Chwarae dros Gymru Hydref 2020 (rhifyn 56)

Page 10

10 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2020

ac o gwmpas Arweiniodd y pandemig coronafeirws at gyfyngiadau ac ansicrwydd annisgwyl na welwyd eu tebyg o’r blaen, ond roedd yr angen a’r awydd i gefnogi chwarae plant cyn bwysiced ag erioed.

O syniadau chwareus ar gyfer bod y tu allan i ddarpariaeth awyr agored wedi ei staffio, mae mudiadau a thimau chwarae ledled Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod gan blant bresenoldeb chwareus a chyfleoedd i chwarae yn eu cymdogaethau.

Gadael ôl

Yn ystod dyddiau cynnar y cyfnod clo cenedlaethol, teimlodd Tîm Datblygu Chwarae Conwy ei bod hi’n bwysig i blant ‘adael eu hôl’ pan oeddent allan ar gyfer eu gweithgaredd awyr agored dyddiol. Gan ddefnyddio tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu syniadau, cynyddodd nifer y marciau gyda hysbysiadau am heriau yn cael eu gadael allan ar gyfer y plant – wedi eu hysgrifennu mewn sialc neu eu gosod ar bolion lampau. Mewn un pentref yng Nghonwy trefnwyd cliwiau a helfeydd trysor er mwyn i deuluoedd ymuno yn yr hwyl. Roedd y tîm yn teimlo ei fod yn gyfle gwych i bobl fod allan ac o gwmpas yn eu cymdogaethau ac i ddysgu am y plant a’r plant yn eu harddegau sydd yno. Gobaith y tîm oedd y gallai gweld olion presenoldeb y plant, y mannau y maent yn mynd

iddynt a’r llwybrau y maent yn eu defnyddio, weithredu fel ffordd i atgoffa pobl bod cymunedau yn cael eu rhannu gan oedolion a phlant. Gadawodd nifer o oedolion sylwadau a negeseuon yn dweud sut yr oedd y marciau syml a adawyd gan y plant wedi eu helpu i ganfod gobaith a llawenydd yn eu cymuned. Derbyniodd y tîm adborth brwd. Meddai un rhiant: ‘Roedd yn gysur i fy mhlant bod plant eraill yn dal o gwmpas ac fe roddodd obaith iddyn nhw yn ogystal â llawer o giwiau ar gyfer eu chwarae pan oedden ni allan am dro. Roedd yn eu helpu i deimlo cysylltiad gyda’u cyfoedion. Am ychydig ddyddiau fe gawsom ni “frwydr llwybr sticeri” gyda theulu arall yn y coed; welon ni monyn nhw erioed ond bron bob dydd roedd y plant mor gyffrous i fynd i chwilio ble roedd y sticeri wedi cyrraedd y diwrnod hwnnw.’


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.