4 minute read
FFIOEDD A CHYLLID MYFYRWYR
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael problemau ariannol ar ryw adeg yn ystod eu bywydau ac, fel rhiant, mae’n bosibl y byddwch yn pryderu y gallai eich plentyn gael trafferthion yn y brifysgol. Gadewch i ni helpu lleddfu rhai o’r pryderon hynny...
Beth yw cost astudio?
Mae cost cwrs yn dibynnu ar nifer o bethau - yn bennaf pa gwrs mae’r myfyriwr yn ei ddewis a ble mae’n byw adeg gwneud cais am y cwrs. Ond y ffaith allweddol yw nad yw’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn talu dim ymlaen llaw.
Yn Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, £9,000* sydd wedi’i bennu fel swm y ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr amser llawn o’r Deyrnas Unedig a gellir talu am y rhain drwy gael benthyciad ffioedd dysgu gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Yn ogystal mae gennym amrywiaeth eang o fwrsarïau ac ysgoloriaethau sy’n darparu cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr. O bryd i’w gilydd, gall myfyrwyr hefyd wynebu rhai costau astudio ychwanegol, na ellir eu hosgoi, ar ben y ffioedd dysgu.Er enghraifft, costau teithio yn ôl ac ymlaen i leoliadau, teithiau astudio, argraffu, a phrynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain. Mae’n bosibl hefyd y bydd angen Gwiriad Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer rhai cyrsiau. Er mwyn darganfod a allai’r costau ychwanegol hyn fod yn berthnasol iddyn nhw, dylai myfyrwyr siarad â pherson cyswllt y disgyblaethau academaidd yn y brifysgol. Gallai bwrsarïau fod ar gael hefyd i helpu talu peth o’r costau ychwanegol hyn.
* Ymwadiad: Roedd y wybodaeth hon yn gywir adeg cyhoeddi ac mae’n bosibl y gallai newid. Ewch i’n gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf: uwtsd.ac.uk
I helpu gyda chostau byw o ddydd i ddydd, megis bwyd, teithio a llety, gall myfyrwyr wneud cais am Fenthyciad Cynhaliaeth, a delir fel arfer mewn tri rhandaliad. Bydd yn ddibynnol ar ble maen nhw’n byw tra maent yn astudio, yn ogystal ag incwm y cartref. Gall myfyrwyr o Gymru hefyd wneud cais am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru.
Ad-dalu benthyciadau
Os yw eich plentyn yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr yn y DU, ni fydd yn ad-dalu ei fenthyciad myfyriwr tan y bydd yn ennill £27,295 y flwyddyn fel myfyriwr graddedig. Pan fydd hynny’n digwydd, bydd y taliad yn dod allan o’u cyflog os ydynt yn gweithio yn y DU ar ôl gorffen eu cwrs, yn union fel treth ac yswiriant gwladol.
Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau
Mae gan y Drindod Dewi Sant enw da am ehangu mynediad i addysg uwch a chyda hyn mewn golwg, rydym yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsarïau i gefnogi myfyrwyr o bob cefndir. Rydyn ni am sicrhau cyfle i unrhyw un astudio yma, beth bynnag yw eu hamgylchiadau ariannol. Gellir gweld gwybodaeth fanwl, lawn am bob bwrsari ac ysgoloriaeth sydd ar gael, gan gynnwys dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau, ar ein gwefan: uwtsd.ac.uk/cy/bwrsariaethau
Arweiniad a chymorth ariannol
Mae cadw i fyny â biliau a chadw at gyllideb yn gallu bod yn anodd. Nid ydym am i fyfyrwyr fynd i drafferthion a phryderu am arian pan ddylent fod yn canolbwyntio ar eu hastudiaethau, felly mae ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig arweiniad diduedd ar reoli arian.
Mae swyddogion Cyllid Myfyrwyr ar gael bob wythnos yn ystod y tymor a gallant ddarparu cymorth a gwybodaeth un-i-un ynglŷn â grantiau, benthyciadau myfyrwyr, ac unrhyw gymorth ariannol arall y gallai myfyrwyr fod yn gymwys i’w dderbyn. Maent yno hefyd i helpu egluro unrhyw jargon anghyfarwydd a gallant drefnu cyfarfodydd i helpu gyda sgiliau cyllidebu a rheoli arian myfyrwyr.
Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig Cronfa Galedi sydd yn ffynhonnell ychwanegol o gymorth ariannol i unrhyw fyfyriwr sydd wedi cael Benthyciad Myfyriwr (os yw’n gymwys) ac sy’n dioddef caledi ariannol annisgwyl.
Dyma ychydig o gyngor cyllidebu y gallech ei rannu gyda’ch plentyn i’w helpu i fod yn ddoeth a darbodus gyda’u benthyciadau myfyrwyr tra byddant yn y brifysgol.
Wedi i chi gael eich llythyr Cyllid Myfyrwyr yn dangos eich hawl, gweithiwch allan faint fydd ei angen arnoch i chi dalu am lety, a phethau eraill, a faint fydd gennych yn weddill bob wythnos. Mae’n bwysig eich bod yn gwneud hyn cyn i chi ddod i’r brifysgol, os gallwch.
Cadwch lygad yn rheolaidd ar eich balans yn y banc fel eich bod yn gwybod i ble mae’ch arian yn mynd! Ystyriwch eich cyfrif banc yn ofalus – mae cyfrifon ar gael sy’n benodol ar gyfer myfyrwyr ond peidiwch â chael eich temtio gan y nwyddau am ddim – chwiliwch am orddrafft di-log. Ystyriwch swydd ran amser i wneud ychydig o arian poced – er eich bod yn fyfyriwr llawn amser, efallai y gallech ddod o hyd i swydd sy’n cyd-fynd yn dda â’ch amserlen.
Manteisiwch ar y gostyngiadau i fyfyrwyr – o ffasiwn, technoleg, prydau tecawê a theithio, ni fydd unrhyw beth mor rhad â hyn byth eto felly gwnewch yn siŵr eich bod yn lawrlwytho’r apiau perthnasol neu mynnwch gerdyn TOTUM. Prynwch bethau ail law. O lyfrau i ddillad, siopau elusen ac apiau ar-lein, mae bargeinion gwych ar gael.
Siopwch yn gall yn yr archfarchnad. Prynwch yr hyn sydd ei angen arnoch yn unig a pheidiwch â chael eich denu gan frandiau – mae brandiau’r archfarchnadoedd eu hunain yn ddewisiadau amgen gwych a byddant yn arbed ceiniog neu ddwy i chi.