1 minute read

GYRFAOEDD A CHYFLOGADWYEDD

Mae bod yn gyflogadwy yn cynnwys nifer o agweddau ar fywyd prifysgol, nid ennill gradd yn unig.

Dyna pam mae’r Drindod Dewi Sant yn ymgorffori cyflogadwyedd o fewn ei chyrsiau ac yn darparu amrywiaeth o adnoddau, cymorth a chyfleoedd i helpu datgloi potensial myfyrwyr.

Gall myfyrwyr gysylltu â chyflogwyr trwy interniaethau a chyfleoedd profiad gwaith, yn ogystal â chwrdd a rhwydweithio gyda busnesau yn ystod digwyddiadau menter a gyrfaoedd a gynllunnir gan y brifysgol.

Mae prosiectau fel y Swigen Greadigol, siop a rhwydwaith i gefnogi gweithgareddau a arweinir gan fyfyrwyr, megis siopau dros dro, arddangosfeydd, perfformiadau, neu hyd yn oed ddangosiadau cyntaf ffilmiau, yn annog menter a meddwl entrepreneuraidd.

Mae gweithdai Dylunio Bywyd yn helpu myfyrwyr i nodi beth yw eu gwerthoedd, pa sgiliau maent wedi’u datblygu a sut y gallant eu defnyddio, yn ogystal â’r hyn y byddent yn hoffi ei wneud yn y dyfodol. Wrth wrando ar uchelgeisiau ein myfyrwyr, mae’r Brifysgol wedi gweithio gyda chyflogwyr i adnabod y cymwyseddau craidd sy’n ofynnol gan weithwyr newydd a dadansoddi’r sgiliau sydd eu hangen ar entrepreneuriaid. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion sydd wedi’u hymgorffori yn nifer o’n rhaglenni a addysgir yn helpu myfyrwyr i ddatblygu’r rhinweddau sydd eu hangen ar fyfyrwyr ar gyfer eu gyrfa yn y dyfodol.

Drwy gydol eu hamser gyda ni, bydd ein myfyrwyr yn datblygu’n ddysgwyr gydol oes hyblyg sy’n meddu ar y sgiliau cywir i ffynnu mewn gweithle digidol.

Y Gwasanaeth Gyrfaoedd

Mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd ar gael i fyfyrwyr bob cam o’r ffordd, hyd yn oed ar ôl graddio.

Gall ein tîm Gyrfaoedd profiadol sydd â chymwysterau proffesiynol gynorthwyo myfyrwyr i fynd ati’n effeithiol i chwilio am swyddi, creu syniadau am yrfaoedd, cwblhau CVs, ceisiadau a Datganiadau Personol, ac ymarfer cyfweliadau.

Hefyd gall myfyrwyr ofyn am gymorth i ddeall y dewisiadau ôl-raddedig sydd ar gael iddynt, cael profiad gwaith, lleoliadau â thâl, neu waith rhan amser tra maent yn y brifysgol, a hyd yn oed cael cyngor ar sefydlu eu busnes eu hunain.

Yn ogystal â chael cymorth gan gynghorwyr gyrfaoedd, gall ein myfyrwyr ddefnyddio Abintegro, ein platfform gyrfaoedd ar-lein, lle gallant gael gafael ar wybodaeth o ansawdd uchel am yrfaoedd, offeryn hunanasesu, cynllunydd gyrfa, gwiriwr CV a rhagor. Rydym yn falch o lwyddiannau ein graddedigion ac yn rhannu eu straeon o dan yr hashnod #OAstudiaethiGyflogaeth.

This article is from: