2 minute read

DYDDIADAU ALLWEDDOL AC ADEGAU BRIG AM GYMORTH

DYDDIADAU ALLWEDDOL AC ADEGAU BRIG

GORFFENNAF

Amser i ddrafftio’r Datganiad Personol. Er ei bod yn gynnar, byddai nodi syniadau yn eu rhoi ar ben y ffordd. Gallech gynnig helpu trwy amlygu eu meysydd cryfder, a’u hannog i chwilio am waith â thâl neu wirfoddol yn ymwneud â’u meysydd diddordeb i lenwi unrhyw fylchau yn eu profiad.

HYDREF

Rhaid cyflwyno ceisiadau i gyrsiau Rhydychen neu Gaergrawnt, a chyrsiau meddygaeth, deintyddiaeth neu filfeddygaeth, erbyn 15 Hydref.

MEHEFIN

Dylid dechrau ymchwilio drwy edrych ar brosbectysau, mynd i wefannau prifysgolion a dechrau mynychu Diwrnodau Agored neu Sesiynau Blasu. Anogwch nhw i siarad â’u hathrawon a’u cynghorwyr gyrfaoedd os nad ydyn nhw’n gwybod beth maen nhw am ei wneud.

Wrth iddynt ddewis eu cwrs, mae’n bwysig cofio mai eu penderfyniad nhw yw e yn y pendraw. Byddwch yno i’w cefnogi.

MEDI

Dyma ddechrau tymor UCAS. Dylent gofrestru gydag UCAS a chychwyn ar eu cais.

Ydyn nhw wedi cwtogi eu dewisiadau cwrs eto? Sut mae’r datganiad personol yn dod ymlaen?

IONAWR

15 Ionawr yw dyddiad cau ceisiadau UCAS am ystyriaeth gyfartal ond gallai ysgol neu goleg eich plentyn osod dyddiad cau mewnol cynharach. Gall myfyrwyr wneud cais hyd at 30 Mehefin ond byddant yn cael eu hystyried yn ymgeiswyr hwyr.

Wrth i’r dyddiad cau hwn agosáu, gwiriwch bod eich plentyn wedi penderfynu’n derfynol ar eu dewisiadau a bod eu datganiad personol mewn trefn. Allwch chi helpu gyda’r gwirio terfynol a’r prawfddarllen cyn ei gyflwyno?

Dylai cynigion ddechrau cyrraedd gan y Prifysgolion, ond os nad yw eich plentyn wedi clywed unrhyw beth eto, peidiwch â phoeni. Mae gan brifysgolion tan fis Mai i ymateb. Mae UCAS Extra yn agor i bawb sydd heb dderbyn cynigion.

Yn ogystal gallai gwahoddiadau ddechrau cyrraedd ar gyfer cyfweliadau a phrofion mynediad ac mae’n amser gwneud cais am gyllid myfyrwyr.

Yn ogystal gallai gwahoddiadau ddechrau cyrraedd ar gyfer cyfweliadau a phrofion mynediad ac mae’n amser gwneud cais am gyllid myfyrwyr.

MEHEFIN

Dyddiad cau i fyfyrwyr ymateb i gynigion os daethant i law erbyn mis Mai.

Mae ceisiadau ar ôl 30 Mehefin yn cael eu cynnwys yn awtomatig yn y broses Glirio.

MEDI

Amser i’w hebrwng i’r Brifysgol ac iddyn nhw ddechrau siwrnai newydd yn eu haddysg.

EBRILL - MAI

Amser penderfynu: ydy eich plentyn wedi derbyn ac ymateb i gynigion? Bydd angen iddynt nodi eu dewisiadau Cadarn ac Yswiriant.

Yn ogystal bydd angen iddynt fod yn barod i wneud cais am lety myfyrwyr oherwydd mae neuaddau preswyl fel arfer yn cael eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felyn.

AWST

Mae diwrnod canlyniadau wedi cyrraedd! Gallant wirio statws eu cais ar UCAS Track a chadarnhau eu lle.

Os bydd pob cynnig wedi’i wrthod, mae’n bosibl y bydd angen cymorth emosiynol arnynt. Ond mae’n bosibl o hyd iddynt ddod o hyd i gwrs drwy’r broses Glirio. Mae gan brifysgolion linellau ffôn penodol ar gyfer Clirio neu ffurflenni cais ar eu gwefannau. Mae’n werth gwneud rhywfaint o ymchwil ymlaen llaw ar gyrsiau a dewisiadau posibl.

This article is from: