5 minute read
Chwarae allan ac o gwmpas
ac o gwmpas
Arweiniodd y pandemig coronafeirws at gyfyngiadau ac ansicrwydd annisgwyl na welwyd eu tebyg o’r blaen, ond roedd yr angen a’r awydd i gefnogi chwarae plant cyn bwysiced ag erioed.
Advertisement
O syniadau chwareus ar gyfer bod y tu allan i ddarpariaeth awyr agored wedi ei staffio, mae mudiadau a thimau chwarae ledled Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod gan blant bresenoldeb chwareus a chyfleoedd i chwarae yn eu cymdogaethau.
Gadael ôl
Yn ystod dyddiau cynnar y cyfnod clo cenedlaethol, teimlodd Tîm Datblygu Chwarae Conwy ei bod hi’n bwysig i blant ‘adael eu hôl’ pan oeddent allan ar gyfer eu gweithgaredd awyr agored dyddiol. Gan ddefnyddio tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu syniadau, cynyddodd nifer y marciau gyda hysbysiadau am heriau yn cael eu gadael allan ar gyfer y plant – wedi eu hysgrifennu mewn sialc neu eu gosod ar bolion lampau. Mewn un pentref yng Nghonwy trefnwyd cliwiau a helfeydd trysor er mwyn i deuluoedd ymuno yn yr hwyl. Roedd y tîm yn teimlo ei fod yn gyfle gwych i bobl fod allan ac o gwmpas yn eu cymdogaethau ac i ddysgu am y plant a’r plant yn eu harddegau sydd yno. Gobaith y tîm oedd y gallai gweld olion presenoldeb y plant, y mannau y maent yn mynd iddynt a’r llwybrau y maent yn eu defnyddio, weithredu fel ffordd i atgoffa pobl bod cymunedau yn cael eu rhannu gan oedolion a phlant. Gadawodd nifer o oedolion sylwadau a negeseuon yn dweud sut yr oedd y marciau syml a adawyd gan y plant wedi eu helpu i ganfod gobaith a llawenydd yn eu cymuned.
Derbyniodd y tîm adborth brwd. Meddai un rhiant:
‘Roedd yn gysur i fy mhlant bod plant eraill yn dal o gwmpas ac fe roddodd obaith iddyn nhw yn ogystal â llawer o giwiau ar gyfer eu chwarae pan oedden ni allan am dro. Roedd yn eu helpu i deimlo cysylltiad gyda’u cyfoedion. Am ychydig ddyddiau fe gawsom ni “frwydr llwybr sticeri” gyda theulu arall yn y coed; welon ni monyn nhw erioed ond bron bob dydd roedd y plant mor gyffrous i fynd i chwilio ble roedd y sticeri wedi cyrraedd y diwrnod hwnnw.’
Teithiau cerdded â thema
Yn ystod wythnosau cyntaf y cyfnod clo cenedlaethol doedd teuluoedd, heblaw am deithiau allweddol, ond yn cael mynd allan unwaith y dydd i ymarfer corff. Sylweddolodd Tîm Cymorth Chwarae ac Ieuenctid Wrecsam yn fuan iawn mai’r ymarfer corff dyddiol hwn fyddai’r unig gyfle i blant adael y ty ^ bob dydd.
Gan gydnabod y cyfyngiadau oedd ar ofod plant i chwarae ar y pryd, roedd yn bwysig i’r tîm y gallai plant, pan oeddent yn cael caniatâd i fynd allan, brofi a dod ar draws cyfleoedd i fod yn chwareus.
Datblygodd y tîm gyfres o deithiau cerdded â thema a’u cyhoeddi unwaith yr wythnos, er mwyn i deuluoedd roi chwistrelliad chwareus i’w hymarfer corff dyddiol a rhoi ffocws chwareus i’w diwrnod. Rhoddwyd thema i bob taith gerdded fel y gofod, helfa dinosoriaid neu eirth, a chynnwys casgliad o awgrymiadau chwareus ar draws tri maes – cyn gadael y ty ^ , yn ystod y daith gerdded, ac wedi cyrraedd adref. Er enghraifft:
Creu helmed gofodwr o jync (cyn)
Teithio mor gyflym â golau (yn ystod)
Tynnu llun o’r holl blanedau y gwnaethoch ymweld â nhw (ar ôl).
Fe wnaeth darparu syniadau chwareus ar gyfer cyn ac ar ôl y daith gerdded roi cyfle i’r plant greu naratif ehangach o amgylch eu hymarfer corff dyddiol. Bu’r adborth oddi wrth deuluoedd yn hynod o bositif:
‘Mae’r teithiau cerdded wedi rhoi llwyth o syniadau i fi a fy mhlant a gwneud teithiau cerdded digon diflas yn fwy pleserus’.
Hwyl haf
Er gwaethaf yr ansicrwydd a’r cyfyngiadau, llwyddodd Menter Caerdydd a Menter Bro Morgannwg gynnig eu cynlluniau Bwrlwm – sesiynau chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg mewn parciau ar hyd a lled Caerdydd a Bro Morgannwg dros wyliau haf yr ysgol. Cynigiodd y mudiadau sesiynau chwarae am wyth diwrnod mewn saith lleoliad gwahanol, gyda chwe sesiwn y dydd yn derbyn 30 o blant.
Ym mhob lleoliad, roedd y plant yn cael eu hannog i gymdeithasu yn Gymraeg tra’n mwynhau chwarae’r tu allan. Paratowyd nifer o weithgareddau creadigol a chorfforol, ac roedd rhyddid hefyd i’r plant chwarae fel y mynnant mewn amgylchedd diogel. Tra’n glynu at ganllawiau Llywodraeth Cymru, roedd y gwasanaeth a ddarparwyd yn hanfodol ar gyfer plant a rhieni yng Nghaerdydd a’r Fro. Derbyniwyd adborth gwych ar y cynllun dros yr haf:
‘Gwasanaeth cwbl wych, cafodd fy merch gyfle i gwrdd â’i ffrindiau a’i hannog i ddefnyddio ei Chymraeg.’
Dywedodd Menter Caerdydd a Menter Bro Morgannwg:
‘Allwn ni ddim aros tan hanner tymor yr Hydref er mwyn inni allu darparu’r gwasanaeth hwn unwaith eto! Diolch o galon am y gefnogaeth ariannol ac ymarferol gwerthfawr a dderbyniwyd oddi wrth staff Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn ogystal â’r arweiniad oddi wrth Chwarae Cymru’.
Mae gan Gyngor Sir Y Fflint draddodiad cryf a balch o gynnig rhaglen cynlluniau chwarae haf trwy’r sir gyfan ac wrth i’r cyfyngiadau coronafeirws ddechrau cael eu llacio, roedd awydd i ddarparu cynlluniau chwarae’n ystod haf 2020. Gwahoddwyd Cynghorau Tref a Chymuned i gyfranogi a chefnogi darpariaeth ar gyfer pob plentyn rhwng 5 a 12 oed yn Sir y Fflint dros bythefnos olaf gwyliau’r haf.
Darparwyd gwybodaeth glir i rieni a phartneriaid am drosglwyddiad diogel cynlluniau chwarae haf er mwyn cydymffurfio â rheoliadau oedd yn gysylltiedig â Covid-19. Er mwyn cydymffurfio â’r canllawiau iechyd cyhoeddus, cafodd y 55 cynllun eu cynnal y tu allan mewn safleoedd agored.
Roedd lefel y cyfathrebu oedd yn angenrheidiol ar gyfer 2020 yn golygu bod y Tîm Datblygu Chwarae wedi ymgysylltu gyda theuluoedd ar lefel sydd heb ei gweld o’r blaen, arweiniodd at weld 1,865 o blant yn cael eu cofrestru ar gyfer y cynllun. Mae’r ddarpariaeth wedi cael effaith trawiadol ar blant a theuluoedd.
‘Diolch yn fawr i’ch tîm a’ch staff wnaeth alluogi fy mhlentyn, sy’n saith oed, i gymryd rhan mewn gweithgareddau’n ystod y pandemig byd-eang. Tra cafodd y pandemig effaith trawmatig ar ein bywydau, mae wedi fy ngalluogi i weithio mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys o adref. Mae fy mab wedi ei chael hi’n anodd, fel plentyn i weithiwr allweddol, gorfod mynychu’r Ysgol Hwb ac yna bod yn amyneddgar tra roeddwn i’n gweithio o adref. Roedd cael y cynllun chwarae’n golygu y gallai gael hwyl, cael amser i’w hun, cwrdd â phobl newydd a llosgi peth o’i egni. Roedd y trefniadau’n wych ac roeddwn i’n teimlo’n ddiogel yn gadael fy mhlentyn gyda’r tîm. Mae wedi adennill ei hyder, ac roedd mor gyffrous i fynychu bob dydd. Mae’r sesiynau’n therapiwtig, maen nhw’n annog twf ac i’r plentyn ddatblygu!’