![](https://assets.isu.pub/document-structure/201104085746-5cdaeb7a18e857e2e5ec19ba50d4c646/v1/57349aeca71e608c768f7a2b60846896.jpg?width=720&quality=85%2C50)
1 minute read
Cymuned chwareus
Cynhaliwyd Diwrnod Chwarae – y diwrnod cenedlaethol dros chwarae – ar 5 Awst. Er nad oedd modd cynnal digwyddiadau cymunedol ar raddfa fawr eleni, fe gefnogodd timau a sefydliadau chwarae ar draws Cymru blant, teuluoedd a chymunedau i ddathlu yr hawl i chwarae. Fe ymgysylltodd mudiadau gyda chynulleidfaoedd trwy ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol, cynnal diwrnod llawn o weithgarwch ar-lein, cynnal gorymdaith gydag ymbellhau cymdeithasol, cau strydoedd ar gyfer chwarae, dosbarthu pecynnau o adnoddau chwarae ac, yn gyffredinol, wneud sw ^ n mawr dros chwarae!
Advertisement
![](https://assets.isu.pub/document-structure/201104085746-5cdaeb7a18e857e2e5ec19ba50d4c646/v1/a957e6435a30793522d4195a6c15814d.jpg?width=720&quality=85%2C50)
‘Fe ges i hwyl yn gwneud sw ^ n mawr dros chwarae yn y cynllun chwarae. Mae chwarae’n bwysig oherwydd mae’n ein cadw’n brysur ac yn dawel.’ Jake, 8 oed
![](https://assets.isu.pub/document-structure/201104085746-5cdaeb7a18e857e2e5ec19ba50d4c646/v1/6b6b4df861bdd273f78bef9c25022eac.jpg?width=720&quality=85%2C50)
‘Dwi wrth fy modd gyda fy mocs, diolch yn fawr. Dwi wir yn colli’r cynllun chwarae yr haf yma a dwi’n methu’r gweithwyr i gyd.’ Lexi, 8 oed
‘Roedd yn hwyl bod allan gyda ffrindiau a mynd ar y go-kart.’ Olivia ‘Roedd yn braf i bawb fod allan ar y stryd oherwydd dydyn nhw ddim fel arfer.’ Mam Olivia
![](https://assets.isu.pub/document-structure/201104085746-5cdaeb7a18e857e2e5ec19ba50d4c646/v1/38b1aaa08aca4abc10236b105de25c52.jpg?width=720&quality=85%2C50)
![](https://assets.isu.pub/document-structure/201104085746-5cdaeb7a18e857e2e5ec19ba50d4c646/v1/05a1f92d681c3657ae1b3a055b19d4f7.jpg?width=720&quality=85%2C50)
![](https://assets.isu.pub/document-structure/201104085746-5cdaeb7a18e857e2e5ec19ba50d4c646/v1/206f5e62a1747444d09a855d74046d65.jpg?width=720&quality=85%2C50)
‘Mae hwn yn edrych yn lot o hwyl, diolch yn fawr, rydan ni wedi rhedeg allan o bapur a phaent adref.’ Holly, 10 oed
Meddai Aled, 10 oed: ‘Roedd yn hwyl gwneud y ffilmiau a bod ynddyn nhw, fe wnes i fwynhau gwylio’r ffilmiau eraill hefyd.’ Meddai Catrin, 7 oed: ‘Fe wnes i fwynhau gwneud y pethau hwyliog i gyd a bod yn youtuber!’
![](https://assets.isu.pub/document-structure/201104085746-5cdaeb7a18e857e2e5ec19ba50d4c646/v1/7fb856c85bb124f951195da53d58e0a1.jpg?width=720&quality=85%2C50)
‘Dwi’n gallu bod allan gyda phlant eraill a chwarae gyda phawb. Roedden ni’n gallu gwneud llawer mwy ar y stryd.’ Geraint
![](https://assets.isu.pub/document-structure/201104085746-5cdaeb7a18e857e2e5ec19ba50d4c646/v1/f73fb07ee9c45f2957f45ee183808a36.jpg?width=720&quality=85%2C50)
‘Fe gafon ni amser gwych yn gweiddi a sgrechian gyda’r offerynnau cerdd yr oedden ni wedi eu creu – rydyn ni wrth ein bodd yn chwarae!’ Daniel, 4 oed a Lucy, 10 oed