd y diwrnod hwnnw.’
Chwarae dros Gymru | Hydref 2020 | 11
Teithiau cerdded â thema Yn ystod wythnosau cyntaf y cyfnod clo cenedlaethol doedd teuluoedd, heblaw am deithiau allweddol, ond yn cael mynd allan unwaith y dydd i ymarfer corff. Sylweddolodd Tîm Cymorth Chwarae ac Ieuenctid Wrecsam yn fuan iawn mai’r ymarfer corff dyddiol hwn fyddai’r unig gyfle i blant adael y ty^ bob dydd. Gan gydnabod y cyfyngiadau oedd ar ofod plant i chwarae ar y pryd, roedd yn bwysig i’r tîm y gallai plant, pan oeddent yn cael caniatâd i fynd allan, brofi a dod ar draws cyfleoedd i fod yn chwareus. Datblygodd y tîm gyfres o deithiau cerdded â thema a’u cyhoeddi unwaith yr wythnos, er mwyn i deuluoedd roi chwistrelliad chwareus i’w hymarfer corff dyddiol a rhoi ffocws chwareus i’w diwrnod. Rhoddwyd thema i bob taith gerdded fel y gofod, helfa dinosoriaid neu eirth, a chynnwys casgliad o awgrymiadau chwareus ar draws tri maes – cyn gadael ^ y ty, yn ystod y daith gerdded, ac wedi cyrraedd adref. Er enghraifft: • Creu helmed gofodwr o jync (cyn) • Teithio mor gyflym â golau (yn ystod) • Tynnu llun o’r holl blanedau y gwnaethoch ymweld â nhw (ar ôl). Fe wnaeth darparu syniadau chwareus ar gyfer cyn ac ar ôl y daith gerdded roi cyfle i’r plant greu naratif ehangach o amgylch eu hymarfer corff dyddiol. Bu’r adborth oddi wrth deuluoedd yn hynod o bositif: ‘Mae’r teithiau cerdded wedi rhoi llwyth o syniadau i fi a fy mhlant a gwneud teithiau cerdded digon diflas yn fwy pleserus’.
Hwyl haf Er gwaethaf yr ansicrwydd a’r cyfyngiadau, llwyddodd Menter Caerdydd a Menter Bro Morgannwg gynnig eu cynlluniau Bwrlwm – sesiynau chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg mewn parciau ar hyd a lled Caerdydd a Bro Morgannwg dros wyliau haf yr ysgol. Cynigiodd y mudiadau sesiynau chwarae am wyth diwrnod mewn saith lleoliad gwahanol, gyda chwe sesiwn y dydd yn derbyn 30 o blant. Ym mhob lleoliad, roedd y plant yn cael eu hannog i gymdeithasu yn Gymraeg tra’n mwynhau chwarae’r tu allan. Paratowyd nifer o weithgareddau creadigol a chorfforol, ac roedd rhyddid hefyd i’r plant chwarae fel y mynnant mewn amgylchedd diogel. Tra’n glynu at ganllawiau Llywodraeth Cymru, roedd y gwasanaeth a ddarparwyd yn hanfodol ar gyfer plant a rhieni yng Nghaerdydd a’r Fro.
Derbyniwyd adborth gwych ar y cynllun dros yr haf: ‘Gwasanaeth cwbl wych, cafodd fy merch gyfle i gwrdd â’i ffrindiau a’i hannog i ddefnyddio ei Chymraeg.’ Dywedodd Menter Caerdydd a Menter Bro Morgannwg: ‘Allwn ni ddim aros tan hanner tymor yr Hydref er mwyn inni allu darparu’r gwasanaeth hwn unwaith eto! Diolch o galon am y gefnogaeth ariannol ac ymarferol gwerthfawr a dderbyniwyd oddi wrth staff Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn ogystal â’r arweiniad oddi wrth Chwarae Cymru’. Mae gan Gyngor Sir Y Fflint draddodiad cryf a balch o gynnig rhaglen cynlluniau chwarae haf trwy’r sir gyfan ac wrth i’r cyfyngiadau coronafeirws ddechrau cael eu llacio, roedd awydd i ddarparu cynlluniau chwarae’n ystod haf 2020. Gwahoddwyd Cynghorau Tref a Chymuned i gyfranogi a chefnogi darpariaeth ar gyfer pob plentyn rhwng 5 a 12 oed yn Sir y Fflint dros bythefnos olaf gwyliau’r haf. Darparwyd gwybodaeth glir i rieni a phartneriaid am drosglwyddiad diogel cynlluniau chwarae haf er mwyn cydymffurfio â rheoliadau oedd yn gysylltiedig â Covid-19. Er mwyn cydymffurfio â’r canllawiau iechyd cyhoeddus, cafodd y 55 cynllun eu cynnal y tu allan mewn safleoedd agored. Roedd lefel y cyfathrebu oedd yn angenrheidiol ar gyfer 2020 yn golygu bod y Tîm Datblygu Chwarae wedi ymgysylltu gyda theuluoedd ar lefel sydd heb ei gweld o’r blaen, arweiniodd at weld 1,865 o blant yn cael eu cofrestru ar gyfer y cynllun. Mae’r ddarpariaeth wedi cael effaith trawiadol ar blant a theuluoedd. ‘Diolch yn fawr i’ch tîm a’ch staff wnaeth alluogi fy mhlentyn, sy’n saith oed, i gymryd rhan mewn gweithgareddau’n ystod y pandemig byd-eang. Tra cafodd y pandemig effaith trawmatig ar ein bywydau, mae wedi fy ngalluogi i weithio mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys o adref. Mae fy mab wedi ei chael hi’n anodd, fel plentyn i weithiwr allweddol, gorfod mynychu’r Ysgol Hwb ac yna bod yn amyneddgar tra roeddwn i’n gweithio o adref. Roedd cael y cynllun chwarae’n golygu y gallai gael hwyl, cael amser i’w hun, cwrdd â phobl newydd a llosgi peth o’i egni. Roedd y trefniadau’n wych ac roeddwn i’n teimlo’n ddiogel yn gadael fy mhlentyn gyda’r tîm. Mae wedi adennill ei hyder, ac roedd mor gyffrous i fynychu bob dydd. Mae’r sesiynau’n therapiwtig, maen nhw’n annog twf ac i’r plentyn ddatblygu!’
12 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2020
Mae plant sy’n chwarae’r tu allan yn fwy corfforol egnïol yn ôl gwaith ymchwil ac yn fwy tebygol o gyflawni argymhellion gweithgarwch corfforol Prif Swyddogion Meddygol y DU. Un o ganfyddiadau allweddol y dystiolaeth yw bod chwarae plant yn cefnogi datblygiad gwytnwch, felly mae’n gwneud cyfraniad sylweddol i les plant. Yma, rydym yn adrodd ar ein prosiectau cydweithredol cyfredol i gefnogi trosglwyddo darpariaeth chwarae mewn cymdogaethau
Prosiect Llysgenhadon Chwarae Mae’r Prosiect Llysgenhadon Chwarae, a ariennir trwy’r Gronfa Iach ac Egnïol (HAF), yn anelu i baratoi pobl ifanc 14 i 19 oed i ddod yn Llysgenhadon Chwarae trwy hyfforddiant, cymwysterau a phrofiad gwaith mewn lleoliadau gwaith chwarae. Bydd y prosiect yn galluogi Llysgenhadon Chwarae i hwyluso ymyriadau wedi eu lleoli mewn cymdogaethau yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Yma, mae Mali, sy’n 17 oed yn dweud wrthym am ddod yn Llysgennad Chwarae.
Fel yr ail o bedwar o blant, wrth dyfu i fyny roedd disgwyl imi ddiddanu fy mrodyr bach trwy’r amser ac ymuno yn eu gemau. Yn ddiweddar, wrth hel atgofion am ein hoff gemau pan oeddem yn blant, fe wnes i feddwl tybed sut y mae’r profiadau chware hynny wedi dal i effeithio arnom ni nawr ein bod yn ein harddegau. Daeth hyn i flaen fy meddwl pan ddarllenais erthygl ar effaith chwarae ar elfen dysgu’r ymennydd. Felly, pan ddaeth Paula o Chwarae Cymru a Gwenno o Fenter Caerdydd i’r ysgol i siarad am y prosiect roedd gen i ddiddordeb ar unwaith, oherwydd roeddwn i’n meddwl y byddai’n llawer o hwyl ac yn gyfle gwych i ddysgu am chwarae – rhywbeth nad oeddwn i wedi rhoi fawr o feddwl iddo o’r blaen.
Chwarae dros Gymru | Hydref 2020 | 13
Roedd y cwrs yn agoriad llygad a dweud y lleiaf. Cyn derbyn yr hyfforddiant gwaith chwarae, doeddwn i heb feddwl fawr ddim am chwarae – doedd o’n ddim mwy na rhywbeth yr oeddwn wedi ei fwynhau pan oeddwn i’n blentyn. Ond fe roddodd y cwrs hwn gipolwg imi ar nifer o bynciau, yn amrywio o fuddiannau chwarae i’r risgiau a’r rhwystrau posibl i chwarae, i effeithiau amgylchedd a gofod chwarae plentyn ar eu profiad chwarae. Ar y cyfan, roedd yn hynod o ddiddorol ac fe wnaeth fy herio i feddwl yn ddwys am bethau oedd yn gwbl newydd i mi. Dim ond ychydig sesiynau gawsom ni yn y ganolfan chwarae cyn iddynt ddod i stop oherwydd Covid-19, ynghyd â’r ysgol yn cau a phopeth arall. Roeddwn wedi fy siomi i gychwyn oherwydd doeddwn i ddim yn meddwl y byddai cwblhau’r cwrs ar-lein cystal â’r gwersi wynebyn-wyneb yr oeddwn wedi edrych ymlaen atyn nhw bob pnawn dydd Llun. Ond, wedi’r ansicrwydd cychwynnol
am ddysgu ar-lein, a hefyd y siom parhaus o golli allan ar y malws melys o amgylch y tân a addawyd inni (oedd fod i ddigwydd yn ein sesiwn nesaf), fe wnes i wir fwynhau cwblhau’r cwrs ar-lein. Roedd yr holl adnoddau dysgu ar-lein yn llawn gwybodaeth, ac roedd y tiwtor yn barod iawn i helpu. Roeddwn i wastad yn teimlo y gallwn godi’r ffôn neu anfon e-bost pryd bynnag oedd gen i gwestiwn am y gwaith. Roeddwn wedi gobeithio derbyn rhywfaint o brofiad gwaith gyda Menter Caerdydd dros yr haf ond yn anffodus fe wnaeth Covid-19 roi pen ar hynny. Ond rydw i’n gobeithio ymuno gyda darpariaeth chwarae yn ystod gwyliau hanner tymor yr ysgol yn y dyfodol – croesi bysedd! Waeth os af i ymlaen i wneud rhywbeth fydd yn gysylltiedig â chwarae yn y dyfodol ai peidio, mae’n sicr y bydd y cwrs hwn yn ddefnyddiol imi, oherwydd y ddealltwriaeth y mae wedi rhoi imi o’r effaith gaiff chwarae ar ddysg a datblygiad pobl a’u canfyddiadau o’r byd o’u hamgylch.
Chwarae awyr agored yng Nghwm Taf Morgannwg Mae Chwarae Cymru wedi datblygu, gweithredu a gwerthuso prosiectau sy’n ystyried y defnydd gorau o ofodau cymunedol, yn benodol, fentrau chwarae stryd a’r defnydd o diroedd ysgol ar gyfer chwarae. Mae’r prosiectau ymchwil weithredu hyn wedi arwain at gyhoeddi tri phecyn cymorth: • Defnyddio tiroedd ysgol ar gyfer chwarae’r tu allan i oriau addysgu • Agor strydoedd ar gyfer chwarae – Pecyn cymorth ar gyfer awdurdodau lleol a phartneriaid yng Nghymru • Sut i drefnu sesiynau chwarae’r tu allan ar dy stryd – llawlyfr i drigolion. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi gofyn i Chwarae Cymru gynnal peilot o fentrau tebyg yn ei ardal. Bydd Chwarae Cymru’n gweithio gyda chydweithwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, gan ddefnyddio Asesiadau Digonolrwydd Chwarae lleol fel canllaw i gynorthwyo gydag ymyriadau cymunedol ar draws Cwm Taf Morgannwg trwy: • gynyddu cyfleoedd ar gyfer chwarae rhydd heb ei strwythuro, er enghraifft defnyddio strydoedd fel mannau chwarae • archwilio agor tiroedd ysgol cyn ac ar ôl y diwrnod ysgol ar gyfer chwarae a chyfleoedd gweithgarwch corfforol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dynodi deg cam seiliedig ar dystiolaeth i helpu plant yn y blynyddoedd cynnar, 0 i 5 mlwydd oed, i gynnal pwysau iach y mae’n eu hyrwyddo o dan eu brand Pob Plentyn. Mae cam chwech yn canolbwyntio ar chwarae’r tu allan, gyda’r uchelgais y bydd pob plentyn yn cael cyfle i chwarae’r tu allan bob dydd.
Claire Beynon, Ymgynghorydd ar Iechyd y Cyhoedd, sy’n egluro pam fod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ddiddordeb penodol cefnogi mwy o blant i chwarae: ‘Mae buddiannau chwarae’r tu allan i ddatblygiad emosiynol a chorfforol plentyn yn aruthrol. Mae cynnydd mewn cyfleoedd i blant chwarae’n debyg o gael effaith cadarnhaol ar amcanion iechyd poblogaethau hefyd, yn cynnwys: • Gwell llesiant meddwl a llai o unigedd • Cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol mewn plant • Lleihau lefelau gordewdra’n ystod plentyndod. Mae’r llenyddiaeth yn awgrymu bod newid agweddau a normau cymdeithasol cymdeithas yn allweddol i gynyddu cyfleoedd i blant chwarae’r tu allan. Mae angen gweithredu i hybu agweddau mwy cadarnhaol tuag at chwarae’r tu allan a normaleiddio chwarae awyr agored mewn mannau cymunedol anffurfiol. Mae angen i’r gweithredu yma ddigwydd mewn cyd-destun cymdeithasol cefnogol, ac felly fe ofynnom i Chwarae Cymru weithio gydag awdurdodau lleol a’u partneriaid ar draws ein rhanbarth er mwyn helpu i chwalu rhwystrau i chwarae’r tu allan ar gyfer ein plant.’
14 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2020
Amserau chwarae digonol mewn ysgolion Yn ystod y cyfnod clo ac yna wrth i gyfyngiadau cenedlaethol gael eu llacio, bu galw ar i ysgolion flaenoriaethu chwarae fel rhan o’r broses adfer a phontio’n ôl i addysg ffurfiol. Anogodd eiriolwyr dros hawliau plant i’r ffocws fod ar chwarae ac iechyd meddwl, yn hytrach na dal i fyny gyda’r cwricwlwm. Mae Chwarae Cymru wedi cynhyrchu nifer o adnoddau i gefnogi ysgolion i fod mor chwareus â phosibl.
Arweiniad i ysgolion
Mae cyfleoedd plant i chwarae ym mhob lleoliad yn dibynnu ar ystod eang o faterion, gaiff eu trefnu o dan dri phennawd: • Caniatâd: ofn, disgwyliadau, goddefgarwch, a’r modd y mae oedolion yn ystyried plentyndod a chwarae • Lle: maint, dyluniad a rheolaeth y gofod • Amser: sut caiff amser ei strwythuro a’r oblygiadau sydd ar amser y plant. Yn haf 2019, cyhoeddodd Estyn yr adroddiad Iach a hapus – effaith yr ysgol ar iechyd a llesiant disgyblion, a werthusodd pa mor dda y mae ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru yn cefnogi iechyd a lles eu disgyblion. Fe nododd bwysigrwydd amser chwarae ac amser egwyl yn yr ysgol. Pwysleisiodd yr adroddiad bod ysgolion sy’n mabwysiadu agwedd ysgol gyfan tuag at gefnogi iechyd a lles yn darparu amgylchedd, cyfleusterau a lle i chwarae, cymdeithasu ac ymlacio’n ystod amser egwyl. Mae’n mynegi pryderon pan fydd ysgolion ddim yn darparu’r rhain, neu’n methu eu darparu – bod disgyblion yn llai corfforol egnïol ac y gallant ei chael yn anodd ymlacio’n ystod amser chwarae, sy’n effeithio ar eu lles. Tua’r un pryd, nododd Chwarae Cymru gynnydd mewn rhieni’n cysylltu gyda phryderon am gwtogi’r diwrnod ysgol oedd yn arwain at lai o amser chwarae, a hefyd, dynnu amser chwarae’n ôl fel rhan o bolisi rheoli ymddygiad. Oherwydd y pryderon hyn, y cynnydd mewn ymholiadau ac mewn ymateb i adroddiad Estyn, fe wnaethom gyhoeddi Ysgol chwarae-gyfeillgar – Canllaw ar gyfer agwedd ysgol gyfan er mwyn i blant allu mwynhau amserau chwarae digonol fel rhan o’u diwrnod ysgol. Mae canllaw Chwarae Cymru yn darparu gwybodaeth sy’n ymwneud â pholisi ac arfer i helpu cymunedau ysgolion i fabwysiadu agwedd ysgol gyfan i gefnogi hawl plant i chwarae, gan ddelio gyda thri amod caniatâd, lle ac amser i chwarae. Wedi ei ddylunio i gyfoethogi’r gwaith da sy’n cael ei wneud eisoes i ddarparu gwell cyfleoedd chwarae mewn ysgolion, mae’n anelu i wneud amser pawb yn yr ysgol yn hapusach ac iachach. Caiff y canllaw ei grynhoi mewn 15 cam tuag at ysgol chwarae-gyfeillgar ac mae’n darparu arfau ar gyfer gweithredu’r rhain.
Chwarae dros Gymru | Hydref 2020 | 15
Mae rhai o’r argymhellion allweddol yn cynnwys: • Datblygu Polisi Chwarae Ysgol sy’n cefnogi chwarae ac sy’n disgrifio’r camau gweithredu y mae’r ysgol yn eu cymryd i warchod hawl y plant i chwarae • Dynodi llysgennad chwarae – rhywun mewn swydd arweiniol sy’n cefnogi’r arferion strategol a gweithredol i gefnogi chwarae • Darparu hyfforddiant, syniadau, awgrymiadau a chynghorion ar gyfer staff amser chwarae i’w helpu i gefnogi chwarae • Mabwysiadu agwedd gytbwys tuag at reoli risg mewn chwarae plant • Darparu deunyddiau chwarae rhannau rhydd yn ystod amser chwarae er mwyn caniatáu digonedd o stwff i lawer o blant chwarae • Datblygu canllawiau ar gyfer amser chwarae yn ystod tywydd gael • Darparu o leiaf 60 munud o amser chwarae’r tu allan bob dydd trwy gydnabod a gwarchod amserau chwarae bore, amser cinio a phrynhawn • Osgoi tynnu amser chwarae’n ôl fel cosb am gamymddwyn neu er mwyn cwblhau gwaith sydd heb ei orffen – meddyliwch am ffyrdd eraill i gynorthwyo plant i reoli eu hymddygiad.
Taflen wybodaeth Meddwl am rannau rhydd mewn ysgolion Mae rhannau rhydd yn ddeunyddiau naturiol a synthetig y gellir eu trin a’u trafod, eu symud a’u haddasu, eu hadeiladu a’u chwalu. Mae rhannau rhydd yn creu amgylcheddau cyfoethocach i blant chwarae, gan roi’r adnoddau y maent eu hangen iddynt ymestyn eu chwarae. Mae amgylcheddau y gellir eu trin a’u trafod, ble mae pethau’n symud ac y gellir eu symud, yn agor bydoedd yn llawn posibiliadau i’r plant chwarae ac archwilio. Bydd chwarae gyda rhannau rhydd, yn gyffredinol, yn datblygu mwy o sgiliau a doniau na’r mwyafrif o deganau plastig modern gan fod angen i’r plant ddefnyddio creadigedd a dychymyg i greu eu bydoedd eu hunain. Maent yn denu, yn cefnogi ac yn cyfoethogi pob math o ddysgwyr a gwahanol ddeallusrwydd dysgu. Caiff dysg pen agored, arbrofi, datrys problemau, a meddwl critigol i gyd eu datblygu trwy ddefnyddio rhannau rhydd. Mae’r rhain i gyd yn sgiliau pwysig i’w datblygu mewn byd sy’n prysur newid. Wedi ei hysgrifennu mewn partneriaeth â Ludicology, Ysgol Gynradd Mount Stuart ac Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Prifysgol Metropolitan Caerdydd, mae’r daflen wybodaeth hon yn archwilio defnyddio deunyddiau rhannau rhydd yn ystod amser chwarae ac yn yr ystafell ddosbarth. Mae’n cyflwyno ystod eang o ymchwil sy’n trafod ymyriadau rhannau rhydd yn ystod amser chwarae ac yn adrodd ar ganfyddiadau
o astudiaeth amser cinio benodol. Mae’n cyflwyno enghreifftiau a chynghorion ar sut y mae defnyddio a darparu rhannau rhydd yn cefnogi dysg dan arweiniad y plentyn mewn lleoliad ysgol. Mae hefyd yn cynnwys atodiad defnyddiol sy’n amlinellu ymchwil ar sut y mae chwarae’n cefnogi dysg a datblygiad, gweithgarwch corfforol, ac iechyd a lles.
Gweithdy hawl i chwarae Er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth plant am eu hawl i chwarae, mae Chwarae Cymru wedi datblygu cynllun, deunyddiau ac adnoddau gweithdy i gynorthwyo gyda hyrwyddo, cyfranogi ac eiriol dros yr hawl i chwarae’n lleol. Mae’r gweithdy wedi ei ddylunio ar gyfer gweithwyr chwarae, gweithwyr cyfranogaeth, gweithwyr ieuenctid a staff ysgol er mwyn ei hwyluso mewn ysgolion a lleoliadau strwythuredig eraill. Mae’r gweithdy’n canolbwyntio ar yr hawl i chwarae yn gyffredinol, yn hytrach nag yn yr ysgol yn benodol. Fodd bynnag, gallai cymryd rhan yn y gweithdy arwain at weld y plant yn dymuno canolbwyntio ar chwarae yn eu hysgol – ar draws y cwricwlwm, y gofod chwarae a chyfleoedd yn ystod amser chwarae a beth sy’n digwydd ar ôl ysgol. Elfen bwysig o’r gweithdy yw cyfranogaeth weithredol y plant a rhannu gwybodaeth gyda phlant eraill, athrawon a chymuned ehangach yr ysgol. Mae’r gweithdy hawl i chwarae’n cysylltu gyda nifer o agweddau o 12 Egwyddor Addysgegol Yr Athro Graham Donaldson, fel y dyfynnwyd yn ei adroddiad Dyfodol Llwyddiannus: • Annog dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain • Cefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a pherthnasau positif • Annog cydweithio • Hybu meddwl yn greadigol a beirniadol a datrys problemau • Adeiladu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol er mwyn denu diddordeb. Mae’r adnoddau hyn i gyd i’w cael ar: www.chwaraecymru.org.uk/cym/ysgolion
16 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2020
Y Dr Wendy Russell sy’n sôn wrthym am ymchwil newydd sy’n archwilio’r amodau sy’n cefnogi awdurdodau lleol i sicrhau cyfleoedd digonol i blant chwarae yng Nghymru. Cynhaliwyd ymchwil Ei gwneud hi’n bosibl i gyflawni digonolrwydd chwarae gan Mike Barclay, Ben Tawil a Charlotte Derry a finnau. Mae’n ehangu ar dair astudiaeth flaenorol, gan ganolbwyntio ar yr amodau sy’n cefnogi awdurdodau lleol i gymryd camau gweithredu er mwyn cefnogi cyfleoedd plant i chwarae. Caiff yr amodau hyn eu heffeithio gan ystod eang o ffactorau ac amgylchiadau – pobl, gwybodaeth, profiadau, perthnasau, polisïau a’u dehongliadau, ariannu, diwylliant sefydliadol, ymchwil, tirweddau ffisegol ac yn y blaen. Mae’r ymchwil yn amlygu’r cysylltiadau a’r cyfleoedd sydd o fewn y ffactorau a’r amgylchiadau hyn, ac mae’n cyflwyno enghreifftiau ac argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, Chwarae Cymru, awdurdodau lleol a’r gweithlu plant. Roedd yr astudiaeth yn cynnwys: • ymchwil wrth ddesg i ddynodi enghreifftiau rhyngwladol o bolisi ac ymarfer i gefnogi chwarae plant • grwpiau ffocws gyda thri awdurdod lleol (Caerdydd, Conwy a Sir Fynwy) i archwilio enghreifftiau o gamau gweithredu a gymerwyd a’r amodau wnaeth gefnogi’r camau hyn • gweithio gyda phanel o dystion arbenigol. Roedd y grwpiau ffocws yn cynnwys pobl sy’n gweithio ar lefelau strategol a throsglwyddo rheng flaen ar draws tri maes proffesiynol rhyngberthynol: • polisi, partneriaethau strategol ac eiriolaeth (yn cynnwys ymchwil a chyfnewid gwybodaeth) • yr amgylchedd adeiledig a naturiol • gwasanaethau plant a chymunedol. Mae’r adroddiad yn cynnwys 26 o gardiau adroddiad sy’n nodi enghreifftiau o gamau gweithredu a gymerwyd i gefnogi chwarae plant a’r amodau wnaeth gefnogi’r camau gweithredu hyn.
• gwybodaeth sy’n bodoli eisoes a gwybodaeth newydd, yn cynnwys ymchwil a ffyrdd i rannu gwybodaeth • bod yn agored i bosibiliadau (diwylliannau sefydliadol gyda’r hyblygrwydd i ymateb i gyfleoedd fydd yn codi).
Negeseuon allweddol o’r ymchwil
Mae’r amodau pennawd hyn yn tanategu 13 o argymhellion.
Mae ein canfyddiadau yn cyfeirio at bum amod pennawd all gefnogi awdurdodau lleol i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant: • cyfliniad polisi gyda’r Ddyletswydd Digonolrwydd Chwarae, a’i hybu’n lleol ac yn genedlaethol • y bobl gywir yn y man cywir ar yr adeg gywir gyda digon o awdurdod, capasiti, gallu a chysondeb • ffynhonnell benodedig, gyson o ariannu ar gyfer Digonolrwydd Chwarae
Polisi, eiriolaeth, cyfnewid gwybodaeth
Canfu’r ymchwil bod angen cydweddu polisïau’n well trwy gysylltiadau eglur gyda’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae mewn Deddfau, Mesurau ac offerynnau polisi eraill. O ystyried cryfder y dystiolaeth am gyfraniad chwarae tuag at iechyd a lles corfforol
Chwarae dros Gymru | Hydref 2020 | 17
a meddyliol, dylid cydnabod capasiti’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae i gyfrannu at yr agendâu hyn. Gall datblygu polisïau lleol penodol sy’n cydweddu gyda’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae helpu ymarferwyr i weithio mewn ffyrdd sy’n cefnogi chwarae plant.
Mae meysydd chwarae a pharciau penodedig yn rhan bwysig o fywydau chwarae plant. Cawsom hyd i nifer o enghreifftiau o agweddau mwy creadigol tuag at ddylunio ar gyfer chwarae plant, wedi eu cefnogi gan nifer cynyddol o adnoddau, yn cynnwys pecyn cymorth Chwarae Cymru – Dylunio a rheoli mannau chwarae.
Mae angen hefyd i hyrwyddo’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ei hun ar lefel leol a chenedlaethol.
Ar gyfartaledd, mae oddeutu traean o boblogaeth Cymru’n byw mewn ardaloedd gwledig (aneddiadau gyda phoblogaeth o dan 10,000), gyda’r ffigwr hwnnw’n llawer uwch mewn rhai ardaloedd. Telir llai o sylw i blentyndod gwledig na phlentyndod trefol.
Mae’r gofyniad statudol i weithio mewn partneriaeth ar draws feysydd proffesiynol yn elfen alluogi rymus. Roedd enghreifftiau llwyddiannus yn cynnwys unigolion ymroddedig oedd â’r ysgogiad, y brwdfrydedd, y profiad, y wybodaeth a’r awdurdod i symbylu, ysbrydoli a chynnal gweithio partneriaeth. Mae hyn yn awgrymu bod buddsoddiad effeithiol mewn Digonolrwydd Chwarae’n golygu sicrhau bod gan Arweinyddion Digonolrwydd Chwarae yr amser (o ran oriau a neilltuir a hyd yr amser a roddir i waith datblygu sicrhau canlyniadau), statws (cadarnhau’r swyddogaeth, yr awdurdod a’r ddawn i wneud penderfyniadau a dylanwadu ar lunwyr penderfyniadau) a chaniatâd (diwylliant sefydliadol o fod yn agored i arbrofi) i wneud hyn. Mae’r ymchwil yn amlygu pwysigrwydd gwaith sefydliadau eiriolaeth a seilwaith trydedd sector lleol a chenedlaethol. Ni ellir pwysleisio ddigon rôl ganolog Chwarae Cymru wrth helpu i greu a chynnal amodau i awdurdodau lleol drosglwyddo Digonolrwydd Chwarae. Caiff hyn ei gorffori ym mhrofiad, arbenigedd ac ymrwymiad y staff a pharodrwydd Llywodraeth Cymru i gydweithio gyda nhw. Mae cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant traws-broffesiynol, cymwysterau a ffurfiau eraill ar gyfenwid gwybodaeth wedi bod yn elfennau galluogol sylweddol o weithio partneriaeth effeithiol. Ym mhob un o’n tri awdurdod astudiaeth achos, arweiniodd ymchwil gyda’r plant at gamau gweithredu i gefnogi chwarae plant. Fe wnaeth hyn gynnwys defnyddio dulliau creadigol gyda’r plant i archwilio eu perthnasau gyda’u gofodau bob dydd, er enghraifft, creu mapiau, tynnu ffotograffau o leoliadau o bwys, mynd am dro, canolbwyntio ar feicro-fanylion cymdogaethau penodol iawn. Ceir digonedd o dystiolaeth o’r materion cyffredinol sy’n cefnogi neu’n cyfyngu ar chwarae plant – mae’r dulliau hyn yn helpu oedolion i dalu sylw i elfennau penodol y gofod hwn ar yr adeg benodol hon ar gyfer y plant hyn, gan alluogi ymatebion penodol.
Yr amgylchedd adeiledig a naturiol
Mae gallu plant i chwarae’r tu allan yn fater o gyfiawnder gofodol: mae trefniant cyfiawn o ofod cyhoeddus yn cefnogi hawl plant i chwarae. Mae corff cynyddol o ymchwil ac arfer sy’n cefnogi dinasoedd, dyluniad tai a strydoedd sy’n gyfeillgar at blant sy’n arddangos gwerth creu mynediad i ofodau cyfagos, diogel a chyfyngu ar draffig sy’n symud ac sy’n sefyll. Mae ymchwil ar ryddid plant i grwydro yn dangos dirywiad dros nifer o ddegawdau. Er hynny, os yw’r amodau’n iawn, mae dal yn well gan blant chwarae’r tu allan. Mae llawer o fentrau sy’n cefnogi rhyddid symudiad plant wedi eu cysylltu’n agos â rhai sy’n cefnogi teithio llesol.
Gwasanaethau plant a chymunedol
Ni ellir pwysleisio ddigon ddylanwad gwaith chwarae a chyfraniad gweithwyr chwarae ar ddatblygiad a gweithrediad y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn genedlaethol ac yn lleol. Mae’r bobl hynny sydd â chefndir neu swyddogaeth gwaith chwarae wastad wedi bod yn anogwyr neu’n alluogwyr ar gyfer camau gweithredu, gan dynnu pobl ynghyd, datblygu cydddoethineb, hwyluso a datblygu ymatebion i ymchwil gyda phlant, gan hyrwyddo gwerth Digonolrwydd Chwarae ar lefel genedlaethol a lleol. Mae iechyd a lles yn flaenllaw ym mholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion, sy’n cynnig synergeddau amlwg gyda’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Ceir nifer o enghreifftiau o wella amserau chwarae mewn ysgolion, ond llai o lwyddiant gydag ymdrechion i agor tiroedd ysgolion y tu allan i oriau dysgu. Mae potensial i weithwyr ieuenctid gyfrannu at sicrhau ^ cyfleoedd digonol i blant hy n ‘chwarae’ (hyd yn oed os na fyddant yn ei alw’n chwarae). Mae’r bwriad yn Strategaeth Gwaith Ieuenctid i Gymru i fapio darpariaeth gwaith ieuenctid, yn cynnwys darpariaeth drosiannol (dan 11 oed), yn cynnig cysylltiadau amlwg gydag asesiadau a chynlluniau gweithredu Digonolrwydd Chwarae. I gloi, mae diddordeb cynyddol yn y sector ddiwylliannol i ddeall a chefnogi chwarae plant mewn sefydliadau megis amgueddfeydd ac orielau ac ar safleoedd treftadaeth.
Argymhellion Mae’r adroddiad yn gwneud 13 o argymhellion ar gyfer camau gweithredu all gefnogi awdurdodau lleol i drosglwyddo ar y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Bydd nifer o’r rhain yn bwydo i mewn i waith Adolygiad y Gweinidog o Gyfleoedd Chwarae. Oherwydd diffyg lle ni ellir cynnwys y rhain yma, ond maent i gyd yn disgyn o dan yr amodau pennawd a restrwyd ar ddechrau’r erthygl hon. Mae crynodeb o’r adroddiad Ei gwneud hi’n bosibl i gyflawni digonolrwydd chwarae ar gael ar www.chwaraecymru.org.uk/cym/ymchwil a gellir gwneud cais am gopi o’r adroddiad llawn trwy e-bost at: gwybodaeth@chwaraecymru.org.uk
18 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2020
Digonolrwydd cyfleoedd
chwarae a rôl gweithwyr chwarae Archwilio rôl y proffesiwn gwaith chwarae wrth helpu i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer chwarae plant. Mae Llywodraeth Cymru’n diffinio gwaith chwarae fel ‘proffesiwn medrus iawn sy’n cyfoethogi ac yn gwella chwarae plant. Mae oedolion yn cefnogi plant wrth iddynt chwarae ond nid canlyniadau rhagnodedig o ran addysg neu ofal yw symbyliad y chwarae hwnnw’. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu’n benodol er cefnogi hawl plant i chwarae pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn 2012. Nod cyffredinol y Ddyletswydd yw ‘creu Cymru sy’n croesawu cyfleoedd chwarae a chynnig cyfleoedd ardderchog i’n plant chwarae’. Nid yw’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn ymwneud â gwaith chwarae’n unig na hyd yn oed ddarpariaeth chwarae. Mae’n ymwneud â meithrin amodau mwy ffafriol ar gyfer chwarae trwy bob agwedd o fywydau plant – sef, yn y pen draw, yr hyn y mae gwaith chwarae’n ymwneud ag e’ hefyd.
Rôl oedolion
Mae’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn gofyn i oedolion dalu mwy o sylw i’r materion sy’n effeithio ar fywydau plant ac i ystyried sut y gellid newid y ffyrdd y byddwn yn gwneud pethau er mwyn cefnogi eu hawl i chwarae’n well. O’r herwydd, mae’n codi cwestiynau am y ffyrdd y byddwn ni, fel cymdeithas, yn meddwl am blant a’u plentyndod, sut y byddwn yn cynllunio ar gyfer a dylunio ein cymdogaethau, addysgu a gofalu am ein plant, yr agwedd a fabwysiedir tuag at berthnasau oedolion-plant, yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl oddi wrth rieni a sut y byddwn yn darparu ar gyfer chwarae.
Yn y pen draw, mae gan oedolion gyfrifoldeb i’w gwneud hi’n haws i blant ganfod amser a lle i chwarae. Mae hyn yn cynnwys helpu oedolion eraill i deimlo’n hyderus wrth ganiatáu ac annog plant i chwarae. Fodd bynnag, mae hyn yn debyg o alw am newid sylweddol mewn diwylliant mewn cymdogaethau lleol, gan wella ymdeimlad pobl o gymuned a diogelwch, ac yn y sefydliadau y mae oedolion yn gweithio iddynt, gan eu galluogi i fabwysiadu agwedd mwy cefnogol ac ystyrlon tuag at chwarae plant. Bydd cyflawni a chynnal y newidiadau hyn yn galw am gyfranogiad llawer o bobl y tu hwnt i waith chwarae sy’n effeithio, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, ar gyfleoedd plant i chwarae. Mae’r rhain yn cynnwys rhieni a gofalwyr, trigolion eraill sy’n oedolion, gwleidyddion, llunwyr polisïau, a’r bobl hynny sydd â galwedigaethau ym meysydd fel cynllunio, tai, trafnidiaeth, diogelwch cymunedol, addysg, a gofal plant. Fodd bynnag, gweithwyr chwarae sy’n aml yn darparu’r sbardun grymus ac ymroddedig sydd ei angen hefyd i sicrhau’r newidiadau hyn ac sydd wrth galon rhwydwaith cynyddol o bobl sy’n gweithio i wella amodau ar gyfer chwarae.
Sut mae gweithwyr chwarae’n cefnogi digonolrwydd chwarae
Mae nifer o ffyrdd y gall gwaith chwarae gyfrannu ar lefel llywodraeth leol, gan weithio ar draws feysydd polisi, ac yn weithrediadol o fewn cymunedau lleol i feithrin amodau mwy ffafriol ar gyfer chwarae. Disgrifir y ddwy agwedd hyn o waith chwarae fel rhai ‘anuniongyrchol’ ac ‘uniongyrchol’, er enghraifft:
Gweithio anuniongyrchol (camau gweithredu a gymerir ‘yn dawel bach’, yn aml o fewn sefydliadau, sydd o fudd anuniongyrchol i chwarae plant trwy wella’r ffyrdd y bydd oedolion yn ei gefnogi) • Arwain ar gwblhau asesiadau digonolrwydd chwarae a rhoi cynlluniau gweithredu ar waith • Gwella polisïau a gweithdrefnau rheoli risg fel eu bod yn cefnogi yn hytrach na chyfyngu ar chwarae • Sicrhau ariannu ar gyfer darpariaeth chwarae, tystio i effaith ymyriadau chwarae yn erbyn deilliannau ariannu eraill • Dynodi a chreu perthnasau gydag oedolion all wneud gwahaniaeth mewn cymunedau lleol, gan eu hannog i weithredu er cefnogi chwarae • Datblygu partneriaethau gyda phobl mewn adrannau / sefydliadau eraill y mae eu gwaith yn effeithio ar chwarae plant • Darparu cyfleoedd datblygiad proffesiynol i wella ymatebion oedolion a’u cefnogaeth i chwarae • Eiriol dros hawl plant i chwarae ar lefel strategol
Chwarae dros Gymru | Hydref 2020 | 19
• Hwyluso ymchwil gyda phlant i gasglu eu barn ar eu cyfleoedd i chwarae • Dynodi grwpiau o blant neu gymunedau sy’n profi diffyg digonolrwydd chwarae a chymryd camau gweithredu i fynd i’r afael â hyn • Rhannu canfyddiadau gwaith ymchwil sy’n cynnwys plant gyda gwleidyddion a llunwyr polisïau • Trefnu digwyddiadau chwarae ar raddfa fawr a datblygu ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd i hybu hawl plant i chwarae • Gosod arwyddion a symbolau sy’n hybu ac annog yn hytrach na chyfyngu ar chwarae.
Gweithio uniongyrchol (camau gweithredu a gymerir gyda phlant, rhieni, gofalwyr a thrigolion eraill i greu cyfleoedd ar y cyd ar gyfer chwarae mewn cymunedau lleol) • Hwyluso sesiynau chwarae rheolaidd wedi eu staffio yn agos i gartrefi pobl, gan
•
•
•
•
•
• •
•
annog plant i chwarae allan gyda’i gilydd Cadw llygad ar y plant, ac o ganlyniad tawelu meddyliau a lleihau straen ar rieni Normaleiddio chwarae’r tu allan a sicrhau ei fod yn rhan o drefn feunyddiol pobl Bod yn bresenoldeb cyson, yn wyneb cyfeillgar, mewn cymunedau lleol Dod i adnabod a chael ein hadnabod gan y plant, y rhieni a thrigolion eraill Siarad gyda thrigolion sy’n oedolion am bwysigrwydd chwarae a’u hannog i ailfeddwl unrhyw ofnau neu bryderon allai fod ganddynt am neu ynghylch y plant Eiriol dros hawl plant i chwarae ar lefel leol Galluogi plant i gyfranogi mewn prosesau llunio penderfyniadau’n lleol sy’n effeithio ar eu cyfleoedd i chwarae, er enghraifft datblygiadau tai Dynodi a darparu cymorth ychwanegol i blant unigol sy’n profi rhwystrau eithriadol i gael mynediad i’w hawl i chwarae
Casgliad Yng nghyd-destun y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, efallai y gellid deall rôl gwaith chwarae orau fel agwedd sy’n canolbwyntio ar chwarae tuag at ddatblygu cymunedol ble mai mwy o chwarae, a’i holl fuddiannau cysylltiedig, fydd y deilliant pennaf. Mae gweithwyr chwarae’n gweithredu o fewn cymunedau, mudiadau trydedd sector ac ar draws llywodraeth leol gan weithio gyda phlant, gofalwyr, ymarferwyr, llunwyr polisïau a gwleidyddion i wella a gwarchod amodau ar gyfer chwarae. Trwy wneud hyn, mae gweithwyr chwarae’n cefnogi datblygiad agweddau positif tuag at blant, gan glustnodi cyfleoedd i ddatblygu a / neu adennill amser a lle ar gyfer chwarae, eiriol dros agwedd fwy chwareus tuag at weithio gydag ac ar ran plant a chanfuwyd eu bod yn gwneud i aelodau o’r gymuned deimlo’n fwy diogel wrth ganiatáu i’w plant fynd allan i chwarae. Mae gweithwyr chwarae’n gweithredu fel eiriolwyr ar ran plant, gan weithredu fel canolwyr rhwng
• Gweithio gyda phlant i greu mannau diddorol a chyffrous ble y gallant chwarae • Cymryd stryd breswyl trosodd am gyfnod byr, gan ganiatáu i chwarae plant gael blaenoriaeth dros symudiad cerbydau modur • Gadael tystiolaeth bod plant wedi bod yn chwarae (fel darn o sialc), gan helpu i gynyddu ymhellach natur weladwy plant ac atgoffa pobl i fod yn ystyriol o’u bodolaeth. Nid yw hon yn rhestr gyflawn o’r dyletswyddau a gyflawnir gan weithwyr chwarae o bell ffordd, ac nid yw ychwaith yn disgrifio’r arferion gweithio medrus iawn y bydd gweithwyr chwarae’n eu defnyddio wrth weithio’n uniongyrchol gyda phlant sy’n chwarae, ond mae’n dechrau arddangos ehangder y gwaith a ymgymerir gan y proffesiwn gwaith chwarae. Efallai y bydd gweithwyr chwarae unigol neu dimau o staff yn gyfrifol am y rolau anuniongyrchol ac uniongyrchol hyn neu efallai y’i cyflogir i ganolbwyntio ar un yn fwy na’r llall.
agendâu sy’n rhoi oedolion neu blant yn gyntaf er mwyn annog dosbarthiad tecach o adnoddau cymunedol. Ar adegau, gallai hyn olygu amddiffyn hawliau plant, cynrychioli eu barn ac atgoffa oedolion bod rhaid i blant hefyd gael mynediad i amser a lle yn y deyrnas gyhoeddus. Ble fo gweithwyr chwarae’n mabwysiadu’r math hwn o agwedd datblygu cymunedol, maent yn helpu i feithrin diwylliant o chwarae ble mae barn oedolion am chwarae’n agosach i farn y plant ac, o ganlyniad, ceir mwy o gefnogaeth i chwarae plant trwy ac ar draws cymunedau. Mae’r erthygl hon yn seiliedig ar ein taflen wybodaeth Dyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Cymru a rôl gweithwyr chwarae a ysgrifennwyd gan Ben Tawil a Mike Barclay, sydd ar gael ar: www.chwaraecymru.org.uk/cym/ cyhoeddiadau/taflennigwybodaeth
20 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2020
Datblygu’r gweithlu
Hyfforddiant a chymwysterau gwaith chwarae dysgu ar-lein Wrth i bethau ddod i stop ar draws y wlad ym mis Mawrth 2020 o ganlyniad i’r cyfnod clo cenedlaethol, fe ddechreuodd y rheini ohonom sy’n rhan o drosglwyddo cymwysterau feddwl sut y gellid symud dysgu gwaith chwarae ar-lein. Mae Chwarae Cymru wastad wedi osgoi trosglwyddo hyfforddiant gwaith chwarae ar-lein, gan ddewis yr ystafell ddosbarth ac amgylcheddau awyr agored fel ein hoff ddewis. Mae’r rheswm am hyn yn syml – bydd gweithwyr chwarae’n gweithio wyneb-ynwyneb gyda’r plant felly dylai eu hyfforddiant hwythau fod wynebyn-wyneb hefyd. Mae trosglwyddo cyrsiau’n uniongyrchol yn golygu bod dysgwyr yn dysgu oddi wrth ei gilydd a gall tiwtoriaid gwaith chwarae medrus helpu i archwilio meysydd amwys fydd yn codi wrth drafod agwedd gwaith chwarae – megis sut i gefnogi plant i gymryd risg heb iddynt ddod i niwed diangen, faint i ymyrryd (neu beidio) a sut y mae arfer yn amrywio ar draws gwahanol fathau o leoliadau. Fodd bynnag, golygodd y cyfnod clo os oedd dysgwyr oedd eisoes yn astudio ar gyfer cymwysterau i gwblhau eu cyrsiau y byddai angen inni weithio gyda’n partneriaid trosglwyddo i archwilio opsiynau newydd ar gyfer trosglwyddo cyrsiau. Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi gweithio’n galed gyda’n tîm cynyddol o diwtoriaid gwaith chwarae i edrych sut y gellir defnyddio llwyfannau cyfarfod ar-lein i drosglwyddo cyrsiau tra’n cynnal yr agwedd chwareus a chyfranogol sy’n nodwedd unigryw o’n cymwysterau. Helfeydd sborion, gemau corfforol, a thechnoleg ryngweithiol (fel
byrddau gwyn y gellir eu rhannu) yw ein harfau hyfforddi newydd, tra bo byrddau cegin ac ystafelloedd byw wedi troi’n ystafelloedd dosbarth. Rydym yn dal ond megis dechrau o ran yr hyn sy’n bosibl ond rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein dysgwyr yn dal i dderbyn profiad dynamig ac nad ydynt ond yn gorfod dioddef cyflwyniadau PowerPoint diddiwedd ar-lein. Fe ofynnom i Jane Hawkshaw, Swyddog Trosglwyddo’r Cwricwlwm gydag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales am ei safbwynt hi ar fuddiannau posibl dysgu cyfunol: ‘Rydym wedi gweld dysgwyr yn cael mwy o gyfleoedd i fyfyrio oherwydd yr amser sydd ganddynt i feddwl am ymarfer yn ystod, a rhwng y sesiynau ar-lein, ac yn enwedig oherwydd nad yw pobl wedi gallu eistedd i lawr a dala lan gyda’u timau yn ystod y cyfnod clo. Mae’r grwpiau llai o faint yn golygu hefyd bod pobl yn cael mwy o amser gyda’r tiwtor. Yn ogystal, rwy’n gyffrous i weld gymaint y mae’r dysgwyr yn gwerthfawrogi’r amser y maent yn ei gael gyda’i gilydd i ganolbwyntio’n wirioneddol a rhannu arfer pan maen nhw’n gallu dod at ei gilydd.’
Bellach, dysgir y cyrsiau gwaith chwarae gan ddefnyddio dull ‘dysgu cyfunol’. Bydd hyn yn cynnwys sesiynau byrrach, dwy i dair awr yr un, gaiff eu trosglwyddo ar-lein gyda disgwyl i ddysgwyr wneud mwy o ddysgu hunangyfeiriedig, darllen testunau perthnasol, gwylio fideos a rhyngweithio trwy sgyrsiau ar-lein. Caiff dysgwyr eu cefnogi i gymryd rhan mewn trafodaethau a dadleuon ar-lein yn union fel y byddent yn yr ystafell ddosbarth, wedi eu hwyluso gan ein tiwtoriaid arbenigol. Hefyd, yn unol â’r canllawiau ar gyfyngiadau cyfredol, rydym yn archwilio dod â dysgwyr at ei gilydd mewn person i gyfranogi mewn dysg gyda’i gilydd. Gallai hyn fod y tu allan ac, yn hwyrach yn y flwyddyn academaidd, hyd yn oed mewn ystafelloedd dosbarth tra’n glynu at ofynion ymbellhau cymdeithasol. Fel nifer o bethau sydd wedi codi o’n profiadau’n ystod y cyfnod clo, mae hyn yn cael ei ystyried yn addasiad positif a thra bo budd mawr yn dal i gael o ddysgwyr yn dod at ei gilydd mewn person, mae llu o fuddiannau i’r dull dysgu cyfunol hefyd. Rydym yn gyffrous i ddal i archwilio hyn yn ystod y flwyddyn academaidd newydd gyda’n partneriaid trosglwyddo Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales a Chlybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. www.chwaraecymru.org.uk/cym/ cymwysterau
Chwarae dros Gymru | Hydref 2020 | 21
Dan y chwyddwydr ...
Tiwtor Gwaith Chwarae yn trosglwyddo dysgu cyfunol a dysgu ar-lein Ym mhob rhifyn byddwn yn siarad gyda gweithiwr proffesiynol o fyd chwarae a gwaith chwarae er mwyn cyflwyno cipolwg ar yr amrywiol rolau sy’n ffurfio’r gweithlu a’r gwahanol swyddi sydd ar gael. Ar gyfer y rhifyn hwn, fe siaradom gyda Matthew Jenkins, tiwtor gwaith chwarae gydag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales. Alli di ddweud ychydig wrthym am dy hun a sut gychwynnaist ti ym maes gwaith chwarae?
Beth wyt ti’n credu sy’n unigryw neu’n gyffrous am ddefnyddio dysgu ar-lein a dysgu cyfunol?
Rydw i wedi newid fy swydd dipyn o weithiau dros y blynyddoedd, gan ddechrau fel hyfforddwr gweithgareddau anturus (dwi’n dal i wneud hynny weithiau). Roeddwn i’n gweithio mewn ysgol anghenion addysgol arbennig (AAA) pan hysbysebodd yr awdurdod lleol am weithwyr chwarae ac fe ymgeisiais am swydd dros yr haf. Fe gyrhaeddais i’r cyfweliad yn hwyr ac wedi colli fy ngwynt, wedi rhedeg yno ar ddiwedd y diwrnod ysgol, ond mae’n rhaid imi ddweud digon o’r pethau cywir i gychwyn ym maes gwaith chwarae!
Fe wnes i recordio rhywfaint o ddarlithoedd ymlaen llaw, olygodd y bu rhaid imi ddysgu technegau ffilmio newydd, a threulio llawer o amser yn dysgu sut i olygu a chynnwys clipiau fideo, cerddoriaeth a negeseuon y gwnes i ei fwynhau.
Beth yw teitl dy swydd a beth mae dy rôl yn ei olygu? Rwy’n diwtor ble bydda i’n trosglwyddo cyrsiau gwaith chwarae a chyrsiau ymwybyddiaeth awtistiaeth mewn lleoliadau cymunedol. Fel arfer, fe fyddwn i’n teithio i’r ardal ble mae’r cwrs wedi ei drefnu, i ddysgu.
Beth yw’r peth gorau am dy swydd? Y datrys problemau. Wyddoch chi fyth sut y bydd grwp yn ymateb i bwnc ac rwy’n hoffi gorfod tynnu ar brofiadau a ^ straeon sy’n gwneud i’r pwnc ffitio’r grwp. Yn ogystal, mae problemau logistaidd pan fydda i’n ymweld â chanolfannau cymunedol dieithr. ^
Mae gorfod defnyddio’r cwrt sboncen pan gollodd y ganolfan fy archeb yn enghraifft berffaith, gyda cherddoriaeth yn dyrnu o’r dosbarth dawnsio i gadw’n heini y drws nesaf!
Sut mae dy rôl wedi newid o ganlyniad i Covid-19?
Beth wyt ti’n ei feddwl sy’n heriol am dy swydd?
Fel nifer o ddiwydiannau, fe gafodd gwaith ei ganslo neu ei ohirio. Pan ddaeth yn bosibl inni ddysgu, roedd rhaid imi ^ addasu i ddefnyddio galwad grwp ar-lein i drosglwyddo darlithoedd. Roedd llawer o’r dulliau’r un fath ag yn y dosbarth, dim ond bod mwy o lawer o gathod yn ymddangos ar y sgrîn!
Bydd pobl yn ymuno â Dysgu Oedolion yn ystod eu hamser eu hunain, hyd yn oed pan mae’r cyflogwr yn galw amdano. Mae hyn yn golygu bod bywydau prysur yn mynd yn y ffordd a gall fod yn heriol i gadw sylw pawb. Yn ffodus, mae gwaith chwarae’n denu pobl sy’n frwdfrydig a hwyliog beth bynnag, ac mae hyn yn helpu i gadw cyrsiau’n ddiddorol tra bo’r tîm tiwtoriaid yn dal i herio eu hunain i roi tro ar ffyrdd newydd a chyffrous i drosglwyddo’r cymwysterau.
Ond fe fu raid imi weithio ar rywfaint o dechnegau newydd, ac ymgyfarwyddo llawer mwy gyda chyfrifiaduron ac arfau ar-lein – a delio gyda’r panic pan beidiodd y gliniadur weithio bum munud cyn un o’r sesiynau!
Agored Cymru – Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwaith Chwarae: Egwyddorion ar Waith Mae’r cyfnod clo wedi arwain at oedi cyn cyflwyno ein cymwysterau Gwaith Chwarae: Egwyddorion ar Waith (P3) newydd, ond yn awr rydym yn gyffrous i allu cynnig y cwrs Tystysgrif Lefel 2 P3 cyntaf yn Wrecsam ar gyfer carfan o ddysgwyr sydd eisoes wedi cwblhau’r Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae (L2APP). Yn unol â’r arddull dysgu cyfunol newydd, bydd dysgwyr yn cwblhau’r cwrs gan ddefnyddio cyfuniad o addysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb. Rydym yn hynod o gyffrous ynghylch yr uned gwaith chwarae ymarferol
newydd fydd yn trosglwyddo sgiliau ymarferol i ddysgwyr mewn gwaith rhaff, strwythurau syml a defnyddio tân gyda ffocws sylfaenol ar asesu risg-budd dynamig. Mae’r uned hon yn un dda i’w throsglwyddo’r tu allan felly, cyn belled a bo’r cyfyngiadau’n caniatáu, bydd hwn yn gyfle gwerthfawr i ddysgwyr ddod ynghyd, cwrdd a rhannu profiadau a derbyn cymorth ymarferol oddi wrth eu tiwtor. Cefnogir y cymwysterau P3 gan adnoddau dysgu diwygiedig sy’n cynnig trosolwg trylwyr o agweddau damcaniaethol gwaith chwarae i
ategu’r hyn sydd wedi ei ddysgu mewn sesiynau yn y dosbarth. Ceir hefyd unedau ‘asesu holistig’ newydd gan Agored Cymru sy’n fwy addas ar gyfer asesu dysgu ymarferol a P3 yw un o’r cyrsiau cyntaf i gael ei gynnig sy’n defnyddio’r agwedd newydd hon. Bydd modd i ddysgwyr sydd wedi llwyddo i gwblhau L2APP a Thystysgrif Lefel 2 P3 symud ymlaen i Ddiploma Lefel 3 P3 sydd wedi ei anelu at reolwyr ac uwch-weithwyr chwarae. www.chwaraecymru.org.uk/cym/ cymwysterau
22 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2020
^ Gwneud sw n mawr dros chwarae – Diwrnod Chwarae 2020 Cynhaliwyd Diwrnod Chwarae – y diwrnod cenedlaethol dros chwarae – ar 5 Awst. Er nad oedd modd cynnal digwyddiadau cymunedol ar raddfa fawr eleni, fe gefnogodd timau a sefydliadau chwarae ar draws Cymru blant, teuluoedd a chymunedau i ddathlu yr hawl i chwarae. Fe ymgysylltodd mudiadau gyda chynulleidfaoedd trwy ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol, cynnal diwrnod llawn o weithgarwch ar-lein, cynnal gorymdaith gydag ymbellhau cymdeithasol, cau strydoedd ar gyfer chwarae, dosbarthu pecynnau o adnoddau chwarae ac, yn gyffredinol, wneud sw^ n mawr dros chwarae! ‘Fe ges i hwyl yn gwneud sw^ n mawr dros chwarae yn y cynllun chwarae. Mae chwarae’n bwysig oherwydd mae’n ein cadw’n brysur ac yn dawel.’ Jake, 8 oed
d gyda ‘Dwi wrth fy mod fawr. fy mocs, diolch yn nllun cy r Dwi wir yn colli’ a dwi’n a chwarae yr haf ym r i gyd.’ methu’r gweithwy Lexi, 8 oed
‘Roedd yn hw yl bod allan g yda ffrindiau a myn d ar y go-kart. ’ Olivia ‘Roedd yn bra f i bawb fod al lan ar y stryd oherwyd d dydyn nhw ddim fel arfer.’ Mam O livia
Meddai Aled, 10 oed: ‘Roedd yn hwyl gwneud y ffilmiau a bod ynddyn nhw, fe wnes i fwynhau gwylio’r ffilmiau eraill hefyd.’ Meddai Catrin, 7 oed: ‘Fe wnes i fwynhau gwneud y pethau hwyliog i gyd a bod yn youtuber!’
‘Mae hwn yn edrych yn lot o hwyl, diolch yn fawr, rydan ni wedi rhedeg allan o bapur a phaent adref.’ Holly, 10 oed
‘Dwi’n gallu b od allan gyda phlant eraill a chwarae gyda phawb. Roed den ni’n gallu gwneud llawer mwy ar y stryd.’ Geraint
‘Fe gafon ni amser gwych yn gweiddi a sgrechian gyda’r offerynnau cerdd yr oedden ni wedi eu creu – rydyn ni wrth ein bodd yn chwarae!’ Daniel, 4 oed a Lucy, 10 oed
Am fwy o enghreifftiau o gymunedau chwareus yng Nghymru, ymwelwch â: www.plentyndodchwareus.cymru/am-gymunedau-chwareus