3 minute read
CYMORTH WRTH LAW – LLES, LLESIANT A CHYMORTH I FYFYRWYR
CYMORTH WRTH LAW -
Lles, Llesiant a Chymorth i Fyfyrwyr
Weithiau gall cydbwyso astudiaethau academaidd a pharatoi ar gyfer cyflogaeth lethu rhywun. Mae o les i ni i gyd i gael cymorth o bryd i’w gilydd, felly gall myfyrwyr elwa o amrywiaeth o wasanaethau tra byddant yn y brifysgol. Gall timau Gwasanaethau Myfyrwyr gynnig cymorth a chyngor ar yrfaoedd, llety, cyllid a chyllido, iechyd meddwl a materion dysgu. Os na all Gwasanaethau Myfyrwyr ddarparu’r hyn sydd ei angen arnynt, gallant eu cyfeirio at unigolion eraill o fewn y Brifysgol, neu at sefydliadau allanol, a fydd yn gallu helpu.
Hybiau Myfyrwyr (Hwb)
Mae Hybiau Myfyrwyr (Hwb) y Drindod Dewi Sant yn dod ag ystod o wasanaethau at ei gilydd i ddarparu ‘siop un stop’ i ymdrin ag ymholiadau a phroblemau. Yn yr Hybiau Myfyrwyr gall myfyrwyr gael mynediad i’r holl wybodaeth a chymorth y bydd eu hangen arnynt i wneud yn fawr o’u hamser yn y brifysgol.
Yn y Drindod Dewi Sant, cynigir cymorth i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu penodol, megis dyslecsia, dyspracsia, ADD neu Aspergers, wrth iddynt wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl, yn ogystal â thiwtora unigol, cymorth a chyngor priodol, ac arweiniad ynghylch consesiynau mewn arholiadau. Yn ogystal mae gan y Brifysgol ei Chanolfan Asesu ei hun sy’n sicrhau bod yr holl ddarpar fyfyrwyr yn gallu cael mynediad at aseswyr â gwybodaeth gynhwysfawr o’r rhwydwaith cymorth a’r rhaglenni rydym ni’n eu cynnig. Ein nod yw rhoi i fyfyrwyr sydd angen cymorth yr offer i’w galluogi i weithio hyd eithaf eu potensial a dangos gwir lefel eu medrau.
Cyngor ar Yrfaoedd
Gall myfyrwyr gael help gyda’u cynlluniau gyrfa tymor hir yn ogystal â gwybodaeth am gyfleoedd i weithio tra maent yn astudio. Darllenwch ragor am yr hyn mae Gwasanaeth Gyrfaoedd y Drindod Dewi Sant yn ei gynnig ar dudalen 28.
Cwnsela
Weithiau mewn bywyd mae pethau’n gallu mynd yn ormod i rywun ymdopi â nhw ar ei ben ei hun. Gall myfyrwyr ofyn am gymorth gan Wasanaeth Cwnsela y Drindod Dewi Sant os oes angen rhywun i siarad arnynt am bob math o faterion. Mae gan y Brifysgol wasanaeth cwnsela sefydledig, proffesiynol. Mae pob un o’r Cwnselwyr yn gweithio yn unol â fframwaith moesegol Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain.
Sgiliau Astudio
O adnoddau defnyddiol ar-lein i gyfarfodydd un-i-un gyda’n cynghorwyr arbenigol, gall myfyrwyr gael mynediad at gymorth sgiliau astudio i’w helpu gyda’u gwaith academaidd. Mae hyn yn cynnwys cymorth gydag ysgrifennu traethodau, cymryd nodiadau, adolygu ar gyfer arholiadau, cymorth TG, a sgiliau llyfrgell ac ymchwilio. Mae ein swyddogion Llety, y mae ein myfyrwyr yn cyfeirio atynt fel eu ‘rhieni prifysgol’, yn gallu helpu eich plentyn i benderfynu ble i fyw, yn ogystal â gwneud yn siŵr eu bod yn hapus â ble maen nhw’n byw pan fyddant yn cyrraedd. Pa un a ydynt am fyw mewn neuadd breswyl neu ddod o hyd i rywle i’w rentu yn y sector preifat, mae cyngor a chymorth ar gael i ddod o hyd i le diogel ond annibynnol i fyw ynddo. Mae Wardeniaid Neuadd sy’n fyfyrwyr eu hunain yn byw yn ein neuaddau preswyl ac maent yno i helpu myfyrwyr i ymgartrefu, teimlo’n gysurus yn eu cartref newydd a darparu cymorth parhaus yn ystod eu harhosiad.
Myfyrwyr sy’n Gadael Gofal
Cynigiwn ofal a chymorth o safon uchel i bobl sy’n gadael gofal wrth iddynt ystyried beth a ble i astudio a chyflwyno cais, a thrwy gydol eu hastudiaethau academaidd. Dyfarnwyd i ni Nod Ansawdd Buttle UK i gydnabod ein hymrwymiad i bobl sy’n gadael gofal mewn Addysg Uwch.
Diogelwch
Mae staff y safle ar y campws bob awr o’r dydd a’r nos, 365 diwrnod y flwyddyn, i gynorthwyo gyda digwyddiadau diogelwch a chymorth cyntaf, yn ogystal â helpu myfyrwyr i wneud eu ffordd o amgylch y campws. O archwilio diogelwch adeiladau i wneud yn siŵr bod yr offer mewn ardaloedd a rennir yn ddiogel i’w defnyddio, gall myfyrwyr gysylltu â’r tîm hwn unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos.