3 minute read
ESBONIO JARGON
Wrth i chi ymchwilio i’r broses o ymgeisio i’r brifysgol, efallai y byddwch o bryd i’w gilydd yn dod ar draws rhai termau ac acronymau anghyfarwydd. Deallwn y gall hyn fod ychydig yn ddryslyd, felly rydym wedi llunio rhestr o dermau cyffredin a all helpu pawb i ddeall yr iaith a ddefnyddir yn y sector Addysg Uwch.
Prosbectws
Prosbectws yw’r llyfryn sy’n cynnwys manylion am gyrsiau, gweithgareddau a bywyd myfyrwyr mewn prifysgol. Mae gan bron bob prifysgol brosbectws wedi’i gyhoeddi neu gopi electronig y gellir ei lawrlwytho ar wefannau prifysgolion.
Diwrnod Agored
Cyfle i ddarpar fyfyrwyr a’u rhieni ymweld â champws prifysgol a siarad â staff a myfyrwyr cyfredol. Mae Diwrnodau Agored yn gyfle gwych i ddarganfod sut brofiad yw astudio mewn prifysgol. Darllenwch ragor am Ddiwrnodau Agored ar dudalen 18.
UCAS
Gwasanaeth Derbyn Prifysgolion a Cholegau yw UCAS. Gwneir ceisiadau am gyrsiau israddedig amser llawn trwy UCAS ac maen nhw’n gyswllt rhwng yr ymgeisydd a phrifysgolion. Darganfyddwch ragor am UCAS ar dudalen 32.
Datganiad Personol
Dyma’r rhan o gais UCAS lle bydd yr ymgeisydd yn dweud wrth brifysgolion pam eu bod yn addas ar gyfer y cwrs/cyrsiau y maent yn gobeithio eu hastudio. Mae mwy o fanylion am hyn ar dudalen 33.
Pwyntiau Tariff UCAS
Caiff y pwyntiau hyn eu rhoi i fyfyrwyr trwy gyfrifo eu cymwysterau ôl-16. Po uchaf yw’r radd a gyflawnir, yr uchaf yw nifer y pwyntiau y maent yn eu hennill. Mae nifer o brifysgolion yn gwneud cynigion ar sail Pwyntiau Tariff UCAS.
Gofynion Mynediad
Amodau y mae’n rhaid i ymgeiswyr eu bodloni er mwyn cael eu derbyn ar gwrs prifysgol. O gymwysterau a graddau mewn pynciau penodol i gyfweliadau, clyweliadau, neu hyd yn oed ofynion meddygol, mae’r gofynion mynediad yn wahanol ar gyfer pob cwrs a phrifysgol, ac mae’n ddefnyddiol i fyfyrwyr gael gwybod cyn gynted â phosibl beth yw’r rhain ar gyfer y cyrsiau y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt.
Enw a roddir ar fyfyrwyr sy’n dechrau ar eu cyfnod yn y Brifysgol ac mae Wythnos (neu bythefnos) y Glas yn cael ei threfnu fel arfer, i’w cyflwyno i fywyd y brifysgol. Gall hyn gynnwys digwyddiadau cymdeithasol, yn ogystal â chyflwyniad i lyfrgelloedd ac adnoddau.
Gwasanaethau Myfyrwyr
Adran yn y brifysgol sy’n darparu nifer o wasanaethau cymorth gwahanol i fyfyrwyr, gan gynnwys cyngor ariannol, llety, cymorth anabledd, cyngor ar yrfaoedd, arweiniad addysgol, cwnsela ac yn y blaen. Darllenwch am yr hyn sydd gan dîm Gwasanaethau Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant i’w gynnig ar dudalen 22.
Cyllid Myfyrwyr
Mae hyn yn cyfeirio at grantiau neu fenthyciadau sydd ar gael i fyfyrwyr i helpu i dalu am eu hastudiaethau prifysgol. Gweler rhagor o wybodaeth am Ffioedd a Chymorth Ariannol ar dudalen 24.
Clirio
System a weithredir gan UCAS sy’n galluogi myfyrwyr i ddod o hyd i gyrsiau sydd â lleoedd gwag o hyd yn dilyn cyhoeddi’r canlyniadau Safon Uwch. Fel arfer, mae’n system ar gyfer myfyrwyr nad ydynt wedi llwyddo i gael y graddau sydd eu hangen ar gyfer eu dewis cyntaf o gwrs, ond mae hefyd yn gallu caniatáu ceisiadau munud olaf i sefydliadau newydd i’r rheiny a oedd yn hwyr yn ymgeisio neu sy’n llwyddo i gael canlyniadau gwell na’r disgwyl.
Undeb y Myfyrwyr
Bydd gan bob prifysgol Undeb Myfyrwyr (sy’n debygol o fod yn rhan o Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr). Bydd yr Undeb yn cynrychioli buddiannau myfyrwyr, ac yn gweithio er eu lles ar nifer o faterion gwahanol. Gall yr Undeb hefyd fod yn ganolbwynt i weithgareddau myfyrwyr.
Bwrsari
Grant ariannol nad oes angen ei ad-dalu, a roddir i fyfyriwr ar gais os yw’n bodloni meini prawf penodol.
Ysgoloriaeth
Yn debyg i fwrsari, grant ariannol nad oes angen ei ad-dalu yw hwn a roddir i fyfyrwyr, ond yn hytrach na bod yn seiliedig ar anghenion ariannol, dyfernir y rhain ar sail teilyngdod a rhagoriaeth academaidd.