Chwarae dros Gymru Hydref 2020 (rhifyn 56)

Page 14

14 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2020

Amserau chwarae digonol mewn ysgolion Yn ystod y cyfnod clo ac yna wrth i gyfyngiadau cenedlaethol gael eu llacio, bu galw ar i ysgolion flaenoriaethu chwarae fel rhan o’r broses adfer a phontio’n ôl i addysg ffurfiol. Anogodd eiriolwyr dros hawliau plant i’r ffocws fod ar chwarae ac iechyd meddwl, yn hytrach na dal i fyny gyda’r cwricwlwm. Mae Chwarae Cymru wedi cynhyrchu nifer o adnoddau i gefnogi ysgolion i fod mor chwareus â phosibl.

Arweiniad i ysgolion

Mae cyfleoedd plant i chwarae ym mhob lleoliad yn dibynnu ar ystod eang o faterion, gaiff eu trefnu o dan dri phennawd: • Caniatâd: ofn, disgwyliadau, goddefgarwch, a’r modd y mae oedolion yn ystyried plentyndod a chwarae • Lle: maint, dyluniad a rheolaeth y gofod • Amser: sut caiff amser ei strwythuro a’r oblygiadau sydd ar amser y plant. Yn haf 2019, cyhoeddodd Estyn yr adroddiad Iach a hapus – effaith yr ysgol ar iechyd a llesiant disgyblion, a werthusodd pa mor dda y mae ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru yn cefnogi iechyd a lles eu disgyblion. Fe nododd bwysigrwydd amser chwarae ac amser egwyl yn yr ysgol. Pwysleisiodd yr adroddiad bod ysgolion sy’n mabwysiadu agwedd ysgol gyfan tuag at gefnogi iechyd a lles yn darparu amgylchedd, cyfleusterau a lle i chwarae, cymdeithasu ac ymlacio’n ystod amser egwyl. Mae’n mynegi pryderon pan fydd ysgolion ddim yn darparu’r rhain, neu’n methu eu darparu – bod disgyblion yn llai corfforol egnïol ac y gallant ei chael yn anodd ymlacio’n ystod amser chwarae, sy’n effeithio ar eu lles. Tua’r un pryd, nododd Chwarae Cymru gynnydd mewn rhieni’n cysylltu gyda phryderon am gwtogi’r diwrnod ysgol oedd yn arwain at lai o amser chwarae, a hefyd, dynnu amser chwarae’n ôl fel rhan o bolisi rheoli ymddygiad. Oherwydd y pryderon hyn, y cynnydd mewn ymholiadau ac mewn ymateb i adroddiad Estyn, fe wnaethom gyhoeddi Ysgol chwarae-gyfeillgar – Canllaw ar gyfer agwedd ysgol gyfan er mwyn i blant allu mwynhau amserau chwarae digonol fel rhan o’u diwrnod ysgol. Mae canllaw Chwarae Cymru yn darparu gwybodaeth sy’n ymwneud â pholisi ac arfer i helpu cymunedau ysgolion i fabwysiadu agwedd ysgol gyfan i gefnogi hawl plant i chwarae, gan ddelio gyda thri amod caniatâd, lle ac amser i chwarae. Wedi ei ddylunio i gyfoethogi’r gwaith da sy’n cael ei wneud eisoes i ddarparu gwell cyfleoedd chwarae mewn ysgolion, mae’n anelu i wneud amser pawb yn yr ysgol yn hapusach ac iachach. Caiff y canllaw ei grynhoi mewn 15 cam tuag at ysgol chwarae-gyfeillgar ac mae’n darparu arfau ar gyfer gweithredu’r rhain.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.