3 minute read
CAMAU CYNTAF – EU TYWYS AR EU TAITH
Mae cymryd y camau cyntaf i Addysg Uwch yn gallu bod yn gyfnod cyffrous ond brawychus hefyd. Mae’n syniad da cymryd cam yn ôl ac ystyried beth yw’r pethau pwysicaf. Mae’n bosibl bod gennych brofiad o fywyd prifysgol eich hun, neu efallai ei fod yn rhywbeth hollol newydd i chi. Efallai eich bod yn ystyried gwneud cais eich hun. P’un a ydych wedi gwneud gradd ai peidio, mae’r sector AU yn newid yn barhaus, ac efallai y gwelwch fod pethau’n wahanol iawn yn awr.
Gyda dros 50,000 o gyrsiau i ddewis ohonynt yn y Deyrnas Unedig, mae dewis y cwrs cywir i’w astudio yn gallu bod yn benderfyniad anodd ond pwysig iawn. Rhowch gymorth iddynt ganfod beth yw eu diddordebau oherwydd byddant yn astudio eu pwnc am gryn amser.
Efallai bod ganddyn nhw yrfa mewn golwg eisoes, ac os felly, helpwch nhw i ddarganfod a oes angen gradd benodol i ymuno â’r maes gwaith hwnnw.
Oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn mwy nag un pwnc? Ystyriwch radd gydanrhydedd. Bydd hyn yn caniatáu iddynt astudio dau gwrs ochr yn ochr - heb ddwbl y llwyth gwaith. Bydd ymchwilio i gynnwys cyrsiau yn eu helpu i wneud y dewis cywir. Er y gall rhaglenni fod â’r un teitl, nid yw hynny’n golygu bod y meysydd a’r pwyslais yr un fath. Mae gwybodaeth am gynnwys y rhaglenni ar gael ym mhrosbectws y brifysgol, ar ei gwefan a thrwy gysylltu â’r brifysgol.
Gall dulliau addysgu ac asesu amrywio o un brifysgol i’r llall, ac o gwrs i gwrs. Mae’n fuddiol gofyn am wybodaeth am ddarlithoedd a dosbarthiadau tiwtorial. A fydd cefnogaeth un-i-un ar gael? A yw popeth yn ddibynnol ar ganlyniadau’r arholiadau terfynol?
Helpwch nhw wrth iddynt ddewis eu cwrs drwy ofyn y cwestiynau canlynol:
Pa bynciau wyt ti’n eu mwynhau yn yr ysgol/ coleg? Beth yw dy ddiddordebau? Oes gen ti yrfa mewn golwg? Wyt ti am barhau ag un o dy bynciau cyfredol neu am ddysgu rhywbeth hollol newydd? Pa arddull dysgu sy’n gweithio orau i ti? Wyt ti’n berson academaidd neu ymarferol?
Lleoliad
Yn dibynnu ar y cwrs y byddant yn dewis ei ddilyn, efallai y bydd angen i’ch plentyn symud yn bell i ffwrdd felly mae’n bwysig ymweld â’r brifysgol o flaen llaw er mwyn sicrhau bod y lleoliad yn addas iddyn nhw. A fyddent yn ffynnu mewn dinas fawr neu’n ymgartrefu’n well mewn tref llai o faint? A fyddant yn gallu mynd â char? A yw cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da yn ffactor allweddol iddynt? Mae campysau prifysgol yn amrywio o ran maint a chynllun. Mae llety, ystafelloedd dosbarth a llyfrgelloedd rhai prifysgolion wedi’u gwasgaru o amgylch y ddinas tra bydd gan brifysgolion eraill bopeth mewn un man. Efallai y bydd gan rai prifysgolion garfan o fwy na 150,000 o fyfyrwyr tra bydd gan eraill gyn lleied â 10,000. Mae’n bwysig ystyried manteision ac anfanteision y ddwy ochr.
Mae dewis astudio mewn prifysgol sydd yn agos at gartref hefyd yn opsiwn poblogaidd i nifer o fyfyrwyr. Yn yr achos hwn, a fyddent am gymudo a byw gartref drwy gydol eu hastudiaethau neu fyw yn llety’r brifysgol? Eto, sicrhewch eich bod yn eu helpu i bwyso a mesur manteision ac anfanteision pob senario.
Tablau cynghrair a gwefannau cymharu
Yn union fel eich hoff westai a bwytai, mae gwefannau ar gael sy’n gallu helpu ymgeiswyr i gymharu prifysgolion a chyrsiau.
Fel arfer mae’r gwefannau hyn yn cynnwys adborth gan fyfyrwyr cyfredol sy’n rhoi mewnwelediad gwerthfawr i foddhad a phrofiad myfyrwyr. Mae tablau cynghrair hefyd yn lle naturiol i ddechrau wrth ymchwilio i brifysgolion. Gellir eu defnyddio i gymharu ansawdd ymchwil, cyfraddau cyflogadwyedd a pherfformiad cyffredinol prifysgol. Rhaid ystyried y darlun cyflawn fodd bynnag, a chofio nad yw’r prifysgolion sy’n perfformio orau yn dod i’r brig bob tro ym mhob maes cwrs.
Mae’n bwysig cofio hefyd er bod prifysgol yn derbyn canmoliaeth uchel, na ddylid tybio’n awtomatig mai dyma fydd y brifysgol fwyaf addas. Rhaid ystyried y ffeithiau hyn ochr yn ochr â phethau eraill megis ansawdd yr addysgu, oriau cyswllt, cymarebau staff/myfyrwyr, ac ati.
Ni ddylid seilio penderfyniad ar dablau cynghrair a gwefannau cymharu yn unig. Weithiau, efallai nad y lle yr ydych chi’n credu fyddai orau yw’r lle gorau. Dylech gadw meddwl agored. Ewch i ddiwrnodau agored er mwyn cael ymdeimlad o’r hyn mae’r gwahanol brifysgolion yn ei gynnig.